Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 14A: sefydliadau corfforedig elusennol

Diweddarwyd 18 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

1.1 Corff corfforaethol o fath newydd

Ffurf gyfreithiol amgen ar elusen yw sefydliad corfforedig elusennol. Mae Rhan 11 o Ddeddf Elusennau 2011 yn creu’r fframwaith cyfreithiol sylfaenol, ac fe’i hategir gan Reoliadau Cyffredinol Sefydliadau Elusennol Corfforedig, Rheoliadau Deddf Elusennau 2011 (Sefydliadau Corfforedig Elusennol) (Cyfansoddiadau) 2012 a Rheoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Ansolfedd a Diddymiad) 2012. Daeth rheoliadau i alluogi cwmnïau elusennol a chwmnïau buddiannau cymunedol sy’n bodoli newid i fod yn sefydliadau corfforedig elusennol i rym ar 1 Ionawr 2018 (er mae’n debyg na chaiff ceisiadau i newid cwmnïau buddiannau cymunedol eu derbyn tan fis Medi 2018 a disgwylir cyfarwyddyd pellach o’r Comisiwn Elusennol).

Corff corfforaethol nad yw’n gwmni corfforedig o dan y Ddeddf Cwmnïau yw sefydliad corfforedig elusennol; o ganlyniad, nid yw’n ddarostyngedig i reoliadau cwmnïau. Nid oes angen cofrestru ei fodolaeth neu unrhyw dâl sy’n gysylltiedig ag ef gyda Thŷ’r Cwmnïau. Fodd bynnag, bydd angen cwblhau arwystl am dir a grëwyd gan sefydliad corfforedig elusennol trwy gofrestriad o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 er mwyn cael grym cyfreithiol2. Yn union fel gyda chwmni cyfyngedig, gall sefydliad corfforedig elusennol brynu, gwerthu, prydlesu, morgeisio neu arwystlo, neu waredu eiddo fel arall yn ei enw ei hun. Mae’n bosibl na fydd gan ei aelodau unrhyw atebolrwydd am ei ddyledion, neu bydd ganddynt atebolrwydd cyfyngedig yn unig (adran 27(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Yn sgil cyflwyno’r sefydliad corfforedig elusennol, mae 4 prif strwythur cyfreithiol ar gael i elusennau bellach.

  • ymddiried (dogfen lywodraethu: gweithred/datganiad ymddiried neu gynllun y Comisiwn Elusennau, ond mae modd creu ymddiried trwy ewyllys hefyd)
  • cymdeithas anghorfforedig (dogfen lywodraethu: cyfansoddiad neu reolau, fel arfer)
  • cwmni cyfyngedig trwy warant (dogfen lywodraethu: naill ai memorandwm ac erthyglau cyweithio (os cafodd y cwmni ei ffurfio cyn mis Medi 2009) neu erthyglau cyweithio (os cafodd y cwmni ei sefydlu ar ôl mis Medi 2009)
  • sefydliad Corfforedig Elusennol (dogfen lywodraethu: cyfansoddiad)

1.2 Sefydlu a statws elusennol

Mae sefydliad corfforedig elusennol yn dod i fodolaeth ar ôl cael ei gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau, ac mae’n derbyn rhif cofrestru sefydliad corfforedig elusennol. Mae pob sefydliad corfforedig elusennol yn elusen heb ei heithrio sy’n gorfod cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau, waeth beth fo ei lefelau incwm, felly ni all elusen eithriedig fod yn sefydliad corfforedig elusennol. Rhaid i sefydliad corfforedig elusennol gael prif swyddfa yng Nghymru neu Loegr (mae darpariaethau ar wahân yn llywodraethu sefydliad corfforedig elusennol yn yr Alban), cyfeiriad ar gyfer gohebu (y brif swyddfa o bosibl) a chofrestri o aelodau ac ymddiriedolwyr, a rhaid iddo gyflwyno ffurflen a chyfrifon blynyddol.

Bydd statws sefydliad corfforedig elusennol naill ai’n amlwg fel rhan o’i enw (“sefydliad corfforedig elusennol”) neu, fel arall, rhaid nodi ei statws yn glir ym mhob lleoliad, dull cyfathrebu a thrawsgludiad a ddisgrifir yn adran 211 o Ddeddf Elusennau 2011. Bydd cofrestr elusennau’r Comisiwn Elusennau hefyd yn nodi’n glir bod y sefydliad yn sefydliad corfforedig elusennol. Mae methu â chydymffurfio yn arwain at gosb droseddol ar gyfer yr ymddiriedolwyr, ac mae’n bosibl na fydd modd gorfodi contractau a thrawsgludiadau gan y sefydliad corfforedig elusennol os nad yw’n cydymffurfio.

1.3 Cyfansoddiad ac ymddiriedolwyr

Mae adran 206 o Ddeddf Elusennau 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfansoddiad y sefydliad corfforedig elusennol gynnwys darpariaethau penodol, ac mae’r 2 gyfansoddiad enghreifftiol a gyflwynir yn Rheoliadau Deddf Elusennau 2011 (sefydliadau corfforedig elusennol) (Cyfansoddiadau) 2012 (model sylfaen a model cyswllt) yn bodloni’r gofynion statudol.

Nid oes gan sefydliad corfforedig elusennol “sylfaen” unrhyw aelodau ar wahân i’w ymddiriedolwyr (yr ymddiriedolwyr yw’r aelodau). Mae gan sefydliad corfforedig elusennol “cyswllt” aelodau pleidleisio ar wahân i ymddiriedolwyr yr elusen. Gall aelodau’r sefydliad corfforedig elusennol benderfynu diwygio ei gyfansoddiad, ond nid os yw hynny’n newid statws elusennol y sefydliad corfforedig elusennol; nid yw unrhyw ddiwygiadau’n weithredol hyd nes eu bod wedi eu cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (adrannau 224(2), 225 a 227 o Ddeddf Elusennau 2011). Mae angen caniatâd y Comisiwn Elusennau ar gyfer rhai diwygiadau, gan gynnwys newidiadau i’r cymal dirwyn-i-ben/diddymu gwirfoddol, ac unrhyw ddarpariaeth sy’n awdurdodi budd ar gyfer ymddiriedolwyr yr elusen neu aelodau neu bersonau sy’n gysylltiedig â nhw. Rhaid i bob sefydliad corfforedig elusennol gadw cofrestr o ymddiriedolwyr a rhaid i sefydliad corfforedig elusennol cyswllt gadw cofrestr o aelodau hefyd.

Rhaid i sefydliad corfforedig elusennol gael o leiaf un ymddiriedolwr (adran 206(2)(b) o Ddeddf Elusennau 2011). Mae’r gyfraith yn caniatáu ymddiriedolwyr corfforaethol, ond mae’r Comisiwn Elusennau yn argymell y dylai ymddiriedolwyr fod yn unigolion (dros 16 oed) ac, os oes gan y sefydliad corfforedig elusennol aelodau corfforaethol, na ddylai’r sefydliad corfforedig elusennol gael cyfuniad o ymddiriedolwyr corfforaethol ac unigol (gweler y Nodiadau i gymal 9 a chymal 12 ar 2 ffurf y cyfansoddiad yn Rheoliadau Cyfansoddiad y sefydliad corfforedig elusennol). Mae’n ymddangos bod y ddau fodel ar gyfer cyfansoddiad sefydliad corfforedig elusennol sy’n cael eu cynnwys yn Rheoliadau Cyfansoddiad sefydliad corfforedig elusennol yn ei gwneud yn ofynnol i ymddiriedolwyr yr elusen fod yn “fodau dynol”.

Ni all person fod yn ymddiriedolwr os yw wedi ei anghymhwyso, er enghraifft, oherwydd collfarn am unrhyw drosedd yn ymwneud ag anonestrwydd neu dwyll, neu fethdaliad, neu os yw’n cael ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr oherwydd camymddwyn neu gamreoli (mae’r manylion llawn ar gael yn adran 180(2) o Ddeddf Elusennau 2011, fel y’i newidiwyd gan reoliad 5 o Orchymyn Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Newidiadau Canlyniadol) 2012). Fodd bynnag, mae gweithred a gyflawnir gan berson anghymwys fel ymddiriedolwr elusennol sefydliad corfforedig elusennol yn ddilys er gwaethaf yr anghymhwyso (rheoliad 32 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012).

1.4 Pwerau

Yn ddarostyngedig i delerau ei gyfansoddiad, mae gan sefydliad corfforedig elusennol y pŵer i wneud unrhyw beth sy’n hyrwyddo ei ddibenion neu sy’n cyd-fynd â hynny neu’n atodol iddo (adran 216(1) o Ddeddf Elusennau 2011). Er bod hyn yn ddarostyngedig i unrhyw beth yng nghyfansoddiad y sefydliad corfforedig elusennol, ni all y cyfansoddiad gynnwys darpariaeth a fyddai’n cyfyngu ar allu’r sefydliad corfforedig elusennol i waredu ei eiddo (rheoliad 14 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012). Caiff pwerau eu gweithredu gan ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol. Mae 2 fodel y Comisiwn Elusennau ar gyfer cyfansoddiad sefydliad corfforedig elusennol yn ailddatgan y pŵer statudol cyffredinol, ond maent hefyd yn cynnwys rhestr fer o bwerau penodol, gan gynnwys pŵer i fenthyg ac arwystlo holl eiddo’r sefydliad corfforedig elusennol, neu unrhyw ran ohono, i sicrhau benthyciad. Yn y nodiadau rhagarweiniol i’r ddau gyfansoddiad enghreifftiol, mae’r Comisiwn yn datgan: “To simplify the CIO framework, there is currently no provision for CIOs to issue debentures, or for a register of charges (mortgages etc) over CIO property.”

Mae Rheoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012 yn cymhwyso (fel y’u newidiwyd) y rhan fwyaf o Ran 4 ac adran 32 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000 i sefydliad corfforedig elusennol, fel bod ymddiriedolwyr sefydliad corfforedig elusennol yn gallu dirprwyo swyddogaethau i asiant. Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddi asedau’r sefydliad corfforedig elusennol , gan gynnwys rheoli, creu neu waredu budd mewn tir sy’n cael ei ddal fel buddsoddiad. Mae cyfansoddiadau enghreifftiol y Comisiwn Elusennau ar gyfer sefydliad corfforedig elusennol yn ymestyn pwerau Deddf Ymddiriedolwyr 2000 fel y gall ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol ddirprwyo unrhyw un o’u pwerau neu eu swyddogaethau i bwyllgorau, yn ddarostyngedig i fesurau diogelu penodol.

1.5 Cyflwyno dogfennau

Gellir cyflwyno dogfennau i sefydliad corfforedig elusennol trwy fynd â nhw, neu eu postio, i’w brif swyddfa fel y’i nodir yn y gofrestr elusennau. Gellir cyflwyno dogfennau i ymddiriedolwr neu reolwr dros dro (I gael gwybodaeth am reolwyr dros dro, gweler Ymyriad gan y Comisiwn Elusennau trwy fynd â nhw, neu eu postio, i gyfeiriad cyflwyno’r person hwnnw, fel y’i nodir yn y gofrestr o ymddiriedolwyr elusen y sefydliad corfforedig elusennol. Cyflwynir dogfen yn ddilys trwy ei hanfon i’r cyfeiriad a nodir o fewn 14 diwrnod i ddyddiad yr arolygiad, hyd yn oed os yw’r cyfeiriad yn newid wedyn (rheoliadau 47 a 48 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012.

2. Gwneud ceisiadau

Ar gyfer gwarediadau ystadau cofrestredig, nid oes unrhyw gyfyngiad ar bwy all wneud cais i gofrestru’r gwarediad i’r Sefydliad Elusennol Corfforedig.

