Hawlio haen cyfradd sero preswyl sy’n drosglwyddadwy (IHT436)
Defnyddiwch ffurflen IHT436 er mwyn gwneud hawliad i drosglwyddo unrhyw haen cyfradd sero preswyl sydd heb ei defnyddio (RNRB).
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon i hawlio’r RNRB sy’n drosglwyddadwy yn erbyn y Dreth Etifeddiant ar ystâd yr ymadawedig os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn hawlio RNRB ar yr ystâd hon (bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen IHT435)
-
roedd gan yr ymadawedig briod neu bartner sifil a fu farw gyntaf, a bu farw’r priod neu’r partner sifil naill ai:
- cyn 6 Ebrill 2017
- ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, a heb ddefnyddio’r holl RNRB a oedd ar gael iddo
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen, anfonwch hi i:
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST
Cyn i chi ddechrau llenwi’r ffurflen
Gwnewch yn siŵr bod eich porwr gwe wedi’i ddiweddaru.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly gwnewch yn siŵr fod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, cyn i chi ddechrau’i llenwi.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Defnyddiwch ffurflen IHT435 i hawlio’r RNRB yn erbyn ystâd rhywun sydd wedi marw.
Darganfyddwch sut i gyfrifo a gweithredu’r RNRB ar gyfer Treth Etifeddiant.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Ebrill 2017Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Awst 2022 + show all updates
-
Information about when you must send the IHT436 form to us by has been added.
-
The rates for RNRB and the taper threshold were frozen until 2026 at the recent budget.
-
This form has been updated because the rates for residence nil rate band and the taper threshold were frozen until 2026 at the recent budget.
-
Both English and Welsh IHT436 forms have been updated.
-
The calculations in both English and Welsh form IHT436 have been updated.
-
A Welsh language version of form IHT436 is now available.
-
First published.