Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 60: cyfunddaliad

Diweddarwyd 10 Gorffennaf 2018

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Daeth Rhan 1 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 i rym ar 27 Medi 2004 (ac eithrio adran 21(4) a (5)). Mae’n creu ffordd newydd o feddu ar eiddo rhydd-ddaliol sydd â chyfleusterau cymunedol. Mae’r uned-ddaliwr yn meddu ar y budd rhydd-ddaliol yn yr uned ac mae’n aelod o’r gymdeithas cyfunddaliad sy’n meddu ar ac yn rheoli’r rhannau cyffredin. Gall rhan o’r rhannau cyffredin fod ag ardaloedd defnydd cyfyngedig neu ddefnydd a ganiateir sy’n gyfyngedig o ran pwy gaiff eu defnyddio neu sut y cânt eu defnyddio.

Rheoliadau Cyfunddaliad 2004 sy’n llywodraethu ffurfio, rhedeg a therfynu cymunedau cyfunddaliad.

Rheolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004 sy’n llywodraethu’r dogfennau ddylai fod gyda cheisiadau sy’n cael eu gwneud i Gofrestrfa Tir EF.

Os oes gennych ymholiad am gais cyfunddaliad arfaethedig, cysylltwch â’n swyddog cyfunddaliad, John Marsden, trwy [email protected] neu 0300 006 9423.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.

Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Paratoi i gofrestru tir cyfunddaliadol

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau a anfonir atom.

2.1 Tir all fod neu na all fod yn gyfunddaliad

Dim ond tir a gofrestrwyd eisoes gyda theitl rhydd-ddaliol llwyr all fod yn gyfunddaliad. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno cais am gofrestriad cyntaf y tir (gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd ar yr un pryd ag y byddwch yn cyflwyno eich cais i gofrestru’r tir fel cyfunddaliad Byddwn yn cwblhau’r cais am gofrestriad cyntaf cyn ystyried y cais cyfunddaliad.

Mae tir na all fod yn gyfunddaliad yn cynnwys (Atodlen 2, i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad):

  • rhydd-ddaliad ansgwar
  • tir amaethyddol
  • tir sy’n berthynol i ystad ddigwyddiadol, sy’n golygu ei fod yn agored o dan statudau penodol i ddychwelyd i rywun heblaw’r perchennog cofrestredig

Rhaid i ddatblygiad cyfunddaliadol gynnwys o leiaf ddwy uned.

2.2 Y datganiad cymuned cyfunddaliad ac erthyglau cyweithio

Dwy ddogfen gyfansoddiadol allweddol cyfunddaliad yw:

  • Y datganiad cymuned cyfunddaliad – sy’n diffinio maint y cyfunddaliad a’r unedau unigol ac sy’n rheoli defnyddio a chynnal yr unedau ac yn gofalu am hawliau a dyletswyddau’r uned-ddalwyr a’r gymdeithas cyfunddaliad
  • erthyglau cyweithio – sy’n diffinio pwerau’r gymdeithas ac yn cwmpasu materion fel aelodaeth, cyfarfodydd a phenodiad a phwerau cyfarwyddwyr

Rhaid cwblhau’r ddwy ddogfen yn unol â Rheoliadau Cyfunddaliad 2004, cyn cyflwyno cais i gofrestru tir cyfunddaliadol i ni.

Ni allwch wneud cais i ddynodi datganiad cymuned cyfunddaliad na’r erthyglau cyweithio yn ddogfennau gwybodaeth eithriedig (rheol 3(3)(c) o Reolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004).

2.3 Cynllun y datganiad cymuned cyfunddaliad

I ateb ein gofynion mae’n bwysig bod y cynlluniau a gyflwynwch yn bodloni’r gofynion technegol a manylebau sy’n cael eu hamlinellu yn yr adran hon. Rydym bob amser yn barod i ystyried unrhyw amgylchiadau arbennig allai fod yn berthnasol i ddatblygiad arbennig a thrafod y ffordd orau ymlaen.

2.3.1 Gofynion a manylebau

Gallwch weld enghraifft o gynllun datganiad cymuned cyfunddaliad preswyl yn Atodiad A

  • Rhaid i’r cynllun fod ar bapur o faint A0 ar y mwyaf
  • Rhaid i’r cynllun ddangos yn eglur y raddfa a’r gogwydd a bod wedi ei dynnu i’r raddfa a nodir arno. Y raddfa ffafredig yw 1/500 er y gall 1/1250 fod yn foddhaol os oes modd dangos manylion y cynllun, gan gynnwys terfynau lleiniau unigol, yn eglur. Fodd bynnag, lle bo’r terfynau yn astrus neu gymhleth, fel terfyn o fewn adeilad, gall fod angen graddfa fwy
  • Nid yw cynlluniau a nodwyd ‘At ddiben dynodi’n unig’ neu ‘Peidiwch â mesur o’r llun hwn’ neu unrhyw ymadrodd tebyg yn dderbyniol
  • Mae cynlluniau sy’n dwyn datganiad o ymwadiad gyda’r bwriad o gydymffurfio â Deddf Camddisgrifiadau Eiddo 1991 yr un mor annerbyniol
  • Rhaid i chi seilio’r cynllun ar arolwg manwl gywir, ar y raddfa a ddewiswyd. Rhaid i’r cywirdeb fod o fewn cyfyngiadau plotiadwy’r raddfa, h.y. dylai pellterau a fesurwyd o’r cynllun rhwng pwyntiau manwl a ddiffiniwyd yn dda fod yn gywir i o fewn 0.3mm ar raddfa’r map ynghyd ag un rhan o fil o’r pellter a fesurwyd. O ran tirfesurwyr, mae’r fanyleb hon yn rhoi’r goddefiannau canlynol:
Pellter a fesurwyd 1/500 1/1250 1/500 1/1250
100m 0.15+0.1 = 0.25m 0.375+0.1 = 0.475m
200m 0.15+0.2 = 0.35m 0.375+0.2 = 0.575m
500m 0.15+0.5 = 0.65m 0.375+0.5 = 0.875m
100m 0.15+1.0 = 1.15m 0.375+1.0 = 1.375m

Wrth wneud yr arolwg, dylech leoli gorsafoedd rheoli mewn ardaloedd diogel, gan sicrhau drwy hynny bod amlinellu gwaith a’r arolwg terfynol ‘fel yr adeiladwyd’ i gyd ar sail y datwm a ddefnyddiwyd ar gyfer yr arolwg gwreiddiol.

Rhaid i chi ddangos unrhyw fesuriadau fel rhai metrig.

Rhaid i’r cynllun ddangos terfynau’r tir cyfunddaliadol mewn perthynas â therfynau teitl y rhydd-ddeiliad cofrestredig a therfynau unedau’r cyfunddaliad mewn perthynas â therfynau’r tir cyfunddaliadol.

Rhaid i’r cynllun ddiffinio meintiau unedau’r cyfunddaliad gan ddefnyddio lliw a chyfeir-rif.

Rhaid i’r cynllun ddiffinio maint y tir cyfunddaliadol gan ddefnyddio cyfeirnod lliw gwahanol i’r lliw a ddefnyddir i ddiffinio unedau’r cyfunddaliad.

Rhaid i’r cynllun ddangos unrhyw fynedfeydd a llwybrau sy’n ffurfio terfyn unedau.

Os yw dau lawr neu fwy o floc o unedau o’r un hyd a lled, a chynllun a meintiau’r unedau yr un fath, fel arfer mae’n ddigon i chi ddarparu cynllun o’r llawr unigol. Rhaid i’r cynllun ddangos y rhif sy’n gwahaniaethu pob uned a datgan lefel llawr pob uned.

Gall y datganiad cymuned cyfunddaliad gynnwys cynlluniau ychwanegol at y rhai hynny sy’n diffinio meintiau’r cyfunddaliad ac unedau. Rhaid i’r datganiad cymuned cyfunddaliad egluro pa gynllun sy’n diffinio meintiau’r cyfunddaliad a’r unedau a pha rai sydd at ddiben arall.

Rhaid i chi gyflwyno copi ardystiedig o’r datganiad cymuned cyfunddaliad i’w gofrestru. Os bydd Cofrestrfa Tir EF yn gweld na pharatowyd cynllun y datganiad cymuned cyfunddaliad yn unol â’r gofynion a manylebau hyn wrth gyflwyno’r datganiad cymuned cyfunddaliad i’w gymeradwyo (gweler cymeradwyo cynllun y datganiad cymuned cyfunddaliad) neu gofrestru, caiff ei wrthod yn ôl y disgrifiad yn Cynlluniau heb fod yn ddigon eglur neu fanwl gywir.

Nid yw’r cyfleuster sy’n cael ei ddarparu gan reol 14 o Reolau Cofrestru Tir 2003 ar gyfer trosglwyddo ceisiadau electronig ar gael ar gyfer y datganiad cymuned cyfunddaliad eto.