Dylid gwneud cais am gofrestriad cyntaf gan (neu ar ran) y sefydliad corfforedig elusennol yn enw’r unigolyn/enwau’r unigolion y mae’r ystad i gael ei chofrestru iddo/iddynt. O safbwynt ystadau digofrestredig sy’n ddarostyngedig i forgais cyfreithiol cyntaf, mae rheol 21 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn galluogi’r morgeisai i wneud cais am gofrestriad cyntaf.

Rhaid defnyddio ffurflen FR1 os yw’r cais am gofrestriad cyntaf ystad rydd-ddaliol neu am gofrestriad cyntaf ystad brydlesol lle na chofrestrwyd y rhydd-ddaliad.

I gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am geisiadau am gofrestriad cyntaf, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.

2.1 Cyfyngiadau, datganiadau elusennau a thystysgrifau elusennau

Yn ogystal â gofynion Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003, mae angen ystyried gofynion Deddf Elusennau 2011 wrth wneud cais i gofrestru gwarediadau o blaid sefydliad corfforedig elusennol neu gan sefydliad corfforedig elusennol.

Mae sefydliad corfforedig elusennol yn elusennau heb eu heithrio ac maent yn ddarostyngedig i awdurdodaeth y Comisiwn Elusennau. Ar wahân i rai eithriadau (gweler adrannau117(3), (4)(a) a 124(9) a (10) o Ddeddf Elusennau 2011 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022), yn gyffredinol mae ymddiriedolwyr elusennau heb eu heithrio yn gallu gwerthu, morgeisio neu waredu tir yr elusen fel arall heb orchymyn llys neu orchymyn y Comisiwn Elusennau os ydynt yn dilyn y gweithdrefnau cywir.

Rhaid i bob gwarediad o blaid sefydliad corfforedig elusennol gynnwys datganiad bod y sefydliad corfforedig elusennol yn elusen heb ei heithrio sy’n cyfeirio at y cyfyngiadau ar warediadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Elusennau 2011. Disgrifir y datganiadau hyn yn Cofrestru sefydliad corfforedig elusennol yn berchnogion/gwarediadau o blaid sefydliad corfforedig elusennol.

Rhaid i bob gwarediad gan sefydliad corfforedig elusennol gynnwys datganiad priodol, ac, yn dibynnu ar ddyddiad y dystysgrif, mae’n bosibl y bydd angen iddo gynnwys tystysgrif gan yr ymddiriedolwyr, fel y’i disgrifir yn Gwarediadau gan sefydliad corfforedig elusennol.

Mae’r datganiadau’n galluogi’r cofrestrydd:

  • wrth gofrestru sefydliad corfforedig elusennol fel perchennog tir, i gofnodi cyfyngiad priodol (adran 123(2) o Ddeddf Elusennau 2011), ac
  • wrth gofrestru gwarediad gan sefydliad corfforedig elusennol, i fod yn fodlon y cydymffurfiwyd â’r cyfyngiad

Rhaid cymhwyso cyfyngiadau eraill ar gyfer defnyddio ffurflen RX1 yn unol â’r esboniadau yn yr adrannau perthnasol o’r cyfarwyddyd hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau’n gyffredinol, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

3. Cofrestru sefydliad corfforedig elusennol yn berchnogion/gwarediadau o blaid sefydliad corfforedig elusennol

Mae cofrestru perchennog yn breinio’r ystad gyfreithiol yn y perchennog cofrestredig hwnnw (adran 58 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Yn gyffredinol, gall trydydd partïon yn gweithredu’n ddiffuant gymryd yn ganiataol bod gan berchennog cofrestredig bŵer llawn i fod yn rhan o unrhyw warediad a awdurdodwyd gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002, oni bai bod y gofrestr yn cynnwys cyfyngiad neu gofnod arall i’r gwrthwyneb (adran 26 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae’r term ‘gwarediad’ yn cynnwys rhoi neu ollwng hawddfraint.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o’r gwreiddiol gan ddefnyddio’r datganiadau ardystio sydd ar gael.

3.1 Dogfennau/tystiolaeth ofynnol wrth gofrestru sefydliad corfforedig elusennol

  • Cais i ddiweddaru’r gofrestr yn ein systemau digidol neu ffurflen FR1 os yw’n gofrestriad cyntaf.
  • Oni nodir rhif cofrestru’r sefydliad corfforedig elusennol, copi ardystiedig (neu brint sgrin) o dystysgrif cofrestru’r Comisiwn Elusennau. (Ar gyfer prydles cymalau penodedig, dylid nodi rhif cofrestru’r sefydliad corfforedig elusennol yn LR3.)
  • Cyfeiriad ar gyfer gohebu’r sefydliad corfforedig elusennol. Bydd y cyfeiriad ar gyfer gohebu a nodir yn y gwarediad o blaid y sefydliad corfforedig elusennol neu yn y ffurflen gais yn cael ei gofnodi yn y gofrestr a’i ddefnyddio i gyflwyno unrhyw rybuddion (rheolau 197 a 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Dylech sicrhau, felly, eich bod yn defnyddio cyfeiriad, neu gyfeiriadau, lle y bydd rhybuddion o’r fath yn cael eu derbyn gan y sefydliad corfforedig elusennol, fel y cyfeiriad ar gyfer gohebu fel y’i pennir gan Reoliadau Cyffredinol y sefydliad corfforedig elusennol. Os yw gwarediad yn cynnwys cyfamodau neu ddatganiadau gan y sefydliad corfforedig elusennol fel gwaredai, neu gais am gyfyngiad, dylai’r sefydliad corfforedig elusennol ei weithredu.

Sylwer

Nid yw’n glir a yw rheol 183 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gymwys i sefydliad corfforedig elusennol. Oherwydd yr amwyster hwn a’r gofyniad yn rheoliad 14 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012 na ddylai cyfansoddiad sefydliad corfforedig elusennol gynnwys unrhyw gyfyngiad a fyddai’n amddifadu’r sefydliad corfforedig elusennol o’i allu i waredu ei eiddo, polisi Cofrestrfa Tir EF yw peidio â gofyn am dystysgrif ar ffurflen 8, Atodlen 8 i Reolau Cofrestru Tir 2003 neu weld cyfansoddiad y sefydliad corfforedig elusennol. Rhaid, fodd bynnag, darparu rhif cofrestru’r sefydliad corfforedig elusennol.

Mae eiddo elusen anghorfforedig sydd wedi ei chofrestru fel sefydliad corfforedig elusennol yn breinio yn y sefydliad corfforedig elusennol (adran 210 o Ddeddf Elusennau 2011) a rhaid cwblhau’r breinio trwy gofrestriad (adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Bydd darpariaethau rheolau 176, 179 a 180 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn berthnasol i warediadau o blaid, neu gan, sefydliad corfforedig elusennol, fel y nodir isod.

3.2 Ffurflenni’r gwarediad

Rhaid i drosglwyddiadau tir cofrestredig o blaid sefydliad corfforedig elusennol fod ar un o’r ffurflenni yn Atodlen 1 i Reolau Cofrestru Tir 2003. Dylid gwneud trosglwyddiadau un teitl cyfan neu fwy ar ffurflen TR1, ffurflen TR2, ffurflen TR5 neu ffurflen AS1. Rhifau’r ffurflenni cyfatebol ar gyfer trosglwyddiadau o ran yw ffurflen TP1, ffurflen TP2, ffurflen TR5 a ffurflen AS3.

Rhaid i brydles a roddir o blaid sefydliad corfforedig elusennol gynnwys y cymalau a bennir gan reol 58A ac Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003 lle bo’r brydles yn warediad o ystad gofrestredig mewn tir ac mae angen ei gwblhau trwy gofrestru o dan adran 27(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Dylid nodi rhif cofrestru’r sefydliad corfforedig elusennol yn LR3.

I gael rhagor o arweiniad, gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

3.3 Cofrestriad cyntaf sefydliad corfforedig elusennol

Pan fo sefydliad corfforedig elusennol, fel elusen heb ei heithrio, yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf gwirfoddol o dan ddarpariaethau adran 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 neu’n dilyn digwyddiad sy’n peri cofrestriad gorfodol o dan adran 4, mewn amgylchiadau lle nad yw’r digwyddiad hwnnw’n warediad at ddibenion Deddf Elusennau 2011 (megis trosglwyddiad ystad gymwys neu o ganlyniad i benodiad ymddiriedolwr newydd sy’n peri cofrestriad cyntaf gorfodol o dan adran 4(1)(aa) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.), ni fydd gweithred yn cynnwys y datganiad sy’n ofynnol gan adrannau 122(2) a 125(1) o Ddeddf Elusennau 2011. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid gwneud cais, gan ddefnyddio ffurflen RX1, i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf E (rheol 176(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

3.4 Datganiad sy’n ofynnol mewn gwarediad i sefydliad corfforedig elusennol

Yn ôl adran 122(8) o Ddeddf Elusennau 2011, mae angen i unrhyw drawsgludiad, trosglwyddiad neu brydles o blaid sefydliad corfforedig elusennol gynnwys datganiad yn ymwneud â’r sefydliad corfforedig elusennol hwnnw. Mae’n ofynnol hefyd i unrhyw warediad arall a fydd yn peri bod ystad yn cael ei dal gan, neu mewn ymddiried ar ran, sefydliad corfforedig elusennol gynnwys datganiad tebyg. Os yw’n ofynnol i’r datganiad gael ei gofrestru yn rhinwedd adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 neu’n peri’r gofyniad am gofrestriad cyntaf o dan adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rhaid i’r datganiadau fod yn y ffurf a bennwyd gan reol 179 o Reolau Cofrestru Tir 2003 (adran 123 o Ddeddf Elusennau 2011). Lle bo elusen eithriedig yn dal tir ar ymddiried ar ran sefydliad corfforedig elusennol, datganiad o’r math hwn sydd ei angen gan fod y cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adran 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys.

Sylwer

Mae Deddf Elusennau 2022 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Elusennau 2011 ac mae’r diwygiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith fesul cam. Ar 7 Mawrth 2024, diwygiwyd y cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011.

Effaith Atodlen 8 o baragraff 3(1) i Ddeddf Elusennau 2011, yw y dylid darllen rheol 179 fel pe bai’r datganiad ar gyfer elusen heb ei heithrio fel a ganlyn:

‘O ganlyniad i’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl fel y bo’n digwydd), bydd y tir a drosglwyddir (neu yn ôl fel y bo’n digwydd), yn cael ei ddal gan (neu mewn ymddiried ar ran) (sefydliad corfforedig elusennol), sy’n elusen heb ei heithrio, a bydd y cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adran 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol i’r tir (yn ddarostyngedig i adran 117(3) y Ddeddf honno).’

3.5 Rhif cofrestru a statws sefydliad corfforedig elusennol

Os yw’r gwarediad o blaid sefydliad corfforedig elusennol, rhaid i’r gwarediad neu’r cais (neu banel LR3 ar gyfer prydles cymalau penodedig) nodi rhif elusen gofrestredig y sefydliad corfforedig elusennol. Rhaid i’r gwarediad ddangos statws y sefydliad corfforedig elusennol, yn ei ddisgrifio fel sefydliad corfforedig elusennol, os nad yw hyn yn amlwg o’i enw.

3.6 Cofnodi sefydliad corfforedig elusennol fel perchennog

Byddwn yn cofnodi enw a chyfeiriad y sefydliad corfforedig elusennol yn y gofrestr, ynghyd â rhif cofrestru’r sefydliad corfforedig elusennol fel a ganlyn:

‘(dyddiad) Perchennog: [Enw’r sefydliad corfforedig elusennol] [Rhif cofrestru’r sefydliad corfforedig elusennol xxxxxx] o 101 Hereward Street, Fenbury, Hertland, GH3 4YX.’

