Elusennau: ffurflen newid manylion (ChV1)
Defnyddiwch y gwasanaeth ffurflenni ar-lein neu’r ffurflen bost os yw’ch sefydliad eisoes wedi’i gofrestru, ac mae angen i chi roi gwybod i CThEF am newidiadau sylweddol i’ch sefydliad. Mae hyn yn cynnwys awdurdodi asiant.
Dogfennau
Manylion
Os caiff eich sefydliad ei gydnabod fel elusen gan CThEF, ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am newidiadau sylweddol i’ch sefydliad, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
-
llenwi’r ffurflen bost ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru’ch elusen gyda CThEF.
Ni allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein os nad oes gan unrhyw un o’r unigolion rydych wedi’i enwi arni rif Yswiriant Gwladol. Yn lle hynny, mae’n rhaid i chi ddefnyddio fersiwn bost y ffurflen ac egluro’r amgylchiadau ym mlwch ‘nodiadau’ y ffurflen.
Gallai newidiadau sylweddol gynnwys newidiadau i’r canlynol:
-
manylion cyswllt
-
swyddogion awdurdodedig
-
enwebeion, fel asiantau treth
-
manylion cyfrif banc
Cyn i chi ddechrau
Mae’r ffurflen bost hon yn rhyngweithiol (ffurflen yr ydych yn ei llenwi ar y sgrin) ac mae’n rhaid i chi ddefnyddio Adobe Reader i’w llenwi. Gallwch lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim. Lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg).
Mae CThEF yn creu fersiynau newydd o’i ffurflenni nad ydynt yn dibynnu ar Adobe Reader. Tra bod y gwaith hwn ar y gweill, gellir defnyddio’r dulliau canlynol er mwyn sicrhau y bydd y ffurflen bost yn lawrlwytho neu’n agor yn Adobe Reader:
-
pa bynnag borwr rydych yn ei ddefnyddio, gwnewch yn siŵr mai Adobe Reader yw’r rhaglen diofyn ar gyfer agor dogfennau PDF – gwnewch hyn drwy wirio’ch gosodiadau
-
dylai defnyddwyr Windows dde-glicio eu llygoden ar gysylltiad y ffurflen ac yna dewis ‘Save target as’ neu ‘Save link as’
-
dylai defnyddwyr Mac wasgu ochr dde eu llygoden i glicio ar gysylltiad y ffurflen ac yna dewis ‘Save linked file as’
-
cadw’r ffurflen – y ffolder ddogfennau yw’r man a argymhellir
-
agor y ffurflen drwy ddefnyddio Adobe Reader
Os yw’r ffurflen bost yn gwrthod agor o hyd, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein i gael rhagor o help.
Os ydych yn asiant treth
Os ydych yn asiant, ac mae angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein Elusennau i Asiantau, mae angen i chi ofyn i’ch cleient lenwi’r ffurflen hon, nodi’ch manylion asiant fel enwebai a’i chyflwyno i CThEF.
Yna, bydd CThEF yn anfon Cyfeirnod Asiant a Chyfeirnod Cwsmer atoch drwy’r post. Bydd angen y rhain arnoch er mwyn ymrestru’r gwasanaeth ar-lein Elusennau i Asiantau ar eich cyfrif Gwasanaethau Ar-lein CThEF.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Gallwch ddod o hyd i ragor o arweiniad i elusennau, gan gynnwys rhyddhad treth i elusennau, pryd y mae’n rhaid talu treth a phryd y gallwch hawlio treth yn ôl.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Awst 2023 + show all updates
-
The change of details by post form has been updated with additional text in the declaration to comply with legislation.
-
Revised English and Welsh versions of 'How to complete CHV1 HMRC charities variations form' guidance published.
-
CHV1 Simple guide on how to complete CHV1 updated with new return address.
-
An online service is now available. New version of the English and Welsh pdf of the CHV1 available.
-
Added translation