Adroddiad corfforaethol

Adroddiad monitro iaith Cymraeg Tŷ'r Cwmnïau, 2020 i 2021

Cyhoeddwyd 6 Awst 2021

1. Cyflwyniad

Paratowyd Cynllun iaith gymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg a chafodd gymeradwyaeth lawn gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 20 Ebrill 2010.

Mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

Bu flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn heriol gyda’r sefyllfa oherwydd COVID-19 ond rydym yn falch iawn i adrodd bod datblygiadau cyffrous wedi digwydd gyda’r ddarpariaeth Gymraeg yma yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Rydym wedi sefydlu ein Huned yr Iaith Gymraeg newydd diwedd Medi a Rheolwr yr Uned sydd nawr yn gyfrifol am weithrediad ein cynllun iaith yma yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Ar hyn o bryd mae 2 aelod o staff yn yr Uned ac yr ydym yn gobeithio tyfu hyn yn y dyfodol wrth i ni ddatblygu ein gwasanaethau Cymraeg ymhellach

Rydym hefyd wedi cynnal Pwyllgor iaith Gymraeg sy’n cyfarfod yn rheolaidd i fonitro cynnydd a pherfformiad, ynghyd â thîm o siaradwyr Cymraeg gallwn ymgynghori ar faterion bob dydd. Daw aelodaeth y pwyllgor o bob rhan o’r sefydliad, gan gynnwys ein Cyfarwyddwr Cyflenwi Trawsnewid sy’n gweithredu fel Cadeirydd.

2. Dehongliad

Ystyr “cwmni/PAC Cymreig” yw cwmni neu partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC), yn ôl diffiniad adran 88 o Ddeddf 2006 (fel y’u cymhwysir i PAC), sydd wedi hysbysu’r Cofrestrydd y lleolir ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru. Adeg corffori, rhaid i gwmni ddweud a yw’n bwriadu lleoli ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru, Lloegr a Chymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Rhaid i gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni fod yn y wlad y maent wedi datgan y lleolir ei swyddfa gofrestredig ynddi.

Caiff cwmni Cymreig dewis o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 cael enw Cymraeg a therfyniad enw Cymraeg (h.y. cyfyngedig, cwmni cyfyngedig cyhoeddus) a chaiff ffeilio dogfennau statudol yn Gymraeg. Gall cwmni Lloegr a Chymru fod â chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru neu Loegr, ond ni all y cwmni gael enw Cymraeg na therfyniad enw Cymraeg, ac ni chaiff ffeilio dogfennau statudol yn Gymraeg.

3. Cyflawniadau

Mae’r cyfnod adrodd presennol wedi gweld Tŷ’r Cwmnïau yn adeiladu ar yr amgylchedd trawsnewidiol a diwygio 2019 i 2020. Yn ystod y cyfnod eithriadol o brysur yma, adeiladodd y sefydliad ar ei waith i gyflawni newidiadau sylfaenol i’r ffordd y mae’n gweithredu ac yn cyfrannu at feithrin hyder yn economi’r DU.

Gyda COVID-19 roedd rhaid trawsnewid ein gwasanaethau ac annog fwy o bobl i gyfathrebu gyda ni ar-lein a rhoddwyd systemau mewn lle i sicrhau roedd popeth dal gallu rhedeg yn esmwyth i’r cwsmer.

Roedd natur ddigynsail argyfwng COVID-19 yn golygu bod yn rhaid i ni drawsnewid ein gwasanaethau ymhellach fyth ac annog mwy o bobl i gyfathrebu â ni ar-lein. Rhoddwyd systemau ar waith i sicrhau y gallai popeth barhau i redeg yn esmwyth i’r cwsmer ac roedd ein gwasanaethau Cymraeg yn elfen allweddol.

Mae ymrwymiad parhaus Tŷ’r Cwmnïau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid Cymraeg wedi bod yn ystyriaeth bwysig drwy gydol y broses hon. Gan adeiladu ar ganfyddiadau ein hadolygiad mewnol, a gweithio gydag adrannau ac asiantaethau gweithredol eraill, rydym yn falch o gyhoeddi datblygiad ein huned iaith Gymraeg yn Nhŷ’r Cwmnïau ers mis Medi 2021.

