Canllawiau

Cosbau am beidio â chydymffurfio â’r Ardoll Troseddau Economaidd — CC/FS77

Cyhoeddwyd 7 Tachwedd 2024

Tâl blynyddol yw’r Ardoll Troseddau Economaidd (ECL) — fe’i codir ar fusnesau sy’n cael eu rheoleiddio at ddibenion gwrth-wyngalchu arian, ac sydd â refeniw yn y DU o dros £10.2 miliwn bob blwyddyn.

Bydd angen i’r busnesau hynny gyflwyno datganiad a thalu’r ardoll yn flynyddol.

Os ydych yn agored i dalu’r ardoll, mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi arnoch os nad ydych yn cydymffurfio â’ch ymrwymiadau. Gallwn godi’r cosbau hyn o dan Reoliad 20 o Reoliadau Ardoll Troseddau Economaidd (Gwrth-wyngalchu Arian) 2022.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Os na fyddwch yn cyflwyno’ch datganiad ECL mewn pryd

Mae angen i chi gyflwyno datganiad ECL ar neu cyn 30 Medi ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn godi cosb gychwynnol o £250 arnoch.

Os nad ydych wedi cyflwyno datganiad cyn pen 3 mis ar ôl y dyddiad cau, gallwn godi cosb bellach arnoch. Y gosb honno yw 5% o’r ardoll y mae disgwyl i chi ei thalu ar gyfer y flwyddyn ariannol. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym i wneud amcangyfrif rhesymol o’r ardoll sy’n ddyledus. Byddwn wedyn yn anfon asesiad atoch ar gyfer y swm hwnnw ac unrhyw gosbau sy’n ddyledus.

Os na fyddwch yn talu’r swm cywir o ardoll mewn pryd

Mae’n rhaid i chi dalu’r swm llawn o ardoll ar neu cyn y dyddiad cau. Y dyddiad cau yw 30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r rhwymedigaeth yn codi. Os na fyddwch yn talu’r swm llawn mewn pryd, gallwn godi cosbau arnoch am dalu’n hwyr. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • cosb gychwynnol o £250 am beidio â thalu erbyn y dyddiad cau
  • cosb ychwanegol o £250 os nad ydych wedi talu 30 diwrnod ar ôl y dyddiad cau
  • cosb o 5% o’r ardoll os nad ydych wedi talu 3 mis ar ôl y dyddiad cau

Os nad ydych wedi cyflwyno eich datganiad ECL chwaith, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth sydd gennym i wneud amcangyfrif rhesymol o’r ardoll sy’n ddyledus. Byddwn yn gwneud hyn pan fyddwn yn cyfrifo’r gosb am dalu’n hwyr o 5%.

Os byddwch yn newid eich datganiad ECL ar ôl i chi ei gyflwyno, efallai y bydd ardoll ychwanegol yn ddyledus. Os oes, byddwn ond yn codi cosbau am dalu hwyr arnoch os na fyddwch yn talu’r swm ychwanegol ar unwaith. Mae hyn hefyd yn berthnasol os byddwn yn canfod bod ardoll ychwanegol yn ddyledus o ganlyniad i wiriad cydymffurfio o’ch datganiad ECL.

Cosbau os byddwn yn dod o hyd i rywbeth o’i le yn ystod gwiriad cydymffurfio

Os ydym yn agor gwiriad cydymffurfio i’ch datganiad ECL, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi. Os byddwn wedyn yn dod o hyd i rywbeth o’i le, gallwn godi cosbau arnoch. Gall y rhain fod yn ‘ymwneud â threth’ neu’n gosbau penodol, yn dibynnu ar yr hyn yr ydym wedi’i ddarganfod.

Cosbau sy’n ymwneud â threth

Gallwn godi cosb sy’n ‘ymwneud â threth’ os oes unrhyw un o’r canlynol yn wir:

  • rydych chi’n cyflwyno datganiad ECL anghywir
  • nid ydych yn rhoi gwybod i ni fod asesiad a wnaethom yn rhy isel
  • nid ydych yn rhoi gwybod i ni fod ad-daliad a wnaethom yn rhy uchel

Rydym yn cyfrifo cosb sy’n ‘ymwneud â threth’ fel canran o swm. Ar gyfer yr ECL, y gosb yw 5% o swm yr ardoll na wnaethoch chi roi gwybod i ni amdano na’i ddatgan. Byddwn fel arfer yn anfon asesiad atoch ar gyfer y swm hwn o ardoll. Yn y rhan fwyaf o achosion, y gosb yw 5% o swm yr ardoll yr ydym yn eich asesu ar ei gyfer.

Cosb benodol

Os gwelwn nad ydych wedi cadw cofnodion cywir at ddibenion ECL, efallai y byddwn yn codi cosb arnoch.

Cosb benodol yw hon a gall fod hyd at £3,000. Mae’r swm y byddwn yn ei godi yn dibynnu ar yr hyn yr ydym yn ei ddarganfod am y ffordd rydych yn cadw cofnodion, ac a yw’n eich atal rhag datgan y swm cywir o ECL.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno

Os byddwn yn codi cosb arnoch, byddwn yn anfon hysbysiad o gosb atoch. Os ydych yn anghytuno, byddwch yn gallu apelio. Bydd yr hysbysiad o gosb yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.

Byddwch hefyd yn gallu apelio yn erbyn unrhyw asesiad a anfonwn atoch.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau i apelio, ewch i www.gov.uk/anghytuno-phenderfyniad-treth.

Os oes gennych esgus rhesymol

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os oes gennych esgus rhesymol dros beidio â bodloni ymrwymiad ECL.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni’r ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol byddwn yn ystyried yr amgylchiadau a wnaeth eich atal rhag bodloni’r ymrwymiad. Byddwn hefyd yn ystyried eich sefyllfa a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os byddwn yn derbyn bod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Os oedd unrhyw beth o ran eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a wnaeth gyfrannu tuag at beidio â bodloni’ch ymrwymiadau treth, rhowch wybod i’r swyddog yr ydych yn delio ag ef. Bydd rhoi gwybod i’r swyddog yn ei alluogi i roi sylw i hyn wrth ystyried a oedd gennych esgus rhesymol.

Rhagor o wybodaeth

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. I ddarllen hwn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, ac yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.