Hysbysiadau gwrthweithio dros dro a roddir o dan y GAAR — CC/FS36
Cyhoeddwyd 26 Mawrth 2018
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am hysbysiadau gwrthweithio dros dro a roddir o dan y rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol (GAAR).
Bydd angen i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon os ydych wedi defnyddio trefniadau y gall y GAAR, yn ein barn ni, fod yn gymwys iddynt, ac os ydym wedi rhoi un neu ragor o hysbysiadau gwrthweithio dros dro i chi. Yn ogystal â darllen y daflen wybodaeth hon, dylech hefyd ddarllen CC/FS34a ‘Gwybodaeth am y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol’, gan ei bod yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y GAAR.
Pan fo’r daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at ‘treth’, mae hyn yn golygu’r trethi, yr ardollau a’r cyfraniadau y mae’r GAAR yn gymwys iddynt. Gallwch weld manylion am y rhain yn nhaflen wybodaeth CC/FS34a ‘Gwybodaeth am y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol’.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres o daflenni gwybodaeth ynghylch gwiriadau cydymffurfio. I weld y rhestr lawn, ewch i’r dudalen ynghylch taflenni gwybodaeth am wiriadau cydymffurfio CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Gwybodaeth bwysig
Os byddwch yn anghytuno â’r addasiadau y byddwn yn eu gwneud ar ôl i ni roi hysbysiad gwrthweithio dros dro i chi, bydd angen i chi apelio yn erbyn yr addasiadau hynny. Os na fyddwch yn apelio, bydd y fantais treth a ddangosir yn yr hysbysiad gwrthweithio dros dro yn cael ei drin fel pe bai wedi’i wrthweithio o dan y rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol (GAAR). Mae hyn yn golygu y byddwch yn agored i dalu’r dreth ychwanegol sy’n ddyledus. Mae’r hysbysiad gwrthweithio dros dro yn esbonio hyn ymhellach, ac mae rhagor o fanylion i’w gweld yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon o dan adran ‘Ynglŷn â’ch hawl i apelio’.
Ynglŷn â hysbysiadau gwrthweithio dros dro
Mae hysbysiad gwrthweithio dros dro yn rhoi gwybod i chi am rai neu bob un o’r addasiadau sydd eu hangen, yn ein barn ni, o dan y GAAR i wrthweithio mantais treth sy’n deillio o drefniadau treth. Cyfeirir at yr addasiadau hyn fel ‘addasiadau hysbysedig’. Mae hysbysiad cydymffurfio gwrthweithio dros dro hefyd yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:
- y trefniadau a’r fantais treth
- y byddwch yn gallu apelio yn erbyn yr addasiadau hysbysedig hynny unwaith y byddwn wedi’u gwneud
- os byddwch yn anghytuno, ni allwch fwrw ymlaen hyd nes y byddwn wedi rhoi math gwahanol o hysbysiad i chi. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am hyn o dan adran ‘Ynglŷn â’ch hawl i apelio’
- y bydd yr addasiadau hysbysedig, o dan amgylchiadau penodol, yn cael eu canslo. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am hyn o dan adran ‘Terfynau amser i ni weithredu’
Mae rhoi hysbysiad gwrthweithio dros dro yn caniatáu i ni wneud yr addasiadau hysbysedig cyn bod pob un o weithdrefnau’r GAAR wedi’u cwblhau.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gwneud yr addasiadau hysbysedig o dan adran ‘Gwneud yr addasiadau hysbysedig’.
Yr hyn i’w wneud pan fyddwch yn cael hysbysiad gwrthweithio dros dro
Pan gewch hysbysiad gwrthweithio dros dro, does dim rhaid chi wneud dim byd penodol amdano. Fodd bynnag, efallai y byddwch am drafod y mater gyda’ch ymgynghorydd treth, os oes un gennych.
Os anghytunwch â ni ynghylch yr addasiadau hysbysedig a wnaed gennym, bydd angen i chi aros hyd nes y byddwn yn gwneud yr addasiadau cyn i chi allu gwneud unrhyw beth. Mae hyn yn cael ei esbonio o dan adran ‘Ynglŷn â’ch hawl i apelio’.