Ar hyn o bryd mae 2 aelod o staff yn gweithio yn yr uned i wella’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd ac i gefnogi’r gwasanaethau sydd eisoes ar gael. Mae uned yr iaith Gymraeg yn cysylltu â rhwydwaith o gydweithwyr sy’n siarad Cymraeg ar draws Tŷ’r Cwmnïau i’w cefnogi yn eu rôl.

Ein nod yw cynyddu nifer y cwsmeriaid sy’n defnyddio ein gwasanaethau Cymraeg yn y dyfodol. Mae uned y gymraeg yn gweithredu fel hyrwyddwr dwyieithrwydd ar draws Tŷ’r Cwmnïau i gyd.

4. Cydymffurfio â’r cynllun iaith Gymraeg

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo o hyd i gydymffurfio â’i Gynllun Iaith Gymraeg, a rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, cyflawnodd y canlynol:

Cyfarfu Pwyllgor Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau bob yn ail fis er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Chynllun Iaith Tŷ’r Cwmnïau ac adolygu cynnydd yn erbyn y Cynllun Gweithredu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn. Hefyd cynhaliwyd cyfarfodydd gwasanaeth Cymraeg i ystyried y gwasanaeth a gynigir i gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.

Parhaodd tîm o siaradwyr Cymraeg o wahanol fannau yn Nhŷ’r Cwmnïau i ymateb i ymholiadau cwsmeriaid. Yn ystod y cyfnod, cafodd ein Canolfan Gyswllt 21 o alwadau Cymraeg, a chawsant 17 e-bost yn y Gymraeg. Roedd y llinellau ffon ar gau yn ystod mis Ebrill a Mehefin oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ond mae’r galwadau dal yn uwch na’r adroddiad llynedd.

Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, cysylltodd 26 o gwsmeriaid oedd yn siarad Cymraeg â Tŷ’r Cwmnïau yn uniongyrchol i godi ymholiadau cyffredinol, gan gynnwys:

  • cymorth i ddiwygio erthyglau a newid cyfeiriad, ac i gywiro manylion cofnodion cenedligrwydd oedd yn anghywir ar y rhestr

  • cadarnhau bod dogfennau wedi dod i law, a gofyn am gymorth i ffeilio dogfennau

  • cadarnhad ynghylch sut i newid manylion cyfarwyddwr ar ddatganiad cadarnhau

  • cymorth wrth ddiddymu cwmni

  • cymorth ar sut i ffeilio cyfrifon

  • cymorth ar sut i osod cwmni budd cymunedol (CBC)

Daliwyd ati i sicrhau bod y ffurflenni sy’n cael eu ffeilio’n fwyaf cyffredin ar gael yn ddwyieithog, ar bapur ac yn electronig.

Oherwydd argyfwng COVID-19, bu’n rhaid i Tŷ’r Cwmnïau addasu i ateb heriau a achoswyd gan y cwarantin a’r rhyddid i symud yn gyfyngedig. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol i ddatblygiad ein gwasanaethau digidol. Gweithiodd uned yr iaith Gymraeg yn agos gyda’r timau digidol i ddatblygu sawl system newydd i fod ar gael yn ddwyieithog.

Mae uned y Gymraeg hefyd yn mynychu sesiynau gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (Llywodraeth Cymru) er mwyn rhannu arfer da a thrafod sut gallwn wella gwasanaethau dwyieithog a hefyd annog pobl i ddewis y Gymraeg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.

Rydym wedi dal ati i adolygu canllawiau Tŷ’r Cwmnïau i sicrhau bod canllawiau perthnasol sy’n cael eu llunio gan Tŷ’r Cwmnïau ar gael yn ddwyieithog, ac eithrio’r rhai penodol nad ydynt yn berthnasol i gwmnïau cymreig (canllawiau ar faterion sy’n effeithio ar gwmnïau’r Alban yn unig).

Mae cwsmeriaid sy’n gohebu â Tŷ’r Cwmnïau yn Gymraeg yn cael ateb yn y Gymraeg. Mae pob adran yn Tŷ’r Cwmnïau yn cyfathrebu gyda’n huned y Gymraeg newydd er mwyn sicrhau bod y cwsmer yn cael ateb yn yr iaith a dymunant. Mae’r uned yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar gyfer pob adran.

Rydym ers mis Medi 2020 wedi gosod marciwr Cymraeg ar bob cwmni Cymraeg er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn gohebiaeth ddwyieithog ar draws y sefydliad. Nid ydym bellach yn gofyn i’r cwsmer cofrestri am y gwasanaeth hwn. Roedd yn bwysig bod y cynnig yn un rhagweithiol ac nad oedd angen iddynt ofyn am ohebiaeth Cymraeg.

