Canllawiau

Prynu cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd: canllaw i ddefnyddwyr

Cyhoeddwyd 31 Mai 2023

Cyflwyniad

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi cynhyrchu’r canllaw hwn i’ch helpu i wneud penderfyniadau wrth brynu a gosod cynhyrchion gwresogi ‘gwyrdd’ (megis pympiau gwres, paneli solar, boeleri biomas) ac inswleiddio (megis ceudod a wal solet, dan y llawr, inswleiddio to a llofft) ar gyfer eich cartref. Gall y cynhyrchion hyn eich helpu i wresogi’ch cartref mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy a mwy ynni-effeithlon, gan leihau eich ôl troed carbon. Mae’r canllaw hwn hefyd yn rhoi crynodeb o’ch prif hawliau o dan gyfraith diogelu defnyddwyr.

Mae’r canllaw hwn yn dilyn y camau allweddol ar gyfer pobl sy’n prynu cynhyrchion gwresogi gwyrdd ac inswleiddio. Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â’r canllaw hwn cyn prynu’ch cynnyrch (cynhyrchion), er y gallwch hefyd bori ynddo yn ôl yr angen yn ystod y broses.

Drwy’r canllaw hwn rydym yn defnyddio’r term ‘busnesau’ i gwmpasu’r holl wahanol fathau o fusnesau neu grefftwyr y gallech ddod i gysylltiad â nhw yn ystod y broses.

Cam 1: Cyn i chi brynu

Byddwch yn glir ynghylch yr hyn sydd ei angen arnoch. Pam ydych chi’n ystyried prynu’r cynnyrch (cynhyrchion)?

Mae gan wahanol gynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd nodweddion gwahanol ac mae rhai yn gweithio’n well mewn rhai mathau o eiddo. Er enghraifft, mae pympiau gwres yn tueddu i weithio’n fwy effeithlon pan fo cartref wedi’i inswleiddio’n dda ac mae paneli solar yn gweithio orau ar do heb gysgod sy’n derbyn golau haul uniongyrchol.

Mae’n bwysig gwybod y pethau hyn yn gynnar fel y gallwch eu cynnwys yn eich penderfyniad i ddod o hyd i gynnyrch addas.

Mae p’un a ydych yn gwneud newid penodol – megis newid eich hen system wresogi – neu’n meddwl am welliannau cartref ehangach, yn gallu bod yn berthnasol hefyd. Er enghraifft, gallai fod yn llai aflonyddgar i osod ychydig o gynhyrchion gyda’i gilydd fel rhan o ôl-osod cartref ac yn fwy effeithlon o ran ynni yn y tymor hir. Mae hefyd yn ddefnyddiol i gadw cyllideb mewn cof ar gyfer faint y gallwch ei wario.

Rhestr wirio ystyriaethau allweddol:

  • beth yw eich cyllideb? Pa gynhyrchion sydd ar gael o fewn y gyllideb hon a fyddai’n bodloni’ch anghenion? Mae’n bosibl y bydd grantiau neu gyllid y llywodraeth ar gael i’ch helpu i dalu rhai o’r costau (rydym yn trafod hyn yn fanylach yng ngham dau)

  • ydych chi wedi ystyried asesiad ‘tŷ cyfan’? Er y gallai fod costau ychwanegol, os gallwch fforddio gwneud hynny, gall fod yn llai aflonyddgar ac yn fwy cost-effeithiol yn gyffredinol i wneud newidiadau gwresogi ac insiwleiddio i’ch cartref mewn trefn benodol. Er enghraifft, uwchraddio’ch inswleiddio cyn gosod pwmp gwres

Gwnewch eich ymchwil i helpu dod o hyd i’r cynnyrch/cynhyrchion cywir

Mynnwch wybodaeth a chyngor diduedd

Mae’n bwysig gwneud rhywfaint o waith ymchwil i’ch helpu i ddewis y cynnyrch cywir ar gyfer eich cartref, anghenion a chyllideb er mwyn i chi fod yn glir ynghylch yr hyn rydych yn ei brynu. Mae cael cyngor a gwybodaeth ddiduedd yn rhan allweddol o hyn. Mae ffynonellau cyngor annibynnol a all eich helpu i ystyried eich opsiynau - rydym yn nodi rhai o’r rhain isod.

Lle bo modd, edrychwch ar wahanol ffynonellau er mwyn i chi allu cymharu cynhyrchion. Gall sefydliadau cyngor i ddefnyddwyr fod o gymorth a gwiriwch a yw eich Cyngor lleol yn cynnig cyngor neu gymorth. Efallai y gallech hefyd siarad â ffrindiau a theulu sydd â phrofiad o brynu’r cynhyrchion hyn, i helpu cefnogi’ch ymchwil.

Efallai y byddech hefyd yn dymuno defnyddio Aseswr Ôl-osod, a all asesu’ch cartref a chynghori ar ba gynhyrchion/gwelliannau fydd fwyaf addas ar gyfer eich eiddo ac arbed y mwyaf o ynni i chi.