Os cytunwch â ni ynghylch yr addasiadau hysbysedig a wnaed gennym, ac yn penderfynu eich bod am setlo’ch materion treth, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Byddwn yn rhoi gwybod i chi a oes unrhyw beth sydd rhaid i chi ei wneud.
Mae penderfynu a ydych am setlo’ch materion treth yn eich dwylo chi’n gyfan gwbl. Os nad ydych am setlo’ch materion treth, byddwn yn parhau ag unrhyw gamau y gallwn eu cymryd - gan gynnwys unrhyw gamau o dan y GAAR.
Gwneud yr addasiadau hysbysedig
Byddwn fel arfer yn gwneud yr addasiadau hysbysedig yn weddol fuan ar ôl i ni roi hysbysiad gwrthweithio dros dro i chi. Fel rhan o hyn, gallwn anfon y canlynol atoch: asesiad treth, asesiad treth diwygiedig, penderfyniad, neu benderfyniad sy’n ymwneud â’ch rhwymedigaeth i’r math o dreth dan sylw.
Ynglŷn â’ch hawl i apelio
Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad gwrthweithio dros dro. Fodd bynnag, os gwnawn yr addasiadau hysbysedig a bennir yn yr hysbysiad gwrthweithio dros dro, byddwch yn gallu apelio yn erbyn yr addasiadau hysbysedig a wnaed gennym os byddwch yn anghytuno â nhw. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am eich hawl i apelio pan wnawn yr addasiadau hysbysedig.
Os byddwch yn apelio yn erbyn yr addasiadau hysbysedig a wnaed gennym, does dim byd y gallwch chi, neu y gallwn ni, ei wneud i symud eich apêl yn ei blaen, oni bai y byddwn wedi rhoi math gwahanol o hysbysiad i chi, neu y byddwn wedi rhoi gwybod i chi fod yr addasiadau hysbysedig wedi’u canslo. Fodd bynnag, gallwch dynnu’ch apêl yn ôl os byddwch yn newid eich meddwl ac yn penderfynu eich bod am setlo’ch materion treth.
Er does dim byd y gallwn ni neu y gallwch chi ei wneud i symud eich apêl yn ei blaen, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn apelio cyn pen y terfyn amser os anghytunwch â ni ynghylch yr addasiadau hysbysedig a wnaed gennym. Os na fyddwch yn apelio, bydd y fantais treth a ddangosir yn yr hysbysiad gwrthweithio dros dro yn cael ei thrin fel pe bai wedi’i wrthweithio o dan y rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol (GAAR). Mae hyn yn golygu y byddwch yn agored i dalu’r dreth ychwanegol sy’n ddyledus. Mae’r hysbysiad gwrthweithio dros dro yn esbonio hyn ymhellach.
Rhestrir isod y gwahanol fathau o hysbysiadau y gallwn eu rhoi. Os byddwch yn dal i anghytuno ar ôl i chi gael un o’r hysbysiadau hynny, bydd gennych 30 diwrnod i roi gwybod i ni ar ba sail rydych yn apelio yn erbyn yr addasiadau hysbysedig a wnaed gennym. Bydd y 30 diwrnod yn dechrau pan rown un o’r hysbysiadau a restrir isod i chi.
Hysbysiad tynnu’r hysbysiad gwrthweithio dros dro’n ôl (heb ganslo’r addasiadau hysbysedig)
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi os oeddwn wedi penderfynu y dylai’r addasiadau hysbysedig gael eu gwneud o dan ddeddfwriaeth treth ar wahân i’r GAAR. Byddai’r math hwn o hysbysiad yn tynnu’r hysbysiad gwrthweithio dros dro yn ôl, ond ni fyddai’n canslo’r addasiadau hysbysedig. Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan adran 209B(4)(b) o Ddeddf Cyllid 2013.