2.3.2 Cysoni gyda mapiau’r Arolwg Ordnans

Mae Cofrestrfa Tir EF yn seilio’i gynlluniau ar fapiau’r Arolwg Ordnans ar raddfa fawr. Yn achos ystadau sy’n datblygu mae’r rhain fel arfer ar raddfa 1/1250. Felly, gall datblygwr fod yn hyderus, lle bo cydymffurfiad rhwng map yr Arolwg Ordnans a chynllun safle’r datblygwr, na fydd yn anodd i ni gysylltu’r olaf â’n cofnodion.

2.3.3 Cymeradwyo cynlluniau datganiad cymuned cyfunddaliad

Rydym yn cynnig gwasanaeth dewisol i gymeradwyo cynllun y datganiad cymuned cyfunddaliad cyn i chi gyflwyno eich cais. Rhaid cyflwyno’r datganiad cymuned cyfunddaliad cyfan er mai dim ond y cynllun gaiff ei gymeradwyo. Mae angen y datganiad cymuned cyfunddaliad cyflawn er mwyn sicrhau bod cyfeiriad at unrhyw gyfeirnodau sy’n cael eu dangos ar y cynllun a diffiniad yr eiddo o fewn y cyfunddaliad yn cytuno â’r cynllun. Ein nod yw cwblhau’r cymeradwyo mor fuan ag y bo modd. Nid oes raid talu am y gwasanaeth hwn a bydd yn osgoi i’ch cais gael ei wrthod yn ôl y disgrifiad yn Cynlluniau heb fod yn ddigon eglur neu fanwl gywir.

Dim ond copi o’r datganiad cymuned cyfunddaliad i’w gymeradwyo y mae’n rhaid i chi ei gyflwyno.

Bydd defnyddio’r gwasanaeth hwn yn cynorthwyo Cofrestrfa Tir EF i ddiweddaru ein mapiau ac o gymorth wrth brosesu’r cais dilynol i gofrestru os byddwch yn rhoi’r wybodaeth ganlynol mewn llythyr eglurhaol:

  • a yw’r datblygiad wedi dechrau ac, os felly, pa gyfnod a gyrhaeddwyd a phryd y mae disgwyl ei gwblhau, neu
  • pryd y bydd y datblygiad yn dechrau a phryd y mae disgwyl ei gwblhau, a
  • phryd y caiff y datganiad cymuned cyfunddaliad ei gyflwyno i’w gofrestru

Pan gaiff y datganiad cymuned cyfunddaliad ei gyflwyno i’w gofrestru, rhaid i chi sicrhau ei fod yn dod gyda llythyr Cofrestrfa Tir EF sy’n cadarnhau ei gymeradwyo.

2.4 Ymgorffori’r gymdeithas cyfunddaliad

Rhaid ymgorffori’r gymdeithas cyfunddaliad cyn cyflwyno’r cais i gofrestru yng Nghofrestrfa Tir EF. Dylech wneud a chadw copi ardystiedig o’r erthyglau cyweithio cyn i chi wneud cais i ymgorffori’r gymdeithas cyfunddaliad, gan y bydd y Cofrestrydd Cwmnïau yn cadw’r memorandwm ac erthyglau gwreiddiol. Bydd angen i chi gyflwyno’r copi ardystiedig gyda’ch cais i’w gofrestru yng Nghofrestrfa Tir EF.

2.5 Cydsyniadau i gofrestru

O ganlyniad i adran 3(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 a rheoliad 3 o Reoliadau Cyfunddaliad 2004, bydd angen cydsyniad y canlynol i gofrestru’r tir yn dir cyfunddaliadol:

  • perchennog cofrestredig yr ystad rydd-ddaliol yn y cyfan neu ran o’r tir
  • perchennog cofrestredig ystad brydlesol yn y cyfan neu ran o’r tir a roddwyd am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd
  • perchennog ystad unrhyw ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig yn y cyfan neu ran o’r tir
  • perchennog ystad unrhyw ystad brydlesol ddigofrestredig yn y cyfan neu ran o’r tir a roddwyd am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd
  • perchennog arwystl a warchodwyd gan gofnod yn y gofrestr dros y cyfan neu ran o’r tir
  • perchennog unrhyw forgais, arwystl neu hawlrwym ar gyfer sicrhau arian neu werth arian dros y cyfan neu ran o unrhyw dir digofrestredig sydd yn y cais
  • deiliad prydles a roddwyd am gyfnod heb fod dros 21 mlynedd fydd yn cael ei dileu o dan adrannau 7(3)(d) neu 9(3)(f) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002. Fodd bynnag, nid oes raid i chi gael cydsyniad deiliad prydles o’r fath os oes ganddo hawl i brydles newydd:
  • ar yr un eiddo
  • ar yr un telerau
  • am yr un rhent
  • am gyfnod cywerth â’r cyfnod sydd ar ôl o’r brydles a ddilëwyd
  • nad yw’n cynnwys unrhyw ddarpariaeth fyddai’n creu cyfnod o fwy nag 21 mlynedd, a’r prydlesai wedi gwarchod ei hawl i brydles newydd trwy gofrestru rhybudd yn y gofrestr o’r teitl rhydd-ddaliol neu yn y gofrestr pridiannau tir yn enw perchennog ystad y teitl rhydd-ddaliol

Rhaid i’r bobl uchod ddefnyddio ffurflen CON1 wrth roi eu cydsyniad. Os yw’r cydsyniad yn amodol, rhaid i’r datganiad o wirionedd cysylltiedig â’r cais wneud yn amlwg y bodlonwyd yr holl amodau yn llawn (gweler Datganiad o wirionedd). Os gwnaeth llys orchymyn yn esgusodi rhag yr angen am gydsyniad o dan amgylchiadau penodedig, rhaid cyflwyno gorchymyn y llys hefyd (adran 3(2)(f) ac Atodlen 1(6)(b) i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002). Os yw’r gorchymyn yn amodol, rhaid i dystiolaeth ddod gyda’r gorchymyn y cydymffurfiwyd â’r amod (Atodlen 1(6)(2) i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002).

Tybir y bydd y ceisydd a phawb sy’n cael teitl oddi wrth y ceisydd wedi rhoi cydsyniad i gofrestru (rheoliad 4 (5) (b) Rheoliadau Cyfunddaliad 2004).

Yn dibynnu ar unrhyw amod yn gorfodi cyfnod byrrach, bydd cydsyniad yn dod i ben os na chaiff unrhyw gais ei wneud o fewn 12 mis i’r dyddiad y’i rhoddwyd. Yn ystod dilysrwydd cydsyniad, bydd hefyd yn rhwymo olynydd pwy bynnag a roddodd y cydsyniad yn y teitl. Nid oes modd ei dynnu’n ôl ar ôl cyflwyno’r cais i ni (rheoliad 4(7) o Reoliadau Cyfunddaliad 2004). Rhaid i’r datganiad o wirionedd cysylltiedig â’r cais gadarnhau nad yw’r cydsyniad wedi dod i ben na’i dynnu’n ôl.

Lle cyflwynwyd cydsyniad sy’n berthynol i fudd digofrestredig neu sy’n destun rhybudd, rhybuddiad neu gyfyngiad yn unig, rhaid i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth mai pwy bynnag a gyflwynodd y cydsyniad yw’r sawl sydd â hawl i’r budd hwnnw ar adeg rhoi’r cydsyniad. Gall hyn fod ar ffurf tystysgrif trawsgludwr (rheol 9(2) o Reolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004).

2.6 Cyfunddaliadau safleoedd lluosog

Mae modd i ddau neu fwy o bobl sy’n berchnogion cofrestredig gwahanol deitlau cofrestredig wneud cais i gofrestru tir cyfunddaliadol os yw’r amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • rhaid cynnwys yr holl dir mewn datganiad cymuned cyfunddaliad unigol (adran 57(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002)
  • ni all uned unigol fod yn rhan o fwy nag un teitl (rheoliad 7 o Reoliadau Cyfunddaliad 2004)

Yn ystod y cyfnod pontio nes bydd y rhannau cyffredin yn breinio yn y gymdeithas cyfunddaliad, mae hyn yn golygu y gallai fod mwy nag un perchennog ar y rhannau cyffredin. Byddai pob perchennog yn gofrestredig fel perchennog gwahanol ran o deitl y rhannau cyffredin.

3. Gwneud cais i gofrestru tir cyfunddaliadol

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau a anfonir atom.

3.1 Ffurflen CM1

Rhaid gwneud cais i gofrestru ystad rydd-ddaliol mewn tir cyfunddaliadol ar ffurflen CM1.

