Cosbau ar gyfer y rhai sy’n galluogi osgoi treth neu ddiffyg cydymffurfio alltraeth CC/FS17a
Diweddarwyd 10 Ionawr 2022
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y gosb am alluogi y gallwn ei chodi ar berson a alluogodd i berson arall i osgoi treth alltraeth neu beidio â chydymffurfio.
Dyma pan fo’r dreth sydd yn y fantol yn Dreth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf neu’n Dreth Etifeddiant.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.
Os oes angen help arnoch
Os oes gennych unrhyw amgylchiadau iechyd neu bersonol y gall ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r mater hwn, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni barhau i siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Pryd y gallwn godi cosb am alluogi arnoch
Efallai y byddwch yn agored i gosb am alluogi os ydych wedi annog, cynorthwyo neu wedi hwyluso mewn unrhyw ffordd berson arall i osgoi treth alltraeth neu gyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth, ac mae amod A ac amod B yn cael eu bodloni.
Bodlonir amod A os oeddech yn gwybod bod yr hyn a wnaethoch yn galluogi, neu’n debygol o alluogi, person arall i osgoi treth alltraeth neu gyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth. Mae person yn osgoi treth alltraeth neu’n cyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
- mae’n cyflawni trosedd perthnasol
- mae’r hyn y mae’n ei wneud yn peri iddo fod yn agored i gosb sifil berthnasol sy’n ymwneud â Threth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf neu Dreth Etifeddiant
Bodlonir amod B pan fo’r person sy’n osgoi treth alltraeth neu’n peidio â chydymffurfio y naill neu’r llall o’r isod:
- mae wedi’i gael yn euog o gosb berthnasol ac mae’r ddedfryd yn derfynol
- yn agored i gosb berthnasol a bo’r gosb yn derfynol
Yn ogystal, bodlonir amod B os yw CThEM wedi cytuno ar setliad drwy gytundeb gyda’r person sy’n osgoi treth alltraeth neu sy’n cyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth. Mae hyn yn lle asesu cosb neu gymryd camau i adennill cosb o’r fath.
Troseddau perthnasol
Y troseddau perthnasol yw:
- twyllo’r cyllid cyhoeddus mewn perthynas â gweithgarwch alltraeth
- osgoi Treth Incwm yn dwyllodrus mewn perthynas â gweithgarwch alltraeth
- bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf ar neu drwy gyfeirio at incwm, asedion neu rwymedigaethau alltraeth, pan fo’r person wedi:
- methu â rhoi gwybod ei fod yn agored i dreth
- methu â chyflwyno Ffurflen Dreth
- cyflwyno Ffurflen Dreth wallus
Cosbau perthnasol
Mae cosb berthnasol yn gosb o dan y canlynol:
Mae cosb berthnasol yn gosb o dan y canlynol:
- paragraff 1 o Atodlen 24 i Ddeddf Cyllid 2007, am anghywirdebau mewn dogfen yn ymwneud â gweithgarwch alltraeth
- paragraff 1 o Atodlen 41 i Ddeddf Cyllid 2008, am fethu â rhoi gwybod am rwymedigaeth i dreth yn ymwneud â gweithgarwch alltraeth
- paragraff 6 o Atodlen 55 i Ddeddf Cyllid 2009, am fethu â chyflwyno Ffurflen Dreth mewn pryd yn ymwneud â gweithgarwch alltraeth
- paragraff 1 o Atodlen 21 i Ddeddf Cyllid 2015, am symudiad perthnasol o ased alltraeth
Mae rhagor o wybodaeth am y cosbau hyn yn y taflenni gwybodaeth canlynol:
- CC/FS7a, ‘Cosbau am wallau mewn Ffurflenni Treth a dogfennau’
- CC/FS11, ‘Cosbau am fethu â hysbysu’
- CC/FS17 ‘Cosbau uwch ar gyfer materion alltraeth’
- CC/FS18a, ‘Cosbau am beidio â chyflwyno Ffurflenni Treth a dogfennau blynyddol ac achlysurol mewn pryd – gan gynnwys Ffurflenni Treth Hunanasesiad at ddibenion Treth Incwm’
Yr hyn a olygwn gan ‘weithgarwch alltraeth’
Mae person wedi cyflawni gweithgarwch alltraeth os yw’n ymwneud â’r canlynol:
- mater alltraeth
- trosglwyddiad alltraeth
- symudiad perthnasol o ased alltraeth
Sut y gwnaethom gyfrifo’r llog
Y gosb uchaf ym mhob achos ar wahân i achosion pan fo’r gosb am alluogi yn ymwneud â symud ased alltraeth
Er mwyn cyfrifo’r gosb rydym yn defnyddio swm gwreiddiol y Refeniw a Gollwyd o Bosibl (PLR) a ddefnyddir i godi cosb ar y person a fu’n osgoi treth alltraeth neu’n cyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth.
