Canllawiau

Cynlluniau Cyfranddaliadau sy’n rhoi Mantais Dreth i Gyflogeion — Cosb am Anghywirdeb — CC/FS32

Diweddarwyd 26 Awst 2024

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am gosbau y gallwn eu codi os yw eich datganiad blynyddol yn cynnwys anghywirdeb sylweddol.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Pryd y gallwn godi cosb arnoch am anghywirdeb sylweddol

Gallwn godi cosb o hyd at £5,000 arnoch os ydym, ar ôl cynnal gwiriad cydymffurfio, yn penderfynu fod y datganiad yn cynnwys gwall sylweddol, ac:

  • nid ydych wedi anfon datganiad wedi’i ddiwygio atom
  • roedd yr anghywirdeb yn esgeulus, neu’n fwriadol (rydym yn cyfeirio at y rhain fel ’ymddygiadau’ ac yn eu hesbonio’n hwyrach yn y daflen wybodaeth hon)

Mae’n rhaid i gwmni gyflwyno datganiad wedi’i ddiwygio os:

  • daw’n ymwybodol nad oedd gwybodaeth wedi’i chynnwys yn y ffurflen a gyflwynwyd
  • yw’n dod yn ymwybodol fod y datganiad a gyflwynwyd yn cynnwys rhywbeth na ddylai fod wedi ei gynnwys
  • yw’n canfod unrhyw wall neu anghywirdeb arall yn y datganiad

Unwaith bod y cwmni wedi canfod anghywirdeb, mae’n rhaid iddo gyflwyno’r datganiad wedi’i ddiwygio, heb oedi.

Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosb y gallwn ei chodi

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roddwch i ni pan fyddwch yn gwneud datgeliad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’ neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o wneud datgeliad yn cynnwys:

  • dweud wrthym fod rhywbeth o’i le, neu gytuno bod rhywbeth o’i le — a sut a pham y digwyddodd
  • rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch am i ba raddau y mae rhywbeth o’i le, cyn gynted â’ch bod yn gwybod amdano
  • dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
  • ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon
  • ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb
  • ein helpu drwy wirio’ch cofnodion er mwyn canfod graddau’r anghywirdeb
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rheiny y gwnaethom ofyn am gael eu gweld

Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os ydych yn gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i ni popeth y gallwch am unrhyw anghywirdeb cyn gynted â’ch bod yn dod i wybod amdano
  • yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai.

Os na fydd angen cymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi’r gostyngiad llawn i chi y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu am ddweud, helpu a rhoi.

Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb

Mae 5 cam wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach fel a ganlyn.

1. Pennu ein barn ar yr ‘ymddygiad’

Pan fo anghywirdeb, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod beth wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb a swm y gosb. Mae dau fath o ymddygiad, mae’r rhain fel a ganlyn.

Esgeulus

Dyma pan wnaethoch fethu â chymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn.

Bwriadol

Dyma pan oeddech yn gwybod fod Ffurflen Dreth neu ddogfen yn anghywir pan wnaethoch ei chyflwyno i ni.

2. Penderfynu ar ystod y gosb

Mae canran y gosb yn syrthio i mewn i un o 2 ystod. Mae’r ystod y mae’n syrthio iddo’n dibynnu ar y math o ymddygiad. Oriau agor y Mae’r 2 ystod cosb yn cael eu dangos yn y tabl canlynol.

Math o ymddygiad Ystod cosb
Esgeulus 0% i 30%
Bwriadol 35% i 100%

3. Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad

Mae ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi), yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y cosbau. Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
  • helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
  • rhoi mynediad at gofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30%

4. Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Daethom o hyd i anghywirdeb esgeulus nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano, cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am yr anghywirdeb, roedd yn cytuno â ni.

Ystod y gosb am anghywirdeb esgeulus sy’n fwriadol, gyda datgeliad wedi’i annog, yw 0% i 30% o’r uchafswm y gellir ei godi, sef £5,000.

Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn 70%.

Camau Cyfrifiad
Er mwyn cyfrifo’r gyfradd canran cosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng y canrannau cosb isaf ac uchaf. 30% minws 0% = 30%
Yna, rydym yn dileu’r gostyngiad canran o’r ganran gosb uchaf y gallwn ei chodi. 30% × 70% = 21%
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. 30% llai 21% = 9%

5. Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r uchafswm y gallwn ei godi gyda chyfradd ganrannol y gosb. Er enghraifft, y gosb i’w thalu byddai £450 (£5,000 × 9% = £450).

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut yr ydym wedi’i chyfrifo. Os nad ydych yn cytuno â’r gosb, neu os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth nad ydym eisoes wedi’i hystyried, dylech ddweud wrthym ar unwaith.

Yr hyn sy’n digwydd os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol. Er enghraifft:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur
  • cam-gyfleu’n anonest eich rhwymedigaeth i dalu treth, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych yr hawl iddynt

Rhaglen Rheoli Diffygdalwyr Difrifol

Os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, efallai y bydd angen i ni fonitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘Rheoli Diffygdalwyr Difrifol’. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS14’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. I gael rhagor o wybodaeth am eich hawl i apelio, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEF’, yna edrychwch o dan y pennawd ‘Arweiniad eraill’ am ‘HMRC1’.

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig i chi pan fyddwn yn ystyried codi cosbau penodol. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw’r hawliau hyn yn berthnasol ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEF’, yna edrychwch o dan y pennawd ‘Gwiriadau Cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Rhagor o wybodaeth

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.