Canllawiau

Hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti — CC/FS23

Diweddarwyd 22 Hydref 2021

Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi oherwydd naill ai:

  • rydym wedi rhoi hysbysiad gwybodaeth trydydd parti i chi
  • rydym yn bwriadu gofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n ymdrin â threth gymeradwyo ein cais i roi hysbysiad gwybodaeth trydydd parti i chi

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r gwiriad hwn, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Beth yw hysbysiad gwybodaeth trydydd parti

Dogfen yw hysbysiad gwybodaeth trydydd parti sy’n ei wneud yn ofynnol, yn ôl y gyfraith, i berson roi gwybodaeth a/neu ddogfennau penodol i ni er mwyn ein helpu i wirio sefyllfa dreth person arall.

Rydym yn cyfeirio at y person y byddwn yn gwirio ei sefyllfa dreth fel y ‘parti cyntaf’, ac rydym yn cyfeirio at y person rydym am gael gwybodaeth a/neu ddogfennau ganddo fel y ‘trydydd parti’. Ar gyfer y daflen wybodaeth hon a’n hysbysiad gwybodaeth trydydd parti, chi yw’r trydydd parti.

Pan fyddwn yn defnyddio hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti

Weithiau, pan fyddwn yn gwirio sefyllfa dreth unigolyn (y parti cyntaf), mae’n bosibl y bydd angen gwybodaeth arnom gan drydydd parti. Gallai hyn fod oherwydd y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • nid yw’r parti cyntaf wedi gallu rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom, neu mae wedi gwrthod ei rhoi i ni
  • mae angen i ni wirio trafodion busnes neu ariannol sydd wedi digwydd, a hynny mewn ffordd annibynnol

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn bod yr wybodaeth y mae ei hangen arnom yn cael ei hanfon atom yn wirfoddol, neu mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio hysbysiad gwybodaeth os oes angen i ni wneud hynny neu os yw’n well gan y trydydd parti ein bod yn gwneud hynny.

Pan fydd angen caniatâd arnom i ddefnyddio hysbysiad trydydd parti

Pan fydd angen gwybodaeth a/neu ddogfennau arnom gan drydydd parti, byddwn fel arfer yn gofyn i’r parti cyntaf gytuno ein bod yn anfon hysbysiad gwybodaeth at drydydd parti. Weithiau, byddwn yn gofyn i’r tribiwnlys treth annibynnol gymeradwyo ein bod yn anfon hysbysiad trydydd parti.

Os ydym yn bwriadu gofyn i dribiwnlys annibynnol gymeradwyo ein bod yn anfon hysbysiad trydydd parti, byddwn fel arfer yn rhoi’r cyfle i’r parti cyntaf a’r trydydd parti roi gwybod i ni am unrhyw broblem sydd gan y trydydd parti wrth roi’r wybodaeth a/neu’r dogfennau rydym yn bwriadu gofyn amdanynt. Er enghraifft, byddwn yn rhoi cyfle i’r ddau barti roi gwybod i ni os ydynt yn credu y byddai’n rhy feichus i gydymffurfio â gofyniad yn yr hysbysiad. Os yw’r naill barti neu’r llall yn mynegi unrhyw bryderon, byddwn yn tynnu sylw’r tribiwnlys atynt fel y gellir eu hystyried wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo ein bod yn anfon yr hysbysiad.

Pan fydd hysbysiad gwybodaeth trydydd parti yn gofyn am gofnodion busnes y mae’n ofynnol i’r trydydd parti eu cadw yn ôl cyfraith treth, does dim angen cytundeb y parti cyntaf arnom, na chymeradwyaeth y tribiwnlys, cyn anfon hysbysiad gwybodaeth trydydd parti ar eu cyfer.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol pan fyddwn yn gwirio sefyllfa Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf un neu fwy o’r partneriaid mewn partneriaeth. Os yw’r rheolau hyn yn berthnasol, byddwn yn eu hegluro i chi.

