Canllawiau

Cynlluniau arbed treth — taliadau cyflymedig

Diweddarwyd 12 Awst 2022

Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi am eich bod wedi defnyddio cynllun arbed treth, a byddwn, cyn hir, yn gofyn i chi wneud taliad o’r swm sy’n ymwneud â’ch defnydd o’r cynllun.

Pan fo’r daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at dreth, mae hyn yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 4 sy’n cael eu casglu drwy Hunanasesiad. O flwyddyn dreth 6 Ebrill 2015 hyd at 5 Ebrill 2016 ymlaen, mae hefyd yn cynnwys y rhan fwyaf o CYG Dosbarth 2 sy’n cael eu casglu drwy Hunanasesiad.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr lawn o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Ynghylch cynlluniau arbed treth

Mae cynllun arbed treth yn gyfres o drefniadau sy’n ceisio defnyddio deddfwriaeth treth i ennill mantais treth na fwriedir gan y ddeddfwriaeth.

Ynghylch taliadau cyflymedig

Ar 17 Gorffennaf 2014, cafodd deddfwriaeth treth ei chyflwyno sy’n effeithio ar y rheiny sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth. Cafodd cwmpas y ddeddfwriaeth honno ei ehangu i gynnwys CYG o 12 Ebrill 2015 ymlaen. Golyga’r ddeddfwriaeth y gall y rheiny sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth orfod talu swm sy’n ymwneud â’u defnydd o’r cynllun — cyn cytuno neu benderfynu ar y swm terfynol. Gelwir taliad o’r fath yn daliad cyflymedig, neu yn achos aelodau o bartneriaeth, yn daliad cyflymedig gan bartner.

Drwy gydol y daflen wybodaeth hon, mae’r term ‘taliad cyflymedig’ hefyd yn golygu ‘taliad cyflymedig gan bartner’, a’r term ‘hysbysiad i wneud taliad cyflymedig’ hefyd yn golygu ‘hysbysiad i bartner wneud taliad’ — heblaw lle nodir yn benodol, a phan ein bod yn rhoi esboniad ynghylch cosbau am fethu talu mewn pryd.

Pryd y gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig

Gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig at berson sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth os caiff yr amodau canlynol eu bodloni:

  • mae gwiriad cydymffurfio yn cael ei gynnal ar hyn o bryd parthed ei Ffurflen Dreth neu hawliad (neu ar gyfer partneriaethau, gwiriad parthed y Ffurflen Dreth Partneriaeth neu hawliad y bartneriaeth), neu mae apêl ar y gweill (Amod A)
  • cyflwynir y Ffurflen Dreth, yr hawliad neu’r apêl ar y sail bod mantais treth yn deillio o’r cynllun arbed treth a ddefnyddiwyd (Amod B)

ac mae un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol (Amod C)

  • rydym wedi rhoi hysbysiad dilynwr i’r person (neu’r partner enwebedig) (esbonnir hyn yn y taflenni gwybodaeth CC/FS25a a CC/FS25b)
  • defnyddiodd y person (neu’r bartneriaeth) drefniadau y mae’n rhaid eu datgelu o dan y ddeddfwriaeth datgelu cynlluniau arbed treth (DOTAS)
  • mae’r person (neu’r bartneriaeth) yn agored i hysbysiad gwrthweithio o dan y rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol (GAAR)

Mae’r ddeddfwriaeth treth sy’n delio â thaliadau cyflymedig yn cyfeirio at wiriad cydymffurfio fel ‘ymchwiliad treth’.

Rhoi gwybod i chi am eich taliad cyflymedig

Byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig atoch a fydd yn rhoi gwybod i chi faint y mae angen i chi ei dalu, a pha bryd. Bydd hwnnw hefyd yn rhoi gwybod i chi’r hyn y gallwch ei wneud os ydych yn anghytuno ag ef. Pan fyddwn yn anfon yr hysbysiad, byddwn yn rhoi gwybod i chi sut yr ydym wedi cyfrifo’r swm y mae angen i chi ei dalu.

Os ydych yn aelod o bartneriaeth a defnyddiwyd y cynllun arbed treth gan y bartneriaeth, byddwn yn anfon hysbysiad i bartner wneud taliad, yn hytrach na hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, atoch chi a phob un o’r partneriaid.