Gallwch wneud cais am gofrestriad naill ai:

  • heb uned-ddalwyr pan fydd yn ddatblygiad newydd
  • gydag uned-ddalwyr pan fydd datblygiad prydlesol neu rydd-ddaliol presennol yn cael ei drosi yn gyfunddaliad

Os yw eich cais am gofrestriad gydag uned-ddalwyr, rhaid i Ddatganiad Adran 9 ar ffurflen COV fod gyda’r ffurflen CM1. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys:

  • cais y ceisydd bod adran 9 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 (‘Cofrestru gydag uned-ddalwyr’) yn berthnasol i’r cais
  • rhestr o’r unedau cyfunddaliadol, yn rhoi enw a chyfeiriad yr uned-ddaliwr neu uned-ddalwyr ar y cyd arfaethedig ar gyfer pob un (adran 9(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002)

Bydd y cais yn cael ei wrthod os nad yw’r datganiad adran 9 ar ffurflen COV yn dod gyda’r ffurflen CM1.

3.2 Dogfennau gofynnol i gefnogi cais i gofrestru tir cyfunddaliadol

Pan fo’n berthnasol, rhaid i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol gyda’ch cais:

  • copi ardystiedig o dystysgrif corfforiad cyfredol y gymdeithas cyfunddaliad
  • copi ardystiedig o erthyglau cyweithio’r gymdeithas cyfunddaliad
  • copi ardystiedig o’r datganiad cymuned cyfunddaliad
  • cydsyniad i gofrestru ar ffurflen CON1 y dalwyr buddiannau hynny sy’n cael eu rhestru yn Cydsyniadau i gofrestru, neu orchymyn llys yn esgusodi rhag cydsyniad os nad oes modd gwybod pwy yw rhywun ar ôl gwneud pob ymdrech resymol i gael gwybod pwy sydd i roi cydsyniad; neu nad oes modd ei olrhain ar ôl gwneud pob ymdrech resymol i’w olrhain; neu yr anfonwyd y cais am gydsyniad ac y gwnaed pob ymdrech resymol i gael ymateb ond na chafwyd ymateb, (rheoliad 5 o Reoliadau Cyfunddaliad 2004)
  • tystysgrif (nid oes unrhyw ffurf benodedig) a roddwyd gan gyfarwyddwyr y gymdeithas cyfunddaliad yn cadarnhau bod:
  • yr erthyglau cyweithio yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfunddaliad 2004
  • bod y datganiad cymuned cyfunddaliad yn bodloni gofynion Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002
  • nad yw’r tir yn dir na all ddod yn dir cyfunddaliadol (gweler Tir all fod neu na all fod yn gyfunddaliad)
  • nad yw’r gymdeithas cyfunddaliad wedi masnachu nac wedi mynd i unrhyw ddyled na chafodd ei thalu
  • datganiad o wirionedd a roddwyd gan y ceisydd (gweler Datganiad o wirionedd).

Os yw eich cais am gofrestriad gydag uned-ddalwyr, rhaid cyflwyno tystiolaeth o ryddhau holl arwystlon a gofrestrwyd ar y teitlau prydlesol (fydd yn cael eu cau). Os yw’r rhoddwr benthyg priodol yn cymryd arwystl ar yr uned gyfunddaliad newydd, rhaid cyflwyno arwystl newydd, neu weithred arwystl amnewidiol, gyda’ch cais.

Bydd y cais yn cael ei wrthod os nad yw’r holl ddogfennau priodol yn dod gyda’ch cais.

3.2.1 Datganiad o wirionedd

Rhaid i’r datganiad o wirionedd wneud y canlynol:

  • fod ar ffurf sy’n cwrdd â gofynion rheolau 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003 (gweler Atodiad B: darparu datganiad o wirionedd)
  • rhestru’r holl gydsyniadau a gafwyd, neu’r gorchmynion llys yn esgusodi rhag cydsyniad
  • cadarnhau nad oes cyfyngiad yn y gofrestr sy’n gwarchod budd y mae angen cydsyniad y daliwr ar ei gyfer neu, os yw yn gwarchod budd o’r fath, y cafwyd y cydsyniad priodol
  • cadarnhau nad oes unrhyw gydsyniadau eraill gofynnol o dan adran 3 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 a Rheoliadau Cyfunddaliad 2004
  • cadarnhau nad oes unrhyw gydsyniad wedi dod i ben neu wedi cael ei dynnu’n ôl
  • cadarnhau, os oes amodau ar gydsyniad, bod yr holl amodau wedi cael eu bodloni’n llawn

Hefyd, lle bo’r cais yn cynnwys dileu arwystl ar ran o uned, o dan adran 22 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002, sy’n destun cofnod yn y gofrestr teitl, rhaid i’r datganiad o wirionedd wneud y canlynol:

  • nodi’r arwystl i’w ddileu
  • nodi teitl cofrestredig perchennog yr arwystl
  • rhoi enw a chyfeiriad perchennog yr arwystl
  • cadarnhau y cafwyd cydsyniad perchennog yr arwystl

3.3 Ffïoedd

Mae’r ffïoedd sy’n daladwy i gofrestru tir cyfunddaliadol fel a bennwyd gan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

4. Cwblhau’r cais cyfunddaliad

4.1 Cofrestru heb uned-ddalwyr

4.1.1 Yn ystod y cyfnod pontio

Byddwn yn cofrestru’r rhannau cyffredin mewn un teitl a phob uned unigol mewn teitl ar wahân. Ar yr adeg hon bydd yr holl deitlau (rhannau cyffredin ac unedau) yn cael eu cofrestru yn enw’r ceisydd. Bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud ar gyfer holl deitlau yn y gofrestr eiddo i ddynodi bod y teitl yn rhan o gyfunddaliad:

“Cofrestrwyd yr ystad rydd-ddaliol yn y tir fel ystad rydd-ddaliol mewn tir cyfunddaliadol o dan Ran 1 Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.”

Bydd y cofnod canlynol yn cael ei wneud hefyd yn y gofrestr eiddo ond bydd yn cael ei ddileu heb gais ar ddiwedd y cyfnod pontio pan fydd teitl y rhannau cyffredin yn breinio yn y gymdeithas cyfunddaliad:

“Ni fydd yr hawliau a dyletswyddau gaiff eu cyflwyno a’u gosod gan ddatganiad y gymuned cyfunddaliad yn dod i rym hyd ddiwedd y cyfnod pontio y cyfeiriwyd ato yn adran 8(1) Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.”

Bydd y cofnod canlynol ar gyfer teitl y rhannau cyffredin hefyd:

“Mae’r teitl hwn yn cynnwys rhannau cyffredin y cyfunddaliad a ddiffiniwyd gan y datganiad cymuned cyfunddaliad. Mae’r tir yn y teitl hwn yn manteisio ar ac yn amodol ar yr hawliau a dyletswyddau gaiff eu cyflwyno a’u gosod gan y datganiad cymuned cyfunddaliad.

NODYN 1: Dyddiwyd fersiwn …. y datganiad cymuned cyfunddaliad ………

NODYN 2: Dyddiwyd fersiwn ….. memorandwm ac erthyglau cyweithio’r gymdeithas cyfunddaliad ……………..

NODYN 3: Ffeiliwyd copïau.”

Bydd cofnod tebyg ar gyfer teitlau’r unedau heblaw y byddant yn cyfeirio at ffeilio copïau o’r datganiad cymuned cyfunddaliad ac erthyglau cyweithio o dan deitl y rhannau cyffredin.

Mae’r naill neu’r llall o’r cofnodion canlynol ar gyfer teitl y rhannau cyffredin hefyd:

“Tynnwyd yr unedau cyfunddaliadol a ddisgrifir yn y datganiad cymuned cyfunddaliad y cyfeirir ato isod o’r teitl hwn.”

neu

“Tynnwyd unedau’r cyfunddaliad o fewn y rhannau a liwiwyd yn wyrdd ar y cynllun teitl ac a ddisgrifir yn y datganiad cymuned cyfunddaliad y cyfeirir ato isod o’r teitl hwn.”

Caiff y cyfyngiadau ar uned-ddaliwr a chymdeithas cyfunddaliad o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 neu Reoliadau Cyfunddaliad 2004 eu hadlewyrchu yng ngeiriad y cyfyngiadau a gofnodir yng nghofrestr perchnogaeth y rhannau cyffredin a’r teitlau uned yn ôl eu trefn.

Mae’r cyfyngiad ar deitl y rhannau cyffredin ar ffurf cymdeithas cyfunddaliad fel a ganlyn:

“Nid oes arwystl gan berchennog yr ystad gofrestredig i’w gofrestru heblaw morgais cyfreithiol sy’n dod gyda thystysgrif trawsgludwr neu gyfarwyddwr neu ysgrifennydd y gymdeithas cyfunddaliad y cymeradwywyd creu’r morgais trwy benderfyniad yn cydymffurfio ag adran 29(2) Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.”

Mae’r cyfyngiad ar deitl yr uned ar ffurf CB fel a ganlyn:

“Nid oes gwarediad gan berchennog yr ystad gofrestredig (heblaw trosglwyddiad neu arwystl o gyfan y tir yn y teitl) i’w gofrestru heb dystysgrif trawsgludwr neu gyfarwyddwr neu ysgrifennydd y gymdeithas cyfunddaliad bod y gwarediad wedi ei awdurdodi gan, ac yn cael ei wneud yn unol â, darpariaethau Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 neu’r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno.”

