Papur polisi

Gostyngiadau treth i elusennau: canllawiau ar bolisi'r Comisiwn Elusennau

Cyhoeddwyd 21 Ionawr 2015

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Dyletswydd gyllidol ymddiriedolwyr

Mae ymddiriedolwyr elusen o dan ddyletswydd gyllidol i weithredu er lles gorau eu helusen yn unig wrth reoli ei materion a defnyddio ei heiddo i hyrwyddo dibenion yr elusen er budd y cyhoedd. Drwy wneud hynny, rhaid iddynt ddefnyddio gofal a sgil rhesymol a gweithredu i safon person busnes doeth cyffredin wrth ymgymryd â’u busnes eu hunain. Mae’r ddyletswydd hon yn ei gwneud hi’n briodol iddynt gynllunio eu materion treth mewn ffordd resymol a doeth a manteisio ar y gostyngiadau treth statudol sydd ar gael i elusennau os byddant yn helpu gwaith yr elusen, hybu rhoddion dilys a chyfateb â’r dibenion y cafodd y gostyngiadau hynny eu creu ar eu cyfer. Yn ogystal, gall ymddiriedolwyr geisio trefnu busnes eu helusen wrth ymgymryd â gweithgareddau neu drafodion arbennig mewn ffordd sy’n cadw atebolrwydd yr elusen i dalu treth i’r lleiaf posibl.

Fodd bynnag, bydd ymddiriedolwyr yn agored i graffu ac ymchwiliad posibl gan y comisiwn os ydynt yn gwneud trefniadau treth sy’n camfanteisio ar ddeddfwriaeth dreth mewn modd artiffisial, yn enwedig os ydynt yn hyrwyddo buddiannau preifat, yn ogystal â rhai’r elusen. Mae’r defnydd o drefniadau o’r fath yn debygol o fod yn groes i ddyletswyddau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr i weithredu’n ddoeth ac er lles gorau’r elusen. Mae niwed i enw da’r elusen yn debygol iawn o godi os ydynt yn rhan o drefniadau o’r fath. Dylai ymddiriedolwyr gyfeirio at ganllawiau HMRC ar beth sy’n cael ei ystyried yn osgoi trethi. Mae’r gwahaniaeth rhwng efadu trethi ac osgoi trethi yn cael ei ddisgrifio ym mholisi’r llywodraeth ‘Reducing tax evasion and avoidance’, sydd hefyd yn amlinellu safle HMRC a’r Trysorlys mewn perthynas ag osgoi trethi.

Mae HMRC yn diffinio’r ddau gysyniad fel a ganlyn:

‘Mae osgoi trethi yn golygu plygu rheolau’r system dreth i gael mantais dreth nad oedd y Senedd byth wedi bwriadu ei rhoi. Mae’n aml yn cynnwys trafodion ffug, artiffisial sy’n cyflawni ychydig neu ddim pwrpas heblaw creu mantais dreth. Mae’n golygu gweithredu o fewn llythyren - ond nid ysbryd - y gyfraith. Mae efadu trethi yn codi pan fydd pobl neu fusnesau yn mynd ati’n fwriadol i beidio â thalu’r trethi sy’n ddyledus ac mae’n anghyfreithiol.’

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu canllawiau’r comisiwn ar y materion hyn.

2. Cynllunio treth rhesymol a doeth gan elusennau

Er mwyn annog gweithgarwch elusennol mae’r llywodraeth yn rhoi nifer o ostyngiadau treth gwerthfawr i elusennau. Gall elusennau hefyd wneud cynlluniau treth rhesymol a doeth er mwyn cadw atebolrwydd yr elusen i dalu treth i’r lleiaf posibl. Mae cynllunio treth yn cynnwys strwythuro trafodion i wneud y defnydd gorau o ddarpariaethau treth perthnasol sy’n gymwys i elusennau, cwmnïau ac unigolion. Er enghraifft, yn aml bydd elusennau yn ymgymryd â gweithgareddau masnachu drwy is-gwmnïau masnachu ym mherchnogaeth lwyr a rhoi peth neu’r cyfan o’r elw masnach drwy gymorth rhodd i’r rhiant elusen i gyllido’r elusen a lleihau faint o dreth gorfforaeth y mae’r is-gwmni yn ei thalu.