Gall busnesau sy’n gwerthu a/neu osod cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd hefyd ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol. Peidiwch â bod ofn cysylltu â nhw a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol. Bydd busnesau dibynadwy yn hapus i ateb cwestiynau a rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen i gwsmeriaid posibl. Fodd bynnag, cofiwch nad yw busnesau’n gynghorwyr annibynnol, felly mae’n syniad da gwirio unrhyw honiadau gyda ffynonellau eraill hefyd. Er enghraifft, efallai y bydd busnesau gwahanol yn argymell gwahanol gynhyrchion a all ei gwneud yn anodd cymharu opsiynau – os bydd hyn yn digwydd, gofynnwch i’r busnesau pam eu bod yn awgrymu cynnyrch penodol.

A fydd angen unrhyw beth ychwanegol arnoch chi?

Er enghraifft, mewn rhai eiddo efallai y bydd pwmp gwres yn galw am insiwleiddio neu reiddiaduron mwy; gall paneli solar elwa o fatris storio i wneud y defnydd gorau o’r ynni a gynhyrchir (mae batris yn caniatáu i chi storio ynni dros ben i’w ddefnyddio yn eich cartref yn ddiweddarach). Bydd angen cyflenwad rheolaidd o danwydd ar foeleri biomas, ac efallai y bydd angen triniaethau lleithder ar eich eiddo cyn gosod unrhyw inswleiddio. Mae’n bwysig cael gwybod am hyn yn gynnar fel y gallwch ei gynnwys yn eich penderfyniad. Fel arall, efallai na fydd angen unrhyw gynhyrchion ychwanegol arnoch chi – peidiwch â theimlo dan orfodaeth nac o dan bwysau i’w cael.

Os yw busnes yn gwneud honiad – chwiliwch am dystiolaeth i’w gefnogi

Gallai rhai busnesau wneud honiadau am gynnyrch ar eu gwefan neu mewn deunydd marchnata arall, er enghraifft y gall cynnyrch arbed swm penodol o arian i chi ar eich biliau neu leihau eich ôl troed carbon gan ganran benodol. Dylai pob busnes allu darparu tystiolaeth i gefnogi eu honiadau, a dylai busnesau cyfrifol sicrhau yr arddangosir hyn yn glir yn agos at yr honiad mewn ffordd sy’n hawdd ei deall.

Dylai unrhyw ragdybiaethau sy’n ymwneud â’r honiad, er enghraifft, ynghylch prisiau ynni yn y dyfodol, gael eu hesbonio’n glir gan gyfeirio at ffynhonnell ag enw da.

Cofiwch, efallai na fydd yr honiadau hyn bob amser yn berthnasol i’ch eiddo. Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen â’r busnes, dylent egluro unrhyw honiadau o’r fath a rhoi rhagamcan ysgrifenedig i chi o unrhyw arbedion cost, effeithlonrwydd ynni neu fanteision perfformiad eraill y byddwch yn eu cael o’r cynnyrch yn seiliedig ar asesiad o’ch eiddo. Gall asesiad cartref, boed yn bersonol neu’n rhithwir, hefyd helpu sicrhau bod y cynnyrch yn iawn i’ch cartref.

Os nad yw hyn yn cyfateb i’r hyn a welsoch mewn honiad neu’r hyn roeddech yn credu y byddech yn ei gael, peidiwch â bod ofn gofyn pam i’r busnes. Cofiwch nad oes angen i chi fwrw ymlaen os nad ydych yn hapus.

Gwiriwch ffeithiau – hyd yn oed os ydych yn brin o amser

Hyd yn oed os nad oes gennych amser i wneud llawer o waith ymchwil – er enghraifft, os bydd eich system wresogi’n torri i lawr – efallai nad dewis y cynnyrch neu’r busnes cyntaf y gwelwch chi’n cael ei hysbysebu yw’r syniad gorau. Os yn bosibl, gwiriwch unrhyw honiadau a wneir. Cofiwch, hyd yn oed os oes angen i chi brynu rhywbeth yn gyflym, mae gennych hawl o hyd i’ch hawliau defnyddiwr – rydym wedi nodi’r rhain yng Ngham 5.

Rhestr wirio ystyriaethau allweddol:

  • a yw’r cynnyrch yn addas ar gyfer eich eiddo? Er enghraifft, a oes gennych chi le ar ei gyfer? A yw’n cyd-fynd â ffabrig ac inswleiddio eich cartref?

  • a oes gennych chi syniad sylfaenol o sut mae’r cynnyrch/system yn gweithio?

  • a fydd angen i chi brynu unrhyw beth ychwanegol er mwyn i’r cynnyrch weithio’n effeithlon? Sylwch nad yw hyn bob amser yn wir

  • a oes gennych chi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i sicrhau bod y cynnyrch yn iawn i chi ac yn perfformio’n dda? A yw’r busnes wedi darparu hyn yn ysgrifenedig ac a ydynt wedi darparu tystiolaeth i’w chefnogi?

  • a oes unrhyw ystyriaethau cynnyrch penodol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt? Rydym wedi nodi rhai o’r rhain yng Ngham 5

Ffynonellau cyngor i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r cynnyrch (cynhyrchion) cywir

Gallwch ddod o hyd i gyngor i helpu i ddewis cynnyrch/cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd ar gyfer eich cartref, er enghraifft yn:

Cymru a Lloegr: Dod o hyd i ffyrdd o arbed ynni yn eich cartref - GOV.UK (www.gov.uk)

Cymru: Hafan - Nyth Cymru - nyth.llyw.cymru

Yr Alban: https://www.homeenergyscotland.org/

Gogledd Iwerddon: Y Weithrediaeth Tai - Cymuned (nihe.gov.uk)

Hefyd mae amryw o ganolfannau cyngor rhanbarthol a allai fod o gymorth, er enghraifft Energy Advice London

TrustMark - find your local tradesperson - gall eich helpu i ddod o hyd i Aseswr Ôl-osod achrededig.