Cyfieithwyd pob set o gyfrifon Cymraeg a dderbyniwyd gan gwmnïau Cymraeg i’r Saesneg ar gyfer y cofnod cyhoeddus, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Yn ogystal, gwnaethom barhau i gyfieithu gohebiaeth i’r Gymraeg i fodloni gofynion ein cynllun iaith. Roedd hyn yn cynnwys llythyrau, canllawiau, a gwaith prosiect, ar gyfer y wefan a’r gwasanaethau ar-lein.

Roedd yr holl gontractau a gyhoeddwyd yn cynnwys cymal i sicrhau bod ein partneriaid gwasanaethu’n cydymffurfio â rhwymedigaethau Tŷ’r Cwmnïau o ran y Gymraeg.

Parhaodd Tŷ’r Cwmnïau ati i gyfrannu at Bwyllgor CALL rhyngadrannol Llywodraeth y DU. Mae’r pwyllgor yn tynnu cynrychiolwyr o unedau Cymraeg amrywiol adrannau Llywodraeth y DU ynghyd yn rheolaidd, ac mae’n fforwm delfrydol i rannu arferion gorau ac i ddod o hyd i atebion er mwyn gwella ein gwasanaethau Cymraeg, gyda golwg ar sicrhau dull mwy safonol o weithredu ar draws y llywodraeth. Darparodd cydweithwyr o’r Pwyllgor CALL gymorth i sefydlu’r uned y Gymraeg yn Tŷ’r Cwmnïau.

5. Prif-ffrydio’r Gymraeg

Ystyriodd Tŷ’r Cwmnïau y Gymraeg yn y ffyrdd canlynol:

Parhaodd y sefydliad i ystyried ein gwasanaethau Cymraeg ar gam cynnar ym mhob prosiect trwy gynnwys y Gymraeg yn rhestrau cyfeirio’r holl reolwyr prosiect ac mewn cynlluniau datblygu eraill. Mae rheolwr uned y Gymraeg yn eistedd ar wahanol baneli i yrru hyn yn ei flaen.

Rhoesom flaenoriaeth i’n cynnwys GOV.UK Cymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf. Cyfieithwyd pob adran o’n tudalen hafan yr oedd modd ei chyfieithu i’r Gymraeg. Cyfieithwyd ein tudalennau gwybodaeth gorfforaethol hefyd. Rydym nawr wrthi yn diweddaru ein cyfarwyddyd i Cwmniiau ar gyfer GOV.UK.

Fe gyfieithon ni’r rhan fwyaf o’n tudalennau canllaw a’n straeon newyddion dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fe gyhoeddon ni blog am ein huned Cymraeg newydd ym Mawrth 2021, roedd yn bwysig i hysbysu ein cwsmeriaid am ein gwasanaethau Cymraeg a gobeithio, trwy hyn, annog rhagor o gwsmeriaid i gysylltu gyda ni yn y Gymraeg. Darllenwch fwy am gefnogi busnesau gyda’n gwasanaethau Cymreig.

Parhawyd i gynyddu nifer y negeseuon Cymraeg sy’n cael eu rhannu ar ein cyfrif Trydar a Facebook corfforaethol, sydd â dros 20,000 o ddilynwyr erbyn hyn. Yn ystod 2020 i 2021, fe wnaethom bostio o leiaf 2 drydariad Cymraeg yr wythnos. Amlygodd y trydari hyn ein cynnwys Cymraeg gan gynnwys fideos, canllawiau ar-lein a graffeg newydd i dynnu sylw at ein gwasanaethau Cymraeg.

Diweddarwyd ein bywgraffiad Trydar a Facebook i annog y cyhoedd i ofyn cwestiynau yn Gymraeg.

Ers mis Ionawr 2021, mae dros 22,000 o bobl wedi darllen ein post Cymraeg ar Drydar.

6. Dangosyddion perfformiad

Yn ystod y cyfnod adrodd, corfforwyd 7,732 (6,351 llynedd) o gwmnïau Cymreig a 22 PAC ag awdurdodaeth Gymreig. Roedd cyfanswm o 810,323 o gwmnïau a 5,666 o PACau wedi eu corffori yn ystod y cyfnod hwn.

Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd yna 29, 973 o gwmnïau Cymreig (26,014 llynedd) a 158 o PACau Cymreig ar y gofrestr, o’u cymharu â chyfanswm o 4,716,126 o gwmnïau a 52,261 PAC.

Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd yna 1,604 o gwmnïau Cymreig (1,432 llynedd) ac 7 PAC Cymreig ar y gofrestr oedd wedi eu corffori â therfyniad enw Cymraeg. Cafodd 267 o gwmnïau Cymraeg (233 llynedd) a 0 PAC Cymreig eu corffori â therfyniad enw Cymraeg yn 2020 i 2021.

7. Canolfan gyswllt Tŷ’r Cwmnïau

Yn ystod y cyfnod adrodd, roedd dau aelod o staff amser llawn oedd yn siarad Cymraeg yn y ganolfan gyswllt. Mae gofyniad contractio i ddarparu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae unrhyw recriwtio yn nodi bod y Gymraeg yn ddymunol. Mae ymarfer recriwtio parhaus ar gael.

Os oes cwsmer yn gofyn yn benodol am gael siarad â siaradwr Cymraeg, ond nad oes un ar gael, rydyn ni’n cynnig y dewis i’r cwsmer o barhau â’r sgwrs yn Saesneg, neu ofyn am rif ffôn i gysylltu â’r cwsmer fel bod siaradwr Cymraeg yn gallu cysylltu â nhw’n uniongyrchol yn unol â’n cynllun iaith Gymraeg.

Mae gan Tŷ’r Cwmnïau hefyd grŵp dynodedig a all ymateb i ymholiadau sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Caiff holl aelodau’r staff wybod am hyn drwy ein cyfathrebiadau mewnol.

Mae’r uned y Gymraeg nawr yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r ganolfan gyswllt i sicrhau fod pawb yn deall pwysigrwydd cael darpariaeth Cymraeg, dim ots pa mor fach yw’r nifer sydd yn cysylltu gyda ni ar hyn o bryd.

Mae uned y Gymraeg yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda’r siaradwyr Cymraeg yn y ganolfan gyswllt i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle i ymarfer y Gymraeg gan fod y canran o alwadau Cymraeg ar hyn o fryd yn fach.

8. Y dderbynfa gyhoeddus

Mae’r dderbynfa gyhoeddus wedi bod ar gau ers mis Mai 2020 oherwydd cyfyngiadau COVID-19 ond fel arfer, mae’r mwyafrif helaeth o’n cysylltiadau â chwsmeriaid yn digwydd ar lein neu trwy gysylltiadau post. Mae staff derbynfeydd Tŷ’r Cwmnïau yn gallu cynnig cyfarchion yn y Gymraeg, ac mae arwydd clir i hysbysu ymwelwyr fod gwasanaeth Cymraeg ar gael. Mae gan staff y dderbynfa restr o staff sy’n siarad Cymraeg y gallant gysylltu â nhw.

Mi fydd uned y Gymraeg hefyd yn cefnogi’r staff hwn gyda’u sgiliau Cymraeg.

9. Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth iaith

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi parhau i hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu’r Gymraeg i’n staff a chynyddu’r defnydd o Gymraeg yn y gweithle.

Mae uned y Gymraeg ers cael ei sefydlu ym mis Medi wedi cychwyn cynnal digwyddiadau ar-lein misol ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn Tŷ’r Cwmnïau. Mae rheolwr yr uned wedi bod yn mynychu cyfarfodydd tîm pob adran er mwyn adnabod y dysgwyr a siaradwyr Cymraeg ac wedyn wedi ei hychwanegu i’r grŵp siarad misol. Trwy hyn, mae hyder y staff i siarad yr iaith wed mynd o nerth i nerth.

Mae uned y Gymraeg hefyd yn rhoi erthyglau rheolaidd a geirfa Gymraeg ar dudalen Intranet Tŷ’r Cwmnïau. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth ac wedi sicrhau bod gan y Gymraeg amlygrwydd ar draws Tŷ’r Cwmnïau i gyd.

Mae uned y Gymraeg hefyd wedi sefydlu tudalen cymdeithasol mewnol eleni er mwyn rhannu adnoddau dysgu ee adnoddau i helpu rhieni di Gymraeg gyda’i phlant adref ac i gyfathrebu gyda staff yr adeilad a rhannu unrhyw newyddion. Dyma safle i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ac i unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg.

