Ffurflen ad-dalu ffi dirprwyaeth
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am ad-daliad ffi dirprwyaeth. Llenwch ffurflen ar-lein neu gopi caled a’i hanfon drwy’r post neu fel atodiad e-bost, ynghyd â'ch tystiolaeth.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Gallwch wneud cais am ad-daliad ar gyfer ffioedd dirprwyaeth a dalwyd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2015.
Os ydych chi’n ddirprwy yn gweithredu o dan orchymyn llys presennol, does dim angen i chi wneud cais am ad-daliad. Byddwch yn cael un yn awtomatig os gwnaeth eich cleient dalu gormod o ffioedd.
Ffurflen rydych chi’n ei llenwi â llaw
I ddefnyddio’r PDF yma:
-
argraffwch y ffurflen
-
llenwch hi â llaw
-
llofnodwch hi
-
anfonwch hi drwy’r post gyda’ch tystiolaeth
Ffurflen rydych chi’n ei llenwi ar y sgrin
Gallwch lenwi’r ffurflen hon a’i chadw gan ddefnyddio Adobe Reader XI. Os byddwch yn ei chadw ar eich cyfrifiadur, does dim rhaid i chi lenwi’r ffurflen i gyd ar unwaith.
I ddefnyddio’r PDF rhyngweithiol yma:
-
cadwch y ffurflen ar eich cyfrifiadur
-
llenwch hi
-
cadwch hi ar eich cyfrifiadur a’i hanfon fel atodiad e-bost gyda’ch tystiolaeth, neu argraffwch y ffurflen wedi’i llenwi a’i phostio gyda’ch tystiolaeth.
Gwneud cais drwy e-bost
Anfonwch y ffurflen a’ch tystiolaeth fel atodiadau e-bost i: [email protected]
Bydd angen i chi atodi copïau wedi’u sganio neu luniau clir o ddogfennau gwreiddiol. Ni allwch anfon e-bost mwy na 10MB, ond gallwch anfon mwy nag un e-bost.
Rhowch ‘Cais am ad-daliad ffi dirprwyaeth’ fel pwnc yr e-bost.
Gwneud cais drwy’r post
Postiwch y ffurflen a’ch tystiolaeth i:
Deputyship fee refunds
Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
PO Box 10796
Nottingham
NG2 9WF
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pa dystiolaeth mae angen i chi ei hanfon gyda’ch hawliad a beth sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais.
Fformatau amgen
I gael dogfen mewn print bras, anfonwch e-bost i: [email protected]. Cofiwch roi eich cyfeiriad.
Gwybodaeth bersonol
Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ymroddedig i drin eich data personol mewn ffordd gyfrifol a’i gadw’n ddiogel.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni ac mae’n cael ei ddiogelu yn y gyfraith gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).
Gwybodaeth am sut mae OPG yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Hydref 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Ebrill 2020 + show all updates
-
Updated the opening times for the Contact centre
-
Added translation
-
Added translation