Ond mae’n rhaid i elusennau ystyried yn ofalus pryd y mae cynllunio treth rhesymol a doeth yn newid i fod yn osgoi trethi. Yn arbennig, pan fydd ymddiriedolwyr yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau treth a gefnogir gan farn gyfreithiol ffafriol gan arbenigwr treth, mewn amgylchiadau o’r fath dylent geisio cyngor proffesiynol bob amser gan ymgynghorydd ag enw da sydd heb unrhyw gysylltiad â’r drefniadaeth arfaethau.

Gallai enghraifft o gynllunio treth rhesymol a doeth olygu annog rhoddwyr cymwys i ddefnyddio cymorth rhodd pan fyddant yn gwneud rhoddion arian parod i’r elusen. Gallant hefyd trefnu eu busnes i strwythuro trafodion mewn ffordd sy’n cadw’r TAW anadferadwy a delir gan eu helusen i’r lleiaf posibl. Mae enghreifftiau eraill o gynllunio treth doeth yn cynnwys:

  • gall elusen roi cyngor ar roddion cymynrodd mewn ewyllys a fydd yn denu gostyngiad treth ar gyfer treth etifeddiaeth
  • gall elusen annog y rhai sy’n talu’r gyfradd treth uwch i hawlio gostyngiad cyfradd uwch/ychwanegol (y gwahaniaeth rhwng eu cyfradd treth ymylol a’r gyfradd treth sylfaenol) ar eu rhodd arian parod ac addasu’r swm y maent yn ei roi o ganlyniad i’r gost gyffredinol a ddaw iddynt drwy wneud rhodd is

2.1 Cyfrifoldebau ymddiriedolwyr

Pan fydd ymddiriedolwyr yn ceisio gwneud trefniadau cynllunio treth mae’n rhaid iddynt fodloni eu dyletswydd pwyll a sicrhau:

  • bod y trefniadau yn gyfreithlon
  • bod pŵer ganddynt i wneud y trefniadau dan sylw
  • nid oes gwrthdaro ganddynt ac nid oes posibilrwydd iddynt elwa’n bersonol o unrhyw drefniadau
  • eu bod yn ceisio ac yn ystyried cyngor arbenigol annibynnol priodol ynghylch cael gostyngiad cyllidol neu leihau treth yng nghyd-destun eu cyfrifoldebau, a bod cyngor o’r fath yn annibynnol ar yr elusen a’r sawl sy’n hyrwyddo unrhyw drefniadau arfaethedig
  • bod cofnod yn cael ei gadw o’r penderfyniadau a wnânt gan gynnwys unrhyw gyfraith dreth, penderfyniad tribiwnlys neu gyngor proffesiynol y maent yn dibynnu arno
  • eu bod yn ystyried unrhyw ganllawiau a chyngor cyhoeddedig ynghylch cyfreithlondeb y trefniadau arfaethedig a gynigir neu sydd ar gael gan Gyllid a Thollau EM
  • drwy fod yn rhan o’r trefniadau, nid oes risg gormodol i unrhyw eiddo’r elusen
  • ni fydd y trafodion arfaethedig yn niweidio enw da’r elusen a’u bod nhw wedi ystyried sut y bydd natur y trefniadau yn cyd-fynd â nodau’r elusen ac ethos ei rhoddwyr a’i buddiolwyr
  • at ei gilydd, bod y trefniadau er lles gorau’r elusen

2.2 Ble gall ymddiriedolwyr gael cyngor ar dreth

Os nad yw’r ymddiriedolwyr yn sicr ynghylch mater treth dylent geisio cyngor. Nid rôl y comisiwn yw rhoi cyngor treth i elusennau. Dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol annibynnol ac ystyried canllawiau HMRC ‘Elusennau a threth’.

3. Osgoi trethi sy’n cynnwys elusennau

Mae osgoi trethi yn cael ei herio gan HMRC a gall fod yn destun craffu rheoleiddio gan y comisiwn. Mae enghreifftiau o drefniadau blaenorol yr ystyriwyd eu bod yn osgoi trethi a gweithredu’n groes i ddyletswyddau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr wedi cynnwys:

  • benthyca cronfeydd i brynu buddsoddiadau ar gyfer elusen a’u priodoli i unigolion am bris nominal, lle:
    • mae’r buddsoddiadau yn cael eu gwerthu am werth y farchnad ac mae’r elw yn cael ei ‘roi’ i’r elusen gan ei galluogi i ad-dalu’r benthyciad
    • mae’r trafodiad artiffisial hwn yn ceisio cynhyrchu gostyngiad treth i unigolion a derbyniadau cymorth rhodd i’r elusen
  • prydlesu eiddo gwag gan landlordiaid preifat lle mae gweithgareddau elusennol dibwys yn digwydd wedi hynny, lle:
    • mae’r elusen yn ceisio hawlio gostyngiad trethi busnes ar yr eiddo gan arwain at golli refeniw i’r awdurdod lleol ac yn ceisio sefyllfa lle mae’r landlord yn osgoi talu treth ar eiddo gwag
    • gall yr elusen gael cyllid am hwyluso’r trafodiad hwn ar ffurf ‘gwrth-bremiwm’
  • mae trafodion ariannol cyfresol a ffug sy’n cynnwys elusennau a chwmnïau sy’n ceisio cuddio’r hyn a allai fod yn drafodiad trethadwy

Prif nod trefniadau o’r fath yw rhoi mantais i fusnesau preifat neu unigolion gydag unrhyw fudd i’r elusen yn is-gynnyrch y cynllun yn hytrach na’i brif nod. Ar wahân i fod yn destun her gan HMRC, nid yw trefniadau o’r fath yn cyd-fynd â dyletswyddau ymddiriedolwyr i weithredu’n ddoeth a hyrwyddo dibenion yr elusen yn ei lles gorau er budd y cyhoedd. Mae’r risgiau i’r elusen dan sylw yn cynnwys niwed i’w henw da. O bryder mawr i’r comisiwn yw’r risgiau o niwed ehangach i enw da’r sector elusennol yn llygaid y cyhoedd a’r Senedd, a’r golled bosibl o ostyngiadau treth eraill i’r sector o ganlyniad i weithredu i atal neu gau cynlluniau o’r fath, neu fel is-gynnyrch angenrheidiol i hynny.

Mae deddfwriaeth Cynlluniau Datgelu Osgoi Trethi yn rhoi dyletswydd ar hyrwyddwyr rhai cynlluniau i hysbysu HMRC o fanylion perthnasol y cynllun. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cael ei gweithredu gan HMRC ac nid gan y comisiwn ac mae’n gwneud hi’n ofynnol i roi rhybudd ymlaen llaw o gynlluniau treth sy’n bodloni meini prawf arbennig. Os yw cwyn yn cael ei derbyn gan y comisiwn am beidio â datgelu i HMRC caiff y mater ei gyfeirio at HMRC i’w ystyried.

ar 17 Gorffennaf 2013, daeth Rheoli Gyffredinol Atal Camddefnyddio (GAAR) newydd i rym i fynd i’r afael ag osgoi trethi a chamddefnyddio deddfwriaeth dreth. Mae’r Rheol yn ei gwneud hi’n glir na ddylid trin treth fel gêm lle y gall trethdalwyr manteisio ar unrhyw gynllun ffug neu ddyfeisgar er mwyn dileu neu leihau eu hatebolrwydd treth.

4. Efadu trethi a thwyll trethi

Ni all elusennau ymhél ag efadu a thwyll trethi. Ystyr efadu trethi yw cuddio’n anghyfreithlon incwm neu enillion trethadwy neu gyflwyno materion trethdalwr mewn modd anghyfreithiol neu dwyllodrus i osgoi talu treth. Ystyr twyll trethi yw hawlio gostyngiadau treth pan nad ydynt yn gymwys, er enghraifft:

  • elusen yn hawlio’n wybodus gyfradd sero ar gyfer TAW ar gyfer adeilad newydd a ddefnyddir yn gyfan gwbl at ddibenion masnachol ac nid dibenion elusennol
  • elusen sy’n talu am nwyddau a gwasanaethau mewn arian parod heb anfoneb dreth ategol
  • elusen sy’n honni ei bod yn cyflogi unigolyn fel gweithiwr hunangyflogedig ond mae natur ei waith ar gyfer yr elusen a’r berthynas gytundebol â’r elusen yn golygu y dylid ei drin fel gweithiwr at ddibenion treth
  • hawlio’n fwriadol gymorth rhodd pan nad yw rhoddion cymwys wedi cael eu derbyn gan yr elusen
  • cyflwyno’n fwriadol wariant wedi’i gynnwys ar gyfer diben preifat neu anelusennol fel gwariant elusennol yng nghyfrifon neu ar ffurflenni treth

5. Safle rheoleiddio’r Comisiwn Elusennau

Mae’r comisiwn yn annog elusennau i fanteisio ar ostyngiadau treth elusennol penodol, er enghraifft cymorth rhodd, ac yn cydnabod bod cynllunio treth rhesymol a doeth yn cyfateb â dyletswyddau cyllidol yr ymddiriedolwyr i’r elusen y maent yn eu rheoli. Mewn rhai amgylchiadau gall y comisiwn awdurdodi rhai trefniadau i’r perwyl hwn os bernir eu bod er lles yr elusen.

