Cosbau am beidio â rhoi gwybod i ni am dan-asesiad — CC/FS7b
Diweddarwyd 25 Chwefror 2022
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi os bu tan-asesiad ac os na roesoch wybod i ni am hyn cyn pen 30 diwrnod. Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i ‘Arweiniad a thaflenni gwybodaeth CThEF’ ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael ragor o wybodaeth, ewch i ‘Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch’.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Beth yw tan-asesiad
Os na fyddwch yn anfon Ffurflen Dreth wedi’i llenwi atom, efallai y byddwn yn anfon asesiad atoch sy’n dangos y dreth y credwn sy’n ddyledus. Os yw swm y dreth rydym wedi’i asesu yn llai na’r swm y dylid bod wedi cael ei ddangos ar eich Ffurflen Dreth, mae ein hasesiad yn ‘dan-asesiad’ oherwydd ei fod yn rhy isel.
Adegau pan allwn godi cosb arnoch am dan-asesiad
Efallai y byddwn yn codi cosb arnoch am dan-asesiad os yw’r canlynol yn gymwys:
- gwnaethon anfon asesiad atoch a oedd yn rhy isel
- ni ddywedoch wrthym ei fod yn rhy isel cyn pen 30 diwrnod o ddyddiad yr asesiad
Os gofynnwch i rywun arall, fel cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr ei fod yn dweud wrthym am unrhyw dan-asesiad cyn pen 30 diwrnod. Os na wnewch hyn, mae’n bosibl y codwn gosb arnoch.
Adegau pan na fyddwn yn codi cosb arnoch am dan-asesiad
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am dan-asesiad os cymeroch gamau rhesymol i ddweud wrthym fod yr asesiad yn rhy isel cyn pen 30 diwrnod o ddyddiad yr asesiad. Mae rhai o’r ffyrdd y gallwch ddangos i ni eich bod wedi cymryd camau rhesymol yn cynnwys y canlynol:
- anfon y Ffurflen Dreth wedi’i llenwi atom
- cysylltu â ni i roi gwybod bod yr asesiad yn rhy isel
- cysylltu ag ymgynghorydd treth fel y gall ddweud wrthym fod yr asesiad yn rhy isel
Mae ‘camau rhesymol’ yn dibynnu ar amgylchiadau unigol yr unigolyn.
Os oedd rhywbeth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a’i gwnaeth yn anodd i chi ddweud wrthym am dan-asesiad, dywedwch wrth y swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd dweud wrtho yn ei alluogi i gymryd hyn i ystyriaeth wrth ystyried cosbau.
Datgelu tan-asesiad cyn i ni ddod o hyd iddo
Os dywedwch wrthym am dan-asesiad cyn bod gennych unrhyw reswm i gredu ein bod wedi dod o hyd iddo, neu ein bod ar fin gwneud hynny, rydym yn galw hyn yn ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os dywedwch wrthym am dan-asesiad ar unrhyw adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘ddatgeliad wedi’i annog’.
Mae’r gosb isaf am ddatgeliad heb ei annog yn is na’r gosb isaf am ddatgeliad wedi’i annog.
Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosb y gallwn ei chodi
Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni pan fyddwch yn gwneud datgeliad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.
Mae enghreifftiau o wneud datgeliad yn cynnwys:
- dweud wrthym am dan-asesiad, neu gytuno â ni fod tan-asesiad wedi digwydd
- rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch am swm y tan-asesiad cyn gynted ag y gallwch
- ein helpu drwy ddefnyddio’ch cofnodion eich hun i gyfrifo swm y tan-asesiad
- ein helpu i ddeall eich ffigurau neu’ch cofnodion
- anfon eich Ffurflen Dreth neu ddogfennau eraill atom sy’n ein helpu i gyfrifo’ch tan-asesiad
Gellir ystyried eich bod wedi dweud, helpu a rhoi dim ond drwy anfon eich Ffurflen Dreth atom sy’n dangos y ffigurau cywir.
Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os ydych:
- yn rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch am dan-asesiad cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano, neu os credwch ein bod ar fin dod o hyd iddo
- yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro
Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd y gostyngiad yn un llai.
Os nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi rhywfaint o ostyngiad i chi am ddweud, helpu a rhoi.
Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig
Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad ystyried amgylchiadau arbennig wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.
Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb
Mae 6 cam wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.
1 Cyfrifo swm y ‘refeniw a gollwyd o bosibl (PLR)’
Mae’r gosb yn ganran o’r PLR.