Hysbysiad o benderfyniad i beidio â chyfeirio’r mater at Banel Cynghori’r GAAR (heb ganslo’r addasiadau hysbysedig)
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi os oedd y ddau beth canlynol yn gymwys:
- roeddwn wedi rhoi hysbysiad i chi o dan baragraff 3 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013, yn rhoi gwybod i chi y dylai’r manteision treth sy’n deillio o’r trefniadau treth gael eu gwrthweithio o dan y GAAR
- roeddech wedi gwneud sylwadau wrth ymateb i’r hysbysiad hwnnw ac roeddem wedi newid ein barn
Byddai’r hysbysiad o benderfyniad yn rhoi gwybod i chi ein bod ni wedi penderfynu peidio â chyfeirio’ch achos i Banel Cynghori’r GAAR, ac y dylai’r addasiadau hysbysedig gael eu gwneud o dan ddeddfwriaeth treth ar wahân i’r GAAR.
Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan baragraff 6(3) o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013.
Hysbysiad o benderfyniad terfynol ar ôl ystyried barn Panel Cynghori’r GAAR
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi os oeddem wedi gwneud pob un o’r canlynol:
- wedi cyfeirio’ch trefniadau at Banel Cynghori’r GAAR i gael eu barn
- wedi cael ac ystyried un neu ragor o hysbysiadau barn oddi wrth Banel Cynghori’r GAAR
- wedi gwneud penderfyniad ynghylch p’un a yw’r fantais treth sy’n deillio o’ch trefniadau treth fod cael ei gwrthweithio o dan y GAAR
Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan baragraff 12 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013.
Hysbysiad o benderfyniad terfynol pan fo hysbysiad rhwymo
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi os oeddem hefyd wedi rhoi ‘hysbysiad rhwymo’ i chi mewn perthynas â’ch trefniadau treth. Byddai’r hysbysiad o benderfyniad terfynol yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad ynghylch p’un a oedd y manteision treth sy’n deillio o’ch trefniadau treth fod cael eu gwrthweithio o dan y GAAR.
Byddem yn rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol o’r fath i chi o dan baragraff 9(2) o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ‘rhwymo’ os rhown hysbysiad rhwymo i chi.
Hysbysiad o benderfyniad terfynol pan fo trefniadau treth wedi’u rhoi mewn cronfa
Os oedd eich trefniadau treth wedi’u rhoi mewn ‘cronfa’ gyda threfniadau treth cyfatebol eraill, byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi. Byddai’r hysbysiad yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad ynghylch p’un a oedd y manteision treth o’ch eich trefniadau treth fod cael eu gwrthweithio o dan y GAAR.
Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan baragraff 8(2) o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ‘cronni’ os rhown hysbysiad cronni i chi.
Hysbysiad o benderfyniad terfynol ar ôl ystyried barn Panel Cynghori’r GAAR yn dilyn cyfeiriad generig
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi os oedd y ddau beth canlynol yn gymwys:
- gwnaethom ‘cyfeiriad generig’ i Banel Cynghori’r GAAR mewn perthynas â’r holl drefniadau hysbysedig yn y gronfa o dan Atodlen 43B i Ddeddf Cyllid 2013
- roedd eich trefniadau treth yn drefniadau hysbysedig
Byddai’r hysbysiad yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad ynghylch p’un a oedd y manteision treth sy’n deillio o’ch trefniadau treth fod cael eu gwrthweithio o dan y GAAR. Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan baragraff 8 o Atodlen 43B i Ddeddf Cyllid 2013.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ‘cyfeiriadau generig’ os ydym yn ystyried gwneud cyfeiriad generig mewn perthynas â threfniadau cyfuno sy’n cynnwys eich trefniadau treth. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi beth yw ystyr ‘trefniadau hysbysedig’.
Terfynau amser i ni weithredu
Os nad ydym yn rhoi un neu ragor o’r hysbysiadau a ddangosir isod naill ai cyn y dyddiad rydym yn rhoi’r hysbysiad gwrthweithio dros dro i chi, neu cyn pen 12 mis ohono, bydd yr addasiadau hysbysedig a ddangosir ar yr hysbysiad gwrthweithio dros dro hwnnw’n cael eu trin fel pe baent wedi’u canslo. Os rhown fwy nag un hysbysiad gwrthweithio dros dro i chi, mae gan bob hysbysiad ei derfyn amser ei hun, sef 12 mis.