Bydd holl gofnodion ar y teitl cyn cyfunddaliad, ee arwystlon, rhybuddiadau, rhybuddion ac ati yn cael eu dwyn ymlaen i’r teitlau hyn i gyd (rhannau cyffredin ac unedau) oni bai bod tystiolaeth o’u rhyddhau, dileu neu dynnu’n ôl yn dod gyda’r cais i gofrestru’r tir fel cyfunddaliad.

4.1.2 Ar ôl y cyfnod pontio

Pan ddaw rhywun heblaw’r ceisydd â hawl i’w gofrestru fel perchennog un neu fwy, ond nid pob un, o unedau’r cyfunddaliad, (adran 7(3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002), mae hyn yn arwyddo diwedd y cyfnod pontio. Yna byddwn yn gwneud y canlynol:

  • cofrestru’r uned neu unedau a drosglwyddwyd yn enw’r cyfryw unigolyn
  • dileu’r cofnod sy’n berthnasol i’r cyfnod pontio o gofrestr eiddo teitlau’r holl unedau
  • cofrestru’r rhannau cyffredin yn enw’r gymdeithas cyfunddaliad
  • dileu cofnodion sy’n berthnasol i arwystlon o deitl y rhannau cyffredin gan y bydd arwystlon o’r fath wedi cael eu dileu (adran 28(3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002)
  • dileu rhybudd o unrhyw brydlesi sydd wedi cael eu diddymu a chau’r teitlau os yw’r prydlesi yn gofrestredig (adran 7(3)(d) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002)

Bydd yr holl unedau eraill yn aros wedi’u cofrestru yn enw’r ceisydd gwreiddiol nes iddynt gael eu gwerthu.

Byddwn yn cael manylion cyfeiriad y gymdeithas cyfunddaliad ar gyfer gohebu i’w gynnwys yng nghofrestr perchnogaeth teitl y rhannau cyffredin o’r cais gwreiddiol. Os yw’r cyfeiriad hwn, neu unrhyw gyfeiriad arall ar gyfer gohebu, yn newid rhaid i chi gofio hysbysu Cofrestrfa Tir EF ar unwaith.

4.2 Cofrestru gydag uned-ddalwyr

Mae hyn yn ymwneud â datblygiad rhydd-ddaliol a/neu brydlesol presennol lle mae’r perchnogion neu brydleseion eisiau dod yn gyfunddaliad.

Byddwn yn cofrestru’r gymdeithas cyfunddaliad fel perchennog teitl y rhannau cyffredin. Bydd teitlau’r unedau yn cael eu cofrestru yn enwau’r uned-ddalwyr sy’n cael eu rhestru ar y Datganiad Adran 9 (ffurflen COV) sy’n dod gyda ffurflen CM1 (gweler Dogfennau gofynnol i gefnogi cais i gofrestru tir cyfunddaliadol). Bydd cofnodion yn cael eu gwneud yng nghofrestri eiddo a pherchnogaeth y rhannau cyffredin a’r teitlau uned yn ôl y braslun yn Yn ystod y cyfnod pontio, er na fydd y cofnod perthnasol i’r cyfnod pontio yn cael ei wneud.

Os oedd yn ddatblygiad prydlesol, bydd y teitlau prydlesol y cofrestrwyd yr unedau danynt gynt yn cael eu cau. Felly, rhaid cyflwyno tystiolaeth o ryddhau holl arwystlon ar y teitlau prydlesol. Os yw’r rhoddwr benthyg priodol yn cymryd arwystl ar yr uned gyfunddaliad newydd, rhaid cyflwyno arwystl newydd, neu weithred arwystl amnewidiol, gyda’ch cais.

Byddwn yn dileu cofnodion perthnasol i arwystlon o deitl y rhannau cyffredin gan y bydd arwystlon o’r fath wedi cael eu dileu.

Os nodwyd prydles bydd y cofnod yn cael ei ddileu.

4.3 Dogfennau i’w cadw gan Gofrestrfa Tir EF

Byddwn yn cadw copïau ardystiedig o’r datganiad cymuned cyfunddaliad ac erthyglau cyweithio. Bydd y Cofrestrydd Cwmnïau yn cadw’r memorandwm ac erthyglau gwreiddiol. Y cyngor yw i gymdeithas cyfunddaliad gadw’r datganiad cymuned cyfunddaliad gwreiddiol bob amser.

Os ydych am gael copïau swyddogol o’r datganiad cymuned cyfunddaliad neu’r erthyglau cyweithio, rhaid i chi lenwi ffurflen OC2 a chynnwys rhif teitl y rhannau cyffredin.

5. Ceisiadau eraill

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau a anfonir atom.

5.1 Cais i dir cyfunddaliadol beidio â bod yn gofrestredig fel cyfunddaliad yn ystod y cyfnod pontio

Ar ôl cofrestru tir fel cyfunddaliad heb uned-ddalwyr, gall perchennog cofrestredig benderfynu nad yw eisiau creu datblygiad cyfunddaliadol. Yn ystod y cyfnod pontio, cyn gwerthu unrhyw unedau, gall wneud cais i’r tir beidio â bod yn gofrestredig fel cyfunddaliad (adran 8(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002).

Rhaid gwneud y cais hwn ar ffurflen CM2. Mae ffi a bennwyd yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol yn daladwy, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Mae’r darpariaethau cydsyniad yn berthnasol i’r ceisiadau hyn yn yr un modd ag y maent yn berthnasol i’r cais gwreiddiol i gofrestru’r tir fel tir cyfunddaliadol (adran 8(5) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002). Felly, rhaid i bawb sy’n cael eu rhestru yn adran 3(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 ac yn Rheoliad 3 o Reoliadau Cyfunddaliad 2004 ac sydd â budd yn bodoli ar adeg y cais gyflwyno cydsyniadau ar ffurflen CON2. Lle cyflwynwyd cydsyniad sy’n berthynol i fudd digofrestredig neu sy’n destun rhybudd neu gyfyngiad yn unig, rhaid i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth mai pwy bynnag gyflwynodd y cydsyniad yw’r sawl sydd â hawl i’r budd hwnnw ar adeg rhoi’r cydsyniad. Gall hyn fod ar ffurf tystysgrif trawsgludwr (rheol 9(2) o Reolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004). Rhaid cynnwys datganiad o wirionedd sy’n bodloni’r gofynion a nodir yn Datganiad o wirionedd hefyd, lle bo’n briodol.

Pan fydd y cais wedi’i gwblhau, bydd cofnodion y cyfunddaliad yn cael eu dileu a bydd y teitlau yn dychwelyd i rydd-ddaliad cyffredin. Byddwn yn ystyried cais y ceisydd i gyfuno’r teitlau i gyd yn ôl fel un teitl. Os nad oes unrhyw gais o’r fath bydd y teitlau unigol yn cael eu cadw fel teitlau rhydd-ddaliol heb gofnodion y cyfunddaliad.

5.2 Cais i gofrestru datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig neu erthyglau cyweithio newidiedig

Mae’r drefn ar gyfer diwygio’r datganiad cymuned cyfunddaliad neu newid yr erthyglau cyweithio i’w chael yn Neddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 a Rheoliadau Cyfunddaliad 2004 sy’n ei hategu. Gall gwelliant naill ai newid maint y cyfunddaliad neu fod yn gyfan gwbl destunol. Pryd bynnag y caiff y datganiad cymuned cyfunddaliad ei ddiwygio (gan gynnwys yn ystod y cyfnod pontio neu pan gaiff y v ei ddiwygio gan gymdeithas cyfunddaliad olynol) neu y caiff yr erthyglau cyweithio eu newid, rhaid paratoi fersiwn newydd o’r ddogfen yn ymgorffori’r gwelliant neu newid. Os nad yw fersiwn newydd o’r datganiad cymuned cyfunddaliad neu’r erthyglau cyweithio’n ymgorffori’r gwelliant neu newid yn cael ei gyflwyno gyda’r cais i gofrestru, bydd y cais yn cael ei wrthod. Rhaid i ddyddiad fersiwn newydd y datganiad cymuned cyfunddaliad neu’r erthyglau cyweithio fod yr un â dyddiad y gwelliant neu newid. Byddwn yn neilltuo rhifau fersiwn fydd yn cael eu hadlewyrchu yn y cofnodion yn y gofrestr.

Nid yw diwygio’r datganiad cymuned cyfunddaliad na newid yr erthyglau cyweithio yn cael unrhyw effaith nes bydd y datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig neu’r memorandwm ac erthyglau cyweithio wedi cael ei gofrestru.