Cynhaliodd uned y Gymraeg sesiwn Gymraeg gyda’r rhwydwaith teuluoedd yma yn Tŷ’r Cwmnïau.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnig cyfleoedd i ddysgu Cymraeg i’w holl staff yn unol â’i Gynllun Addysg i Oedolion. Mae’r sefydliad wedi rhoi cefnogaeth lwyr i bawb sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn trwy dalu costau eu cyrsiau ac unrhyw arholiadau, a thrwy ganiatáu amser iddynt astudio.

Mae 4 aelod o staff wrthi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn ariannu’r dysgu hwn.

Mae uned y Gymraeg hefyd wedi bod yn cynnal cyfarfodydd gyda’r tiwtoriaid o ‘Dysgu Cymraeg’ er mwyn gobeithio dechrau gwersi Cymraeg ar-lein o fis Medi 2021 ymlaen ar gyfer staff sydd eisiau dysgu.

Mae uned y Gymraeg wedi bod yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith gyda phob adran ers mis Medi 2020.

Mi fydd Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i hyrwyddo a chefnogi diwrnodau gwirfoddoli, ac rydyn ni’n credu bod y rhain yn ffordd gadarnhaol o gyfrannu at y gymuned leol wrth ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg. Yn anffodus roedd COVID-19 wedi cyfyngu ar y nifer a gynhaliwyd.

10. Cwynion

Nifer y cwynion a gafwyd am ddiffyg darpariaeth gwasanaethau yn Gymraeg a’r camau a gymerwyd i ddatrys y cwynion:

Yn ystod y cyfnod adrodd yma, cysylltodd cwsmeriaid â Tŷ’r Cwmnïau ar 4 achlysur ynghylch ei wasanaeth Cymraeg. Mae’r ffigwr yma’n is na’r cyfnod adrodd diwethaf a welodd 8 cwyn.

Crynodeb o’r cwynion

Cafodd 2 cwsmer problemau wrth geisio talu ar ein sgrin Cymraeg, nid oedd yr un broblem i’w weld ar yr ochr Saesneg. Mae hwn bellach wedi ei sortio.

Cyflwynodd cwmni ei gyfrifon yn electronig yn Saesneg wrth gyflwyno cyfrifon papur yn Gymraeg. Dadleuodd y cwmni ei fod wedi gwneud hynny am nad oedd yn gallu ffeilio cyfrifon dwyieithog ar lein. Cafodd y mater ei ddatrys er boddhad y cwmni.

Rydym yn gobeithio sefydlu system newydd a fydd yn neud hi yn bosib i gwsmeriaid i ffeilio ar-lein yn y Gymraeg hefyd yn y dyfodol.

Roedd un cwsmer wedi cwyno gan nad oedd wedi gallu siarad â siaradwr Cymraeg wrth wneud galwad. Ers hynny mae uned yr iaith Gymraeg wedi gwneud yn siŵr bod system ar waith fel nad yw hyn yn digwydd eto.

11. Casgliad

Mi fydd uned yr iaith Gymraeg a’r Pwyllgor yn parhau i sicrhau bod Tŷ’r Cwmnïau yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o dan y cynllun iaith Gymraeg ac yn gweld y pwysigrwydd o gynnig rhagweithiol i’n cwsmeriaid.

Rydym yn ymrwymo o hyd i ddarparu gwasanaeth Cymraeg rhagorol ar gyfer ein cwsmeriaid ac mi fyddwn yn cydweithio gyda phob adran yng Tŷ’r Cwmnïau i hybu dwyieithrwydd ar draws y sefydliad. Rydym yn gyffrous iawn am ddyfodol y Gymraeg yma yn Nhŷ’r Cwmnïau.

