Datgan manylion partneriaeth ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu'r ffurflen bost CCL2 i ddatgan manylion partneriaeth wrth gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.
Dogfennau
Manylion
Datgan manylion partneriaeth wrth gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL), gallwch naill ai:
- defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein
- llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i CThEM
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu’i hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen CCL1 i gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.
Cewch ragor o wybodaeth am CCL yn Hysbysiad Ecséis:
- CCL1 am ganllaw cyffredin i Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
- CCL1/1 ynghylch cofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 5 Medi 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Mehefin 2016 + show all updates
-
An online forms service is now available.
-
Welsh version of form CCL2 added to the page.
-
First published.