Rhaid gwneud y cais ar ffurflen CM3 a chyflwyno’r canlynol, fel y bo’n briodol:

  • copi ardystiedig o fersiwn newydd yr erthyglau cyweithio, neu
  • copi ardystiedig o fersiwn newydd y datganiad cymuned cyfunddaliad
  • cydsyniad yr uned-ddaliwr a’i arwystlai (os oes un) os newidiwyd maint uned neu orchymyn llys yn esgusodi rhag cydsyniad (adran 23(1) ac adran 24(2) a (3) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002)
  • cydsyniad arwystlai unrhyw deitl uned y tynnwyd tir ohoni i’w ychwanegu at deitl y rhannau cyffredin (adran 30(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002), a
  • thystysgrif a roddwyd gan gyfarwyddwyr y gymdeithas cyfunddaliad (nad oes angen iddi fod ar ffurf benodol) bod y datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig yn ateb gofynion Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 neu fod yr erthyglau cyweithio newidiedig yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyfunddaliad 2004. Nid oes angen cyflwyno tystysgrif ar wahân o ran pob uned yr effeithiodd y newid arni.

Rhaid cynnwys rhif teitl y rhannau cyffredin ym mhanel 2 ffurflen CM3. Os yw maint unrhyw un o’r unedau wedi newid, rhaid cynnwys rhifau teitl yr unedau hynny ym mhanel 3.

Pan fydd cais yn cael ei wneud i ddiwygio’r datganiad cymuned cyfunddaliad, rhaid crynhoi’r newidiadau ym mhanel 10 ffurflen CM3:

  • Lle bydd maint yr unedau a/neu’r rhannau cyffredin yn newid, rhaid adlewyrchu’r newidiadau ar gynllun newydd ynghlwm wrth y datganiad cymuned cyfunddaliad. Rhaid i’r cynllun newydd gydymffurfio â Cynllun y datganiad cymuned cyfunddaliad neu bydd y cais yn cael ei ddileu
  • Lle bo maint yr unedau a/neu’r rhannau cyffredin yn aros yr un fath, rhaid dal i atodi cynllun at y datganiad cymuned cyfunddaliad oherwydd na all datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig gyfeirio at ddatganiad cymuned cyfunddaliad cynharach. Os byddwch yn defnyddio cynllun newydd rhaid iddo gydymffurfio â Cynllun y datganiad cymuned cyfunddaliad neu bydd y cais yn cael ei ddileu

5.2.1 Ffïoedd

Mae’r ffïoedd sy’n daladwy i gofrestru datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig neu erthyglau cyweithio newidiedig fel a bennwyd gan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

5.2.2 Cais i gofrestru dileu neu ymestyn arwystl dros uned

Os yw diwygio’r datganiad cymuned cyfunddaliad yn tynnu tir o uned sydd ag arwystl arni, bydd yr arwystl yn cael ei ddileu o ran y tir sydd wedi cael ei dynnu (adran 24(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002). Os yw’n ychwanegu tir at uned, bydd yr arwystl yn cael ei ymestyn fel ag i fod yn berthnasol i’r tir sy’n cael ei ychwanegu (adran 24(5) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002). Pan fydd hyn yn digwydd, mae Rheoliad 10 o Reoliadau Cyfunddaliad 2004 yn pennu bod rhaid cyflwyno rhybudd i Gofrestrfa Tir EF. Rhaid i’r rhybudd hwn fod ar ffurflen COE a’i gynnwys gyda’r cais i gofrestru’r datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig. Nid oes dim i’w dalu.

5.3 Cais i ychwanegu tir at ddatblygiad cyfunddaliadol

Rhaid gwneud cais ar ffurflen CM4 a chyflwyno’r canlynol:

  • cydsyniad i gofrestru ar ffurflen CON1 y dalwyr buddiannau hynny sy’n cael eu rhestru yn Cydsyniadau i gofrestru, neu orchymyn llys yn esgusodi rhag cydsyniad os nad oes modd gwybod pwy yw rhywun ar ôl gwneud pob ymdrech resymol i gael gwybod pwy sydd i roi cydsyniad; neu nad oes modd ei olrhain ar ôl gwneud pob ymdrech resymol i’w olrhain; neu yr anfonwyd y cais am gydsyniad ac y gwnaed pob ymdrech resymol i gael ymateb ond na chafwyd ymateb, (rheoliad 5 o Reoliadau Cyfunddaliad 2004)

  • datganiad statudol sy’n bodloni rheol 20(4) o Reolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004
  • cais ar ffurflen CM3 i gofrestru’r datganiad cymuned cyfunddaliad a ddiwygiwyd i gynnwys y tir a ychwanegwyd (gweler Cais i gofrestru datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig neu erthyglau cyweithio newidiedig
  • tystysgrif a roddwyd gan gyfarwyddwyr y gymdeithas cyfunddaliad (nid oes unrhyw ffurf benodedig) yn cadarnhau nad yw’r tir yn dir nad oes modd iddo fod yn dir cyfunddaliadol (gweler Tir all fod neu na all fod yn gyfunddaliad), ac y cymeradwywyd y cais trwy benderfyniad unfrydol.

5.3.1 Ffïoedd

Mae’r ffïoedd sy’n daladwy i ychwanegu tir i ddatblygiad cyfunddaliad fel a bennwyd gan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

5.4 Cais i nodi ildio hawl datblygu

Gall datganiad cymuned cyfunddaliad roi hawliau i ddatblygwr datblygiad cyfunddaliadol sy’n caniatáu iddo wneud y canlynol:

  • cwblhau’r gwaith ar y datblygiad
  • hysbysebu gwerthu’r unedau
  • ychwanegu tir at neu dynnu tir o ddatblygiad
  • penodi a diswyddo cyfarwyddwyr y gymdeithas cyfunddaliad

Enw’r rhain yw ‘hawliau datblygu’ y gall y datblygwr eu hildio (adran 58 ac Atodlen 4 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002). Os yw’r datblygwr yn ildio unrhyw hawliau, rhaid iddo hysbysu Cofrestrfa Tir EF trwy anfon rhybudd ar ffurflen SR1 gyda chais ar ffurflen AP1 ar gyfer teitl y rhannau cyffredin (adran 58(6) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002). Yna byddwn yn ffeilio copi o’r SR1 gyda theitl y rhannau cyffredin ac yn rhoi nodyn yng nghofrestr eiddo’r teitl hwnnw gan gyfeirio at y rhybudd a ffeiliwyd. Byddwn hefyd yn hysbysu’r gymdeithas cyfunddaliad, trwy rybudd, yr ildiwyd hawliau.

Mae’r ffi sy’n daladwy i nodi ildiad hawl datblygiad fel a bennwyd gan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

5.5 Ceisiadau i gofrestru trosglwyddiadau o ran o uned a theitlau rhannau cyffredin

Os yw’r gymdeithas cyfunddaliad yn trosglwyddo rhan o’r rhannau cyffredin, neu uned-ddaliwr yn trosglwyddo rhan o uned, rhaid cyflwyno dau gais gyda’i gilydd:

Os nad yw’r cais ar ffurflen AP1 yn dod gyda’r cais ar ffurflen CM3 caiff ei wrthod, (rheolau 15 ac 16 o Reolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004) am na fydd y datganiad cymuned cyfunddaliad, sy’n cael ei ffeilio gyda’r gofrestr a’i gyfeirio ato, ddim yn adlewyrchu cynllun diwygiedig y datblygiad cyfunddaliadol yn gywir wedyn. Yn yr un modd, os nad yw’r cais i ddiwygio’r datganiad cymuned cyfunddaliad yn dod gyda’r cais ar ffurflen AP1, caiff ei wrthod (rheolau 18 a 19 o Reolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004).

Yr unig eithriad yw pan fydd tir sy’n ffurfio rhan o uned yn cael ei ychwanegu at y rhannau cyffredin. Er bod modd gwneud hyn trwy drosglwyddo neu trwy welliant i’r datganiad cymuned cyfunddaliad yn unig mae angen datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig bob tro (adran 30 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002).

Mae ffïoedd ar raddfa arferol yn daladwy ar werth y trosglwyddiad ond nid oes dim i’w dalu i gofrestru’r datganiad cymuned cyfunddaliaddiwygiedig gan ei fod yn dod gyda’r trosglwyddiad.

5.6 Cais i gofrestru cymdeithas cyfunddaliad olynol

Lle cafodd cymdeithas cyfunddaliad ei dirwyn i ben gan y llys ac y gwnaed gorchymyn olyniaeth, (adran 51 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002) rhaid gwneud cais i gofrestru’r gymdeithas cyfunddaliad olynol ar ffurflen CM6.

Rhaid iddo ddod gyda’r canlynol:

  • copi ardystiedig o’r gorchymyn olyniaeth, sy’n gallu gwneud darpariaeth ynghylch trin unrhyw arwystl dros y cyfan neu ran o’r rhannau cyffredin neu fynnu bod Cofrestrfa Tir EF yn cymryd camau penodedig
  • copi ardystiedig o’r gorchymyn dirwyn i ben
  • copi ardystiedig o erthyglau cyweithio’r gymdeithas cyfunddaliad olynol.