Y gosb uchaf yw’r uchaf o naill ai:
- 100% o’r PLR
- £3,000
Y gosb uchaf pan fo’r gosb am alluogi yn ymwneud â symud ased alltraeth
Er mwyn cyfrifo’r gosb ychwanegol am alluogi symud ased alltraeth, rydym yn defnyddio 50% o swm gwreiddiol y PLR. Dyma’r PLR a defnyddir i godi cosb ar y person a fu’n osgoi treth alltraeth neu’n cyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth.
Y gosb uchaf ar gyfer y sawl sy’n galluogi symud ased alltraeth yw’r uchaf o naill ai:
- 50% o’r PLR
- £3,000
Pan fo troseddau’n cynnwys osgoi treth alltraeth a symud ased alltraeth, mae’n bosibl y codir y ddau fath o gosb uchod ar y sawl sy’n galluogi. Mae hyn yn golygu y gellir codi cosb safonol arnynt am alluogi rhywun arall i osgoi treth alltraeth neu gyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth, yn ogystal â chosb ar wahân am symud ased alltraeth.
Sut rydym yn gostwng swm y gosb y gallwn ei chodi
Gallwn ostwng y gosb yn dibynnu ar y canlynol:
- a yw’r datgeliad yn un wedi’i annog neu heb ei annog
- ansawdd y datgeliad
- a oes gostyngiad arbennig yn ddyladwy
Datgelu gweithgarwch alltraeth
Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am y gweithgarwch alltraeth cyn i chi fod â rheswm i gredu ein bod wedi darganfod, neu ar fin darganfod, yr achos o osgoi treth alltraeth rydych wedi’i alluogi, rydym yn galw hynny’n ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am y gweithgarwch hwn ar adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘ddatgeliad wedi’i annog’.
Mae amseru’r datgeliad yn ymwneud â’r osgoi neu’r diffyg cydymffurfio gwreiddiol.
Wrth gyfrifo cosbau byddwn yn cymryd i ystyriaeth pa mor hir y mae wedi cymryd i chi ddod ymlaen ers i’r anghywirdeb neu’r methiant ddigwydd.
Os gwnewch ddatgeliad heb ei annog, mae’n bosibl y byddwn yn gostwng y gosb i swm is na phe baech yn gwneud datgeliad wedi’i annog.
Bydd y gosb yn syrthio i un o’r ystodau isod, yn dibynnu a oedd y datgeliad yn un wedi’i annog neu’n un heb ei annog.
Gostyngiad am ddatgelu ym mhob achos ar wahân i achosion pan fo’r gosb am alluogi yn ymwneud â symud ased alltraeth
Datgeliad | Isafswm yr ystod | Uchafswm yr ystod |
---|---|---|
Heb ei annog | Yr uchaf o 10% o’r PLR neu £1,000 | Yr uchaf o 100% o’r PLR neu £3,000 |
Wedi’i annog | Yr uchaf o 30% o’r PLR neu £3,000 | Yr uchaf o 100% o’r PLR neu £3,000 |
Gostyngiad am ddatgelu pan fo’r gosb am alluogi yn ymwneud â symud ased alltraeth
Datgeliad | Isafswm yr ystod | Uchafswm yr ystod |
---|---|---|
Heb ei annog | Yr uchaf o 10% o’r PLR neu £1,000 | Yr uchaf o 50% o’r PLR neu £3,000 |
Wedi’i annog | Yr uchaf o 30% o’r PLR neu £3,000 | Yr uchaf o 50% o’r PLR neu £3,000 |
Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosb y gallwn ei chodi
Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.
Mae enghreifftiau o wneud datgeliad yn cynnwys:
- rhoi gwybod i ni am unrhyw fater neu bob mater sydd wedi arwain at anghywirdeb mewn dogfen, cyflenwad o wybodaeth ffug neu fethiant i ddatgelu tan-asesiad
- rhoi gwybod i ni am yr hyn a wnaethoch i alluogi person arall i gyflawni trosedd perthnasol
- ein helpu drwy annog y person hwnnw i gydweithredu â ni
- ein helpu i gyfrifo rhwymedigaeth y person hwnnw i gosb
- rhoi’r gallu i ni gael at gofnodion rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
- rhoi’r gallu i ni gael at gofnodion y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, ynghyd â’r rheini yr ydym yn gofyn am gael eu gweld
- dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os ydych yn gwneud y canlynol:
- yn dweud wrthym bopeth y gallwch ynghylch anghywirdeb cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano neu os credwch ein bod ar fin dod o hyd iddo
- yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro
Os byddwch yn oedi cyn rhoi gwybod i ni, mae’n bosibl y bydd gennych yr hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai.