Mae ffynonellau eraill o wybodaeth annibynnol am gynhyrchion penodol yn cynnwys, er enghraifft: Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Cymorth a chyngor ar gyfer gwresogi eich cartref - Ymddiriedolaeth Arbed Ynni) a Which? (Canllawiau cyngor inswleiddio - Which?)

Mae’r ffynonellau hyn hefyd yn darparu opsiynau amgen i gael cymorth i’r rhai a allai ei chael yn anodd defnyddio gwasanaeth ar-lein, gan gynnwys dros y ffôn.

Cam 2: Prynu cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd

Chwiliwch am fusnes y gallwch ymddiried ynddo

Dylai busnes dibynadwy sy’n deilwng o ymddiriedaeth eich trin yn deg a bodloni ei rwymedigaethau dan gyfraith diogelu defnyddwyr.

Defnyddiwch fusnes achrededig

Rydym yn argymell defnyddio busnes achrededig sy’n perthyn i gynllun ardystio ar gyfer cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd. Gall defnyddio busnes achrededig roi nifer o amddiffyniadau i chi, yn arbennig os aiff rhywbeth o’i le (rydym yn ymdrin â hyn yn fanylach, yng Ngham 5). Mae’r Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS) a chynlluniau TrustMark ill dau wedi’u cymeradwyo gan lywodraeth y DU. Ar hyn o bryd mae’n ofynnol i fusnesau sydd wedi’u hachredu gan MCS berthyn i god defnyddwyr (naill ai’r Cod Defnyddwyr Ynni Adnewyddadwy (RECC) neu’r Cynllun Contractwyr â Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Inswleiddio Cartref a Systemau Ynni (HIES)).

Oni bai eich bod yn defnyddio grant y llywodraeth neu gynllun ariannu i helpu talu am y cynnyrch (gweler hefyd Cam 2) nid oes unrhyw sicrwydd bod y busnes wedi’i achredu. Rydym yn awgrymu mynd ar wefannau MCS a/neu TrustMark a chwilio am fusnesau achrededig yn eich ardal, ac ystyried defnyddio 1 o’r rhain. (Sylwer nad yw MCS yn cynnwys gosodiadau inswleiddio).

Mae’r tabl canlynol yn nodi nodweddion a buddion allweddol defnyddio busnesau sy’n aelodau o TrustMark, MCS, RECC neu HIES.

CANLLAW CYFLYM I’R PRIF GYRFF SAFONAU

Beth maen nhw’n ei gynnig i mi:

  • Gwiriadau iechyd busnes. Maent yn gwirio yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, gwybodaeth ariannol, hanes cwmni, unrhyw ddyfarniadau Llys Sirol, ac ati ar gyfer aelodau

  • Gwiriadau ar arferion gwerthu ac ymgysylltu â defnyddwyr. Maent yn gwirio marchnata, amcangyfrifon perfformiad/cynilo, contractau, hysbysiadau canslo, ymdrin â chwynion, ac ati ar gyfer aelodau. Mae HIES a RECC yn cynnal ymarferion siopa dirgel ac arolygon cwsmeriaid hefyd

  • Gwiriadau cymhwysedd. Maent yn gwirio cymwysterau a/neu sgiliau technegol aelodau a’u gwybodaeth i wneud y gwaith. Mae TrustMark ac MCS yn ymweld â sampl o osodiadau’r aelod hefyd

  • Eu proses cyfryngu anghydfod eu hunain. Mae ganddyn nhw, neu gyrff sy’n gweithio gyda nhw, eu cyfryngwyr mewnol eu hunain a fydd yn ceisio helpu datrys eich cwyn yn erbyn aelod

  • Mynediad i ADR annibynnol. Os nad yw eu cyfryngu anghydfod eu hunain yn gweithio, gallwch gael mynediad at broses ‘datrys anghydfod amgen’ annibynnol

  • Diogelu blaendal am ddim. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau ddiogelu eich blaendaliadau a rhagdaliadau os bydd yr aelod yn rhoi’r gorau i fasnachu

  • Gwarant crefftwaith am ddim. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau ddarparu gwarantau y bydd crefftwaith gwael yn cael ei unioni neu ei ddigolledu, a rhoi amddiffyniad ychwanegol ar waith ar gyfer y warant honno pe bai’r aelod yn rhoi’r gorau i fasnachu ac na all ei anrhydeddu

  • Diogeliadau ar gyfer defnyddwyr agored i niwed

Cymharwch fusnesau a gwiriwch eu hygrededd

Chwiliwch o gwmpas ac edrychwch ar ychydig o fusnesau achrededig cyn ymrwymo i un. Ceisiwch gael o leiaf 3 dyfynbris a/neu asesiad o’ch eiddo cyn i chi benderfynu. Yna gallwch gymharu’ch opsiynau (er enghraifft, o ran cynhyrchion a argymhellir, pris disgwyliedig a chostau rhedeg blynyddol (os o gwbl), amserlenni ar gyfer gosod ac ati) fel y gallwch ddewis yr un gorau.

