Siarter cwsmeriaid Tŷ’r Cwmnïau
Cyhoeddwyd 6 Chwefror 2020
1. Ein gwasanaeth i chi
Byddwn:
-
yn gymwynasgar, moesgar a pharchus
-
yn ymddiheuro os ydym yn gwneud camgymeriad, ac yn ei gywiro
-
yn peidio â gwneud addewidion na allwn eu cadw
-
yn defnyddio Cymraeg/Saesneg clir ac yn osgoi jargon lle bo’n bosibl
-
yn anelu at ddarparu gwasanaethau ar-lein 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn
Bydd ein canolfan gysylltu ar gael i ateb eich cwestiynau rhwng 8:30am a 6pm (dydd Llun i ddydd Gwener).
2. Pan fyddwch yn cysylltu â ni
Byddwn:
-
yn ateb eich cwestiwn o fewn yr amserlenni a gytunwyd
-
yn rhoi enw a thîm y person sy’n ymdrin â’ch cwestiwn
-
yn eich helpu â’ch cwestiwn cymaint ag y gallwn
-
yn ymateb i’r holl bwyntiau a godwyd
-
yn esbonio pethau’n glir os nad ydych yn cael y canlyniad yr oeddech yn gobeithio amdano
-
yn rhoi cyngor ar y camau nesaf os nad ydych yn fodlon – darllen ein trefn gwyno
-
yn ateb yn Gymraeg os ydych wedi cysylltu â ni yn Gymraeg neu os ydych wedi dweud wrthym yr hoffech gael gohebiaeth ddwyieithog
-
yn helpu cwsmeriaid mae angen cymorth arnynt oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd – cael gwybod sut rydym yn cynorthwyo defnyddwyr ag anghenion o ran hygyrchedd
3. Ein staff
Byddwn yn sicrhau bod ein staff:
-
wedi cael hyfforddiant llawn ar eu meysydd pwnc
-
yn lleihau cymaint â phosibl yr adegau pan fydd rhaid iddynt drosglwyddo cwestiynau i dîm arall
-
yn rheoli’ch holl wybodaeth yn unol â’r GDPR – darllen ein siarter gwybodaeth bersonol
-
wedi’u hyfforddi i gynorthwyo ein cwsmeriaid sydd mewn sefyllfaoedd agored i niwed i’w helpu nhw i fodloni eu rhwymedigaethau statudol
4. Sut y gallwch chi ein helpu
Gofynnwn eich bod:
-
yn ymwybodol o’ch rhwymedigaethau statudol ac yn cysylltu â ni os ydych yn cael trafferth i fodloni’ch terfynau amser
-
yn rhoi’r wybodaeth gywir inni ar yr adeg gywir
-
yn defnyddio ein gwasanaethau digidol (rhai tudalennau Saesneg yn unig) i’ch helpu chi i ffeilio neu chwilio am wybodaeth am gwmnïau
-
yn trin ein staff â pharch
-
yn gofyn inni esbonio unrhyw beth nad ydych chi’n siŵr ohono
5. Sut wnaethom ni?
Rydym yn croesawu adborth ac awgrymiadau am sut y gallwn wella ein gwasanaeth i chi.
Rhowch wybod inni sut y gwnaethom drwy gwblhau ein harolwg boddhad cwsmeriaid (Saesneg yn unig)
6. Sut i ddweud diolch
Os hoffech ddweud diolch a rhoi gwybod inni am unigolyn neu dîm yn Nhŷ’r Cwmnïau a roddodd wasanaeth rhagorol ichi, anfonwch neges e-bost at [email protected].