12. Cynllun gweithredu

Deddfwriaeth a mentrau

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Adolygu’r cynllun gweithredu pob chwarter Bob chwarter Uned y Gymraeg Adolygwyd cynnwys y Cynllun Gweithredu fel rhan o waith Pwyllgor y Gymraeg a gyfarfu yn chwarterol yn 2020 i 2021.
Adolygu’r cynllun strategol pob chwarter i gyd-fynd â’r Cynllun Gweithredu ar yr iaith Gymraeg Bob chwarter Uned y Gymraeg Mae ein hymrwymiad i wasanaethau Cymraeg yn sail i ddau o’n nodau strategol allweddol: Gwasanaethau gwych sy’n rhoi profiad gwych i ddefnyddwyr a Chofrestri data sy’n ennyn ymddiriedaeth a hyder.
Ystyried sut y bydd polisïau, prosiectau a datblygiadau newydd yn cydymffurfio â’r ymrwymiadau a nodir yn y Cynllun Iaith Gymraeg Yn parhau Uned y Gymraeg Rydyn ni wedi parhau a byddwn yn parhau, i ystyried ein Cynllun Iaith wrth gychwyn polisïau, prosiectau a datblygiadau newydd
Galluogi cwmnïau Cymreig i fwynhau “Profiad Cymraeg” wrth gorffori Hydref 2012 Cyflawni atebion busnes Cwblhawyd hyn yn Hydref 2012.
Galluogi corffori ar-lein llawn i gwmnïau Cymreig yn Nhŷ’r Cwmnïau Mawrth 2013 Cyflawni atebion busnes Cwblhawyd hyn ar 6 Ebrill 2013.
Gwella’r gwasanaeth Newid Enw ar WebFiling er mwyn cynhyrchu cyfieithiad o’r dystysgrif. Mawrth 2013 Y Gyfarwyddiaeth Cyflawni ar gyfer Cwsmeriaid Wrth inni ddatblygu gwasanaeth beta Tŷ’r Cwmnïau ymhellach ar gyfer cwsmeriaid, mae Tŷ’r Cwmnïau yn datblygu rhagor o wasanaethau sy’n defnyddio’r Gymraeg o ddechrau’r broses i’w diwedd. Rydym nawr wedi dechrau ar y gwaith yma.

Staffio

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Cynnal yr hyfforddiant iaith cyfredol, gan dargedu sgiliau Cymraeg llafar Yn parhau Uned yr iaith Gymraeg / Adnoddau dynol Mae Uned y Gymraeg wedi bod yn cyfarfod gyda thiwtor Dysgu Cymraeg er mwyn dechrau gwersi Cymraeg ym mis Medi. Mae Uned y Gymraeg hefyd yn rhoi cyfleoedd i bobl siarad ac ymarfer ei hiaith yn y gweithle. Mae’n bwysig bod y staff yn teimlo y gallant ddod â’u holl hunain i’r gwaith a rhan o hyn yw gallu defnyddio eu hiaith ddewisol yn y gweithle.
Sicrhau bod staff sy’n medru’r Gymraeg yn yr holl brif feysydd gweithredol er mwyn darparu gwasanaeth ar gyfer cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg Yn parhau Cyfarwyddwyr Mae Tŷ’r Cwmnïau yn sicrhau bod staff sy’n medru’r Gymraeg ar gael ym mhob maes er mwyn archwilio gwybodaeth sy’n cael ei ffeilio yn Gymraeg ac ymateb i gwsmeriaid yn y Gymraeg.
Hyrwyddo’r hyn sy’n ofynnol o Tŷ’r Cwmnïau o dan y Cynllun Iaith yn fewnol, gan sicrhau bod staff yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gwybod ble i droi am gymorth. Yn parhau Uned y Gymraeg / Strategaeth a pholisi Defnyddiwyd y safle mewnrwyd yn rheolaidd i dynnu sylw ein staff at ein hymrwymiad i’n Cynllun Iaith. Mae Uned y Gymraeg hefyd wedi bod yn neud sesiynau gyda’r holl adrannau ac mae pob un nawr yn gwybod pa systemau i’w ddilyn gyda’r iaith Gymraeg a chwsmeriaid Cymraeg.
Cynnal tîm Cymraeg yn Tŷ’r Cwmnïau i ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg a chynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod problemau a chynnydd Yn parhau Uned y Gymraeg / Cyflawni ar gyfer cwsmeriaid Mae tîm y Gymraeg wedi parhau i fod ar gael ac wedi cyfarfod yn rheolaidd.

Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, arddangosfeydd, hysbysebion a datganiadau i’r wasg

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn mynychu pob digwyddiad yng Nghymru lle mae presenoldeb gan Tŷ’r Cwmnïau Yn parhau Y tîm digwyddiadau Ni does digwyddiadau wedi bod eleni oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Sicrhau bod deunydd darllen Cymraeg ar gael mewn digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru Yn parhau Y tîm digwyddiadau Ni does digwyddiadau wedi bod eleni oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
Sicrhau bod hysbysebion a datganiadau i’r wasg sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru ar gael yn Gymraeg Yn parhau Adnoddau dynol/TGCh Lle cyhoeddir hysbysebion swyddi yn y wasg Gymraeg maent yn ddwyieithog, fodd bynnag nid oes cyfleuster ar gyfer hysbyseb swydd ddwyieithog ar wefan swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

