Datganiadau ar gyfer cyflogwyr a chontractwyr a ‘hen’ reolau cosb — CC/FS19
Diweddarwyd 25 Chwefror 2022
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am yr ‘hen’ reolau cosb a pha bryd maent yn berthnasol.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i’r dudalen ynghylch taflenni gwybodaeth am wiriadau cydymffurfio CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ‘gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch’.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Pam rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi
Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi oherwydd ein bod yn gwirio a ydych wedi cyflwyno datganiad hwyr neu anghywir ar gyfer cyflogwr neu gontractwr am gyfnod cyn i’n rheolau cosb newydd gychwyn. Os yw cosbau hefyd yn ddyledus o dan y rheolau cosb newydd, bydd y swyddog sy’n cynnal y gwiriad cydymffurfio yn rhoi gwybod i chi ar gyfer pa ddatganiadau a pha flynyddoedd mae’r cosbau’n berthnasol. Bydd y swyddog hefyd yn rhoi taflen wybodaeth i chi sy’n esbonio sut rydym yn cyfrifo’r cosbau hynny.
I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau cosb newydd, gweler y taflenni gwybodaeth canlynol:
- CC/FS7a, ‘Cosbau am anghywirdebau mewn Ffurflenni Treth neu ddogfennau’
- CC/FS11, ‘Cosbau am fethu â hysbysu’
- CC/FS18b, ‘ynghylch cosbau am fethu â chyflwyno datganiaau mewn pryd — Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)’ (yn agor tudalen Saesneg)
Mae gweddill y daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am yr hen reolau cosb.
Mae’r hen reolau cosb yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
-
datganiadau P35 a P14 anghywir ar gyfer blwyddyn dreth 2007 i 2008 ac yn gynt
-
datganiadau anghywir ar gyfer contractwr a oedd i’w cyflwyno ar neu cyn 19 Mawrth 2009
-
datganiadau P11D(b) CYG Dosbarth 1A anghywir ar gyfer blwyddyn dreth 2009 i 2010 ac yn gynt
-
datganiadau hwyr ar gyfer contractwr a oedd i’w cyflwyno ar neu cyn 19 Hydref 2011
-
datganiadau P35 a P14 hwyr a oedd i’w cyflwyno ar gyfer blwyddyn dreth 2013 i 2014 ac yn gynt
-
methiant i gyflwyno’r Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI) terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2012 i 2013 erbyn 19 Ebrill 2013, ac nid oedd yr wybodaeth wedi’i chyflwyno ar Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) cyn 19 Mai 2013
Mae’r hen reolau cosb hefyd yn berthnasol ar gyfer pob blwyddyn i’r canlynol:
-
datganiadau P11D anghywir
-
datganiadau P11D hwyr
-
datganiadau P11D(b) Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A hwyr
Pryd, o bosibl, y bydd yn rhaid i chi dalu cosb
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb:
-
os nad ydych yn cyflwyno datganiad mewn pryd, neu os nad ydych yn rhoi gwybod eich bod yn agored i dalu treth, neu os oes gwall ar ddatganiad
-
os, o ganlyniad, ydych wedi tanddatgan swm y dreth TWE, cyfraniadau Yswiriant Gwladol, didyniadau Benthyciad Myfyriwr neu ddidyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu yr oeddech yn agored i’w talu
Gallwn godi cosb arnoch sy’n ymwneud â threth o dan yr hen reolau cosb os yw’r gwall neu’r methiant wedi codi o ganlyniad i esgeulustod neu dwyll ar eich rhan.
Y gwahanol fathau o gosbau a sut y cânt eu cyfrifo
Cosbau penodol
Mae rhai cosbau ar gyfer swm penodol. Er enghraifft, os ydych yn cyflwyno’ch datganiad blynyddol y cyflogwr (P35) yn hwyr, bydd y gosb am yr un swm penodol ar gyfer pob mis mae’r datganiad yn hwyr. Bydd faint a godwn arnoch yn dibynnu ar faint o bobl a ddylai fod ar y datganiad. Mae rhai cosbau penodol wedi’u capio i uchafswm.