Os bydd busnes yn cysylltu’n uniongyrchol â chi – er enghraifft drwy alwad na ofynnwyd amdani neu ddod i’ch drws – ceisiwch gadarnhau bod y busnes yr hyn maent yn dweud ydyn nhw drwy wirio eu manylion. Gwiriwch bob amser unrhyw honiadau a wnânt am y cynnyrch y maent yn ei werthu a chofiwch, dylai busnesau dibynadwy ddarparu honiadau a thystiolaeth i gefnogi’r rhain, yn ysgrifenedig. Peidiwch â theimlo dan bwysau i lofnodi unrhyw beth neu drosglwyddo unrhyw arian ymlaen llaw. Meddyliwch amdano a gwiriwch a yw’r busnes wedi’i achredu.

Rhestr wirio ystyriaethau allweddol:

  • ydych chi wedi nodi a chysylltu ag o leiaf 3 busnes posibl?

  • a ydynt wedi’u hachredu er enghraifft gan MCS neu TrustMark? A yw’r achrediad yn cwmpasu’r cynnyrch rydych yn ei brynu? (Gwiriwch ar wefan y cynllun ardystio). Gall fod yn ddefnyddiol gwirio eto cyn i chi lofnodi contract/bwrw ymlaen â’r gosodiad

  • os daeth busnes yn uniongyrchol atoch chi – ydych chi wedi gwirio pwy ydyn nhw? A ydynt wedi’u hachredu? Os nad ydynt, bydd gennych lai o amddiffyniad. A ydych wedi gwirio unrhyw honiadau y maent wedi’u gwneud am y cynnyrch gyda ffynhonnell arall, ac a ydynt wedi darparu tystiolaeth i gefnogi’r honiad hwn, yn ysgrifenedig?

Ffynonellau cyngor i helpu nodi busnes dibynadwy y gellir ymddiried ynddo

Ledled y DU

Gallwch ddod o hyd i fusnes achrededig yn eich ardal drwy edrych ar y gwefannau Trustmark a MCS

Dod o hyd i osodwr pwmp gwres - GOV.UK (www.gov.uk) [pwmp gwres yn unig]

Yn Yr Alban: Dod o hyd i osodwr ynni adnewyddadwy yn yr Alban - Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyffredinol ar sut i nodi busnes dibynadwy

Mae’r cynllun Prynu Gyda Hyder yn rhestru busnesau sydd wedi cael eu fetio a’u cymeradwyo gan Safonau Masnach amrywiol ledled y DU; ar gyfer yr Alban gweler Scotland Trusted Trader - Masnachwyr wedi’u fetio gan Safonau Masnach

Which? Mae Trusted Trader yn gynllun ardystio sy’n cydnabod busnesau ag enw da mewn amrywiol sectorau

Byddwch yn glir ynghylch costau

Chwiliwch o gwmpas am ddyfynbrisiau a gwiriwch y wybodaeth am brisiau

Chwiliwch o gwmpas cymaint â phosibl a chael ychydig o ddyfynbrisiau (rydym yn argymell o leiaf 3) i wneud yn siŵr eich bod yn hapus gyda’r hyn rydych yn ei dalu a’r gwasanaeth y byddwch yn ei gael.

Dylai’r busnes nodi’n glir y pris disgwyliedig ar gyfer pob agwedd ar y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i chi yn ogystal ag ar gyfer y cynnyrch ei hun. Os nad ydynt wedi’i wneud, dylech deimlo’n hyderus i ofyn am y wybodaeth hon yn ysgrifenedig. Er enghraifft, byddem yn disgwyl i ddyfynbris gynnwys o leiaf:

  • pris y cynnyrch a’r pris gosod – wedi’u nodi ar wahân

  • manylion ynghylch pa waith yn union fydd yn cael ei wneud a pha gynnyrch (cynhyrchion) a ddarperir

  • unrhyw TAW neu drethi eraill a allai fod yn daladwy

  • arwydd clir a yw cynllun grant/cyllid y llywodraeth wedi’i gynnwys yn y pris a ddyfynnwyd. (Sylwer – bydd angen i chi wirio i gadarnhau a ydych yn gymwys ar gyfer cynllun, gweler cam 2)

  • unrhyw gostau parhaus / rhedeg posibl dros oes y cynnyrch. Sylwch y gall ffactorau allanol megis prisiau ynni a chwyddiant effeithio ar gostau rhedeg

Gwiriwch a oes unrhyw ffactorau ychwanegol i’w hystyried. Er enghraifft, os oes angen gwneud gwaith ychwanegol ac y cytunir arno, gwnewch yn siŵr eich bod yn glir ynghylch yr hyn rydych yn ei gael a faint y disgwylir i chi ei dalu.

Gallai’r dyfynbris terfynol amrywio o’r pris gwreiddiol a ddyfynnwyd os rhoddwyd hwn cyn i’ch eiddo gael ei arolygu. Os oes newidiadau i’ch dyfynbris terfynol, er enghraifft, os yw’n uwch, dylai’r busnes egluro’n glir ac yn syml pam mae hyn yn digwydd a’i nodi’n ysgrifenedig.