Beth fydd yr hysbysiad gwybodaeth trydydd parti yn ei amlinellu

Os byddwn yn anfon hysbysiad gwybodaeth trydydd parti atoch, bydd yn rhoi’r wybodaeth ganlynol i chi:

  • enw’r person y mae’n ymwneud ag ef (oni bai bod y tribiwnlys wedi penderfynu nad oes angen iddo wneud hynny)
  • pa ddogfennau a/neu wybodaeth y mae’n rhaid i chi eu rhoi i ni
  • sut a phryd i roi’r hyn sydd ei angen arnom
  • manylion unrhyw hawl i apelio

Pa wybodaeth a dogfennau y gallwn ofyn amdanynt mewn hysbysiad gwybodaeth trydydd parti

Gallwn ofyn am wybodaeth a/neu ddogfennau os credwn eu bod yn berthnasol i’n gwiriad o sefyllfa dreth y parti cyntaf, a’i bod yn rhesymol gofyn amdanynt.

Pa wybodaeth a dogfennau na allwn ofyn amdanynt mewn hysbysiad gwybodaeth

Ni allwn ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth i ofyn i’r trydydd parti roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni:

  • nad ydynt yn ei feddiant, ac ni all gael y dogfennau, na chopïau, gan bwy bynnag sy’n eu cadw
  • sy’n perthyn i sefyllfa dreth person a fu farw mwy na 4 blynedd cyn anfon yr hysbysiad
  • sydd wedi’u creu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer apêl treth
  • sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â lles corfforol, meddyliol, ysbrydol neu bersonol rhywun
  • sy’n ohebiaeth freintiedig rhwng cyfreithwyr a chleientiaid at ddibenion caffael neu roi cyngor cyfreithiol
  • os yw’r trydydd parti yn archwiliwr, yn ymgynghorydd treth neu’n newyddiadurwr, a bod yr wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu at ddibenion ei broffesiwn
  • os yw’r trydydd parti yn destun deunydd newyddiadurol a bod yr wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu gan newyddiadurwr at ddibenion ei broffesiwn

Gall y rheolau ynglŷn â pha wybodaeth a dogfennau sy’n syrthio i’r categorïau hyn, yn enwedig cyfathrebiadau breintiedig neu bersonol, fod yn gymhleth. Os ydych yn credu y gallai unrhyw beth rydym wedi gofyn amdano syrthio i un neu fwy o’r categorïau hyn, trafodwch hyn gyda’r swyddog a roddodd y daflen wybodaeth hon i chi.

Beth sy’n digwydd cyn i ni ofyn i dribiwnlys annibynnol gymeradwyo ein cais i anfon hysbysiad trydydd parti

Dim ond pan fydd y canlynol yn wir y bydd angen i ni ofyn i dribiwnlys gymeradwyo hysbysiad gwybodaeth trydydd parti:

  • nid yw’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd eu hangen arnom yn gofnodion statudol sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau neu gaffael nwyddau a gwasanaethau
  • nid yw’r person yr ydym yn gwirio ei sefyllfa dreth wedi rhoi caniatâd i ni roi hysbysiad gwybodaeth i’r trydydd parti

Cyn i ni ofyn i dribiwnlys annibynnol gymeradwyo hysbysiad, byddwn fel arfer yn rhoi’r cyfle i’r parti cyntaf a’r trydydd parti gyflwyno sylwadau i’r tribiwnlys ynghylch yr wybodaeth neu’r dogfennau yr ydym yn bwriadu gofyn amdanynt. Fodd bynnag, ni all y parti cyntaf na’r trydydd parti fynychu gwrandawiad y tribiwnlys.