Cyhoeddiadau a ffurflenni

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod holl gyhoeddiadau Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r fersiynau Saesneg Yn parhau Strategaeth a pholisi Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i sicrhau bod cyhoeddiadau Cymraeg yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r cyhoeddiadau Saesneg.
Sicrhau bod yr holl ffurflenni statudol Cymraeg yn cael eu diweddaru’r un pryd â’r fersiynau Saesneg Yn parhau Strategaeth a pholisi Mae Tŷ’r Cwmnïau yn dal i sicrhau bod ffurflenni Cymraeg yn cael eu diweddaru ar yr un pryd â ffurflenni Saesneg.
Monitro defnydd o lythyrau er mwyn sicrhau bod fersiynau Cymraeg yn cael eu defnyddio pan fo hynny’n briodol Yn parhau Datblygu newid busnes Mae Tŷ’r Cwmnïau yn dal i fonitro’r defnydd o lythyrau er mwyn sicrhau y darperir ateb yn Gymraeg lle bo angen. Drwy gydol y cyfnod mae ein tîm Cymorth Cyflawni i Gwsmeriaid wedi adolygu’r ddarpariaeth o lythyrau Cymraeg gennym ni.

Gwefannau

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod y wefan Gymraeg yn cael ei diweddaru’r un pryd â’r fersiwn Saesneg, pan fo hynny’n briodol, a bod y wybodaeth ar y wefan Gymraeg yn gyfoes. Yn parhau Uned y Gymraeg / Cyfathrebu allanol Parhawyd i gynyddu’r cynnwys Cymraeg ar GOV.UK. Mae Uned y Gymraeg yn monitro hyn ac yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda’r tim cyfathrebu allanol er mwyn gweithredu ar hwn.
Cyfryngau cymdeithasol     Rydym yn neud yn siwr bod cynnwys Cymraeg yn mynd ar Facebook a Twitter yn aml. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau fod cwsmeriaid yn cyfathrebu gyda ni yn y Gymraeg. Mae gennym neges ar bob safle i ddweud ein bod yn croesawi gohebiaeth yn y Gymraeg.

Cyfarfodydd wyneb yn wyneb

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod modd i gwsmeriaid ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg os ydynt am gynnal eu busnes yn Gymraeg Yn parhau Uned y Gymraeg / Gwasanaethau i Gwsmeriaid Mae Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i gynnig y gwasanaeth hwn, ond ni chafwyd unrhyw geisiadau amdano yn ystod y cyfnod adrodd a mae hyn wedi cael ei heffeithio gan COVID-19.

Cyfathrebu dros y ffôn

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod modd i gwsmeriaid sydd am gynnal eu busnes yn Gymraeg ofyn am gael siarad â siaradwr Cymraeg. Yn parhau Uned y Gymraeg / Gwasanaethau i gwsmeriaid / Canolfan gyswllt / Uned yr iaith Gymraeg Mae system mewn lle i wneud yn siŵr fod y cwsmer yn gallu cyfathrebu gyda ni yn ei iaith ddewisol. Mae Uned y Gymraeg yn cynnal cyfarfodydd cyson gyda’r ganolfan gyswllt a’r adrannau gwahanol i wneud yn siwr fod y system yn effeithiol.

Arwyddion

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod yr holl arwyddion cyhoeddus yn swyddfa Caerdydd yn ddwyieithog Yn parhau Gwasanaethau’r adeiladau / Uned y Gymraeg Cynhyrchir yr holl arwyddion cyhoeddus yn ddwyieithog.

Cwynion

Camau angenrheidiol Dyddiad targed Perchennog Cynnydd hyd yn hyn / nodiadau
Sicrhau bod cwynion am wasanaethau Cymraeg Tŷ’r Cwmnïau yn cael eu harchwilio’n fanwl ac yn cael eu datrys yn brydlon, a hynny’n unol â threfn gwynion arferol Tŷ’r Cwmnïau Yn parhau Uned y Gymraeg Paragraff 10 o’r adroddiad.
Monitro’r cwynion am wasanaethau dwyieithog Yn parhau Uned y Gymraeg Mae uned y Gymraeg yn monitro’r holl gwynion am y gwasanaeth dwyieithog yn unol â pharagraff 10 o’r adroddiad.