Sut yr ydym yn cyfrifo swm taliad cyflymedig

Y swm sy’n daladwy fydd y swm sy’n ymwneud â’r fantais treth y mae defnyddio’r cynllun arbed treth yn ceisio’i hennill. Mae’r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at hyn fel y ‘dreth a danddatganwyd’ mewn achosion pan fo gwiriad cydymffurfio ar y gweill, neu fel y ‘dreth y mae anghydfod yn ei chylch’ mewn achosion pan fo apêl ar y gweill. Yn achos taliad cyflymedig gan bartner, cyfeiria’r ddeddfwriaeth at hyn fel y ‘dreth a danddatganwyd gan bartner’.

Byddwn yn cyfrifo’r swm hyd eithaf ein gwybodaeth a’n cred. Os nad oes gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i bennu’r union swm, efallai na fydd y swm a ddangosir ar yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yr un peth â’r swm sy’n ddyledus pan fydd eich gwiriad cydymffurfio wedi dod i ben, neu pan fydd eich apêl wedi’i setlo.

Os yw’r swm ar yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn fwy na’r swm sy’n ddyledus ar ôl i’ch gwiriad cydymffurfio ddod i ben, neu pan fydd eich apêl wedi’i setlo, byddwn fel arfer yn ad-dalu unrhyw swm yr ydych wedi’i ordalu. Byddwn hefyd yn talu unrhyw log sy’n ddyledus i chi mewn perthynas â’r swm a ordalwyd.

Os ydych yn aelod o bartneriaeth a defnyddiwyd y cynllun arbed treth gan y bartneriaeth, bydd eich hysbysiad i bartner wneud taliad yn dangos y swm sy’n ymwneud â’ch cyfran chi o ddefnydd y bartneriaeth o’r cynllun. Dyma fydd y swm a adlewyrchwyd yn eich Ffurflen Dreth neu’ch hawliad eich hun o ganlyniad i’r cynllun.

Talu’r hyn sy’n ddyledus

Bydd taliad yn ddyledus 90 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig.

Os byddwch yn cyflwyno achos sy’n gwrthwynebu’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, gall y dyddiad cau ar gyfer talu newid. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig’ ar dudalen 5.

Trafferth talu

Os ydych o’r farn y gallech gael trafferthion talu, rhowch wybod i ni ar unwaith.

Treth Dir y Tollau Stamp a Threth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu — prynwyr ar y cyd neu bartneriaethau

Os yw’ch defnydd o’r cynllun arbed treth yn ymwneud â Threth Dir y Tollau Stamp (SDLT) neu Dreth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu (ATED), byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig at bob prynwr ar y cyd neu bartner. Bydd pob hysbysiad yn dangos y swm llawn sy’n ddyledus. Mae hyn oherwydd, yn ôl y gyfraith, ar gyfer SDLT a ATED, mae pob prynwr ar y cyd neu bartner yn atebol ar y cyd ac yn unigol, sy’n golygu bod pob prynwr ar y cyd neu bartner yn gyfrifol am dalu swm llawn y taliad cyflymedig.

Os byddwn yn codi cosbau am dalu’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn hwyr, bydd bob prynwr ar y cyd neu bartner yn gyfrifol ar y cyd ac yn unigol am dalu’r gosb lawn.

Nid yw hyn yn golygu y byddai’n rhaid i bob prynwr ar y cyd neu bartner dalu swm llawn y taliad cyflymedig neu’r gosb. Yn hytrach, penderfyniad y prynwyr ar y cyd neu’r partneriaid yw faint y bydd pob un ohonynt yn ei dalu — cyn belled â bod y swm sy’n ddyledus yn cael ei dalu’n llawn. Nid oes angen i chi roi gwybod i ni faint y bydd pob un ohonoch yn ei dalu.

Os nad yw’r swm sy’n ddyledus yn cael ei dalu’n llawn, gallwn ei wneud yn ofynnol i un neu’n fwy o’r prynwyr ar y cyd dalu’r hyn sy’n weddill.

Mae rhagor o wybodaeth am gosbau isod.

