Gohebiaeth

Newyddion y Comisiwn Elusennau: Gorffennaf 2019

Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Caiff Newyddion y Comisiwn Elusennau ei e-bostio at gysylltiadau elusennau gyda chyfarwyddyd i’w anfon ymlaen at eu hymddiriedolwyr. Mae’n cynnwys gwybodaeth hanfodol am reoleiddio y mae angen i elusennau fod yn ymwybodol ohoni.

Chwythwyr chwiban elusennau: sut a pham rydym yn eu gwerthfawrogi

Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldeb i ddarparu amgylchedd diogel ar gyfer pob aelod o staff a gweithwyr elusennau eraill. Dylai amddiffyn pobl a chyfrifoldebau diogelu fod yn flaenoriaeth llywodraethu i bob elusen.

Mae diwylliant effeithiol o gadw pobl yn ddiogel yn nodi, yn atal ac yn mynd i’r afael â mathau o ymddygiad sy’n diystyru neu’n anwybyddu niwed i bobl ac yn gorchuddio neu’n bychanu methiannau. Dylai methu â diogelu pobl rhag niwed gael ei nodi, ei adrodd i reoleiddwyr a dylid dysgu gwersi ehangach.

Pan fydd pryderon yn cael eu codi o fewn eich elusen mae’n hollbwysig bod pobl yn gwrando arnynt ac y gweithredir arnynt cyn y gallant achosi niwed.

Mae angen bod yn ddewr i godi pryderon, ac mae’r rhai sydd yn codi pryderon yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif a’u trin â pharch a sensitifrwydd. Dyma pam rydym yn ei gwneud hi’n haws i weithwyr elusennau a gwirfoddolwyr dynnu pryderon difrifol am eu helusen at ein sylw.

Rydym wedi bod yn uwchraddio ein cymorth ar gyfer chwythwyr chwiban posibl dros y misoedd diwethaf. Rydym wedi:

  • symleiddio’r broses ac ailysgrifennu ein canllawiau er mwyn iddynt fod yn haws i’w dilyn
  • agor linell gyngor a weithredir gan yr elusen chwythu’r chwiban Protect
  • dechrau profi gwasanaeth newydd lle y byddwn yn cysylltu â phob chwythwr chwiban yn uniongyrchol i drafod ei bryderon

Darllenwch ragor yn y blog gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Helen Stephenson CBE chwythwyr chwiban elusennau: sut a pham rydym yn eu gwerthfawrogi.

Canllawiau newydd i elusennau sydd â chysylltiad â sefydliad nad yw’n elusen

Os oes gan eich elusen gysylltiad agos â sefydliad nad yw’n elusen - megis ei sylfaenydd, is-gwmni masnachu, neu bartner rheolaidd - mae’n rhaid i chi reoli’r cysylltiad er lles gorau eich elusen a diogelu ei hannibyniaeth. Mae’n rhaid i chi gynllunio ar gyfer y risgiau yn ogystal â’r buddion y gall y cysylltiad eu creu.

Bydd ein canllawiau newydd ar gyfer elusennau sydd â chysylltiad â sefydliad nad yw’n elusen yn eich helpu i wneud hyn. Mae’n dwyn ynghyd cyfraith ac ymarfer perthnasol, gan amlinellu 6 egwyddor i helpu ymddiriedolwyr i redeg ac adolygu’r cysylltiadau hynny.

Mae’n dilyn pryderon bod rhai perthnasoedd rhwng elusennau a sefydliadau nad ydynt yn elusennau wedi niweidio hyder cyhoeddus mewn elusennau. Bydd hefyd yn ein helpu ni, fel y rheoleiddiwr, i ddal elusennau i gyfrif yn well yn erbyn y rheolau sy’n bodoli.

Seiberdroseddu ac adrodd i’r Comisiwn Elusennau

Yn ddiweddar cyhoeddwyd rhybudd i’r sector elusennol ynghylch seiberdroseddu a sut i’w adrodd i ni.