3.7 Cyfyngiad elusennau heb eu heithrio

Gan fod sefydliad corfforedig elusennol yn elusennau heb eu heithrio, mae adran 123(2) o Ddeddf Elusennau 2011 yn ymrwymo’r cofrestrydd, wrth gofrestru gwarediad o blaid sefydliad corfforedig elusennol, i gofnodi cyfyngiad sy’n adlewyrchu pwerau’r perchennog.

Bydd y datganiad yn y gwarediad, fel y nodwyd uchod, yn nodi bod y sefydliad corfforedig elusennol yn elusen heb ei heithrio. Mae’r cyfyngiad priodol ar Ffurf E fel y nodir yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 (rheol 176 i Reolau Cofrestru Tir 2003). Effaith Atodlen 8 o baragraff 3(1) i Ddeddf Elusennau 2011 yw bod angen darllen Ffurf E fel:

‘Nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig y mae adran 117 i 121 o Ddeddf Elusennau 2021 neu adran o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo i’w gofrestru oni bai bod yr offeryn yn cynnwys datganiad yn cydymffurfio ag adran 122(2A) neu adran 125(1A) y Ddeddf honno fel y bo’n briodol.’

3.8 Cyfyngiadau eraill

Lle bo unrhyw gyfyngiadau eraill ar bwerau sefydliad corfforedig elusennol penodol, dylech ystyried gwneud cais ar ffurflen RX1 i gofnodi unrhyw gyfyngiad addas yn y gofrestr. Fodd bynnag, mae Rheoliadau sefydliadau corfforedig elusennol (Cyffredinol) 2012 (rheol 14) yn nodi na all cyfansoddiad sefydliad Corfforedig Elusennol gynnwys unrhyw ddarpariaeth a fyddai’n cyfyngu ar ei allu i waredu ei eiddo. Mae gan ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol y pŵer i reoli materion y sefydliad corfforedig elusennol, ac i’r diben hwnnw i weithredu holl bwerau’r sefydliad corfforedig elusennol (adran 216 o Ddeddf Elusennau 2011).

3.8.1 Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau (‘Gwarcheidwad Swyddogol’)

Lle bo tir wedi ei freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol, sy’n cael ei gofrestru fel perchennog o ganlyniad i orchymyn breinio a wnaed o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 (adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993 cyn hynny), rhaid i chi gyflwyno’r canlynol gyda’r cais:

  • copi ardystiedig o orchymyn llys a wnaed o dan adran 90(1) o Ddeddf Elusennau 2011 (adran 21(1) o Ddeddf Elusennau 1993 cyn hynny), neu
  • gopi ardystiedig o orchymyn y Comisiwn Elusennau a wnaed o dan adrannau 69(1)(c) neu 76(3) o Ddeddf Elusennau 2011 (adrannau 16 neu 18 o Ddeddf Elusennau 1993 cyn hynny (rheol 178(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003.)

Lle y mae’r tir wedi ei freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol neu wedi ei drosglwyddo iddo trwy rinwedd gorchymyn o dan adran 69 neu adran 90 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 16 neu adran 21(1) o Ddeddf Elusennau 1993) bydd y cofrestriad yn cael ei gwblhau fel a ganlyn:

‘(dyddiad) Perchennog: Y Gwarcheidwad Swyddogol dros Elusennau ar ran (enw sefydliad corfforedig elusennol) o (cyfeiriad sefydliad corfforedig elusennol).’

Lle y mae’r tir wedi ei freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol trwy rinwedd gorchymyn o dan adran 76(3) o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993), cyfeiriad ar gyfer gohebu’r Gwarcheidwad Swyddogol fydd yn cael ei gofnodi yn y gofrestr.

Yn ogystal â chyfyngiad Ffurf E, pan fydd y Gwarcheidwad Swyddogol yn cael ei gofrestru’n berchennog o ganlyniad i orchymyn breinio a wnaed gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993) mae angen cyfyngiad ychwanegol. Rhaid gwneud cais, gan ddefnyddio ffurflen RX1, i gofnodi’r cyfyngiad hwn fydd ar Ffurf F (rheol 178 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Effaith Atodlen 8 o baragraff 3(1) i Ddeddf Elusennau 2011 yw y dylai Ffurf F ddweud:

‘Nid oes gwarediad a gyflawnwyd gan ymddiriedolwr [enw’r sefydliad corfforedig elusennol] yn enw ac ar ran y perchennog i’w gofrestru oni bai yr awdurdodwyd y trafodiad gan orchymyn y llys neu’r Comisiwn Elusennau, yn ôl gofynion adran 91(4) o Ddeddf Elusennau 2011.’

4. Gwarediadau gan sefydliad corfforedig elusennol

4.1 Cefndir

Mae angen i elusennau heb eu heithrio fynd trwy gamau trefniadol arbennig cyn gwaredu tir (adrannau 117-121, 124 a 125 o Ddeddf Elusennau 2011, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022). Am esboniad cryno, gweler cyfarwyddyd ymarfer 14: elusennau.

Fel yr eglurwyd eisoes yn Cyfyngiad elusennau heb eu heithrio, caiff gofynion Deddf Elusennau 2011 eu hadlewyrchu yn achos tir cofrestredig trwy gofnodi’r cyfyngiad priodol, ar Ffurf E, yn y gofrestr.

Ar yr amod bod unrhyw warediad gan sefydliad corfforedig elusennol yn cynnwys y datganiad elusen heb ei heithrio perthnasol fel y caiff ei egluro yn yr adrannau canlynol, bydd gofynion y cyfyngiad ar Ffurf E yn cael eu hateb ac mae modd cofrestru’r gwarediad.

4.2 Y datganiad sy’n ofynnol mewn gwarediadau a wnaed ar neu ar ôl 7 Mawrth 2024

Gan fod sefydliad corfforedig elusennol yn elusen heb ei heithrio, rhaid i’r weithred sy’n peri’r gwarediad gynnwys datganiad ynghylch yr ystad, y sefydliad corfforedig elusennol a natur y trafodiad. Mae hyn yn ofynnol gan adran 122(2) o Ddeddf Elusennau 2011 (ar gyfer gwarediadau heblaw morgeisi) ac adran 125(1) o Ddeddf Elusennau 2011 (ar gyfer morgeisi). Mae’r datganiad sydd i’w gynnwys mewn unrhyw warediad neu forgais yn dibynnu ar a yw’r gwarediad yn syrthio o fewn adran 117(3)(a)-(d) Ddeddf Elusennau 2011 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022 (neu yn achos morgais, a yw’n un sy’n syrthio o fewn adran 124(9) fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022.

O dan adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011, nid oes unrhyw gyfyngiad ar forgeisi y rhoddwyd awdurdod cyffredinol neu arbennig yn benodol iddynt fel y cyfeirir ato yn adran 117(3)(a) neu un a roddir gan ddatodwr, datodwr proffesiynol, derbynnydd, morgeisai neu weinyddwr, fel y nodir yn adran 117(3)(b).

Mae rheol 180 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gosod yr amrywiol ffurfiau o ddatganiad i’w cynnwys mewn gwarediadau ystadau cofrestredig ac mewn gwarediadau ystadau digofrestredig a fydd yn gofyn i’r ystad gael ei chofrestru, yn dibynnu ar a yw’r gwarediad yn forgais, ac a yw’n ddarostyngedig i’r cyfyngiadau gan adrannau 117-121 neu 124 o Ddeddf Elusennau 2001 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022.

Mae rheol 180 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cadarnhau bod yn rhaid i’r datganiad sy’n ofynnol gan adran 122(2) o Ddeddf Elusennau 2011 fod ar un o’r ffurfiau canlynol.

(a) Ar gyfer gwarediad heblaw morgais, naill ai:

  • ‘Mae’r tir a drosglwyddwyd (neu yn ôl y digwydd) yn cael ei ddal gan [(perchnogion) o dan ymddiried ar ran] (elusen), elusen heb ei heithrio, ond nid yw’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl y digwydd) yn un sy’n dod o fewn paragraff (a), (aa) (b), (c) neu (d) (neu yn ôl y digwydd) o adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011, fel bod y cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adrannau 117-121 o’r Ddeddf honno yn gymwys i’r tir.’ neu

  • ‘Mae’r tir a drosglwyddwyd (neu yn ôl y digwydd) yn cael ei ddal gan [(perchnogion) o dan ymddiried ar ran] (elusen), ac nid yw’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl y digwydd) yn un sy’n dod o fewn paragraff (a), (b), (c) neu (d) o adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011, ond mae’r gwarediad wedi ei sancsiynu gan orchymyn y llys neu’r Comisiwn Elusennau’ neu

  • ‘Mae’r tir a drosglwyddwyd (neu yn ôl y digwydd) yn cael ei ddal gan [(perchnogion) o dan ymddiried ar gyfer] (elusen), elusen heb ei heithrio, ac nid yw’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl y digwydd) yn un sy’n dod o fewn paragraff (a), (aa), (b), (c) neu (d) o adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011, ond mae pŵer o dan ymddiriedolaethau’r elusen i beri gwarediad ac adrannau 117 i y cydymffurfiwyd â 121 o’r Ddeddf honno’.

(b) Ar gyfer morgais gan elusen heb ei heithrio, naill ai:

  • ‘Mae’r tir a arwystlir yn cael ei ddal gan (neu o dan ymddiried ar ran) (sefydliad corfforedig elusennol), elusen heb ei heithrio, ond nid yw’r arwystl (neu forgais) hwn yn un sy’n dod o fewn adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011 neu
  • ‘Mae’r tir a arwystlir yn cael ei ddal gan (neu o dan ymddiried ar ran) (elusen), elusen heb ei heithrio, ac nid yw’r arwystl (neu forgais) hwn yn un sy’n dod o fewn adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011, ond mae’r arwystl wedi ei sancsiynu gan orchymyn y llys neu’r Comisiwn Elusennau’ neu
  • ‘Mae’r tir a godir yn cael ei ddal gan (neu o dan ymddiried ar gyfer) (elusen), elusen heb ei heithrio, ac nid yw’r arwystl (neu forgais) hwn yn un sy’n dod o fewn adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011, ond mae pŵer o dan ymddiriedolaethau’r elusen i roi’r arwystl (neu forgais) a chydymffurfiwyd â gofynion adran 124(2) o’r Ddeddf honno’.

Yn ogystal, dylai morgais gan elusen heb ei heithrio sy’n arwain at gais am gofrestriad cyntaf (adran 4(1)(g) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) gynnwys y datganiad canlynol hefyd sy’n ofynnol gan adran 126(2)(b) o Ddeddf Elusennau 2011:

  • ‘Mae’r cyfyngiadau ar warediad a osodwyd gan adrannau 117 i 121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol hefyd i’r tir (yn ddarostyngedig i adran 117(3) y Ddeddf honno).’

*Mae angen ichi ddewis pa baragraff neu baragraffau sy’n effeithio, a dileu’r rhai nad ydynt.

4.3 Y datganiad sy’n ofynnol mewn gwarediadau a wnaed cyn 7 Mawrth 2024

Cyn gweithredu adran 23 o Ddeddf Elusennau 2022 ar 7 Mawrth 2024, effaith Atodlen 8, paragraff 3(1) i Ddeddf Elusennau 2011 oedd y dylid darllen rheol 180 o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel pe bai’r datganiadau i’w cynnwys yn y weithred fel a ganlyn. Bydd hyn yn gymwys i warediadau a wnaed cyn y dyddiad hwn o hyd.

