Cynlluniau Cyfranddaliadau sy’n rhoi Mantais Dreth i Gyflogeion — Cosbau am beidio â bodloni’r gofynion ar gyfer y statws ‘rhoi mantais dreth’ — CC/FS33
Diweddarwyd 26 Awst 2024
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am gosbau y gallwn eu codi os nad yw’ch cynllun cyfranddaliadau yn bodloni’r gofynion ar gyfer y statws ‘rhoi mantais dreth’.
Y cynlluniau cyfranddaliadau sy’n rhoi mantais dreth sydd dan sylw yn y daflen wybodaeth hon yw:
- Cynlluniau Cymell Cyfranddaliadau (SIP), Atodlen 2
- Cynlluniau opsiwn Cynilo Wrth Ennill (SAYE), Atodlen 3
- Cynlluniau Opsiwn Prynu Cyfranddaliadau Cwmni (CSOP), Atodlen 4
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.
Pryd y gallwn godi cosb arnoch am wallau
Efallai y byddwn yn codi cosb arnoch os ydym, ar ôl cynnal gwiriad cydymffurfio, yn gweld nad yw’r cynllun yn bodloni’r gofynion ar gyfer y statws ‘rhoi mantais dreth’.
Mae swm unrhyw gosb yn dibynnu ar p’un a yw’r gwall yn un ‘difrifol’ neu’n ‘llai difrifol’. Wrth benderfynu ar hyn, rydym yn ystyried ffeithiau ac amgylchiadau’r gwall.
Mae gwall ‘difrifol’ yn wall sylfaenol neu sylweddol yn rheolau’r cynllun neu yn y modd y caiff y cynllun ei weithredu.
Mae gwall ‘llai difrifol’ yn wall y gellir ei unioni drwy ddiwygio neu gywiro rheolau’r cynllun.
Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb
Gwall difrifol
Ar gyfer gwallau difrifol, rydym yn codi cosbau sy’n gysylltiedig â threth fel canran o’r rhyddhad Treth Incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) a roddir neu sy’n ddyledus ar opsiynau a ganiatawyd i gyflogeion. Yn ôl y gyfraith, gallwn godi hyd at ddwywaith swm y rhyddhad treth a CYG a roddir neu sy’n ddyledus ond byddai hyn yn anarferol.
Bydd cosb isaf yn berthnasol. Bydd hyn:
- yn gyfwerth â chyfanswm y Dreth Incwm a’r CYG rydym yn amcangyfrif y byddai wedi bod yn daladwy pe na fyddai’r cynllun wedi’i weithredu mewn modd sy’n rhoi mantais dreth
- ar gyfer y cyfnod rhwng y dyddiad pan ddechreuodd y gwall difrifol a dyddiad yr hysbysiad cau, neu’r dyddiad a nodwyd yn yr hysbysiad hwnnw
Wrth bennu swm y gosb, rydym yn ystyried a oedd y datgeliad wedi’i annog neu heb ei annog.
‘Datgeliad heb ei annog’ yw pan rydych yn rhoi gwybod i ni am wall cyn bod gennych reswm i gredu ein bod wedi’i ddarganfod, neu ar fin ei ddarganfod. ‘Datgeliad wedi’i annog’ yw pan eich bod yn rhoi gwybod i ni am wall ar unrhyw adeg arall.
Unwaith ein bod wedi cychwyn gwiriad, dim ond os yw’r canlynol yn wir yr ystyrir bod datgeliad yn un heb ei annog:
- mae’n ymwneud â gwall amherthnasol
- nid oedd gennych reswm dros gredu y byddem yn dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad
Cyfrifir y gostyngiad yn sgil datgeliad fel a ganlyn:
- datgeliad heb ei annog — caiff uchafswm y gosb ei ostwng i 100% o gyfanswm y dreth a’r CYG a fyddai wedi bod yn daladwy
- datgeliad wedi’i annog — caiff uchafswm y gosb ei ostwng i 150% o gyfanswm y dreth a’r CYG a fyddai wedi bod yn daladwy
- dim datgeliad — bydd y gosb yn parhau i fod ar yr uchafswm
Dyma 2 enghraifft o wallau difrifol ar gyfer datgeliadau ‘heb ei annog’ ac ‘wedi’i annog’.