Mae nifer o ddiffiniadau ar gyfer seiberdroseddu ond fel arfer bydd yn cynnwys ymosodiadau ar neu drwy systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol. Yn aml mae’n cynnwys dwyn data neu amharu ar systemau er mwyn galluogi troseddu pellach.

Yn dibynnu ar natur y troseddau hyn, gall ymddiriedolwyr, staff, gwirfoddolwyr a buddiolwyr elusennau gael eu heffeithio’n niweidiol. Gallai cyhoeddusrwydd negyddol hefyd gael effaith ar ffydd a hyder cyhoeddus nid yn unig yn yr elusen a effeithir ond yn y sector cyfan.

Mae’r rhybudd yn esbonio mwy am y bygythiad cynyddol hwn ac mae hefyd yn cynnwys cysylltiadau i ganllaw ac offer defnyddiol i’ch helpu i ddiogelu eich elusen.

Dyddiad estynedig ar gyfer newidiadau i enwau a ddangosir yn gyhoeddus ar y gofrestr elusennau

Fel rhan o’r newidiadau i’n gwasanaethau ar-lein, os yw ymddiriedolwyr presennol wedi defnyddio enw arddangos cyhoeddus ar y gofrestr elusennau, caiff eu henw cyfreithiol llawn ei ddangos i’r cyhoedd, oni bai eu bod yn gwneud cais i’w ddileu. Gelwir hyn yn oddefeb.

Roedd disgwyl i’r newidiadau hyn ddigwydd eleni (2019) ond rydym wedi estyn hyn i roi mwy o amser i ymddiriedolwyr wneud cais am oddefeb os oes angen. Bydd y newidiadau yn digwydd o 1 Ebrill 2020.

Gallwn roi goddefeb os oes posibilrwydd y gallai ddangos enw cyfreithiol i’r cyhoedd roi’r person neu’r bobl berthnasol mewn perygl personol. Ni chaiff goddefebau eu rhoi’n awtomatig.

Cewch wybod yma am newidiadau i enwau arddangos a sut i wneud cais am oddefeb.

Os yw ymddiriedolwyr eisoes wedi cael goddefeb er mwyn i’w henw cyfreithiol beidio â chael eu dangos i’r cyhoedd ar y gofrestr, caiff hyn ei gadw. Nid oes rhaid gwneud cais arall am oddefeb.

Gwirio a diweddaru manylion eich elusen.

O 12 Tachwedd 2018, y tro cyntaf rydych yn mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein i lenwi eich ffurflen flynyddol neu ddiweddaru manylion eich elusen bydd rhaid i chi wirio a chadarnhau bod manylion eich elusen yn gywir, neu eu diweddaru os oes angen.

Mae newidiadau eraill i ddiweddaru manylion yr elusen yn cynnwys:

  • dileu enwau arddangos cyhoeddus ar gyfer ymddiriedolwyr ar y gofrestr elusennau
  • cysylltu manylion ymddiriedolwyr - os yw’r unigolyn yn ymddiriedolwr mwy nag un elusen, bydd newidiadau i’w manylion yn cael eu gwneud i bob un o’u cofnodion ar y gofrestr elusennau

Cewch wybod yma am newidiadau i ddiweddaru manylion elusennau a pha wybodaeth sydd wedi’i chwmpasu yn y gwasanaeth.

Os oes angen cymorth arnoch i baratoi ffurflen flynyddol mae ein canllawiau yn esbonio’r hyn y mae angen i chi ei wneud.