(a) Ar gyfer gwarediad heblaw morgais, naill ai:

  • ‘Mae’r tir a drosglwyddwyd (neu yn ôl y digwydd) yn cael ei ddal gan [(perchnogion) o dan ymddiried ar gyfer] (elusen), elusen heb ei heithrio, ac nid yw’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl y digwydd) yn un sy’n dod o fewn paragraff (a), (b), (c) neu (d) o adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011, fel bod y cyfyngiadau ar warediad a osodir gan adrannau 117-121 o’r Ddeddf honno yn gymwys i’r tir’ neu

  • ‘Mae’r tir a drosglwyddwyd (neu yn ôl y digwydd) yn cael ei ddal gan [(perchnogion) o dan ymddiried ar gyfer] (elusen), elusen heb ei heithrio, ond mae’r trosglwyddiad hwn (neu yn ôl y digwydd) yn un sy’n dod o fewn paragraff (a), (b), (c) neu (d) (yn ôl y digwydd) o adran 117(3) o Ddeddf Elusennau 2011.’

(b) Ar gyfer morgais gan Sefydliad Elusennol Corfforedig, naill ai:

  • ‘Mae’r tir a arwystlir yn cael ei ddal gan (neu o dan ymddiried ar gyfer) (elusen), elusen heb ei heithrio, ac nid yw’r arwystl (neu forgais) hwn yn un sy’n dod o fewn adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011, fel bod y cyfyngiadau a osodir gan adran 124 o’r Ddeddf honno yn gymwys’ neu

  • ‘Mae’r tir a arwystlir yn cael ei ddal gan (neu o dan ymddiried ar gyfer) (elusen), elusen heb ei heithrio, ond mae’r arwystl (neu forgais) hwn yn un sy’n dod o fewn adran 124(9) o Ddeddf Elusennau 2011.’

Yn ogystal, dylai morgais gan Sefydliad Elusennol Corfforedig sy’n arwain at gais am gofrestriad cyntaf (adran 4(1)(g) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) gynnwys y datganiad a ganlyn hefyd:

  • ‘Mae’r cyfyngiadau ar warediad a osodir gan adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 hefyd yn gymwys i’r tir (yn ddarostyngedig i adran 117(3) o’r Ddeddf honno).’

*Mae angen ichi ddewis pa baragraff neu baragraffau sy’n effeithio, a dileu’r rhai nad ydynt.

4.3.1 Y dystysgrif sy’n ofynnol mewn gwarediadau a wnaed cyn 7 Mawrth 2024

Lle caiff sefydliad corfforedig elusennol ei gofrestru fel perchennog ystad, bydd cyfyngiad Ffurf E wedi ei gofnodi yn y gofrestr. Effaith y cyfyngiad hwn yw mynnu, yn ogystal â’r datganiad priodol y cyfeiriwyd ato uchod, bod gwarediad gan y sefydliad corfforedig elusennol hefyd yn cynnwys tystysgrif lle naill ai mae’r cyfyngiadau ar warediadau a osodir gan adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol, neu, os yw’n arwystl, mae’r cyfyngiadau a osodir gan adran 124 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth gweler cyfarwyddyd ymarfer 14: elusennau.

Fel rheol, dylai’r dystysgrif ddilyn y datganiad priodol yn y weithred sy’n peri’r gwarediad. Nid yw Deddf Cofrestru Tir 2002 yn pennu unrhyw eiriau penodol ond rhaid i’r dystysgrif gwrdd â gofynion adrannau 122(3) neu 125(2) o Ddeddf Elusennau. Mae ffurf y dystysgrif yn dibynnu ar a oes gan y sefydliad corfforedig elusennol bŵer o dan ei gyfansoddiad i wneud gwarediad ac wedi cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Deddf Elusennau 2011, fel sy’n bodoli cyn 7 Mawrth 2024, neu a yw’r gwarediad wedi ei awdurdodi gan orchymyn llys neu’r Comisiwn Elusennau.

Ar gyfer gwarediad (nad yw’n arwystl) a wneir heblaw trwy orchymyn Llys neu’r Comisiwn Elusennau, dylai’r dystysgrif fod yn debyg i hyn:

‘Mae (disgrifiad o ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol a’u cymhwyster i ardystio) yn ardystio fod ganddynt bŵer o dan ei gyfansoddiad i weithredu’r gwarediad hwn a’u bod wedi cydymffurfio â darpariaethau’r cyfryw adrannau 117-121 i’r graddau y mae’n berthnasol i’r gwarediad hwn.’

Ar gyfer arwystl a wneir heblaw trwy orchymyn y Llys neu’r Comisiwn Elusennau, dylai’r dystysgrif fod yn debyg i hyn.

‘Mae (disgrifiad o ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol a’u cymhwyster i ardystio) yn ardystio fod ganddynt bŵer o dan ei gyfansoddiad i weithredu’r arwystl hwn a’u bod wedi cael ac wedi ystyried cyngor o’r fath a gaiff ei grybwyll yn adran 124(2) o’r cyfryw Ddeddf.’

Lle’r awdurdodwyd y gwarediad trwy orchymyn y Comisiwn Elusennau neu’r llys, dylai’r dystysgrif sy’n ofynnol fod yn debyg i’r canlynol.

‘Mae (disgrifiad o ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol a’u cymhwyster i ardystio) yn ardystio yr awdurdodwyd y gwarediad (neu arwystl) hwn trwy orchymyn y Comisiwn Elusennau (neu’r Llys).’

Lle y mae rhywun yn caffael budd mewn ystad am arian neu werth arian o dan warediad sy’n cynnwys unrhyw un o’r tystysgrifau a ddisgrifir uchod, bydd yn cael ei dybio’n bendant fod y ffeithiau fel y dywedwyd yn y dystysgrif (adrannau 122(4) a 125(3) o Ddeddf Elusennau 2011).

4.3.2 Pwy sy’n rhoi’r dystysgrif?

Rhaid i ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol (adrannau 122(3) a 125(2 o Ddeddf Elusennau 2011, fel sy’n bodoli cyn 7 Mawrth 2024) roi’r dystysgrif, felly bydd angen iddynt gyflawni’r gwarediad neu’r arwystl er mwyn rhoi’r dystysgrif. Mae adran 177 o Ddeddf Elusennau 2011 yn diffinio ‘ymddiriedolwyr elusen’ fel y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddu’r elusen. Os yw’r elusen yn sefydliad corfforedig elusennol, bydd y bobl hyn yn ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol.

4.3.3 Sut y dylid disgrifio ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol?

Lle bo ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol yn rhoi’r dystysgrif, mae modd eu disgrifio fel:

‘Ymddiriedolwyr y sefydliad elusennol anghorfforedig (neu’r term a ddefnyddir i gyfeirio at yr elusen fel arfer, er enghraifft y gymdeithas, y bwrdd, y cyngor, y gronfa), sef y bobl sydd â rheolaeth gyffredinol dros ei weinyddu).’

Yn yr achosion hyn mae’n arferol i ddau (neu fwy, os dymunir) o’r ymddiriedolwyr gael eu hawdurdodi i gyflawni’r weithred ar ran pob un ohonynt (gweler Trefniadau cyflawni). Nid oes angen rhoi enwau’r holl ymddiriedolwyr. Os nad oes unrhyw awdurdod dirprwyedig dylid enwi’r holl ymddiriedolwyr yn y dystysgrif a dylent oll gyflawni’r weithred.

4.3.4 Y datganiad sy’n ofynnol mewn gwarediadau a wnaed ar neu ar ôl 7 Mawrth 2024, ond a wnaed yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 7 Mawrth 2024

Ar gyfer gwarediadau a wneir ar neu ar ôl 7 Mawrth 2024, dylai’r datganiadau penodedig nodi darpariaethau perthnasol cyfatebol Deddf Elusennau 2011 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022. Fodd bynnag, bydd Cofrestrfa Tir EF yn dal i dderbyn datganiadau a thystysgrifau sy’n cyfeirio at ddarpariaethau Deddf Elusennau 2011 cyn 7 Mawrth 2024 (gweler 5.2.3 uchod ), ar yr amod bod y gwarediad yn unol â chontract ar gyfer gwerthu neu ar gyfer prydles neu warediad arall o’r tir yr ymrwymwyd iddo cyn 7 Mawrth 2024 a bod y weithred ei hun yn nodi, neu os yw’r ceisydd yn ardystio, mai fel hynny y mae.

4.3.5 Tir digofrestredig

Lle bo ystad ddigofrestredig yn cael ei dal gan neu mewn ymddiried ar ran sefydliad corfforedig elusennol, mae pwerau’r perchnogion i gael gwared arni yn gyfyngedig yn yr un ffordd i bob diben ag y byddent pe bai eu teitl yn gofrestredig. Felly, wrth archwilio teitl ar gofrestriad cyntaf, byddwn yn cymhwyso’r egwyddorion a amlinellwyd uchod fel pe bai’r cyfyngiad priodol wedi bod yn berthnasol i’r sefydliad corfforedig elusennol sy’n gwaredu’r ystad. Byddwn yn gallu penderfynu a yw tystysgrif yn briodol oherwydd bod y gofyniad bod y gwarediad yn cynnwys datganiadau ynghylch y tir, yr elusen a natur y gwarediad hefyd yn berthnasol i drawsgludiadau, morgeisi a phrydlesi tir digofrestredig. Felly, rydym yn argymell bod unrhyw warediad, y mae adran 117-121 neu 124 o Ddeddf Elusennau 2011 yn berthnasol iddo, o ystad ddigofrestredig gan sefydliad corfforedig elusennol, hefyd yn cynnwys tystysgrif debyg i un o’r rhai yn yr adran hon pan fo hynny’n briodol i amgylchiadau’r gwarediad.

Dylai morgais gan elusen heb ei heithrio sy’n arwain at gais am gofrestriad cyntaf (adran 4(1)(g) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) gynnwys y datganiad canlynol hefyd (rheol 180(3) Rheolau Cofrestru Tir 2003):

  •  ‘Mae’r cyfyngiadau ar warediad a osodir gan adrannau 117-121 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys i’r tir hefyd (yn ddarostyngedig i adran 117(3) o’r Ddeddf honno)’.

4.3.6 Pan nad oes angen tystysgrif

Bydd rhai achlysuron pan na ddylid cynnwys tystysgrif mewn gweithred am nad yw’r gwarediad yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau ar warediad a osodir gan adran 117-121 neu, os yw’n arwystl, adran 124 o Ddeddf Elusennau 2011. Mae’r rhain yn warediadau y cyfeirir atynt yn adran 117(3) y Ddeddf honno ac arwystlon lle mae darpariaethau adran 124 yn cael eu datgymhwyso gan adran 124(9) y Ddeddf honno.

Bydd gan y mathau hyn o warediadau un o’r ail o’r gwahanol ddatganiadau y cyfeirir atynt uchod yn Y datganiad sy’n ofynnol yn y gwarediad, yn dibynnu ar a yw’r gwarediad yn arwystl ai peidio.

4.4 Tir nad yw’n cael ei ddal er budd yr elusen ei hun yn unig

Mae adran 117(1A) o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022) yn cadarnhau bod tir yn cael ei ddal gan neu o dan ymddiried ar gyfer elusen dim ond os yw’r holl dir sy’n ffurfio testun y gwarediad yn cael ei ddal:

(a) gan yr elusen er ei budd ei hun yn unig (ac, yn unol â hynny, nid yw’n cael ei dal fel enwebai neu o dan ymddiried ar gyfer person arall), neu

(b) o dan ymddiried ar gyfer yr elusen yn unig.

Felly, pan fo’r elusen yn un o nifer o fuddiolwyr y tir a’r ymddiriedolwr yn gwaredu’r tir cyfan, nid yw’r cyfyngiadau yn adran 117(1) o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys.