Bydd copi o erthyglau cyweithio’r gymdeithas cyfunddaliad olynol yn cael ei ffeilio a bydd erthyglau cyweithio’r gymdeithas cyfunddaliad ansolfent yn cael eu nodi ‘dilëwyd’ a’u cadw gennym. Byddwn hefyd yn cymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol gan y gorchymyn olyniaeth. Fodd bynnag, os yw unrhyw arwystl i gael ei ryddhau dros y rhannau cyffredin, neu unrhyw ran o’r rhannau cyffredin, rhaid cyflwyno’r dystiolaeth arferol o ryddhau.

Nid oes dim i’w dalu i weithredu gorchymyn y llys ond, os oes angen newidiadau i’r datganiad cymuned cyfunddaliad, rhaid paratoi a chyflwyno copi ardystiedig newydd o’r datganiad cymuned cyfunddaliad i Gofrestrfa Tir EF gan ddefnyddio ffurflen CM3 a thalu ffïoedd (os yw’n briodol) (gweler Cais i gofrestru datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig neu erthyglau cyweithio newidiedig).

5.7 Cais i gofrestru terfyniad cofrestriad cyfunddaliad

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau a anfonir atom.

5.7.1 Dirwyn i ben yn wirfoddol

Pan fydd cyfunddaliad yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol, (adrannau 43-49 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002), rhaid gwneud cais terfynu ar ffurflen CM5. Rhaid iddo ddod gyda’r canlynol:

  • datganiad terfynu fydd yn nodi cynigion y gymdeithas cyfunddaliad ar gyfer trosglwyddo’r tir a sut fydd asedau’r gymdeithas cyfunddaliad yn cael eu dosbarthu
  • tystiolaeth o benodi’r datodwr
  • hysbysiad bod y datodwr yn fodlon ar y datganiad terfynu, neu gopi o orchymyn y llys sy’n pennu telerau’r datganiad terfynu
  • mae’r ffi sy’n daladwy ar gyfer terfynu fel a bennwyd gan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Yna byddwn yn cofrestru’r gymdeithas cyfunddaliad fel perchennog holl unedau’r cyfunddaliad ac yn dileu cofnodion y cyfunddaliad o’r holl deitlau. Yna bydd y datodwr yn cael gwared ar yr holl deitlau yn unol â thelerau’r datganiad terfynu.

5.7.2 Llys yn dirwyn i ben

Lle bo’r llys wedi gwneud gorchymyn dirwyn i ben a heb wneud gorchymyn olyniaeth o ran y gymdeithas cyfunddaliad, rhaid gwneud cais i derfynu cofrestriad y’i cyfunddaliad ar ffurflen CM5.

Rhaid iddo ddod gyda’r canlynol:

  • hysbysiad y datodwr bod y llys wedi gwneud gorchymyn dirwyn i ben a heb wneud gorchymyn olyniaeth
  • unrhyw gyfarwyddiadau’n rhoi pwerau atodol i’r datodwr
  • unrhyw rybudd fod y datodwr yn gadael ei swydd ar ôl cyfarfod terfynol y gymdeithas gyfunddaliad
  • unrhyw rybudd o gwblhau dirwyn i ben
  • unrhyw gais a wnaed i’r cofrestrydd cwmnïau yn datgan nad oes asedau digonol; neu o ddiddymu cynnar neu o gwblhau dirwyn i ben
  • unrhyw fater arall sy’n berthnasol i ni ym marn y datodwr (adran 54(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002)
  • mae’r ffi sy’n daladwy ar gyfer terfynu fel a bennwyd gan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Pan fyddwn yn derbyn yr hysbysiadau hyn, byddwn yn dileu cofnodion y cyfunddaliad o’r rhannau cyffredin a holl deitlau’r unedau. Yna bydd y teitlau yn deitlau rhydd-ddaliol cyffredin ac ni fydd uned-ddalwyr yn gallu dibynnu ar yr hawliau sydd yn y datganiad cymuned cyfunddaliad, ee hawliau tramwy neu gefnogaeth. Felly bydd angen i’r uned-ddalwyr wneud trefniadau gyda’r datodwr, neu bwy bynnag y trosglwyddwyd y rhannau cyffredin iddynt, i sicrhau bod gweithredoedd newydd yn cael eu cwblhau yn rhoi’r hawliau angenrheidiol ac ati iddynt.

Pan fydd llys wedi gwneud gorchymyn dirwyn i ben a gorchymyn olyniaeth gweler cais i gofrestru cymdeithas cyfunddaliad olynol.

5.7.3 Terfynu trwy orchymyn llys

O dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 gall y llys orchymyn bod yr holl dir sydd o fewn swyddogaethau’r gymdeithas cyfunddaliad yn peidio â bod yn dir cyfunddaliadol (adran 55 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002) ac i gael ei freinio heb sicrwydd pellach.

Rhaid gwneud cais ar ffurflen AP1 ynghyd â gorchymyn y llys y bydd Cofrestrfa Tir EF wedyn yn ei weithredu. Nid oes dim i’w dalu (mae Atodlen 4 i’r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol yn cyfeirio at hyn).

6. Dileu a gwrthod ceisiadau

6.1 Cynlluniau heb fod yn ddigon eglur neu fanwl gywir

Mae Rheoliad 8 o Reolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) 2004 yn datgan y gall y cofrestrydd wrthod cais ar adeg ei gyflwyno neu y gall ei ddileu ar unrhyw adeg arall os nad yw’r cynlluniau a gyflwynwyd gydag ef (pa un ai fel rhan o’r datganiad cymuned cyfunddaliad neu fel rhan o unrhyw ddogfen arall) yn ddigon eglur neu fanwl gywir.

Bydd y cofrestrydd hefyd yn gwrthod cais lle nad yw’r cynlluniau’n gyson â’r disgrifiadau yn Atodiad 2 i’r datganiad cymuned cyfunddaliad neu’n gwrthdaro â map diweddaraf yr Arolwg Ordnans.

Er mwyn osgoi gwrthodiad, gofynnwch i Gofrestrfa Tir EF gymeradwyo eich cynlluniau cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae Cynllun y datganiad cymuned cyfunddaliad, yn dangos y gofynion a manylebau ar gyfer cynllun datganiad cymuned cyfunddaliad.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: trosolwg yn cynnwys arweiniad a gwybodaeth ar baratoi cynlluniau at ddibenion cofrestru.

6.2 Ceisiadau heb fod mewn trefn fel arall

Mae Rheol 16 o Reolau Cofrestru Tir 2003 (Ceisiadau heb fod mewn trefn) yn berthnasol i geisiadau o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 yn yr un modd ag y mae’n berthnasol i geisiadau o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae hyn yn ein galluogi i godi ymholiadau ynghylch y cais ac, os yw’n ymddangos ei fod yn sylweddol ddiffygiol, ei wrthod ar adeg ei gyflwyno neu ei ddileu ar unrhyw adeg arall.

Byddai Cofrestrfa Tir EF yn ystyried bod cais yn sylweddol ddiffygiol os na ­­chyflwynwyd y dogfennau cywir.

Byddem hefyd yn ystyried bod cais i gofrestru cyfunddaliad safleoedd lluosog yn sylweddol ddiffygiol pe bai uned yn rhannol ar un o’r safleoedd ac yn rhannol ar un arall yn groes i reoliad 7 o Reoliadau Cyfunddaliad 2004.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru yn cynnwys cyngor ar sut i osgoi gwrthod ceisiadau.

Mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Byddwn yn dychwelyd y gwreiddiol ar ôl inni gwblhau’r cais.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Mae hyn yn golygu os yw eich cais yn cael ei ddychwelyd, copïau o’r dogfennau wedi eu sganio a anfonir yn ôl atoch.

7. Ceisiadau gwasanaeth rhagarweiniol

7.1 Chwiliad o’r map mynegai

Pan fyddwch yn gwneud chwiliad o’r map mynegai ar ffurflen SIM ac yn cynnwys manylion eiddo sydd yn uned gyfunddaliadol, bydd canlyniad y chwiliad yn dadlennu:

  • rhif teitl yr uned
  • unrhyw deitlau prydlesol cofrestredig yr uned
  • rhif teitl y rhannau cyffredin

Pan fyddwch yn disgrifio’r rhannau cyffredin yn nisgrifiad yr eiddo, bydd canlyniad y chwiliad yn dadlennu:

  • rhif teitl y rhannau cyffredin
  • unrhyw brydles gofrestredig o’r rhannau cyffredin
  • rhifau teitl yr holl unedau yn y datblygiad cyfunddaliadol
  • unrhyw deitlau prydlesol cofrestredig uned
  • unrhyw deitl rhydd-ddaliol neu brydlesol arall nad yw’n rhan o’r datblygiad cyfunddaliadol ond sydd o fewn ei ffiniau daearyddol, ee rheilffyrdd tanddaearol, lefelydd glo ac ati

Os bydd rhywun sy’n gwneud cais am chwiliad o’r map mynegai angen rhif teitl yr holl unedau mewn datblygiad cyfunddaliadol, rhaid iddo roi rhif teitl y rhannau cyffredin gyda’r geiriau ‘rhannau cyffredin’ i’w ddilyn ym mhanel 2 ffurflen SIM neu ddarparu cynllun o’r datblygiad cyfunddaliadol yn dangos manylion digonol i alluogi dynodi’r tir yn amlwg ar fap yr Arolwg Ordnans.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 10: map mynegai – chwiliadau swyddogol yn cynnwys rhagor o arweiniad a gwybodaeth o ran gwneud cais am chwiliad swyddogol o’r map mynegai.