Peidiwch â theimlo dan bwysau i dderbyn dyfynbris terfynol yn arbennig os ydych yn ansicr pam ei fod wedi newid a/neu ei fod yn fwy nag yr hoffech ei dalu.

Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i brynu’r cynnyrch (cynhyrchion) ar y cam hwn os mai dyfynbris yw’r cyfan a roddwyd i chi.

Gwiriwch delerau’r blaendal

Os ydych wedi penderfynu prynu cynnyrch gan fusnes, gwiriwch a oes angen blaendal, faint ydyw a phryd y mae’n rhaid ei dalu – a gwnewch yn siŵr eu bod wedi nodi hyn yn ysgrifenedig. Yn nodweddiadol, ni ddylai blaendaliadau fod yn fwy na 25% o gyfanswm y pris. Os yw’r busnes wedi’i achredu (er enghraifft, gan MCS neu TrustMark) dylai eich blaendal gael ei ddiogelu os aiff pethau o chwith.

Rhestr wirio ystyriaethau allweddol:

  • ydych chi wedi cael mwy nag 1 dyfynbris (yn ddelfrydol o leiaf 3)?

  • a yw’r rhain yn cynnwys gwybodaeth allweddol, er enghraifft, disgrifiad o ba waith a gaiff ei wneud a’r cynhyrchion a ddarperir, dadansoddiad o bris y cynnyrch a’r gosodiad, cynnwys TAW (lle bo’n daladwy)?

  • a yw’n debygol y bydd unrhyw gostau ychwanegol, er enghraifft, ar gyfer gwasanaethu/cynnal a chadw? A yw hyn wedi’i esbonio’n glir?

  • os oes angen unrhyw gynhyrchion ychwanegol, a yw’n glir beth yw pris y rhain? A oes angen blaendal? Os felly, faint a phryd mae’r taliad yn ddyledus – a yw hyn wedi’i nodi’n ysgrifenedig?

Gwiriwch a allwch gael cymorth ariannol

Efallai y bydd rhai pobl yn gallu cael cymorth ariannol ar gyfer prynu cynhyrchion gwresogi ac insiwleiddio gwyrdd trwy gynlluniau grant neu gyllid y llywodraeth. Bydd yr hyn sydd ar gael ac a ydych yn gymwys yn dibynnu ar wahanol ffactorau gan gynnwys ym mha ran o’r DU rydych yn byw, eich amgylchiadau a’r cynnyrch – er enghraifft, efallai na fydd cynllun y llywodraeth ar gael mewn rhai rhannau o’r DU neu efallai na fyddwch yn gymwys i’w gael. Mae’n well gwirio drosoch eich hun ar wefannau’r llywodraeth pa gynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael a’r meini prawf allweddol, i weld a allech fod yn gymwys.

Os ydych yn gymwys, gall y broses a sut mae hyn yn gweithio ddibynnu ar ba ran o’r DU rydych yn byw ynddi. Er enghraifft, yn yr Alban, yn aml mae angen i’r sawl sy’n prynu’r cynnyrch wneud cais yn uniongyrchol ond yng Nghymru a Lloegr, bydd y busnes yn gwneud hyn fel arfer. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth yw’r broses i wneud cais am gyllid.

Rhestr wirio ystyriaethau allweddol:

  • ydych chi wedi gwirio a allech fod yn gymwys i gael grant/cyllid gan y llywodraeth?

  • os ydych yn gymwys ac eisiau ei ddefnyddio, a ydych yn gwybod a oes angen i chi wneud cais amdano’n uniongyrchol neu a yw’r busnes rydych yn contractio ag ef yn gwneud hynny?

  • os yw’r busnes yn gwneud cais am y grant/cyllid ar eich rhan, a ydych wedi siarad â’r busnes am hyn? A ydych yn glir ynghylch sut y telir y grant/cyllid, pryd ac i bwy ac a oes angen i chi wneud unrhyw beth arall?

Cam 3: Gosod cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd

Mae’n well ei gael yn ysgrifenedig

Dylai busnes dibynadwy ddarparu dogfennaeth briodol ar gyfer y cynhyrchion/gwasanaethau rydych yn eu prynu, megis contract ysgrifenedig. Dylai’r contract hwn gynnwys gwybodaeth allweddol, megis: eu manylion cyswllt; os ydynt wedi’u hachredu; yr hyn y maent yn gyfrifol amdano; beth sydd wedi’i gynnwys a’r hyn nad yw wedi’i gynnwys a chyfanswm y pris y cytunwyd arno; amserlenni gosod; a fyddwch yn berchen ar y cynnyrch neu’n ei brydlesu ar ôl ei osod; eu proses gwyno; a’ch hawliau canslo ac ad-dalu. Rydym yn ymdrin â chwynion a hawliau canslo/ad-daliad yn fwy manwl yng ngham 5.