Uchafswm cosb o swm sefydlog
Mae gan rai cosbau uchafswm sydd wedi’i osod yn ôl y gyfraith. Er enghraifft, os yw’ch datganiad P11D (treuliau a buddiannau) yn anghywir oherwydd esgeulustod neu dwyll ar eich rhan, uchafswm y gosb yw £3,000 ar gyfer pob datganiad anghywir. Byddwn yn penderfynu pa gosb i’w chodi arnoch, hyd at yr uchafswm, ar ôl ystyried eich amgylchiadau penodol.
Cosbau sy’n seiliedig ar dariffau
Mae rhai cosbau’n seiliedig ar dariffau. Mae’r gosb fel arfer yn cynyddu po fwyaf o weithiau rydych yn cael rhywbeth yn anghywir. Er enghraifft, os ydych yn anfon datganiad misol y contractwr (CIS3000) fwy na 12 mis yn hwyr, gallwn godi uchafswm cosb o £3,000 arnoch. Fodd bynnag, codwn gosb is arnoch y tro cyntaf yr ydych yn gwneud hyn, ond bydd y gosb yn cynyddu po fwyaf o weithiau mae’n digwydd.
Cosbau cychwynnol a dyddiol
Mae’r cosbau hyn mewn 2 ran. Os ydych yn methu â gwneud rhywbeth y dylech fod wedi’i wneud, er enghraifft, os ydych yn methu â chyflwyno datganiad P11D neu P9D, byddwn yn codi cosb gychwynnol arnoch. Byddwn, wedyn, yn codi cosbau dyddiol arnoch hyd nes y byddwch yn unioni’r methiant.
Cosbau sy’n ymwneud â threth
Codwn gosbau sy’n ymwneud â threth fel canran o’r gwahaniaeth rhwng y swm y dylech fod wedi’i dalu neu ei ddatgan i ni a’r swm a dalwyd neu a ddatganwyd gennych i ni mewn gwirionedd. Gall y ganran y gallwn ei chodi arnoch fod hyd at 100% o’r gwahaniaeth. Er enghraifft, os dylech fod wedi talu neu ddatgan £10,000 ond y swm a dalwyd neu a ddatganwyd gennych oedd £6,000, mae’n bosibl y codwn gosb hyd at £4,000 arnoch.
Er mwyn cyfrifo canran y gosb y byddwn yn ei chodi, rydym yn cychwyn gyda 100% ac yna’n gostwng y ganran honno, gan ddibynnu ar 3 pheth — datgelu, cydweithredu a difrifoldeb. Esbonnir y rhain isod. Po orau yw’r datgelu a chydweithredu, y mwyaf y gostyngiad y gallwn ei roi i ganran y gosb.
Datgelu — faint rydych yn rhoi gwybod i ni am y gwall neu fethiant
Os ydych yn gwneud datgeliad llawn ar gychwyn ein gwiriad cydymffurfio, fel arfer gallwn ostwng y gosb hyd at 20%. Serch hynny, os ydych yn gwneud datgeliad llawn cyn i ni gychwyn ein gwiriad pan nad oedd gennych reswm i gredu y byddem yn dod i wybod am y gwall neu’r methiant, gallwn ostwng y gosb hyd at 30%.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni fod rhywbeth o’i le tan yn agos at ddiwedd ein gwiriad, bach iawn fydd y gostyngiad a rown i chi am y datgeliad, os o gwbl. Bydd maint y gostyngiad yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol.
Cydweithredu — pa mor dda rydych yn cydweithredu â ni yn ystod y gwiriad cydymffurfio
Gallwn ostwng y gosb hyd at 40% am gydweithredu.
Mae cydweithredu yn cynnwys:
- caniatáu i ni gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom yn gyflym
- rhoi cofnodion i ni pan fyddwn yn gofyn amdanynt
- cytuno i gwrdd â ni os credwn y byddai hynny’n ein helpu gyda’n gwiriad
- ateb ein cwestiynau mor gyflawn a chywir ag y bo modd
- rhoi’r holl ffeithiau perthnasol i ni
- gwneud taliad tuag at unrhyw beth sydd arnoch i ni, cyn i ni gyfrifo’r ffigur terfynol — rydym yn galw hwn yn ‘daliad ar gyfrif’
Os byddwch yn gwneud y canlynol:
- oedi wrth roi i ni’r wybodaeth sydd ei hangen arnom
- rhoi atebion camarweiniol i ni a rhwystro’n gwiriad yn gyffredinol,
byddwn yn rhoi ychydig iawn o ostyngiad, neu ddim gostyngiad o gwbl, i chi am gydweithredu.