4.5 Tabl cryno o ddatganiadau sy’n ofynnol

Y math o offeryn a’r dyddiad Y datganiad a/neu dystysgrif sy’n ofynnol
Trosglwyddo, trawsgludiad, prydles neu offeryn arall yn gwaredu tir a wnaed cyn 7 Mawrth 2024 Gweler paragraffau 4.3(a) a 4.3.1
Arwystl neu forgais a roddwyd cyn 7 Mawrth 2024 Gweler paragraffau 4.3(b) a 4.3.1
Trosglwyddo, trawsgludiad, prydles neu offeryn arall sy’n gwaredu tir a wnaed ar neu ar ôl 7 Mawrth 2024 ond yn unol â chontract gwerthu neu warediad arall a wnaed cyn 7 Mawrth 2024 Gweler paragraff 4.3.4
Trosglwyddo, trawsgludiad, prydles neu offeryn arall sy’n gwaredu tir a wnaed ar neu ar ôl 7 Mawrth 2024 Gweler paragraff 4.2(a)
Arwystl neu forgais a roddwyd ar neu ar ôl 7 Mawrth 2024 Gweler paragraff 4.2(b)

4.6 Cydymffurfio â chyfyngiadau

4.6.1 Ffurf E

Cydymffurfir â’r cyfyngiad hwn os yw’r gwarediad yn cynnwys y datganiad perthnasol a thystysgrif, os oes angen un, fel y crybwyllwyd uchod yn Y dystysgrif sy’n ofynnol yn y gwarediad.

4.6.2 Ffurf F

Bydd cyfyngiad ar Ffurf F yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 (cyn 14 Mawrth 2012, roedd y cyfyngiad a gofnodwyd yn y gofrestr yn cyfeirio at adran 22(3) o Ddeddf Elusennau 1993 yn hytrach nag adran 91(4) o Ddeddf Elusennau 2011. Dylid darllen cyfyngiad o’r fath nawr fel pe bai’n cyfeirio at adran 91(4)) wedi ei gofnodi yn y gofrestr ar ôl gwneud gorchymyn o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 (neu adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993) a chofrestru’r Gwarcheidwad Swyddogol yn berchennog. Os yw’r Gwarcheidwad Swyddogol yn cyflawni gwarediad wedyn, bydd gofyn cael gorchymyn gan y llys neu’r Comisiwn Elusennau i awdurdodi’r gwarediad, pa fersiwn bynnag o’r cyfyngiad sy’n ymddangos yn y gofrestr (adrannau 122(2A) a 125(1A)(a) o Ddeddf Elusennau 2011). Os yw hyn yn digwydd, dylai’r gwarediad gynnwys datganiad yn dweud iddo gael ei awdurdodi trwy orchymyn y Comisiwn Elusennau neu’r llys fel y bo’n briodol (adran 91(4) o Ddeddf Elusennau 2011). Os na cheir gorchymyn gan y llys neu’r Comisiwn Elusennau, bydd angen i’r Gwarcheidwad Swyddogol roi sêl ar y weithred sy’n peri’r gwarediad.

Nid yw’r cyfyngiad yn berthnasol i warediadau a gyflawnwyd gan y Gwarcheidwad Swyddogol.

4.6.3 Ffurf A

Os yw perchennog y sefydliad corfforedig elusennol yn unig ymddiriedolwr neu’n ymddiriedolwr gwarchod ac os yw cyfyngiad Ffurf A yn ymddangos yn y gofrestr, bydd angen penodi ail ymddiriedolwr i ymuno ag unrhyw warediad y mae arian cyfalaf yn deillio ohono, gan nad yw sefydliad corfforedig elusennol yn gorfforaeth ymddiried.

4.6.4 Cyfyngiadau eraill

Bydd cyfyngiadau eraill yn cael eu bodloni trwy gyflwyno tystiolaeth bod y gwarediad yn cydymffurfio â thelerau’r cyfyngiad. Bydd y dystiolaeth ar ffurf tystysgrif os bydd y cyfyngiad yn galw am un, neu dylid lanlwytho copi o’r cydsyniad neu orchymyn gofynnol os yw’n briodol. Os nad oes gofyn am gydsyniad na gorchymyn o dan yr amgylchiadau, dylid egluro’r sefyllfa mewn llythyr cysylltiedig.

4.7 Dileu cyfyngiadau

Lle bo cyfyngiad yn y gofrestr ar Ffurf E, Ffurf F neu un o’r fersiynau blaenorol y cyfeirir atynt yng nghyfarwyddyd ymarfer 14: elusennau caiff hyn ei ddileu yn awtomatig (nid oes angen unrhyw gais ar wahân i ddileu’r cyfyngiad) pan gaiff cais ei wneud i gofrestru trosglwyddiad gan y perchennog ar yr amod:

  • y cydymffurfiwyd â’r cyfyngiad, a
  • bod agweddau eraill ar y cais yn dderbyniol

Fodd bynnag, os bydd sefydliad corfforedig elusennol yn aros fel perchennog yn dilyn gwarediad, fel prydles neu arwystl, neu’n dilyn cyfuno neu newid, bydd unrhyw gyfyngiad elusen yn aros yn y gofrestr. Os oedd y cyfyngiad yng ngeiriad blaenorol Ffurf E, caiff ei ddiweddaru i’r geiriad presennol fel rheol.

5. Cadw’r gofrestr yn gyfoes

5.1 Cyflwyniad

Mae ystadau ym meddiant elusennau yn tueddu i gael eu dal am amser maith. Yn ystod y berchnogaeth hon gall llawer ddigwydd i effeithio ar bwerau, statws ac ymddiriedolwyr yr elusen. Gall sefydliad corfforedig elusennol newid ei enw a’i gyfeiriad cyflwyno, neu uno â sefydliad corfforedig elusennol arall (neu drosglwyddo ei eiddo iddo), neu gall y Comisiwn Elusennau ymyrryd. Os digwydd unrhyw un o’r newidiadau hyn rhaid diweddaru’r gofrestr i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Ceir rhagor o wybodaeth isod am newid enw ac uno a throsglwyddo ymrwymiadau.

5.2 Ymyriad gan y Comisiwn Elusennau

Mae gan y Comisiwn Elusennau bwerau helaeth trwy orchymyn i ymyrryd yng ngweinyddiad elusennau heb eu heithrio (o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 yn benodol). Yn fras, mae’r pwerau yn arferadwy i sicrhau gweinyddu elusennau’n briodol ac i warchod eiddo elusennol rhag camymddygiad neu gamreolaeth. Maent yn cynnwys pŵer i benodi rheolwr dros dro a fydd yn gweithredu fel derbynnydd a rheolwr o ran eiddo a materion elusen. Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i sefydliad corfforedig elusennol.

Lle caiff rheolwr dros dro ei benodi, gall y gorchymyn roi iddo gymaint o bwerau a dyletswyddau ag sy’n cael eu pennu yn y gorchymyn a darparu ar gyfer ymarfer y pwerau hynny ganddo fel ag i gau allan ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol. Gweler adran Trefniadau cyflawni isod ar gyfer cyflawni dogfennau mewn achos o’r fath.

Lle caiff unrhyw gais ei wneud i’r cofrestrydd yn unol ag unrhyw orchymyn o’r fath rhaid i chi gyflwyno copi ardystiedig o’r gorchymyn.

Gall y Comisiwn Elusennau, trwy orchymyn, benodi ymddiriedolwyr newydd neu freinio tir yn y Gwarcheidwad Swyddogol. Os yw gorchymyn o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011 yn breinio ystad yn y Gwarcheidwad Swyddogol, rhaid gwneud cais i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf F yn y gofrestr (rheol 178 o Reolau Cofrestru Tir 2003) (gweler Y Gwarcheidwad Swyddogol ar gyfer Elusennau. Bydd hyn yn atal ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol rhag ymarfer eu pwerau yn enw’r Gwarcheidwad Swyddogol heb gael eu hawdurdodi.

6. Diddymu sefydliad corfforedig elusennol

6.1 Dirwyn-i-ben oherwydd ansolfedd (Rhan 2 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Ansolfedd a Diddymiad) 2012)

Os nad oes gan sefydliad corfforedig elusennol ddigon o asedau i gyflawni ei rwymedigaethau, bydd yn ansolfent. Mae Rhan 2 o Reoliadau Ansolfedd sefydliad corfforedig elusennol yn nodi bod Deddf Ansolfedd 1986 yn berthnasol (gydag addasiadau) i sefydliad corfforedig elusennol, felly mae’r ystod lawn o weithdrefnau ansolfedd a diddymu sy’n berthnasol i gwmnïau cofrestredig yn berthnasol i sefydliad corfforedig elusennol hefyd. Mae’n annhebygol y byddai derbynnydd gweinyddol yn cael ei benodi ar gyfer sefydliad corfforedig elusennol, gan nad oes modd penodi derbynnydd o’r fath mewn perthynas â sicrwydd deiliadaeth a grëwyd ar ôl 15 Medi 2003 ac nid yw’r eithriadau i hyn yn berthnasol i sefydliad corfforedig elusennol oni bai eu bod yn landlordiaid cymdeithasol.

Yn yr un modd â chyfarwyddwyr cwmni, gall ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol fod yn atebol o dan rai amgylchiadau cyfyngedig, ac mae’n bosibl y byddant yn gorfod cyfrannu at asedau sefydliad corfforedig elusennol sydd wedi ei ddiddymu os ydynt yn gadael i’r sefydliad corfforedig elusennol barhau i fasnachu pan mae’n ansolfent (camfasnachu). Gan ddibynnu ar ffurf cyfansoddiad y sefydliad corfforedig elusennol, gall ei aelodau (a’i gyn-aelodau) hefyd fod yn atebol i gyfrannu at ei ddirwyn-i-ben.

Mae darpariaethau Deddf Ansolfedd 1986 yn ymwneud â moratoriwm yn dilyn trefniant gwirfoddol (Atodlen 1A), osgoi gwarediadau ar ôl i’r broses ddirwyn-i-ben gychwyn (adran 127), gohirio achos yn dilyn gorchymyn dirwyn-i-ben (adran 130(1)) (gyda’r gofyniad, yn unol ag adran 130(2) bod rhaid anfon gorchymyn o’r fath i’r Comisiwn Elusennau i’w gofnodi yng nghofnodion y sefydliad corfforedig elusennol), twyll a chamymddwyn (adrannau 206-208), masnachu twyllodrus a chamfasnachu (adrannau 213 a 214), tanbrisio trafodion (adran 238), dewisiadau (adran 239), osgoi rhai taliadau cyfnewidiol (adran 245) ac osgoi dyledion (adran 423) i gyd yn berthnasol i sefydliad corfforedig elusennol, fel yr addaswyd gan Reoliadau Ansolfedd sefydliad corfforedig elusennol.

Gall y llys orchymyn breinio eiddo’r sefydliad corfforedig elusennol mewn datodwr (adran 145 o Ddeddf Ansolfedd 1986, fel yr addaswyd). Fodd bynnag, fel arall nid yw’n glir beth sy’n digwydd i asedau sefydliad corfforedig elusennol sy’n cael ei ddirwyn-i-ben a’i ddiddymu o dan weithdrefnau Deddf Ansolfedd 1986, neu a fyddai darpariaethau adran 1012 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn berthnasol.

I gael rhagor o arweiniad ar ddirwyn cwmnïau i ben, gweler cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol.