Os na roddir contract i chi, gofynnwch i’r busnes am un. Os nad ydych yn siŵr a yw dogfen yn gontract, gwiriwch hyn gyda’r busnes. Cofiwch ddarllen y contract yn ofalus cyn llofnodi ac os oes unrhyw beth annisgwyl, neu nad ydych yn siŵr yn ei gylch, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Peidiwch â chael eich rhoi dan bwysau i lofnodi nes eich bod yn gwbl hapus â’r contract a’ch bod wedi cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Cofiwch gadw’ch holl ddogfennaeth, gan gynnwys copi o’r contract - bydd ei angen arnoch os bydd unrhyw broblemau ar ôl y gosodiad neu os oes angen i chi hawlio unrhyw warantiad neu warant.

Rhestr wirio ystyriaethau allweddol:

  • a ydych wedi derbyn contract gan y busnes?

  • a ydych yn glir beth yw ystyr telerau’r contract? A ydych wedi gallu codi unrhyw gwestiynau gyda’r busnes a chael eglurhad?

  • os ydych yn prydlesu’r cynnyrch – a ydych yn glir beth yw’r goblygiadau? Gwiriwch hyd unrhyw brydles ac a oes unrhyw gyfyngiadau yn gysylltiedig â’r brydles. Er enghraifft, a oes unrhyw daliadau os ydych am ddod ag ef i ben yn gynnar neu a fydd yn effeithio ar eich gallu i forgeisio neu werthu eich eiddo

Byddwch yn glir ynghylch yr hyn y mae’r broses osod yn ei olygu

Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i osod cynhyrchion gwresogi ac insiwleiddio gwyrdd a faint mae’n effeithio arnoch yn dibynnu ar y cynnyrch sy’n cael ei osod, eich cartref a’ch amgylchiadau personol. Gall fod yn aflonyddgar a dylai’r busnes esbonio’n glir beth fydd y broses yn debygol o’i gynnwys. Mae’n syniad da meddwl am y pwyntiau hyn cyn i chi lofnodi contract.

Rhestr wirio ystyriaethau allweddol:

  • Faint o amser fydd y gosodiad yn ei gymryd?

  • a fydd angen i chi adael eich cartref neu fod heb unrhyw wasanaethau hanfodol ac os felly, am faint o amser?

  • a oes risgiau o oedi i’r gosodiad a faint o amser y gallai hynny fod? Efallai y bydd angen i chi gynnwys yr oedi hwnnw yn eich cynlluniau

  • pwy sy’n gyfrifol am y gosodiad os yw pethau’n mynd i drafferthion? Weithiau gall busnes fod wedi is-gontractio gwasanaethau i fusnes arall, felly mae’n dda bod yn glir ymlaen llaw

  • a oes angen unrhyw ganiatâd neu gymeradwyaeth ac os felly, a ydych yn gwybod beth yw’r broses ac a oes angen i chi neu’r busnes wneud hyn? Er enghraifft:

    • os yw eich cartref mewn ardal gadwraeth neu’n adeilad rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch

    • efallai y bydd angen i chi hysbysu neu gael caniatâd gan eich gweithredwr rhwydwaith ynni lleol (a elwir yn Weithredydd Rhwydwaith Ardal) i gysylltu’ch system newydd i’r grid ynni (er enghraifft, gyda phaneli solar)

  • a oes angen i chi roi gwybod i eraill am y gwaith, er enghraifft darparwyr morgais neu yswiriant? A oes angen i hyn ddigwydd cyn neu ar ôl cwblhau’r gwaith neu’r ddau?

Cam 4: Yn dilyn gosod

Mae eich hawliau defnyddwyr yn parhau ar ôl y gosodiad ac mae’n ddefnyddiol bod yn ymwybodol o’r rhain yn arbennig os ydych yn wynebu unrhyw broblemau yn dilyn gosod.

Unwaith y bydd eich cynnyrch wedi’i osod dylai’r busnes esbonio sut i’w weithio a monitro ei berfformiad. Dylech hefyd gael unrhyw lawlyfrau cyfarwyddiadau a chyngor datrys problemau fel rhan o becyn trosglwyddo. Fel bob amser, peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau.

Dylech dderbyn gwarantau a gwarantiadau ar eich cynhyrchion a’r gwasanaeth gosod gan y busnes. Efallai y bydd gan y rhain ofynion penodol, megis cynnal a chadw neu wasanaethu cyfnodol. Cyn i’r busnes adael eich eiddo ar ôl y gosodiad, gwnewch yn siŵr EU bod yn egluro pa yswiriant a ddarperir i chi ac unrhyw beth sydd angen i chi ei wneud. Mae’n werth gofyn i’r busnes beth sydd wedi ei gynnwys dan unrhyw warantau/gwarantiadau, unrhyw gostau ychwanegol cysylltiedig, a beth sydd angen i chi ei wneud i ddilysu’r amddiffyniadau hyn a’u cadw yn eu lle.

Efallai y bydd y busnes yn cynnig amddiffyniadau ôl-werthu i chi ac efallai y bydd angen i chi gael gwasanaeth blynyddol i gynnal gwarantiad eich gwneuthurwr. Ni ddylech deimlo dan bwysau i brynu’r rhain ar unwaith pan fyddwch yn llofnodi’ch contract neu pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau. Mae’n syniad da gwirio’ch dogfennaeth warantiad i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi, yna gallwch chwilio o gwmpas i gael y fargen orau.

Rhestr wirio ystyriaethau allweddol:

  • a ydych chi’n gwybod beth mae’r gwarantau/gwarantiadau cynnyrch a chrefftwaith yn ei gwmpasu a’u telerau allweddol?