Os na fydd angen cymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi’r gostyngiad llawn sydd ar gael am ddweud, helpu a rhoi.
Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig
Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.
Sut rydym yn cyfrifo swm cosb
Mae 6 cham wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.
1. Cyfrifo uchafswm y gosb
Dyma’r swm uchaf a gyfrifir fel y dangosir ar dudalen 2 (swm A). Bydd naill ai’n £3,000 neu’r ganran berthnasol o’r PLR (50% neu 100%) os yw hyn yn uwch na £3,000.
2. Penderfynu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog
Mae hyn yn pennu canran isaf bosibl y gosb y gallwn ei chodi. Mae hyn yn cael ei esbonio mewn rhagor o fanylder yn yr adran â’r enw ‘Datgelu gweithgarwch alltraeth’ yn y daflen wybodaeth hon.
Mae’r gosb yn syrthio i un o’r ystodau a ddangosir yn y tablau ar dudalen 3, yn dibynnu a oedd y datgeliad yn un wedi’i annog neu heb ei annog.
3. Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (y cyfeirir ato hefyd fel ‘dweud, helpu a rhoi’)
Mae ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y gosb a ddangosir ar dudalen 3. Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:
- dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
- helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
- rhoi mynediad at gyfrifon, rydym yn rhoi hyd at 30%
4. Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb
Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a ddangosir ar dudalen 3 a chanran y gostyngiad am ansawdd y datgeliad.
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfradd ganrannol isaf ac uchaf y gosb.
Yna, rydym yn lluosi’r ffigur hwnnw â’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad er mwyn rhoi canran y gostyngiad.
Yna, rydym yn didynnu canran y gostyngiad oddi wrth ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni.
5. Cyfrifo swm y gosb
I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r refeniw a gollwyd o bosibl (PLR) â chyfradd ganrannol y gosb.
Os yw’r canlyniad yn uwch nag isafswm y gosb, yna swm y gosb ydyw. Os yw’r canlyniad yn is nag isafswm y gosb a ddangosir yn y tablau ar dudalen 3, yna swm y gosb fydd isafswm y gosb.
Er enghraifft: datgeliad wedi’i annog, lle bu ansawdd ac amseru’r datgeliad ar ei isaf.
-
Mae’r PLR yn £5,255,700 (yn uwch na £3,000).
-
Ystod y gosb am ddatgeliad wedi’i annog yw 30% i 100% o’r PLR.
-
Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgelu (dweud, helpu a rhoi) yn 7%.
-
Y gosb uchaf (C) yw 100% a’r gosb isaf (D) yw 30%. Felly, y ganran uchaf posibl y gosb y gallwn ei chodi (E) yw 100 - 30 = 70%. Canran wirioneddol y gostyngiad ar gyfer datgeliad (F) yw 7% x 70 = 4.9% (dywedyd 5%). Canran y gosb sydd i’w chodi (G) yw 100% - 5% = 95%.
-
Y gosb sydd i’w chodi yw £5,255,700 x 95% = £4,992,915 (yn uwch na £3,000).
6. Ystyried gostyngiadau eraill
Ar ôl cyfrifo swm y gosb, rydym wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sydd eu hangen. Bydd hyn yn ei dro yn rhoi swm y gosb a godwn.
Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb
Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.
Ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw beth rydych wedi rhoi gwybod i ni amdano, byddwn wedyn yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch
- eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r gosb, ynghyd â’r dreth a’r llog
O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb os na fyddwch yn ei thalu mewn pryd.
Beth i’w wneud os anghytunwch
Os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, rhowch wybod i ni.
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog rydych wedi bod yn delio ag ef, a gofyn iddo’i hystyried
- cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEM na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
- trefnu i dribiwnlys annibynnol wrando ar eich apêl a phenderfynu ar y mater
Eich hawliau os byddwn yn ystyried cosbau
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:
- os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb.
- mae faint o gymorth a rowch i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau yn fater i chi benderfynu yn ei gylch yn llwyr
- wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai yr hoffech gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn arbennig os nad oes un gennych yn barod
- os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r cosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio
- mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
- mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol
Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.
Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ac yn gwybod ei bod yn anwir
Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol ac efallai eich erlyn:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
- datgan swm anghywir o doll yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.