6.2 Dirwyn-i-ben sefydliad corfforedig elusennol solfent (Rhan 3 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Ansolfedd a Diddymiad 2012) ac achosion eraill

Fel arall, o dan Ran 3 o Reoliadau Ansolfedd 2012, gall y Comisiwn Elusennau ddiddymu sefydliad corfforedig elusennol solfent os yw ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol yn gwneud cais i’w ddiddymu. Disgwylir i ddiddymiadau Rhan 3 fod yn fwy cyffredin na’r rhai o dan Ran 2. Rhaid i’r ymddiriedolwyr:

  • drefnu i aelodau’r sefydliad corfforedig elusennol basio cynnig diddymu mewn cyfarfod cyffredinol
  • gwneud datganiad bod dyledion a rhwymedigaethau’r sefydliad corfforedig elusennol wedi eu setlo, neu wedi eu darparu ar eu cyfer yn llawn
  • gwneud datganiad yn nodi sut mae unrhyw eiddo a hawliau sydd wedi eu breinio yn y sefydliad corfforedig elusennol, neu wedi eu dal mewn ymddiried ar gyfer y sefydliad corfforedig elusennol, wedi eu defnyddio ar ôl ei ddiddymu, neu sut y byddant yn cael eu defnyddio ar ôl ei ddiddymu, yn unol â’i gyfansoddiad
  • cadarnhau nad yw unrhyw ddatodwr yn gweithredu
  • rhaid i’r Comisiwn Elusennau gofnodi rhybudd y cais diddymu yng nghofnod y sefydliad corfforedig elusennol yn y gofrestr.
  • Mae sefydliad corfforedig elusennol yn cael ei ddiddymu’n awtomatig ac yn peidio â bod ar ôl cael ei dynnu ymaith o’r gofrestr elusennau; fel arfer, bydd hyn yn digwydd dri mis ar ôl i’r Comisiwn Elusennau gyhoeddi rhybudd am y cais diddymu. Pan fydd y Comisiwn Elusennau yn tynnu sefydliad corfforedig elusennol ymaith o’r gofrestr elusennau, rhaid iddo gyhoeddi rhybudd dileu a’r dyddiad pan gafodd ei ddileu.

O dan Ran 3, gall y Comisiwn ei hun hefyd ddiddymu:

  • sefydliad corfforedig elusennol segur (hynny yw, sefydliad corfforedig elusennol nad yw’n gweithredu i bob diben)
  • sefydliad corfforedig elusennol nad yw’r Comisiwn yn ei ystyried yn elusen bellach, neu
  • sefydliad corfforedig elusennol sy’n cael ei ddirwyn-i-ben o dan Ddeddf Ansolfedd 1986, ond nid oes unrhyw ddatodwr yn gweithredu neu mae materion y sefydliad corfforedig elusennol wedi eu dirwyn-i-ben yn llawn neu nid yw’r datodwr wedi anfon unrhyw ffurflenni ers chwe mis yn olynol

Fel arfer, bydd y sefydliad corfforedig elusennol yn cael ei dynnu ymaith o’r gofrestr a’i ddiddymu tri mis ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi rhybudd am y bwriad i’w ddileu.

6.2.1 Defnyddio eiddo sefydliad corfforedig elusennol sy’n cael ei ddiddymu o dan Ran 3

Mae Rhan 4 o Reoliadau Ansolfedd 2012 yn gwneud darpariaeth ar gyfer defnyddio eiddo sefydliad corfforedig elusennol ar ôl iddo gael ei ddiddymu trwy’r weithdrefn Rhan 3.

Ar ôl i sefydliad corfforedig elusennol gael ei ddiddymu, mae unrhyw eiddo sydd ar ôl (ac eithrio eiddo sy’n cael ei ddal gan y sefydliad corfforedig elusennol ar ymddiried ar gyfer unrhyw berson arall neu at unrhyw ddibenion arbennig y sefydliad corfforedig elusennol, neu eiddo a fydd yn cael ei drin, adeg diddymu’r sefydliad corfforedig elusennol, yn unol â chyfarwyddiadau a wnaed gan y sefydliad corfforedig elusennol cyn ei ddiddymu) yn cael ei freinio’n awtomatig yn y Gwarcheidwad Swyddogol (rheoliad 23) i’w ddal ar ymddiried at yr un dibenion â dibenion y sefydliad corfforedig elusennol cyn ei ddiddymu. Ac eithrio’r ymwrthodiad (gweler Ymwrthodiad gan y Gwarcheidwad Swyddogol), gall y Gwarcheidwad Swyddogol waredu eiddo dim ond yn unol â gorchymyn y Comisiwn Elusennau sy’n pennu’r dibenion neu elusennau y mae’r eiddo yn cael ei ddal ar ymddiried ar eu cyfer gan y Gwarcheidwad Swyddogol (rheoliad 25), a gall y comisiwn wneud gorchymyn yn breinio’r eiddo sy’n cael ei ddal gan y Gwarcheidwad Swyddogol mewn elusen neu elusennau (rheoliad 26). Mae hyn yn sicrhau bod unrhyw eiddo nad yw’r sefydliad corfforedig elusennol wedi ei waredu cyn ei ddiddymu yn cael ei ddefnyddio at yr un dibenion elusennol, neu ddibenion elusennol tebyg (“cy-près”).

6.2.2 Cais i gofrestru diddymu sefydliad corfforedig elusennol o dan Ran 3

Bydd ffurf y cais yn amrywio gan ddibynnu ar a yw’n cael ei wneud gan neu ar ran y Gwarcheidwad Swyddogol, neu a yw’n dilyn gorchymyn breinio gan y Comisiwn Elusennau.

6.2.2.1 Breinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol

Mae’n ymddangos bod breinio eiddo yn y Gwarcheidwad Swyddogol yn drosglwyddiad trwy weithredu’r gyfraith o dan adran 27(5)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, felly nid oes angen cwblhau’r broses trwy gofrestriad. (Byddai unrhyw warediad dilynol o’r eiddo gan y Gwarcheidwad Swyddogol yn warediad cofrestradwy). Fodd bynnag, mae modd gwneud cais i ddiweddaru’r gofrestr trwy nodi mai’r Gwarcheidwad Swyddogol yw’r perchennog (ynghyd â chais am gyfyngiad Ffurf F). Fel arall, mae modd gwneud cais i’r cofrestrydd gynnwys nodyn yn y gofrestr ynglŷn â diddymu’r sefydliad corfforedig elusennol, yn unol â rheol 185, Rheoliadau Cofrestru Tir 2003, ynghyd â thystysgrif o rybudd i ddiddymu’r sefydliad corfforedig elusennol a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Elusennau.

6.2.2.2 Gorchymyn breinio gan y Comisiwn Elusennau

Bydd angen gwneud cais i gofrestru’r gorchymyn breinio fel trosglwyddiad trwy weithredu’r gyfraith, gan na fyddai’r gorchymyn yn perthyn i un o’r eithriadau yn adran 27(5)(a)-(c). I wneud cais, dylech gynnwys trafodiad ‘gorchymyn breinio’ yn eich cais a lanlwytho’r dystiolaeth ofynnol, ynghyd â chais ar ffurflen RX1 ar gyfer unrhyw gyfyngiad(au).

6.2.2.3 Tystiolaeth ofynnol

  • cynnig yr aelodau i ddirwyn-i-ben y sefydliad corfforedig elusennol
  • datganiad gan ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol bod ei holl ddyledion wedi eu talu neu eu darparu ar eu cyfer yn llawn
  • datganiad ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol ynglŷn â defnydd ei eiddo ar ôl diddymu’r sefydliad corfforedig elusennol
  • tystysgrif ynglŷn â chyhoeddi rhybudd diddymu gan y Comisiwn Elusennau
  • copi ardystiedig o unrhyw orchymyn breinio a wnaed gan y Comisiwn Elusennau, ynghyd â chais am gyfyngiad priodol ar ffurflen ffurflen RX1

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o’r gwreiddiol gan ddefnyddio’r datganiadau ardystio sydd ar gael.

Lle bo’r Comisiwn Elusennau yn diddymu sefydliad corfforedig elusennol, ni fydd angen cynnig yr aelodau neu ddatganiad a thystysgrif ymddiriedolwyr y sefydliad corfforedig elusennol.

6.3 Ymwrthodiad gan y Gwarcheidwad Swyddogol

Mae Rheoliad 27 o Reoliadau Ansolfedd sefydliad corfforedig elusennol yn darparu ar gyfer y Gwarcheidwad Swyddogol i ymwrthod ag eiddo sydd wedi ei freinio ynddo. Mae Rheoliadau 28-32 yn nodi effeithiau ymwrthodiad a mesurau diogelu amrywiol mewn perthynas â thir ar les a phartïon eraill.

Mae eiddo sy’n destun ymwrthodiad yn cael ei drin fel eiddo na chafodd ei freinio yn y Gwarcheidwad Swyddogol, ac mae hawliau, buddiannau a rhwymedigaethau’r sefydliad corfforedig elusennol yn ymwneud â’r eiddo yn cael eu terfynu, ond nid yw’r rheoliadau’n nodi’r hyn sy’n digwydd wedyn ac nid yw’n glir a yw’r eiddo yn breinio yn y Goron neu yn un o’r Dugiaethau trwy ei gymharu ag adran 1012 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Ni fydd ymwrthodiad eiddo prydlesol yn dod i rym nes bod copi o rybudd yr ymwrthodiad wedi ei gyflwyno (i’r graddau y mae’r Gwarcheidwad Swyddogol yn ymwybodol o’r cyfeiriadau) i bob morgeisai neu is-brydlesai o’r sefydliad corfforedig elusennol a naill ai:

  • ni wneir unrhyw gais am orchymyn breinio i’r llys o fewn 14 diwrnod i gyhoeddi rhybudd yr ymwrthodiad, neu
  • mae cais wedi ei wneud ond mae’r llys yn gorchymyn y bydd yr ymwrthodiad yn dod i rym

Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn breinio, bydd yr eiddo yn breinio’n awtomatig yn y person(au) a enwir heb unrhyw drawsgludiad, aseiniad neu drosglwyddiad. Os yw’r eiddo yn ddarostyngedig i daliadau rhent, nid yw’r perchennog newydd yn atebol am unrhyw symiau sy’n ddyledus cyn iddo gymryd meddiant neu reolaeth neu cyn iddo ymrwymo i feddiannaeth.

6.4 Adfer sefydliad corfforedig elusennol sydd wedi ei ddiddymu

Mae Rhan 5 o Reoliadau Ansolfedd sefydliad corfforedig elusennol yn gwneud darpariaeth ar gyfer adfer sefydliad corfforedig elusennol sydd wedi ei ddiddymu i’r gofrestr elusennau. Mae’n pennu pwerau’r Comisiwn Elusennau (rheoliad 33) a’r llys (rheoliad 34) i adfer sefydliad corfforedig elusennol sydd wedi ei ddiddymu i’r gofrestr elusennau.

Lle bo’r llys yn gwneud gorchymyn adfer, mae’r gorchymyn yn dod i rym ar ddyddiad ei gyflwyno i’r Comisiwn Elusennau.

Defnyddir hen enw’r sefydliad corfforedig elusennol wrth ei adfer, oni bai bod y llys neu’r Comisiwn Elusennau yn gorchymyn yn wahanol (rheoliad 37). Rhaid i’r comisiwn gyhoeddi rhybudd o’r adferiad (rheoliad 38). Ar ôl cael ei adfer, mae’r sefydliad corfforedig elusennol yn cael ei drin fel pe na bai wedi ei ddiddymu erioed (rheoliad 39). Mae cyn-eiddo’r sefydliad corfforedig elusennol, a freiniwyd yn y Gwarcheidwad Swyddogol adeg ei ddiddymu, yn ail-freinio’n awtomatig yn y sefydliad corfforedig elusennol sydd wedi ei adfer (rheoliad 40) a dylid gwneud cais i adlewyrchu’r ail-freinio hwn (mae adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gymwys). I wneud cais, dylid cynnwys y trafodiad ‘gorchymyn breinio’ a lanlwytho copi ardystiedig o’r gorchymyn y llys, neu giplun ardystiedig o wefan y Comisiwn Elusennau fel sy’n briodol, a thystysgrif trawsgludwr yn nodi’r dyddiad pan ddaeth y gorchymyn i rym.