  • a oes unrhyw rwymedigaethau parhaus megis yr angen am waith cynnal a chadw a gwasanaethu rheolaidd a sut y gallai hynny effeithio ar unrhyw warantau cynnyrch neu wasanaeth a gawsoch?

  • a oes angen i chi gofrestru unrhyw un o’r gwarantau neu warantiadau o fewn amserlen benodol, neu a oes angen i’r busnes wneud hynny? Os yw’r busnes yn gwneud hynny, gofynnwch am gopi neu brawf bod hyn wedi’i wneud o fewn yr amserlen ofynnol

  • a ydych chi wedi cadw unrhyw waith papur yn ddiogel rhag ofn y bydd angen i chi wneud hawliad yn y dyfodol?

  • a oes angen i chi drefnu gwasanaeth blynyddol i gynnal unrhyw warantiadau a gwarantau?

  • a oes gennych ddiddordeb mewn prynu unrhyw amddiffyniadau ôl-ofal ychwanegol megis cynlluniau cynnal a chadw a gwasanaethu neu warantiadau estynedig? Peidiwch â brysio i wneud penderfyniad a chwiliwch o gwmpas i ddod o hyd i’r fargen orau i chi

Cam 5: Beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le

Yn anffodus, weithiau aiff pethau o chwith ac efallai y byddwch yn cael problemau gyda’ch cynnyrch neu ei osod. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n well mynd at y busnes a osododd y cynnyrch (cynhyrchion) yn gyntaf i’w cael i ddatrys y mater.

Gwneud cwyn a’i huwchgyfeirio

Os aiff rhywbeth o’i le efallai y bydd angen i chi wneud cwyn ysgrifenedig i’r busnes. Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae’r busnes wedi ymdrin â’ch cwyn a’ch bod wedi defnyddio busnes achrededig, gallwch gwyno’n uniongyrchol i’r cynllun achredu (er enghraifft, MCS neu TrustMark) maent yn perthyn iddo, i geisio ei ddatrys. Os yw’r mater yn dal heb ei ddatrys, dylai’r cynllun achredu roi mynediad i chi at wasanaeth datrys anghydfod amgen annibynnol. Nid yw’n ofynnol i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a gallwch ddewis cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y busnes yn lle hynny.

Gwybod eich hawliau defnyddiwr

Mae’r canllaw hwn wedi nodi cyngor ac ystyriaethau allweddol os ydych yn prynu cynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd, i’ch helpu i gael profiad cadarnhaol a sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg gan fusnesau.

Mae gennych rai hawliau ac amddiffyniadau pwysig o dan gyfraith diogelu defnyddwyr ac mae’r rhain yn berthnasol trwy gydol y broses. Mae eich hawliau defnyddiwr yn helpu sicrhau eich bod yn cael eich trin yn deg a’ch diogelu os aiff pethau o chwith. Ymhlith y rhain mae:

  • rhaid i chi gael gwybodaeth allweddol am y cynnyrch mewn da bryd cyn i chi lofnodi contract

  • rhaid i’r telerau ac amodau yn y contract gael eu hysgrifennu a’u cytuno gyda chi mewn ffordd deg ac agored. Dylent gael eu hysgrifennu’n syml ac yn glir, gan osgoi jargon, fel y gallwch ddeall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau yn hawdd

  • os byddwch yn llofnodi ffurflen archebu neu gontract yn eich cartref, mae gennych yr hawl i ganslo’r contract am unrhyw reswm o’r dyddiad y gwnaethoch ei lofnodi hyd at 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y caiff y cynnyrch ei ddosbarthu i chi

  • os byddwch yn llofnodi ffurflen archebu neu gontract ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post, mae gennych hawl i ganslo o hyd o fewn 14 diwrnod o’r adeg y gwnaethoch lofnodi; gwnewch yn siŵr nad ydych yn ildio’r hawl hwn drwy lofnodi hawlildiad

  • os ydych yn cael cynnig cyllid gan y busnes (er enghraifft, benthyciad neu gredyd), mae gennych 14 diwrnod o’r dyddiad y byddwch yn derbyn y ddogfennaeth gan y darparwr cyllid i ganslo’r cytundeb heb gosb

  • rhaid i’r busnes weithredu gyda gofal a sgil rhesymol wrth osod y cynnyrch a darparu’r gwasanaeth y maent wedi addo gwneud. Os nad ydynt yn gwneud hynny, gallech hawlio iawndal am dor contract. Mae’r busnes y gwnaethoch gontractio ag ef yn gyfrifol am unrhyw is-gontractwyr y maent yn eu cyflogi i gyflawni’r gwaith

  • oni bai bod amserlen benodol ar gyfer cyflawni’r gwasanaeth wedi’i nodi neu ei chytuno, rhaid i’r gwasanaeth gael ei gyflawni o fewn amser rhesymol

Ffynonellau cyngor ar eich hawliau o dan gyfraith diogelu defnyddwyr

Hawliau defnyddwyr - GOV.UK (www.gov.uk)

Os oes angen help arnoch gyda phroblem defnyddiwr, gallwch gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 (neu cysylltwch â 2]0808 223 1144 i siarad â chynghorydd sy’n siarad Cymraeg). Gall cynghorydd hyfforddedig roi cyngor i chi dros y ffôn. Yn ogystal â rhoi cyngor i chi, gall y llinell gymorth defnyddwyr drosglwyddo gwybodaeth am gwynion i Safonau Masnach. Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen ar-lein.