Elusennau sy’n gweithio’n rhyngwladol: sut i asesu risg

Gall elusennau sy’n gweithio’n rhyngwladol wynebu rhai risgiau oherwydd eu hamgylchedd gweithredu gan gynnwys:

  • defnyddio sancsiynau ariannol
  • lefelau uwch o lygredd neu weithgarwch troseddol
  • presenoldeb terfysgwyr, grwpiau gwaharddedig neu endidau dynodedig

Fel rheoleiddiwr a arweinir gan risg, canolbwyntiwn ar feysydd risg uwch a disgwyliwn yr un fath gan ymddiriedolwyr. Yn ddiweddar cyhoeddodd ein Tîm Ymgysylltu ag Elusennau Rhyngwladol flog i’ch helpu i asesu risg yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn cynnwys cysylltiadau ag offer rheoli risg a all eich helpu i ddiogelu eich elusen rhag niwed.

Sut i asesu risg ar gyfer elusennau sy’n gweithio’n rhyngwladol.

Troseddau HMRC ar gyfer methu â hwyluso efadu trethi - beth ydynt a beth i’w wneud

Mae HMRC yn atgoffa cwmnïau a phartneriaethau (gan gynnwys elusennau) y gallant fod yn atebol yn droseddol os ydynt yn methu ag atal eu staff neu’r rhai sy’n eu cynrychioli rhag hwyluso efadu trethi anghyfreithiol.

Nid yw’r drosedd, a ddaeth i rym ym Medi 2017, yn newid yn sylweddol yr hyn a olygir wrth efadu trethi anghyfreithiol, ond mae’n canolbwyntio ar bwy sy’n atebol am ei alluogi neu ei ganiatáu.

Yn hytrach na cheisio priodoli efadu treth anghyfreithiol i sefydliad, mae’n canolbwyntio ar fethiant y sefydliad hwnnw i atal y rhai sy’n gweithio ar gyfer, yn gweithredu ar gyfer neu ar ei ran rhag cyflawni troseddu efadu trethi troseddol.

Mae HMRC wedi cyhoeddi gwybodaeth am hyn, gan gynnwys yr hyn y gall sefydliadau ei wneud i adeiladu eu gweithdrefnau mewnol yn sgil y troseddau. Gellir gweld y ‘troseddau corfforaethol’ yn Rhan 3 o’r Ddeddf Cyllid Troseddol 2017.

Mae HMRC hefyd wedi lansio llwybr hunan-adrodd penodedig newydd ar gyfer sefydliadau sydd heb atal hwyluso efadu trethi. Cewch wybod sut i hunan-adrodd, a pham y gall fod er budd sefydliad ar dudalen we Dweud wrth HMRC bod eich sefydliad heb atal hwyluso efadu trethi ar GOV.UK.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynghylch atal hwyluso efadu trethi cysylltwch â HMRC.

Oriau agor estynedig y ganolfan gyswllt

Estynnwyd oriau agor ein canolfan gyswllt yn ddiweddar gan ddwy awr bob dydd i helpu i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’n cael ei dreialu am gyfnod o dri mis (o 1 Mai 2019) a bydd yn asesu a yw’r oriau agor newydd yn bodloni eich anghenion yn well.

Ein horiau agor newydd yw dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i hanner dydd ac 1pm i 4pm. Y rhif ffôn yw 0300 066 9197.

Cyfeiriadau e-bost newydd y Comisiwn Elusennau

Mae ein cyfeiriadau e-bost wedi newid, nid ydynt yn cynnwys .gsi yn y cyfeiriad mwyach. Bydd rhaid i chi ddiweddaru unrhyw gofnodion sy’n cynnwys cyfeiriadau e-bost y Comisiwn Elusennau.

Er enghraifft, newidiwch:

i:

Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion e-bost a dilynwch ni

Cofrestru ar gyfer rhybuddion e-bost GOV.UK yw’r ffordd symlaf i gael yr wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwn ar ein gwefan. Gofynnir i chi am gyfeiriad e-bost i greu tanysgrifiad, a gallwch ddewis pa mor aml yr hoffech chi gael rhybudd.

Mae’n ddefnyddiol i’n dilyn ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd Twitter a LinkedIn. Rhannwn wybodaeth, canllawiau a diweddariadau pwysig ar gyfer y sector elusennol.