7. Newid enw sefydliad corfforedig elusennol

Mae gan y Comisiwn Elusennau bŵer i fynnu bod elusen heb ei heithrio yn newid ei henw (adrannau 42, 43 a 44 o Ddeddf Elusennau 2011).

Gall elusen newid ei henw trwy ei phenderfyniad ei hun. Lle bo’r elusen yn elusen gofrestredig rhaid iddi hysbysu newid ei henw i’r Comisiwn Elusennau.

Os yw’r newid enw yn orfodol neu beidio, dylech wneud cais i newid enw’r sefydliad corfforedig elusennol yn y gofrestr. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad ‘newid enw’ a lanlwytho copi ardystiedig o unrhyw dystysgrif newydd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Elusennau. Nid oes ffi yn daladwy am y cais hwn ar hyn o bryd.

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Wrth lanlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o’r gwreiddiol gan ddefnyddio’r datganiadau ardystio sydd ar gael.

8. Newid i fod yn sefydliad corfforedig elusennol

Bydd angen i elusennau anghorfforedig ac ymddiriedau elusennol sydd am fod yn sefydliad corfforedig elusennol sefydlu sefydliad corfforedig elusennol newydd yn y lle cyntaf a throsglwyddo eu hasedau iddo a diddymu’r elusen anghorfforedig. Byddai’n ymddangos bod trosglwyddiad o’r fath yn ddarostyngedig i gofrestru o dan adran 27(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 er mwyn dod i rym yn gyfreithiol. Mae canllawiau’r Comisiwn Elusennau yn awgrymu lle bo’r elusen anghorfforedig yn trosglwyddo tir gwaddol parhaol, dylid gwneud datganiad breinio o dan adran 310 o Ddeddf Elusennau 2011, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2011 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022; os oes gan yr elusen dir dynodedig neu ‘specie’, bydd cynllun Comisiwn Elusennau yn ofynnol.

Mae Deddf Elusennau 2011 hefyd yn darparu ar gyfer newid y cyrff corfforaethol elusennol canlynol i fod yn sefydliad corfforedig elusennol, ond nid yw’r holl reoliadau galluogi wedi eu gwneud.

8.1 Cwmni elusennol

Mae Rheoliadau Cyrff Corfforedig Elusennol (Addasu) 2017 yn galluogi cwmnïau elusennol a chwmnïau buddiannau cymunedol presennol i newid i fod yn sefydliad corfforedig elusennol, a daethant i rym ar 1 Ionawr 2018. Gall cwmni elusennol gydag unrhyw lefel o incwm blynyddol wneud cais i’r Comisiwn Elusennau i newid i fod yn sefydliad corfforedig elusennol. Rhaid i unrhyw gyfranddaliadau yn y cwmni (yn anarferol mewn gwirionedd gan fod cwmnïau elusennol yn gyfyngedig trwy warant fel arfer) gael eu talu’n llawn ac ni all y cwmni fod yn elusen eithriedig.

Rhaid i’r cwmni anfon cynnig i newid i fod yn sefydliad corfforedig elusennol, cyfansoddiad arfaethedig y sefydliad corfforedig elusennol a chynnig i fabwysiadu’r cyfansoddiad arfaethedig i’r Comisiwn Elusennau.

Os caiff y cais ei gymeradwyo gan y Comisiwn Elusennau, bydd y Comisiwn yn cofrestru’r sefydliad corfforedig elusennol yn y gofrestr elusennau dros dro ac yn anfon dogfennau perthnasol i Dŷ’r Cwmnïau, gan ofyn am gael gwared ar y cwmni o’r gofrestr cwmnïau. Bydd y cofrestrydd cwmnïau yn dileu’r cwmni o’r gofrestr a bydd y Comisiwn Elusennau yn cwblhau cofrestriad y sefydliad corfforedig elusennol (adrannau 232 a 233 o Ddeddf Elusennau 2011). Dylai’r 2 gofrestr gael eu diweddaru ar yr un pryd, fel y bydd dyddiad newid y cwmni i sefydliad corfforedig elusennol (fel y’i gwelir ar y gofrestr gyhoeddus o elusennau) yn cyfateb â dyddiad dileu’r cwmni o’r gofrestr cwmnïau. O 1 Ionawr 2018, bydd yr holl sefydliadau corfforedig elusennol yn cael eu cynnwys yng Nghofrestr Enwau Busnesau Tŷ’r Cwmnïau. Bydd cwmnïau elusennol sy’n newid yn cadw eu rhif elusen bresennol. Fodd bynnag, nid yw’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer arwystlon a gofrestrwyd yn erbyn cwmni elusennol sy’n gwneud cais i newid, ac nid oes cofrestr gyhoeddus o arwystlon dros eiddo sefydliadau corfforedig elusennol. Os oes gan gwmni’r ceisydd arwystlon sefydlog neu arwystlon ansefydlog na ellir eu bodloni eto, ni fydd yn bosibl cofrestru datganiad o foddhad â Thŷ’r Cwmnïau ar ôl newid felly byddai’r arwystl yn parhau’n rhestredig yn erbyn enw’r cwmni am gyfnod amhenodol (er y byddai manylion y cwmni yng nghofrestr Tŷ’r Cwmnïau yn dangos ei fod wedi newid i fod yn sefydliad corfforedig elusennol).

Nid oes angen datganiad breinio o dan adran 310 o Ddeddf Elusennau 2011 i drosglwyddo eiddo’r hen gwmni i’r sefydliad corfforedig elusennol. Bydd y trosglwyddiad yn effeithiol trwy weithredu’r gyfraith heb yr angen am drosglwyddiad dogfennol, ond dylid ei gwblhau trwy gofrestriad, yn unol ag adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Dylid gwneud cais i newid manylion y cwmni elusennol sy’n newid yn y gofrestr ar ffurflen AP1, ynghyd â chopïau o dystysgrif dileu cofrestriad y cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau a chopi o’r cofnod cofrestru yn y gofrestr gyhoeddus o elusennau.

Dylid gwneud cais i newid manylion y cwmni elusennol sy’n newid yn y gofrestr yn unol ag adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad ‘tir breinio statudol’ yn eich cais a lanlwytho copïau o dystysgrif dileu cofrestriad y cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau a chopi o’r cofnod cofrestru yn y gofrestr gyhoeddus o elusennau.

8.2 Cwmni buddiannau cymunedol

Mae adran 234 o Ddeddf Elusennau 2011 yn galluogi cwmni buddiannau cymunedol i newid a chael ei gofrestru’n elusen. Daeth rheoliadau i alluogi hyn i rym ar 1 Ionawr 2018, ynghyd â’r rhai ar gyfer newid cwmnïau elusennol (gweler uchod), ac o 1 Medi 2018, gall cwmnïau buddiannau cymunedol newid yn uniongyrchol i sefydliadau corfforaethol elusennol. Ni all cwmni buddiannau cymunedol fod yn elusen, felly byddai’n ennill statws elusennol trwy newid i fod yn sefydliad corfforedig elusennol.

Nid oes angen datganiad breinio o dan adran 310 o Ddeddf Elusennau 2011 i drosglwyddo eiddo’r hen gwmni buddiannau cymunedol i’r sefydliad corfforedig elusennol. Bydd y trosglwyddiad yn effeithiol trwy weithredu’r gyfraith heb yr angen am drosglwyddiad dogfennol, ond dylid ei gwblhau trwy gofrestriad, yn unol ag adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Dylid gwneud cais i newid manylion y cwmni buddiannau cymunedol sy’n newid yn y gofrestr yn unol ag adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad ‘tir breinio statudol’ yn eich cais a lanlwytho copi o dystysgrif dileu cofrestriad y cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau a chopi o’r cofnod cofrestru yn y gofrestr gyhoeddus o elusennau.

8.3 Cymdeithas budd cymunedol (cymdeithas ddiwydiannol a darbodus gynt)

Ar 1 Awst 2014, daeth cymdeithasau diwydiannol a darbodus oedd yn bodoli’n gymdeithasau cofrestredig o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014, naill ai’n gymdeithasau cydweithredol neu gymdeithasau budd cymunedol, yn dibynnu ar ba amodau cofrestru roeddynt yn eu cyflawni. Mae adran 229 o Ddeddf Elusennau 2011 (a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2018) yn galluogi cymdeithas i newid i fod yn sefydliad corfforedig elusennol, ond nid oes unrhyw reoliadau wedi eu gwneud eto. Fodd bynnag, ni all cymdeithas newid os oes ganddi gyfalaf cyfrannau ond nad yw rhai cyfranddaliadau wedi eu talu’n llawn neu os yw’n elusen eithriedig. Dim ond cymdeithasau budd cymunedol all gael statws elusennol ac mae’r rhai nad oes ganddynt y statws hwn yn elusennau eithriedig felly ni allant newid nes bod eu statws eithriedig wedi ei dynnu ymaith. Ar hyn o bryd, nid oes deddfwriaeth i alluogi cymdeithas budd cymunedol elusennol i beidio â bod yn eithriedig a chofrestru fel sefydliad corfforedig elusennol. Yn ymarferol, yn ddarostyngedig i delerau dogfen lywodraethu’r gymdeithas, gall fod yn bosibl dirwyn-i-ben y gymdeithas a throsglwyddo ei hasedau i sefydliad corfforedig elusennol, ond byddai’r elusen eithriedig yn peidio â bodoli.

9. Cyfuno (cyd-doddi) sefydliadau corfforedig elusennol

9.1 Cyd-doddi elusennau yn gyffredinol

Sefydlodd Deddf Elusennau 2006 gofrestr o gyd-doddiadau elusennau, a gedwir gan y Comisiwn Elusennau. Mae cofrestru cyd-doddiad yn “gyd-doddiad elusennau perthnasol”, a fydd fel arfer yn un o ddau fath (fel y disgrifir gan Gomisiwn y Gyfraith ym Mhennod 11 o’i adroddiad “Technical issues in Charities Law”(Law Com no. 375)):

  • cyd-doddiad ‘Math 1’ – lle mae elusen A sy’n bodoli yn trosglwyddo ei holl eiddo i elusen B sy’n bodoli (neu i elusen B sy’n bodoli ac elusen/elusennau eraill) ac yna’n peidio â bodoli, neu

  • cyd-doddiad ‘Math 2’ – lle mae elusennau A a B sy’n bodoli (neu fwy na 2 elusen sy’n bodoli) yn trosglwyddo eu holl eiddo i elusen newydd (C), ac yna mae A a B (ac unrhyw un arall) yn peidio â bodoli

Ni all cyd-doddiad elusennau ddigwydd lle cedwir “cragen” elusen wreiddiol (er enghraifft, A), oni bai bod yr elusen wreiddiol honno’n cael ei chadw er mwyn dal eiddo gwaddol parhaol.