Yn yr Alban gallwch gysylltu ag Advice Direct Scotland ar 0808 164 6000 neu fynd i advice.scot neu gysylltu â Home Energy Scotland.

Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â Consumerline ar 0300 123 6262 neu fynd i wefan Consumerline.

Pethau i fod yn ymwybodol ohonynt ar gyfer cynhyrchion penodol

Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i wahanol gynhyrchion gwresogi ac inswleiddio gwyrdd. Fodd bynnag, gallai rhai ystyriaethau fod yn arbennig o berthnasol i fath penodol o gynnyrch. Rydym wedi nodi rhai o’r rhain isod.

Paneli solar

  • ble fydd y paneli solar yn mynd? Mae paneli solar yn aml yn gweithio orau ar do heb gysgod sy’n gwneud y mwyaf o amlygiad i’r haul, fel arfer yn wynebu’r De neu rywle rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin (ond nid y Gogledd)

  • a yw eich to mewn cyflwr da? Efallai y bydd angen i chi wneud atgyweiriadau neu waith cryfhau cyn gosod paneli

  • a oes angen batri arnoch hefyd? Gall batri storio trydan ychwanegol a gynhyrchir gan eich paneli solar. Rhowch wybod i’ch darparwr yswiriant cynnwys cartref os ydych yn bwriadu prynu 1 gan y gallai effeithio ar eich polisi

  • a oes angen i chi gael caniatâd gan eich gweithredwr rhwydwaith ynni lleol? Yn dibynnu ar faint y paneli solar, efallai y bydd angen eu caniatâd arnoch i gysylltu â’r grid trydan, neu i’w hysbysu ar ôl y gosodiad

  • ydych chi wedi meddwl am gynnal a chadw? Efallai y bydd angen glanhau paneli. Dylech fod yn glir ynghylch pa mor aml a faint y bydd yn ei gostio, sut y cânt eu glanhau, ac a oes angen eu tynnu i’w glanhau

Pympiau gwres

  • A oes gennych ddigon o le ar gyfer pwmp gwres? Er enghraifft, mae pympiau gwres ffynhonnell aer angen gofod o’u cwmpas y tu allan i gael llif da o aer yn ogystal â gofod y tu mewn (er enghraifft, ar gyfer silindr dŵr poeth)

  • a oes angen i chi hysbysu unrhyw un / cael caniatâd cyn gosod y pwmp gwres? Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch, a/neu hysbysu darparwr eich morgais a/neu yswiriwr

  • a yw’r pwmp gwres yn gywir ar gyfer eich cartref? Er mwyn bod yn ynni-effeithlon bydd angen dylunio’r pwmp gwres yn gywir ar gyfer yr eiddo (er enghraifft, maint cywir, lleoliad cywir)

  • a fyddwch angen / a fyddwch yn elwa o gynhyrchion ychwanegol er mwyn i’r pwmp gwres weithio’n effeithiol? Mae cynhyrchion eraill y gellir eu hargymell yn cynnwys rheiddiaduron mwy, rheolyddion gwresogi a/neu bibellau newydd, a bydd angen storfa dŵr poeth os oes gan eich eiddo foeler combi

Boeler biomas

  • a oes gennych ddigon o le? Gall boeleri biomas gymryd mwy o le na boeler traddodiadol. Bydd angen lle arnoch hefyd i storio’r tanwydd

  • a oes angen i chi ddefnyddio math penodol o danwydd? Mae angen pelenni penodol ar rai boeleri biomas i gynnal eu lefelau perfformiad a dilysrwydd gwarant

  • a ydych chi’n byw mewn ardal rheoli mwg? Os felly, mae’n ofynnol yn gyfreithiol i chi osod Dyfais Esempt a llosgi Tanwydd Awdurdodedig yn unig. Gallwch wirio gyda’ch Cyngor lleol i sicrhau bod eich boeler biomas yn cydymffurfio ar gov.uk: Ardaloedd rheoli mwg: y rheolau - GOV.UK (www.gov.uk)

  • ydych chi wedi dod o hyd i gyflenwr tanwydd? Mae gan lywodraeth y DU restr o gyflenwyr cofrestredig.

Inswleiddio cartref

  • a yw eich eiddo’n addas ar gyfer y math o inswleiddio y mae gennych ddiddordeb ynddo? Er enghraifft, a oes ganddo waliau ceudod neu waliau solet (os oes gennych Dystysgrif Perfformiad Ynni, dylai ddweud wrthych pa fath o waliau sydd gan eich eiddo)

  • a yw eich eiddo’n cael ei gynnal a’i gadw’n dda, wedi’i awyru ac yn rhydd rhag anwedd a llwydni? Mae’n bwysig cael unrhyw atgyweiriadau neu faterion eraill wedi’u datrys cyn gosod inswleiddio

  • a yw’r busnes wedi darparu adroddiad archwilio adeilad cyn gosod ar addasrwydd yr eiddo? Mynnwch hyn cyn bwrw ymlaen â’r gosodiad