Rydym wedi penderfynu bod y gwall yn ddifrifol a bod y datgeliad heb ei annog
Yn yr enghraifft hon, rydym wedi cyfrifo mai £50,000 yw swm y rhyddhad treth a CYG a roddir.
Mae’r gosb yn seiliedig ar ddwywaith swm y rhyddhad treth a CYG, felly yn yr enghraifft hon, y gosb fyddai £50,000.
Dwywaith swm y rhyddhad treth a CYG | £100,000 |
Llai’r gostyngiad yn sgil datgeliad heb ei annog o 100% o swm y rhyddhad treth a CYG | £50,000 |
Y gosb sy’n ddyledus | £50,000 |
Rydym wedi penderfynu bod y gwall yn ddifrifol a bod y datgeliad wedi’i annog
Yn yr enghraifft hon, rydym wedi cyfrifo mai £50,000 yw swm y rhyddhad treth a CYG a roddir.
Dwywaith swm y rhyddhad treth a CYG | £100,000 |
Llai’r gostyngiad yn sgil datgeliad wedi’i annog o 50% o swm y rhyddhad treth a CYG | £25,000 |
Y gosb sy’n ddyledus | £75,000 |
Gwallau llai difrifol
Ar gyfer gwallau llai difrifol rydym yn dechrau gyda’r uchafswm, sef y lleiaf o naill ai £5,000 neu gyfanswm y rhyddhad treth a CYG a roddwyd neu sy’n ddyledus.
Er mwyn cyfrifo’r gosb, rydym yn ystyried a oedd y datgeliad wedi’i annog neu heb ei annog.
Caiff y gosb ei gyfrifo fel a ganlyn:
- datgeliad heb ei annog — caiff y gosb ei ostwng gan 100%
- datgeliad wedi’i annog — caiff y gosb ei ostwng gan 50%
- dim datgeliad — bydd y gosb yn parhau i fod ar yr uchafswm
Enghraifft o wall llai difrifol
Yn yr enghraifft hon, £4,000 yw cyfanswm y rhyddhad treth a CYG a roddir neu sy’n ddyledus, felly £4,000 yw uchafswm y gosb. Mae’r datgeliad wedi’i annog.
Swm y rhyddhad treth a CYG | £4,000 |
Llai’r gostyngiad yn sgil datgeliad wedi’i annog o 50% o swm y rhyddhad treth a CYG | £2,000 |
Y gosb sy’n ddyledus | £2,000 |
Pan fyddwn yn ystyried gwall i fod yn wall ‘llai difrifol’, byddwn yn gofyn i chi ‘drwsio’ neu gywiro’r gwall. Byddwn yn gofyn i chi wneud hyn cyn pen 90 diwrnod i un o’r canlynol:
- diwedd cyfnod apelio’r penderfyniad
- y dyddiad y caiff unrhyw apêl yn erbyn y penderfyniad ei bennu neu ei dynnu’n ôl
Os na fyddwch yn cywiro’r gwallau hyn, byddwn yn codi cosb bellach arnoch. Bydd hon yn seiliedig ar swm y rhyddhad treth a CYG a roddir neu sy’n ddyledus ar ddyfarniadau cyfranddaliadau neu opsiynau a ganiatawyd i gyflogeion. Yn ôl y gyfraith, mae uchafswm y gosb y gallwn ei chodi yn ddwywaith swm y rhyddhad treth a CYG a roddir neu sy’n ddyledus ond byddai hyn yn anarferol.
Caiff y gosb bellach hon ei chyfrifo yn yr un modd â ‘cosb ddifrifol’.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau i apelio, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEF’, yna edrychwch o dan y pennawd ‘Arweiniad eraill’ am ‘HMRC1’.
Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig i chi pan fyddwn yn ystyried codi cosbau penodol. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw’r hawliau hyn yn berthnasol ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEF’, yna edrychwch o dan y pennawd ‘Gwiriadau Cydymffurfio’.
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Rhagor o wybodaeth
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.