Y refeniw a gollwyd o bosibl yw’r gwahaniaeth rhwng y dreth a aseswyd a’r swm cywir o dreth.
2 Pennu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog
Mae hyn yn pennu canran isaf y gosb y gallwn ei chodi. Ar gyfer tan-asesiad, canran uchaf y gosb yw 30%.
Ar gyfer datgeliad heb ei annog, canran isaf y gosb yw 0%. Ar gyfer datgeliad wedi’i annog, canran isaf y gosb yw 15%. Mae hyn yn rhoi ystod y gosb a ddangosir yn y tabl isod.
Datgeliad heb ei annog | Datgeliad wedi’i annog |
---|---|
0% i 30% | 15% i 30% |
Mae’r hyn a olygwn wrth heb ei annog ac wedi’i annog yn cael ei esbonio yn fanylach yn yr adran sy’n dwyn y teitl ‘Datgelu tan-asesiad cyn i ni ddod o hyd iddo’ ar y daflen wybodaeth hon.
3 Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (y cyfeirir ato hefyd fel ‘dweud, helpu a rhoi’)
Wrth bennu ansawdd y datgeliad, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir y mae wedi’i gymryd i chi ddatgelu’r tan-asesiad. Os yw wedi cymryd amser hir i chi (megis 3 blynedd neu fwy) i wneud datgeliad, rydym fel arfer yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf a roddwn ar gyfer ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canran uwchben isafswm ystod y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael budd o’r ganran gosb isaf sydd fel arfer ar gael.
Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:
- dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
- helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
- rhoi mynediad at gofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30%
4 Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb
Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.
Enghraifft
Anfonom asesiad TAW at berson oherwydd nad oedd wedi cyflwyno’i Ffurflen TAW mewn pryd. Tri mis yn ddiweddarach, dechreuom wiriad cydymffurfio i bennu p’un a oedd ein hasesiad yn gywir. Ni wnaeth anfon yr wybodaeth y gofynnwyd amdani atom tan i ni ddefnyddio ein pwerau gwybodaeth i gael ei gofnodion busnes. Yna, gwnaeth ddatgelu tan-asesiad drwy anfon ei Ffurflen TAW atom. Roedd hwn yn ddatgeliad wedi’i annog.
Ystod y gosb am ddatgeliad wedi’i annog yw 15% i 30%.
Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn 70%.
Camau | Enghraifft o gyfrifiad |
---|---|
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf byddwn yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau canrannol isaf ac uchaf y gosb. | 30% llai 15% = 15 |
Yna, byddwn yn lluosi’r ffigur hwnnw â’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad er mwyn pennu canran y gostyngiad. | 15 x 70% = 10.5% |
Yna, byddwn yn didynnu canran y gostyngiad oddi wrth ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. | 30% llai 10.5% = 19.5% |
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. | 19.5% |
5 Cyfrifo swm y gosb
I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r PLR â chyfradd ganrannol y gosb. Yn yr enghraifft uchod, £3,000 yw’r PLR. Mae hyn yn golygu taw £585 yw’r gosb (£3,000 x 19.5% = £585).
6 Ystyried gostyngiadau eraill
Ar ôl cyfrifo swm y gosb, rydym wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sydd eu hangen. Bydd hyn yn ei dro yn rhoi swm y gosb a godwn.
Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb
Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.
Ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw beth rydych wedi rhoi gwybod i ni amdano, byddwn wedyn yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch
- eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r gosb, ynghyd â’r dreth a’r llog
O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb hefyd os na fyddwch yn ei thalu mewn pryd.
Os ydych yn anghytuno
Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.
Os ydym yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio’r penderfyniad a rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
- cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
- trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater
Pa un bynnag opsiwn a ddewiswch, gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEF weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Rydym yn galw hyn yn ‘Ddull Amgen o Ddatrys Anghydfod’ (ADR).
Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:
- HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EF (CThEF) — beth i’w wneud os anghytunwch’
- CC/FS21, ‘Dull amgen o Ddatrys Anghydfod’
Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig penodol i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:
- os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb
- mae faint o gymorth a rowch i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau yn fater i chi benderfynu yn ei gylch yn llwyr
- wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai yr hoffech gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
- os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r cosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio
- mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
- mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol
Mae manylion llawn yr hawliau hyn i’w gweld yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
Yr hyn sy’n digwydd os ydych yn rhoi gwybodaeth i ni ac yn gwybod ei bod yn anwir
Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol ac mae’n bosibl y cewch eich erlyn os byddwch yn gwneud y canlynol:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur
- datgan swm anghywir o doll yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt
Rhagor o wybodaeth
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.