Os ydym wedi ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi ein bod yn bwriadu gofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo ein cais i roi rhybudd trydydd parti i chi, byddwn wedi anfon copi o’r daflen wybodaeth hon atoch. Os ydych am gyflwyno sylwadau, er enghraifft oherwydd eich bod yn credu y byddai’n rhy feichus i gydymffurfio â gofyniad yn yr hysbysiad, rhowch eich rhesymau i ni erbyn y dyddiad yn ein llythyr. Fodd bynnag, os yw’n fwy cyfleus i chi roi’r wybodaeth a/neu’r dogfennau i ni yn wirfoddol cyn i ni ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo’r hysbysiad gwybodaeth, anfonwch yr wybodaeth a/neu’r dogfennau sydd eu hangen arnom at y swyddog Cyllid a Thollau EF (CThEF) a ysgrifennodd atoch.

Beth i’w wneud os ydych yn anghytuno â hysbysiad gwybodaeth trydydd parti

Os byddwn yn anfon hysbysiad gwybodaeth atoch a’ch bod yn credu bod y cais yn afresymol, ac os nad ydym yn cytuno, mae’n bosibl y gallwch apelio i’r tribiwnlys annibynnol sy’n ymdrin ag apeliadau treth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn pan fyddwn yn rhoi’r hysbysiad i chi.

Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad gwybodaeth trydydd parti sydd naill ai wedi’i gymeradwyo gan dribiwnlys annibynnol neu sy’n gais am gofnodion statudol sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r canlynol:

  • cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
  • caffael nwyddau gan aelod-wladwriaeth arall
  • mewnforio nwyddau o rywle y tu allan i’r aelod-wladwriaethau wrth redeg busnes

Gallwch apelio yn erbyn hysbysiad gwybodaeth trydydd parti sydd wedi’i gymeradwyo gan y parti cyntaf dim ond pan fyddai’n rhy feichus i gydymffurfio â’r hysbysiad neu ofyniad yn yr hysbysiad.

Beth sy’n digwydd os byddwch yn methu cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth trydydd parti

Er mwyn cydymffurfio â’r hysbysiad, mae’n rhaid i chi roi popeth y mae’r hysbysiad yn gofyn amdano, erbyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad — neu erbyn dyddiad diweddarach os ydym wedi cytuno ar un gyda chi. Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r hysbysiad, gallwn godi cosb o £300 arnoch. Os ydych yn dal i fod heb gydymffurfio â’r hysbysiad erbyn i ni godi’r gosb o £300, gallwn wedyn godi cosbau dyddiol arnoch o hyd at £60 y dydd am bob diwrnod nad ydych yn cydymffurfio.

Mae’n rhaid bod unrhyw wybodaeth a rowch i ni yn gywir cyn belled â’ch bod yn gwybod. Os ydych yn rhoi gwybodaeth neu ddogfennau i ni, a’ch bod yn gwybod eu bod yn anghywir heb roi gwybod i ni beth sy’n anghywir, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hyd at uchafswm o £3,000.

Os byddwch yn celu, dinistrio neu fel arall yn gwaredu unrhyw ddogfen rydym wedi gofyn amdani mewn hysbysiad a gymeradwywyd gan dribiwnlys, neu’n trefnu iddi gael ei chelu, dinistrio neu ei gwaredu, mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi dalu cosb neu gallech gael eich erlyn. Os byddwn yn codi cosb arnoch, £300 fydd honno. Byddwn wedyn yn codi cosbau dyddiol o hyd at £60 y dydd am bob diwrnod y byddwch yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol, gall y tribiwnlys annibynnol haen uchaf hefyd godi cosb bellach yn seiliedig ar y dreth a roddir mewn perygl gan y methiant i gydymffurfio â’r hysbysiad, celu, gwaredu neu ddinistrio’r ddogfen.

Os byddwn yn cytuno bod gennych esgus rhesymol dros beidio â rhoi gwybodaeth neu ddogfennau i ni, ni fyddwn yn codi cosb arnoch ond byddwn yn dal i ofyn i chi gyflwyno’r wybodaeth, dogfennau (neu ddogfennau eraill cyfatebol yn eu lle) erbyn dyddiad cau y cytunwyd arno.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod o oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau penodol y methiant, a’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni.