Mae’r comisiwn yn ystyried bod twyll trethi, efadu trethi ac osgoi trethi wedi’u cynnwys o fewn maes pryder rheoleiddio. Yn ogystal mae’r comisiwn yn disgwyl i elusennau gyflawni eu rhwymedigaethau o dan y gyfraith dreth yn llawn a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw’r elusen yn gwneud, neu’n rhan o unrhyw drefniadau cynllunio treth sy’n annoeth yn y ffyrdd a ddisgrifir neu a allai ddwyn anfri ar yr elusen neu’r sector elusennol.

Bydd y comisiwn yn asesu pob pryder y mae’n dod yn ymwybodol ohono ynghylch twyll trethi, efadu trethi neu osgoi trethi gan elusennau a bydd yn defnyddio ei bwerau o dan Ddeddf Elusennau 2011 i gyfnewid gwybodaeth â HMRC mewn achosion o’r fath.

Bydd y comisiwn, o dan adrannau 54 i 59 o Ddeddf Elusennau 2011, yn cyfnewid gwybodaeth ag asiantaethau eraill, gan gynnwys HMRC, ar y materion cynllunio trethi amhriodol y mae’n eu darganfod yn ei waith achos neu waith monitro. Gall y manylion a gyfnewidir gynnwys, ond ni fyddant wedi’u cyfyngu i, efadu trethi posibl neu amheus ac elusennau yn cymryd rhan mewn arferion osgoi trethi neu arferion eraill sy’n arwain at bryder rheoleiddio.

Bydd y comisiwn yn ystyried cymryd camau ymchwilio a/neu reoleiddio eraill, er enghraifft:

  • os oes risg sylweddol neu ormodol i incwm neu asedau’r elusen
  • os yw’r ymddiriedolwyr neu bartïon cysylltiedig yn defnyddio elusen i gael manteision preifat sylweddol neu’n cael tâl mewn arian parod neu mewn nwyddau trwy weithredu naill ai’n uniongyrchol fel canolwr neu ymgynghorydd treth i helpu unigolion neu gorfforaethau i osgoi treth neu’n anuniongyrchol drwy’r ‘pwrs cyffredin’ neu’n derbyn ystyriaeth mewn rhoddion, arian neu nwyddau
  • os yw ymddiriedolwyr neu bartïon cysylltiedig yn defnyddio’r elusen fel cyfrwng ar gyfer eu budd preifat eu hunain i dalu’r dreth leiaf posibl
  • os yw’r elusen yn ffug elusen neu nid yw’n gweithredu er budd y cyhoedd
  • os nad yw’r ymddiriedolwyr wedi ystyried yr effaith ar enw da a chyllid yr elusen a ddaw wrth i elusen gymryd rhan mewn cynllun cynllunio treth sy’n rhoi budd preifat sylweddol i drydydd partïon
  • os yw ymddiriedolwyr yn ymwneud â thwyll trethi (gan gynnwys gwneud hawliadau cymorth rhodd twyllodrus), efadu trethi neu osgói trethi.
  • os nad yw ymddiriedolwyr wedi ceisio cyngor treth priodol ac wedi cael gwariant anelusennol sy’n arwain at atebolrwydd treth sylweddol neu dâl i’r elusen neu os yw wedi cael cosbau treth drwy beidio â chydymffurfio â gofynion cyfreithiol

Yn yr amgylchiadau hyn bydd manylion unrhyw gŵyn ac unrhyw wybodaeth a gafwyd eisoes gan yr ymddiriedolwyr neu’r elusen yn cael ei hasesu i benderfynu a yw gweithredu pellach wedi’i gyfiawnhau. Bydd y comisiwn yn rhannu’r holl fanylion neu ffeithiau perthnasol â HMRC pan fo’n briodol a gall adrodd yn gyhoeddus ar y canlyniad.