Sylwer: Mae ffïoedd arferol yn berthnasol i chwiliad o’r map mynegai o ran teitlau cyfunddaliad.

Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o’r map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd â mynediad i’r porthol.

7.2 Copïau swyddogol

Bydd cais am gopïau swyddogol o deitl rhannau cyffredin bob amser yn cynhyrchu copi o’r gofrestr a chynllun teitl neu dystysgrif archwiliad ar ffurflen CI (tystysgrif CI), hyd yn oed os gofynnwyd am gopi o’r gofrestr yn unig, neu’r cynllun teitl / tystysgrif CI yn unig. Lle byddwch yn gwneud cais am gopi o’r gofrestr a chynllun teitl neu dystysgrif CI o deitl y rhannau cyffredin, mae ffi yn daladwy fel a bennwyd gan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Mae’r ffïoedd arferol am gopïau swyddogol yn berthnasol i bob cais arall ar gyfer teitlau cyfunddaliad yn y ffordd arferol.

Rhaid gwneud cais am gopïau swyddogol o deitl uned neu deitl rhannau cyffredin ar ffurflen OC1 a rhaid cyflwyno cais ar wahân am bob teitl.

Os nad ydych yn gwybod y rhif teitl ac rydych yn cyflwyno’r cais:

  • trwy’r post / DX: ysgrifennwch ‘rhowch y rhif teitl’ ym mhanel 2 a disgrifiad o’r uned ym mhanel 3
  • trwy un o’r dulliau cyflwyno electronig: dewiswch ‘Copi swyddogol – Teitl Anhysbys’ ar y ddewislen
  • trwy ddefnyddio’ch cyfrif e-wasanaethau Busnes, gallwch weld trwy MapSearch

Os oes angen copïau swyddogol o’r datganiad cymuned cyfunddaliad neu’r erthyglau cyweithio arnoch, rhaid i chi wneud cais ar ffurflen OC2.

Os bydd angen copïau swyddogol o fersiynau blaenorol y datganiad cymuned cyfunddaliad neu’r erthyglau cyweithio arnoch rhaid i chi wneud cais trwy’r post neu DX i swyddfa briodol Cofrestrfa Tir EF, ar ffurflen OC2. Rhaid i chi roi manylion llawn yn adran ‘Dogfennau sydd heb gyfeiriad atynt yn y gofrestr’ panel 7.

Bydd casgliad o gopïau swyddogol yn cael ei roi i’r ceisydd pan fydd cais i gofrestru cyfunddaliad heb uned-ddalwyr yn cael ei gwblhau. Bydd y casgliad hwn yn cynnwys copïau swyddogol o’r gofrestr a chynllun teitl ar gyfer pob uned yn y datblygiad a nifer cyfatebol o gopïau swyddogol o deitl y rhannau cyffredin ynghyd ag un casgliad ychwanegol o deitl y rhannau cyffredin. Yna gall y ceisydd roi’r rhain i ddarpar brynwyr yr unedau.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol yn cynnwys arweiniad a gwybodaeth ychwanegol o ran gwneud cais am gopïau swyddogol.

7.3 Chwiliadau swyddogol

Nid oes unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer gwneud chwiliad swyddogol o deitl cofrestredig uned gyfunddaliadol neu rannau cyffredin. Cyflwynwch y cais fel y byddech ar gyfer unrhyw chwiliad swyddogol. Mae ffïoedd arferol yn berthnasol.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 12: chwiliadau swyddogol a cheisiadau amlinellol yn egluro sut i gyflwyno cais am chwiliad swyddogol.

8. Treth tir toll stamp (SDLT)

Trafodion tir yw’r rhan fwyaf o drafodion o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 ac felly maent yn agored i dreth tir toll stamp. Os talwyd cydnabyddiaeth fel rhan o’r trafodiad, uwchben y trothwy rhyddhad cyfredol, rhaid cyflwyno tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir.

8.1 Cais i gofrestru cyfunddaliad

Nid yw cais o dan adran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 heb uned-ddalwyr yn drafodiad tir, felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol.

Mae cais o dan adran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 gydag uned-ddalwyr yn drafodiad tir. Os yw cydnabyddiaeth wedi ei thalu yn gyfnewid am ganiatâd, nid yw hyn yn gydnabyddiaeth am dâl, ac ni fydd tystiolaeth SDLT yn ofynnol. Os na thalwyd cydnabyddiaeth o gwbl, ar unrhyw adeg, ni fydd tystiolaeth SDLT yn ofynnol chwaith.

Mae cais o dan adran 9 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002, lle y mae’r prydlesi’n cael eu dileu a’r uned-ddalwyr yn gofrestredig fel perchnogion yr unedau, nid cyfnewid yw hyn. Mae’r uned yn cael ei “chaffael” yn gyfnewid am roi’r caniatâd, nid yn gyfnewid am y brydles yn cael ei therfynu. Felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol.

8.2 Cais i beidio â bod yn gyfunddaliad yn ystod y cyfnod pontio

Nid yw cais o dan adran 8(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002 lle y mae tir yn peidio â bod yn gofrestredig fel cyfunddaliad yn ystod y cyfnod pontio yn drafodiad tir. Felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol.

8.3 Cais i gofrestru breinio rhannau cyffredin yn y gymdeithas cyfunddaliad ar ddiwedd y cyfnod pontio

Mae breinio’r rhannau cyffredin yn y gymdeithas cyfunddaliad yn drafodiad tir, am ei fod yn gaffaeliad o fudd taladwy trwy weithredu’r gyfraith. Fel arfer, ni fydd cydnabyddiaeth am dâl am y math hwn o drafodiad tir. Os, yn achlysurol, y ceir cydnabyddiaeth am dâl, mae tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir yn ofynnol os yw’r gydnabyddiaeth am dâl uwchben y trothwy SDLT.

8.4 Cais i gofrestru tir o fewn cyfunddaliad

Pan fo tir yn cael ei drosglwyddo o fewn cyfunddaliad, sy’n golygu pan fo’r tir yn cael ei drosglwyddo o un uned i’r llall neu o’r rhannau cyffredin i uned, mae’r rhain yn drafodion tir arferol. Os yw cydnabyddiaeth am werth yn cael ei thalu, mae tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir yn ofynnol oni bai bod y gydnabyddiaeth, ynghyd ag unrhyw gydnabyddiaeth am unrhyw drafodiad cysylltiedig, yn llai na £40,000. Os felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol. Os nad yw cydnabyddiaeth yn cael ei thalu, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol chwaith.

8.5 Cais i ychwanegu tir at gyfunddaliad

Pan fo’r tir sy’n cael ei ychwanegu wedi ei brynu gan drydydd partïon, mae’r rhain yn drafodion tir arferol. Os yw cydnabyddiaeth am werth yn cael ei thalu, mae tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir yn ofynnol oni bai bod y gydnabyddiaeth, ynghyd ag unrhyw gydnabyddiaeth am unrhyw drafodiad cysylltiedig, yn llai na £40,000. Os felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol. Os nad yw cydnabyddiaeth yn cael ei thalu, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol.

8.6 Cais i gofrestru olynydd cymdeithas cyfunddaliad

Rhaid cyflwyno tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir os yw cydnabyddiaeth wedi ei thalu fel rhan o’r trafodiad, uwchben y trothwy rhyddhad cyfredol.

8.7 Cais i newid y datganiad cymuned cyfunddaliad a/neu newid yr erthyglau cyweithio

Nid yw cais i gofrestru’r datganiad cymuned cyfunddaliad wedi ei newid yn cael ei ystyried yn drafodiad tir ac felly nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol.

Nid yw gwneud newid i’r erthyglau cyweithio yn drafodiad tir.

Fodd bynnag, o dan adran 30(4) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002, lle ceir ailddiffiniad o faint y rhannau cyffredin trwy ychwanegiad tir a fu gynt yn rhan o uned, ac mae’r tir yn breinio yn y rhannau cyffredin trwy statud, y newid i’r datganiad cymuned cyfunddaliad fydd y trafodiad tir. Os telir cydnabyddiaeth am werth, mae tystysgrif Dychwelyd Trafodiad Tir yn ofynnol oni bai bod y gydnabyddiaeth, ynghyd ag unrhyw gydnabyddiaeth am unrhyw drafodiad cysylltiedig, yn llai na £40,000, ac os felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol. Os nad oes cydnabyddiaeth wedi ei thalu, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol.