Mae mecanweithiau i beri cyd-doddi a throsglwyddo tir elusennol yn cynnwys:

  • trosglwyddiad (ar ffurflen TR1) (er y gall trosglwyddo i gwmni elusennol ar gorffori neu gyd-doddi fod yn “drafodiad eiddo sylweddol” o dan adran 190 o Ddeddf Cwmnïau 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd y Comisiwn Elusennau o dan adran 210 o Ddeddf Elusennau 2011)

  • datganiad breinio cyn-cyd-doddi (o dan adran 310 o Ddeddf Elusennau 2011) (a fwriedir fel modd symlach o drosglwyddo eiddo o elusen anghorfforedig – ymddiried, neu sefydliad anghorfforedig – i’r elusen sy’n drosglwyddai wrth gyd-doddi neu ymgorffori):

    • ond gellir defnyddio’r datganiad mewn perthynas ag “uno elusennau perthnasol” yn unig (felly rhaid i’r elusen wreiddiol sy’n drosglwyddwr beidio â bodoli ar ôl y trosglwyddiad, oni bai bod gwaddol parhaol yn cael ei ddal, gan nad yw adran 310 yn gymwys i waddol parhaol), ac

    • nid yw datganiad breinio adran 310 yn gor-redeg y gofyniad i drosglwyddiad tir sydd i’w gofrestru ddod i rym yn y gyfraith (adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002); byddai’n rhaid i’r datganiad gael ei gofrestru yng Nghofrestrfa Tir EF, felly gallai fod yn fwy cyfleus i gyflawni ffurflen TR1 yn lle hynny (mae adran 310(4) hefyd yn ei gwneud yn glir lle bo teitl i dir wedi ei gofrestru, rhaid cofrestru’r datganiad er mwyn dod i rym yn ôl y gyfraith)

    • nid yw adran 310 yn rhoi pŵer i elusennau gyd-doddi; mecanwaith i beri trosglwyddiad asedau yn achos cyd-doddiad elusen berthnasol yw adran 310 ond mae’n dibynnu ar bŵer yr elusen sy’n drosglwyddwr i gyd-doddi

Yn flaenorol, roedd mecanwaith arall i beri cyd-doddi a throsglwyddo tir elusen yn cynnwys gorchymyn breinio’r Comisiwn Elusennau (o dan adran 272 o Ddeddf Elusennau 2011): gorchymyn breinio Comisiwn Elusennau (o dan adran 272 o Ddeddf Elusennau 2011):

  • lle mae elusen anghorfforedig (E1) yn penderfynu trosglwyddo ei asedau i elusen arall (E2) o dan adran 268 o Ddeddf Elusennau 2011, mae adran 272(2) yn rhagweld y bydd ymddiriedolwyr E1 yn gweithredu’r dogfennau trosglwyddo angenrheidiol, ond

  • gall E2 ofyn i’r Comisiwn Elusennau wneud gorchymyn neu gynllun breinio (bydd angen cynllun os yw’r elusen anghorfforedig sy’n drosglwyddwr yn trosglwyddo tir ‘specie’ ac yna bydd yn cau)

  • Fodd bynnag, diddymwyd adrannau 272 a 268 o Ddeddf Elusennau 2011 ar 7 Mawrth 2024 yn rhinwedd Deddf Elusennau 2022, ond nid yw’r diddymiad hwn yn effeithiol mewn perthynas â phenderfyniad a basiwyd o dan a268(1), 275(2) neu 280(2) dyddiedig cyn 7 Mawrth 2024.

9.2 Cyd-doddi sefydliadau corfforedig elusennol

Mae Deddf Elusennau 2011 yn cynnwys darpariaethau ar wahân (adrannau 235-239 a 240-244) i hwyluso cyd-doddi sefydliadau corfforedig elusennol, sy’n debyg i’r broses o dan adran 268, cyn i’r adran hon gael ei diddymu gan Ddeddf Elusennau 2022, sy’n berthnasol i elusennau anghorfforedig. Mae cydsyniad y Comisiwn Elusennau yn ofynnol ar gyfer pob un o sefydliadau corfforedig elusennol.

  • mae adrannau 240-244 yn gymwys pan fo sefydliad corfforedig elusennol sy’n bodoli yn trosglwyddo ei eiddo i sefydliad corfforedig elusennol arall (cyd-doddi ‘Math 1’)

  • mae adrannau 235-239 yn gymwys pan fo 2 sefydliad corfforedig elusennol sy’n bodoli yn trosglwyddo eu hasedau i sefydliad corfforedig elusennol newydd a sefydlwyd at y diben hwn (cyfuniad ‘Math 2’)

Pan fo’r trosglwyddai’n sefydliad corfforedig elusennol, ymddengys bod effaith adran 310 o Ddeddf Elusennau 2011 wedi ei haddasu gan reoliad 61 o Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012, fel:

  • gellir defnyddio datganiadau breinio adran 310 i drosglwyddo tir gwaddol parhaol ac eiddo ymddiried arbennig, a

  • caiff y sefydliad corfforedig elusennol sy’n drosglwyddai ei drin fel corfforaeth ymddiried

Fodd bynnag, pan fo’r trosglwyddwr yn sefydliad corfforedig elusennol, nid yw adran 310 yn gymwys ac nid yw datganiad breinio yn briodol, oherwydd:

  • pan fydd y Comisiwn Elusennau yn cymeradwyo cyd-doddiad ‘Math 1’ (SCE1 i SCE2), mae asedau SCE1 yn trosglwyddo’n awtomatig, yn rhinwedd adran 244(1)(b) o Ddeddf Elusennau 2011

  • pan fo’r Comisiwn Elusennau yn cymeradwyo cyd-doddiad ‘Math 2’ (cyd-doddi SCE1 a SCE2 i SCE3 newydd), mae asedau SCE1 a SCE2 yn trosglwyddo’n awtomatig, yn rhinwedd adran 239(2) o Ddeddf Elusennau 2011, ac mae unrhyw rodd a fynegir fel rhodd i naill ai SCE1 neu SCE2 sy’n dod i rym ar ôl cofrestru SCE3 newydd yn dod i rym fel rhodd i SCE3 newydd. Mae’r ‘hen’ SCE1 a SCE2 yn cael eu diddymu

Mae’n ymddangos felly y gall adran 310 fod yn gymwys os yw elusen sy’n drosglwyddai yn sefydliad corfforedig elusennol (fel y rhagwelir gan y Nodiadau Esboniadol i Reoliadau Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Cyffredinol) 2012) ond, oherwydd effaith adrannau 235 a 244 o Ddeddf Elusennau 2011, nid yw adran 310 yn gweithredu lle mae elusen sy’n drosglwyddwr yn sefydliad corfforedig elusennol na lle mae elusen sy’n drosglwyddwr ac elusen sy’n drosglwyddai yn sefydliadau corfforedig elusennol.

Yn achos cyd-doddi ‘Math 1’ (adrannau 240-244 o Ddeddf Elusennau 2011), bydd Cofrestrfa Tir EF yn gofyn am dystiolaeth o gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau o’r cyd-doddi i gyd-fynd â chais i gofrestru breinio eiddo’r elusen trwy weithredu’r gyfraith o dan adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Yn achos cyd-doddi ‘Math 2’ (adrannau 235-239 o Ddeddf Elusennau 2011), bydd Cofrestrfa Tir EF yn gofyn am gopi o gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau o’r cyd-doddi a chopi o’r cofnod a wnaed yn y gofrestr elusennau yn unol ag adran 238 (yn dangos enwau’r sefydliad corfforedig elusennol newydd a rhai’r ‘hen’ sefydliadau corfforedig elusennol a gyfunwyd iddo) i gyd-fynd â chais i gofrestru breinio eiddo’r elusennau trwy weithredu’r gyfraith o dan adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Yn achos cyd-doddi pan fo rheoliad 61 yn gymwys a bod datganiad breinio cyn-cyd-doddi adran 310 yn cael ei wneud, dylid lanlwytho’r datganiad breinio â chais am gofrestriad, er mwyn dod i rym yn ôl y gyfraith. Pan fo cyfyngiad yn effeithio ar y teitl, rhaid lanlwytho’r cydsyniad neu’r dystysgrif angenrheidiol hefyd. Os yw’r eiddo’n brydlesol a bod y gofrestr eiddo yn cynnwys cyfyngiad ar ddieithrio, mae tystiolaeth o gydsyniad y landlord i’r cyd-doddi’n ofynnol, oherwydd bydd y datganiad breinio’n aneffeithiol oni bai y cafwyd cydsyniad.

10. Trosglwyddo ymrwymiad sefydliad corfforedig elusennol

Gall sefydliad corfforedig elusennol benderfynu (yn dilyn cynnig ysgrifenedig unfrydol yr aelodau, neu fwyafrif o 75 y cant mewn cyfarfod cyffredinol) trosglwyddo ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i sefydliad corfforedig elusennol arall a enwir yn y cynnig (adran 240 o Ddeddf Elusennau 2011). Cyn belled â bod y Comisiwn Elusennau yn cadarnhau’r cynnig, mae’r trosglwyddiad yn mynd rhagddo, ac mae holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r sefydliad corfforedig elusennol sy’n trosglwyddo yn dod yn eiddo i’r sefydliad corfforedig elusennol newydd; diddymir y sefydliad corfforedig elusennol sy’n trosglwyddo.

Mae adran 244 o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Elusennau 2022) yn darparu bod rhodd yn dod i rym fel rhodd i’r trosglwyddai pe bai’r:

  • rhodd wedi dod i rym fel rhodd i’r Sefydliad Elusennol Corfforedig sy’n trosglwyddo pe na bai wedi ei ddiddymu, a

  • phe bai’r dyddiad y byddai’r rhodd wedi dod i rym yn ddyddiad ar neu ar ôl y dyddiad y caiff y penderfyniad ei gadarnhau (neu’n cael ei drin fel un wedi ei gadarnhau).

11. Trefniadau cyflawni

11.1 Cyffredinol

O dan reoliadau 19-25 o Reoliadau Cyffredinol sefydliad corfforedig elusennol, mae’r trefniadau cyflawni ar gyfer sefydliad corfforedig elusennol yn debyg i’r rhai a gyflawnir gan gwmni cyfyngedig o dan Ddeddf Cwmnïau 2006. Gall contractau gael eu llunio:

  • gan sefydliad corfforedig elusennol, ar ffurf ysgrifenedig o dan ei sêl gyffredin (er nad oes rhaid i sefydliad corfforedig elusennol fod â sêl), neu
  • ar ran sefydliad corfforedig elusennol, gan berson sy’n gweithredu o dan ei awdurdod, penodol neu ymhlyg

Gall gweithredoedd gael eu cyflawni gan sefydliad corfforedig elusennol:

  • trwy ddodi’r sêl gyffredin (os oes ganddo un), neu
  • trwy sicrhau bod y weithred yn cael ei llofnodi gan o leiaf ddau o’i ymddiriedolwyr (neu, os oes ganddo un ymddiriedolwr, gan yr ymddiriedolwr hwnnw)

O blaid prynwr, mae dogfen a gyflawnir gan sefydliad corfforedig elusennol yn dod i rym fel gweithred os yw’r ddogfen yn nodi’n glir ar ei hwyneb ei bod wedi ei bwriadu fel gweithred, a’i bod yn cael ei chyflwyno. Rhagdybir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno adeg ei chyflawni, oni bai bod modd profi bwriad i’r gwrthwyneb (gweler paragraffau 20(4), 20(5) a 21(3) o Reoliadau Cyffredinol sefydliad corfforedig elusennol).

Gall sefydliad corfforedig elusennol, trwy offeryn a gyflawnir fel gweithred, roi pŵer cyffredinol neu benodol i berson fel ei dwrnai i gyflawni gweithredoedd a dogfennau ar ei ran.

Cyflwynir ffurfiau cyflawni posibl yng nghyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd.

11.2 Cyflawniad gan reolwyr dros dro a benodwyd o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011

Os yw’r Comisiwn Elusennau yn penodi rheolwr dros dro o dan adran 76 o Ddeddf Elusennau 2011, rhaid i’r gofrestr o ymddiriedolwyr elusennau gofnodi’r penodiad ac enw’r rheolwr, y cyfeiriad ar gyfer gohebu a dyddiad y penodiad (paragraffau 4(4) a (5) o Reoliadau Cyffredinol sefydliad corfforedig elusennol).

Dim ond i’r graddau a ganiateir gan rybudd y Comisiwn Elusennau sy’n penodi rheolwr dros dro y gall unigolyn o’r fath ymdrin â materion tir. Felly, rhaid cyflwyno copi ardystiedig o’r gorchymyn hwnnw gydag unrhyw gais i gofrestru gwarediad gan reolwr dros dro.

12. Pethau i’w cofio

Mae rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar gyfer osgoi ymholiadau ar gael ar Hyb Hyfforddi Cofrestrfa Tir EF.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.