Difrifoldeb — difrifoldeb cyffredinol y gwallau yn eich Ffurflen Dreth neu’r methiant i roi gwybod i ni am eich rhwymedigaeth i dalu treth
Gallwn ostwng y gosb hyd at 40% yn amodol ar ddifrifoldeb cyffredinol y gwallau neu’r methiant. Bydd maint y gostyngiad y gallwn ei roi yn dibynnu ar:
- yr hyn a wnaethoch i gael pethau’n anghywir
- y rhesymau pam y cawsoch bethau’n anghywir
- pa mor hir y gwnaethoch barhau i gael pethau’n anghywir
- swm yr arian dan sylw
Os, drwy esgeulustod, gwnaethoch wall syml yn ymwneud â swm cymharol fach o dreth, efallai y rhown ostyngiad sylweddol i chi.
Os oeddech wedi ceisio osgoi treth yn fwriadol, bach iawn fydd y gostyngiad a rown i chi, os o gwbl.
Ar ôl i ni ystyried datgelu, cydweithredu a difrifoldeb, byddwn yn cynnal trafodaeth â chi ynghylch maint canran y gosb rydym yn credu sy’n addas. Os ydych yn meddwl bod yna rywbeth sy’n effeithio ar faint y gosb nad ydym wedi’i ystyried, dywedwch wrthym. Byddwn yn ystyried yr hyn sydd gennych i’w ddweud. Os byddwn yn cytuno â chi, byddwn yn gostwng canran y gosb.
Enghraifft o sut rydym yn cyfrifo cosb sy’n ymwneud â threth
Swm y dylid bod wedi’i ddangos ar y datganiad | £10,000 |
---|---|
Y swm a ddangosir ar y datganiad mewn gwirionedd | £6,000 |
Gwahaniaeth (sef ar beth y codir y gosb) | £4,000 |
Ar ôl ystyried yr holl ffeithiau, y gostyngiadau i ganran y gosb yw:
Datgelu | 10% |
---|---|
Cydweithredu | 25% |
Difrifoldeb | 25% |
Cyfanswm y gostyngiad | 60% |
Mae uchafswm cosb o 100% llai gostyngiad o 60% yn golygu mai’r gosb i’w chodi yw 40%. Yn yr enghraifft hon, y gosb i’w thalu fyddai £1,600 (£4,000 × 40% = £1,600).
Sut y gallwch dalu unrhyw dreth, llog a chosbau sy’n ddyledus
Byddwn yn cyfrifo’r swm cywir mae angen i chi ei dalu, gan gynnwys unrhyw log. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am y cosbau sy’n ddyledus. Yna:
- os byddwn yn cytuno ar y symiau sy’n ddyledus, byddwn yn eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r dreth, y llog a’r cosbau
- os na allwn gytuno ar y symiau sy’n ddyledus, byddwn yn anfon hysbysiadau o benderfyniad atoch yn dangos y dreth a’r cosbau yr ydym yn ystyried eu bod yn ddyledus ar gyfer pob cyfnod treth — byddwn yn egluro’r hysbysiadau o benderfyniadau hyn i chi ar y pryd
Byddwn yn cyfrifo llog yn awtomatig ar y dreth sy’n ddyledus.
Os ydych yn anghytuno
Os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, rhowch wybod i ni.
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
- cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
- trefnu i dribiwnlys annibynnol wrando ar eich apêl a phenderfynu ar y mater
Pa un bynnag a ddewiswch, mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEF weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a rown ar hyn.
Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, gweler y taflenni gwybodaeth canlynol:
Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried cosbau
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:
- os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb — eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
- wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol — yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
- os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu unrhyw gosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio — os byddwch yn apelio yn erbyn y dreth a’r cosbau hefyd, mae gennych yr hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
- mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau
- mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol
Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
Yr hyn sy’n digwydd os ydych yn rhoi gwybodaeth i ni ac yn gwybod ei bod yn anwir
Mae’n bosibl y gwnawn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o’ch erlyn, os byddwch yn:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
- cam-gyfleu’ch rhwymedigaeth i dreth yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt
Rhagor o wybodaeth
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.