8.8 Ildio hawliau datblygwr

Gan fod y trafodiad hwn yn weithred unochrog gan y datblygwr ac nad oes parti arall yn gysylltiedig, ni fydd SDLT yn ofynnol.

8.9 Terfynu cyfunddaliad

8.9.1 Dirwyn i ben gwirfoddol

Nid yw dirwyn i ben gwirfoddol cymdeithas cyfunddaliad yn drafodiad tir. Felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol pan wneir cais i derfynu cofrestriad cyfunddaliad o dan adran 49 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002.

8.9.2 Dirwyn i ben gan y llys heb orchymyn olyniaeth

Nid yw dirwyn i ben cymdeithas cyfunddaliad yn drafodiad tir. Felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol pan wneir cais i derfynu cofrestriad cyfunddaliad o dan adran 54 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002.

8.9.3 Dirwyn i ben gan y llys gyda gorchymyn olyniaeth

Mae cofrestru olynydd cymdeithas cyfunddaliad yn drafodiad tir. Os telir cydnabyddiaeth, mae tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir yn ofynnol os yw’r gydnabyddiaeth sydd i’w thalu uwchben y trothwy SDLT (£125,000 o ran eiddo preswyl a £150,000 am eiddo nad ydynt yn rhai preswyl neu’n gymysg). Os yw’r gydnabyddiaeth sydd i’w thalu’n is na’r swm hwn, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol.

8.9.4 Terfynu gan orchymyn llys

Nid yw terfynu cyfunddaliad trwy orchymyn llys yn drafodiad tir. Felly, nid yw tystiolaeth SDLT yn ofynnol pan wneir cais i derfynu cofrestriad cyfunddaliad o dan adran 55 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Lesddaliad 2002.

9. Ffïoedd: yn gyffredinol

Mae’r ffïoedd sy’n daladwy am geisiadau cyfunddaliad fel a bennwyd gan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

10. Ceisiadau yn effeithio ar gofrestriadau cyfunddaliad

Gall y trafodion Cofrestrfa Tir EF arferol, yn amodol ar gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad, effeithio ar deitlau rhannau cyffredin ac uned. Mae’r drefn a ffïoedd cofrestru tir arferol yn berthnasol i’r ceisiadau hyn. Er enghraifft, oherwydd bod y rhannau cyffredin yn cael eu cofrestru o dan un teitl a phob uned unigol o dan deitl ar wahân, mae gwerthiant pob uned yn drosglwyddiad o’r cyfan a dylid ei gyflwyno ar ffurflen TR1 gyda’r ffi berthnasol sy’n daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Mae’r canlynol yn rhoi manylion ffactorau arbennig sy’n effeithio ar rai ceisiadau cyfunddaliad.

10.1 Ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y cyfunddaliad cyn gwerthu’r uned olaf

Gan fod y datblygwr yn cadw budd yn y cyfunddaliad nes caiff yr uned olaf ei gwerthu, bydd unrhyw gais ar gyfer un neu fwy o’r teitlau sy’n dal ym mherchnogaeth y datblygwr (a’r datblygwr yn barti ynddynt) yn cael ei drin gan Gofrestrfa Tir EF fel pe bai’r cais yn effeithio ar un teitl yn unig.

Os yw’r delio am werth, mae ffïoedd graddfa 1 yn berthnasol ar sail gwerth y trafodiad. Ffïoedd am geisiadau eraill: mae ffïoedd graddfa 2 neu Atodlen 3 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol yn berthnasol.

10.2 Trosglwyddiad gan y datblygwr

Gall datblygwr fod eisiau trosglwyddo’r cyfunddaliad i ddatblygwr arall yn ystod y cyfnod pontio. Nid yw hyn yn dynodi diwedd y cyfnod pontio os yw’r holl unedau’n cael eu trosglwyddo, am nad yw gwerthiant yr uned gyntaf yn digwydd.

Caiff y ffi ei hasesu naill ai o dan raddfa 1 os yw’r trafodiad am werth neu raddfa 2 y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol ar werth y trafodiad neu werth yr ystad gofrestredig.

10.3 Diwedd y cyfnod pontio

Wrth werthu’r uned gyntaf mewn datblygiad newydd daw’r cyfnod pontio i ben pryd y bydd teitl y rhannau cyffredin yn breinio yn y gymdeithas cyfunddaliad a chofnodion yn cael eu dileu o holl deitlau uned.

Nid oes dim i’w dalu o ran breinio’r rhannau cyffredin na dileu’r cofnodion o’r cofrestri pan ddaw’r cyfnod pontio i ben.

11. Atodiad A: Enghraifft o gynllun datganiad cymuned cyfunddaliad preswyl

Residential commonhold community statement plan with unit boundaries marked in red.

12. Atodiad B: darparu datganiad o wirionedd

Dull o ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais yw datganiad o wirionedd. Ar neu ar ôl 10 Tachwedd 2008, o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Reolau Cyfunddaliad (Cofrestru Tir) (Newidiad) 2008, rhaid ei gynnwys gyda ffurflen CM1, ffurflen CM2 a ffurflen CM4 yn lle datganiad statudol.

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ei fabwysiadu yn dilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd sifil trwy dderbyn datganiad o wirionedd fel tystiolaeth yn lle affidafid neu ddatganiad statudol.

(i) Gofynion

At ddibenion cofrestru tir, diffinnir datganiad o wirionedd fel a ganlyn:

  • Mae’n cael ei wneud yn ysgrifenedig gan unigolyn
  • Rhaid iddo gael ei lofnodi gan y sawl sy’n ei wneud (oni bai nad ydynt yn gallu ei lofnodi – gweler (iii) isod
  • Nid oes rhaid iddo gael ei dyngu neu ei dystio
  • Rhaid iddo gynnwys datganiad o wirionedd ar y ffurf ganlynol: ‘Credaf fod y ffeithiau a materion a gynhwysir yn y datganiad hwn yn wir.’
  • Os yw trawsgludwr yn gwneud datganiad neu yn ei lofnodi ar ran rhywun, rhaid i’r trawsgludwr ei lofnodi yn ei enw ei hun a datgan ym mha rinwedd mae’n llofnodi – gweler (iv) isod

(ii) Datganiad o wirionedd a lofnodir gan unigolyn nad yw’n gallu darllen

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei lofnodi gan unigolyn nad yw’n gallu darllen, rhaid iddo:

  • gael ei lofnodi ym mhresenoldeb trawsgludwr, a
  • chynnwys tystysgrif wedi’i llunio a’i llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:

‘’Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir i’r sawl sy’n gwneud y datganiad hwn sydd wedi ei lofnodi neu wedi gwneud [ei farc][ei marc] yn fy mhresenoldeb ar ôl iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.’

(iii) Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi, rhaid iddo:

  • nodi enw llawn yr unigolyn hwnnw
  • gael ei lofnodi gan drawsgludwr yn ôl cyfarwyddyd ac ar ran yr unigolyn hwnnw, a
  • chynnwys tystysgrif wedi’i llunio a’i llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:

‘’Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio bod [y sawl sy’n gwneud y datganiad o wirionedd hwn wedi ei ddarllen yn fy mhresenoldeb, wedi cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac wedi fy nghyfarwyddo i’w lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] neu [fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir i’r sawl sy’n gwneud y datganiad hwn sydd wedi fy nghyfarwyddo i’w lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] ar ôl iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.’

(iv) Llofnod gan drawsgludwr

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan drawsgludwr, neu os yw trawsgludwr yn gwneud a llofnodi tystysgrif ar ran rhywun sydd wedi gwneud datganiad ond nad yw’n gallu ei ddarllen neu ei lofnodi:

  • rhaid i’r trawsgludwr lofnodi yn ei enw ei hun ac nid yn enw ei gwmni neu ei gyflogwr, a
  • rhaid i’r trawsgludwr ddatgan ym mha rinwedd mae’n llofnodi a, lle bo’n briodol, enw ei gwmni neu ei gyflogwr

13. Pethau i’w cofio

Dylech bob amser sicrhau:

  • eich bod wedi amgáu’r holl ddogfennau cywir
  • eich bod wedi defnyddio a llofnodi’r ffurflen gais gywir
  • eich bod wedi amgáu’r ffi gywir (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)
  • bod y cynlluniau’n cydymffurfio â Cynllun y datganiad cymuned cyfunddaliad
  • eich bod wedi cyflwyno’r holl gydsyniadau gofynnol
  • eich bod wedi cyflwyno cais i gofrestru’r datganiad cymuned cyfunddaliad diwygiedig hefyd, os yw eich cais i gofrestru newid ym maint uned neu’r rhannau cyffredin
  • eich bod yn gwirio’r manylion clerigol yn yr holl ffurflenni a gweithredoedd (yn enwedig arwystlon a morgeisi) gan dalu sylw arbennig i’r holl ddyddiadau, disgrifiadau eiddo, rhifau teitl ac enwau llawn partïon, yn enwedig lle maent yn ymddangos mewn mwy nag un weithred

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.