Cosbau am beidio â thalu’r taliad cyflymedig gan bartner mewn pryd

Os na fyddwch yn talu’r swm llawn a ddangosir yn eich hysbysiad i bartner wneud taliad erbyn y dyddiad cau, byddwch yn agored i gosb. Os byddwn yn codi cosb arnoch, bydd yn rhaid i chi ei thalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig gan bartner.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn ar neu cyn:

  • y dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • 5 mis o’r dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod
  • 11 mis o’r dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y 2 gosb flaenorol o 5%

Mae’r cosbau hyn yn berthnasol i’r holl drethi sy’n cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth ar daliadau cyflymedig.

Cosbau am beidio â thalu’r taliad cyflymedig mewn pryd os oes gwiriad cydymffurfio ar y gweill (nid yw’r adran hon yn berthnasol ar gyfer taliadau cyflymedig gan bartner)

Os oes gwiriad cydymffurfio ar y gweill, ac nad ydych yn talu’r swm llawn a ddangosir ar eich hysbysiad i wneud taliad cyflymedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i gosb. Os byddwn yn codi cosb arnoch, bydd yn rhaid i chi ei thalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn ar neu cyn:

  • y dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • 5 mis o’r dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod
  • 11 mis o’r dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y 2 gosb flaenorol o 5%

Mae’r cosbau hyn yn berthnasol i’r holl drethi sy’n cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth ar daliadau cyflymedig.

Gordaliadau a chosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd os oes apêl ar y gweill (nid yw’r adran hon yn berthnasol ar gyfer taliadau cyflymedig gan bartner)

Gordaliadau am hysbysiadau i wneud taliad cyflymedig sy’n ymwneud â Threth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf

Os yw’ch hysbysiad i wneud taliad cyflymedig:

  • yn ymwneud â Threth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf
  • ar gyfer y flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2009 i 5 Ebrill 2010 neu’n gynharach

ac nad ydych yn talu’r swm llawn a ddangosir ar yr hysbysiad, byddwch yn agored i ordal. Os byddwn yn codi gordal o’r fath arnoch, bydd yn rhaid i chi ei dalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn:

  • cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i ordal sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • ar neu cyn 6 mis o’r dyddiad cau ar gyfer talu, byddwch yn agored i ordal pellach sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod

Cosbau am hysbysiadau i wneud taliad cyflymedig sy’n ymwneud â Threth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu

Os yw’ch hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn ymwneud â:

  • Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf, ac mae ar gyfer y flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2010 i 5 Ebrill 2011 neu’n ddiweddarach
  • Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu

ac nad ydych yn talu’r swm llawn a ddangosir ar yr hysbysiad, byddwch yn agored i gosb. Os byddwn yn codi cosb o’r fath arnoch, bydd yn rhaid i chi ei thalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig.

‘Y dyddiad cosb’ yw’r enw a roddir ar y dyddiad yr ydych yn dod yn agored i gosb o’r fath. Y dyddiad cosb fydd 31 diwrnod ar ôl y dyddiad yr oeddech i fod i wneud y taliad cyflymedig.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn:

  • erbyn y dyddiad cosb, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • ar neu cyn 5 mis o’r dyddiad cosb, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod
  • ar neu cyn 11 mis o’r dyddiad cosb, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch — mae hyn ar ben y 2 gosb flaenorol o 5%

Gwybodaeth gyffredinol am gosbau a gordaliadau am beidio â thalu’r taliad cyflymedig mewn pryd

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb neu ordal

Byddwn yn anfon hysbysiad atoch i roi gwybod i chi faint yw’r gosb neu’r gordal a sut yr ydym wedi’u cyfrifo.

Rhoi gwybod i ni am amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylem gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb neu’r gordal, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Pryd na fyddwn yn codi cosb neu ordal am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd

Ni fyddwn yn codi gordaliadau na chosbau arnoch am dalu’ch taliad cyflymedig yn hwyr, os oedd gennych esgus rhesymol dros dalu’n hwyr — cyn belled â’ch bod wedi talu heb oedi pan ddaeth yr esgus rhesymol i ben.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth atal person rhag bodloni rhwymedigaeth treth mewn pryd pan fydd wedi cymryd gofal rhesymol i’w bodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith bod yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i’r person unioni pethau heb unrhyw oedi diangen.

Mae’r cwestiwn a oes gan berson esgus rhesymol yn dibynnu ar amgylchiadau penodol y methiant i fodloni’r rhwymedigaeth treth, a’i amgylchiadau a’i allu penodol. Gallai hynny olygu bod yr hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol ar gyfer un person ddim yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol ar gyfer rhywun arall.

Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os derbyniwn fod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi gordal na chosb arnoch. Os ydym eisoes wedi codi cosb arnoch am beidio â gwneud y taliad mewn pryd, byddwn yn ei chanslo. Mae’r un peth yn wir os ydym wedi codi gordal arnoch.

Os ydych yn anghytuno ag unrhyw gosbau neu ordaliadau yr ydym wedi’u codi

Os byddwn yn codi cosbau neu ordaliadau arnoch am wneud y taliad cyflymedig yn hwyr, byddwch yn gallu apelio yn eu herbyn os ydych yn anghytuno. Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM — beth i’w wneud os anghytunwch’. Gallwch gael copi ar-lein. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

Llog am dalu’n hwyr

Nid ydym yn codi llog am wneud y taliad cyflymedig ei hun yn hwyr. Fodd bynnag, rydym yn codi llog am dalu treth yn hwyr — o’r dyddiad yr oedd y dreth yn ddyledus yn wreiddiol, hyd at y dyddiad y caiff ei thalu.

Pan fydd eich sefyllfa o ran treth wedi’i setlo, byddwn yn cyfrifo a oes llog i chi ei dalu. At ddibenion llog, byddwn yn trin y swm a dalwch mewn perthynas â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig fel petai’n daliad o’r dreth. Bydd hyn yn golygu na fydd llog yn cronni mwyach ar swm y dreth sy’n hafal i swm y taliad cyflymedig a dalwch, a hynny o’r dyddiad yr ydych yn ei wneud.

Rydym hefyd yn codi llog ar unrhyw gosb neu ordal a delir yn hwyr.

Os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig

Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad i wneud taliad cyflymedig. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno achos i ni os ydych o’r farn bod un neu’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw’r amodau ar gyfer anfon yr hysbysiad wedi’u bodloni — dangosir y rhain yn yr adran ‘Pryd y gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig’ sydd ar dudalen 1
  • nid yw’r swm a ddangosir ar yr hysbysiad yn gywir — os felly, mae angen i chi roi gwybod i ni beth ddylai’r swm cywir fod yn eich barn chi a pham

Mae’n rhaid i’ch achos fod ar bapur, ac mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn anfon eich llythyr cyn pen 90 diwrnod calendr o’r dyddiad yr ydych yn cael yr hysbysiad. Yna, byddwn yn ystyried yr hyn a ddywedwch ac yn rhoi gwybod i chi beth yw’n casgliadau. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom:

  • rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am eich achos
  • anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol sy’n ategu’ch achos

Ni allwch gyflwyno’ch achos ar ôl i’r 90 diwrnod calendr fynd heibio. Mae hyn yn golygu, ar ôl i ni roi gwybod am yr hyn yr ydym wedi’i ganfod, na fyddwch yn gallu cyflwyno achos ychwanegol os yw’r 90 diwrnod calendr eisoes wedi mynd heibio. Gwnewch yn siŵr, felly, eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth berthnasol i ni pan fyddwch yn cyflwyno’ch achos.

Os byddwch yn cyflwyno achos, ni allwch ofyn i’r swm a ddangosir ar yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig gael ei ohirio.

Fodd bynnag, os cyflwynwch achos cyn y dyddiad cau ar gyfer talu, ac nad ydym yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, gellir gohirio’r dyddiad cau. Bydd taliad yn ddyledus ar y naill neu’r llall o’r canlynol, p’un bynnag sydd hwyraf:

  • y dyddiad cau a ddangosir ar yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig
  • 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y cawsoch ein penderfyniad ar yr achos a gyflwynwyd gennych

Os yw’r dyddiad cau ar gyfer talu yn cael ei ymestyn, bydd unrhyw gosbau am wneud y taliad yn hwyr yn berthnasol o’r dyddiad cau sydd wedi’i ymestyn.

Os ydych yn aelod o bartneriaeth, gallwch gyflwyno achos ynghylch eich hysbysiad eich hun i bartner wneud taliad. Ni allwch gyflwyno achos ar ran unrhyw un o’r partneriaid eraill, nac ar ran y bartneriaeth gyfan.

Os ydych am setlo’ch materion treth

Os ydych am setlo’ch materion treth ar ôl i ni roi gwybod i chi y byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig atoch, byddwn yn gweithio gyda chi i setlo’r gwiriad cydymffurfio neu’r apêl.