Yr hysbysiadau yw:
Hysbysiad sy’n canslo’r addasiadau hysbysedig
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi ar ôl rhoi’r hysbysiad gwrthweithio dros dro i chi os gwnaethom benderfynu canslo’r addasiadau hysbysedig cyn y terfyn amser, sef 12 mis.
Hysbysiad tynnu hysbysiad gwrthweithio dros dro’n ôl (heb ganslo’r addasiadau hysbysedig)
Os gwnaethom benderfynu bod angen yr addasiadau hysbysedig o dan ddeddfwriaeth treth ar wahân i’r GAAR, ac roeddem yn tynnu’r hysbysiad gwrthweithio dros dro’n ôl, byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi. Ni fyddai’r math hwn o hysbysiad yn canslo’r addasiadau hysbysedig. Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan adran 209B(4)(b) o Ddeddf Cyllid 2013.
Hysbysiad gwrthweithio arfaethedig o fantais treth
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi i roi gwybod yr oeddem o’r farn y dylid cymryd camau gwrthweithio o dan y GAAR. Byddai’r hysbysiad yn dangos y ddau beth canlynol:
- y trefniadau a’r manteision treth a ddangosir ar yr hysbysiad gwrthweithio dros dro
- yr addasiadau hysbysedig (neu addasiadau llai) fel y camau gwrthweithio y dylid eu cymryd o dan y GAAR
Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan baragraff 3 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013.
Hysbysiad Cyfuno
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi i roi gwybod i chi fod eich trefniadau treth am gael eu rhoi mewn cronfa gyda threfniadau cyfatebol. Byddai’r hysbysiad yn dangos y ddau beth canlynol:
- y trefniadau a’r manteision treth fel y’u dangosir ar yr hysbysiad gwrthweithio dros dro
- yr addasiadau hysbysedig (neu addasiadau llai) fel y camau gwrthweithio y dylid eu cymryd o dan y GAAR
Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan baragraff 1 o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ‘cyfuno’, ac yn egluro ystyr ‘cyfatebol’ os rhown hysbysiad cyfuno i chi.
Hysbysiad rhwymo
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi i roi gwybod i chi fod eich trefniadau treth yn cyfateb i drefniadau treth eraill, yn ein barn ni, ac y dylid eu rhwymo â nhw. Y trefniadau hynny fyddai’r rhai y byddem wedi rhoi hysbysiad gwrthweithio ar eu cyfer ar ôl ystyried barn Panel Cynghori’r GAAR. Byddai hysbysiad rhwymo’n dangos y ddau beth canlynol:
- y trefniadau a’r manteision treth fel y’u dangosir ar yr hysbysiad gwrthweithio dros dro
- yr addasiadau hysbysedig (neu addasiadau llai) fel y camau gwrthweithio y dylid eu cymryd o dan y GAAR
Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan baragraff 2 o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ‘rhwymo’ os rhown hysbysiad rhwymo i chi.
Hysbysiad o gynnig i gyfeirio trefniadau treth mewn ffordd generig
Byddem yn rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi ar ôl i ni roi hysbysiad cyfuno i chi, a phan nad oedd y trefniadau arweiniol yn y gronfa mwyach. Byddai’r hysbysiad hwn yn rhoi gwybod i chi ein bod yn ystyried gwneud cyfeiriad generig i Banel Cynghori’r GAAR mewn perthynas â’r holl drefniadau treth yn y gronfa. Byddai hysbysiad o gynnig i wneud cyfeiriad generig o’r fath yn dangos y ddau beth canlynol:
- y trefniadau treth a’r manteision treth fel y’u dangosir ar yr hysbysiad gwrthweithio dros dro
- yr addasiadau hysbysedig (neu addasiadau llai) fel y camau gwrthweithio y dylid eu cymryd o dan y GAAR
Byddem yn rhoi hysbysiad o’r fath i chi o dan baragraff 1(2) o Atodlen 43B i Ddeddf Cyllid 2013. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ‘cyfeiriadau generig’ os ydym yn bwriadu gwneud cyfeiriad generig mewn perthynas â threfniadau cyfuno sy’n cynnwys eich trefniadau treth.