Gall enghreifftiau o esgus rhesymol gynnwys y canlynol:

  • buoch yn ddifrifol wael
  • mae rhywun agos atoch wedi marw
  • gwnaethoch golli’r dogfennau mewn tân neu ddilyw.

Mathau eraill o hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti

Hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti pan nad yw’n hysbys pwy yw’r parti cyntaf

Mae’r math hwn o hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i drydydd parti roi gwybodaeth a/neu ddogfennau i ni ynghylch naill ai:

  • person na wyddom pwy ydyw
  • dosbarth o bersonau na wyddom pwy ydynt fel unigolion

Fel arfer, gellir ystyried y math hwn o hysbysiad dim ond os oes sail resymol dros gredu y gallai methiant gan berson neu bersonau nad yw’n hysbys pwy ydynt i gydymffurfio â chyfraith treth niweidio’n ddifrifol y broses o asesu neu gasglu treth. Mae yna ychydig o eithriadau i’r rheol hon sy’n ymwneud â materion pensiwn, is-gwmnïau, partneriaid, a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig. Os yw’r rhain yn berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn egluro beth mae’r eithriadau yn ei olygu.

Mae’n rhaid i’r math hwn o hysbysiad gael ei gymeradwyo gan dribiwnlys annibynnol a’i anfon gan un o swyddogion arbenigol CThEF.

Hysbysiadau adnabod

Mae’r math hwn o hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i drydydd parti roi gwybodaeth i ni a fydd yn ein helpu i adnabod parti cyntaf ar sail gwybodaeth arall sydd gennym, er enghraifft anfoneb neu rif cerdyn credyd. Mae’r wybodaeth y gallwn ofyn amdani drwy ddefnyddio’r math hwn o hysbysiad wedi’i chyfyngu i enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r person (os yw’n hysbys).

Mae’n rhaid i’r math hwn o hysbysiad gael ei anfon gan un o swyddogion arbenigol CThEF. Does dim angen cymeradwyaeth gan dribiwnlys annibynnol arnom er mwyn anfon y math hwn o hysbysiad.

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych y canlynol:

  • yr hawl i gael eich cynrychioli — gallwch benodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan, gan gynnwys ymgynghorwyr proffesiynol, ffrindiau neu berthnasau
  • yr hawl i ofyn cyngor eich ymgynghorydd — byddwn yn caniatáu amser rhesymol i chi wneud hynny
  • dyletswydd i sicrhau bod pethau’n iawn — hyd yn oed os oes gennych ymgynghorydd, mae’n rhaid i chi gymryd gofal rhesymol o hyd er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill a anfonir atom ar eich rhan yn gywir

Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor wybodaeth, ewch i www.gov.uk/government/publications/hmrc-charter.cy

Gwiriadau cydymffurfio sy’n gysylltiedig â’r daflen wybodaeth hon

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio ynghylch:

  • Ardoll Agregau
  • Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu
  • Treth Cyflogres Banc
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu
  • Treth Gorfforaeth
  • Cuddio Gwerthiannau Electronig
  • Treth Incwm
  • Treth Etifeddiant
  • Treth Premiwm Yswiriant
  • Treth Dirlenwi
  • Toll Peiriannau Hapchwarae
  • Yswiriant Gwladol Dosbarthiadau 1, 1A* a 4
  • Talu Wrth Ennill (TWE)
  • Cosbau am hwyluso cynlluniau arbed treth sy’n cynnwys hyrwyddwyr dibreswyl
  • Treth Refeniw Petroliwm
  • Treth Dir y Tollau Stamp
  • Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
  • TAW

*Ar gyfer Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, mae’r daflen wybodaeth hon ond yn berthnasol i ffurflenni P11D(b) ar gyfer y blynyddoedd treth a ddechreuodd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010.