Mae penderfynu a ydych am setlo’ch materion treth yn eich dwylo chi’n gyfan gwbl. Os nad ydych am setlo, bydd y gwiriad cydymffurfio neu’r apêl yn dal i fod ar y gweill.

Eich hawl i apelio mewn perthynas â’ch gwiriad cydymffurfio neu’ch apêl sydd ar y gweill

Pan fyddwch yn talu’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, nid yw hynny’n golygu bod eich gwiriad cydymffurfio neu’ch apêl sydd ar y gweill wedi’i setlo.

Er na allwch apelio yn erbyn yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, nid yw’r ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu taliadau cyflymedig yn effeithio ar eich hawliau i apelio i’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’ch rhwymedigaeth treth.

Mae hyn yn golygu:

  • os oes gwiriad cydymffurfio ar y gweill, bydd gennych lwyr hawl i apelio o hyd os nad ydych yn cytuno â chanlyniad y gwiriad hwnnw
  • os ydych eisoes wedi apelio yn erbyn canlyniad gwiriad cydymffurfio, asesiad neu ddyfarniad, bydd gennych lwyr hawl i apelio o hyd

Os ydych wedi apelio, ac rydym wedi gohirio’r dreth yr ydych yn dadlau yn ei chylch

Os ydym wedi anfon hysbysiad cau atoch mewn perthynas â gwiriad cydymffurfio, neu wedi anfon asesiad, dyfarniad neu unrhyw fath o benderfyniad arall, a’ch bod wedi:

  • apelio yn erbyn yr hysbysiad cau, asesiad, dyfarniad neu benderfyniad arall
  • gofyn i ni ohirio’r holl dreth y mae anghydfod yn ei chylch, neu ran ohoni, ac rydym wedi gwneud hynny

bydd y gohiriad o’r dreth sy’n destun anghydfod yn cael ei ganslo pan fyddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig atoch. Yna, bydd yn rhaid i chi dalu’r holl dreth a ohiriwyd yn flaenorol, a hynny drwy wneud y taliad cyflymedig.

Beth fydd yn digwydd os gwnewch y taliad cyflymedig ac mae llys neu dribiwnlys yn dyfarnu yn nes ymlaen fod mantais treth yn deillio o’r cynllun

Os bydd tribiwnlys neu lys yn penderfynu bod mantais treth yn deillio o’r cynllun, byddem fel arfer yn ad-dalu’r swm yr ydych wedi’i dalu o dan yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, ynghyd ag unrhyw log sy’n ddyledus i chi.

Fodd bynnag, os byddwn yn apelio i lys uwch neu dribiwnlys yn erbyn y penderfyniad, mewn rhai achosion gallwn hefyd ofyn am eu caniatâd i beidio ag ad-dalu’r swm i chi. Ni fyddem yn gwneud hyn, oni bai ein bod o’r farn bod perygl na fyddech yn talu’r swm sydd arnoch pe bai ein hapêl yn llwyddiannus.

Gwybodaeth gyffredinol

Cwsmeriaid ag anghenion ychwanegol

Os gall eich iechyd neu amgylchiadau personol ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i ni. Byddwn yn eich helpu ym mha bynnag ffordd y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Y trethi y mae’r daflen wybodaeth hon yn berthnasol iddynt

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â thaliadau cyflymedig ar gyfer Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu, Treth Enillion Cyfalaf, Treth Gorfforaeth, Treth Incwm (Hunanasesiad, gan gynnwys CYG Dosbarth 4 a’r rhan fwyaf o CYG Dosbarth 2), a Threth Dir y Tollau Stamp.

Mae taliadau cyflymedig hefyd yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • Treth Etifeddiant — os ydych am wybod rhagor am achosion o’r fath, dylech gysylltu â’r swyddfa a wnaeth roi’r daflen wybodaeth hon i chi
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) a Threth Incwm drwy Dalu Wrth Ennill (TWE) — mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS26, ‘Avoidance schemes — accelerated payments for Income Tax and National Insurance contributions through PAYE’

Deddfwriaeth datgelu cynlluniau arbed treth a’r rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol

Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar-lein ynghylch:

  • datgelu cynlluniau arbed treth (DOTAS) — ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘disclosure of avoidance’
  • y rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol (GAAR) — ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘GAAR arrangements’.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.