Rhoi gwybod am newidiadau i amgylchiadau teuluol sy’n effeithio ar Fudd-dal Plant
Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am newidiadau i’ch amgylchiadau teuluol.
Dogfennau
Manylion
Gallwch roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau teuluol ar-lein, er enghraifft:
- newid enw
- newid cyfeiriad
- symud tramor naill ai dros dro neu’n barhaol
- newidiadau i statws priodasol, partneriaeth sifil neu os ydych yn byw gyda phartner
- newid manylion cyfrif banc
Sut i ddefnyddio’r ffurflen ar-lein
Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
- defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2015Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Tachwedd 2023 + show all updates
-
Added translation
-
The email versions of this form has been removed.
-
First published.