Canllawiau

Rhoi sylw i wrthdaro buddiannau: rhestr gyfeirio

Diweddarwyd 31 Hydref 2022

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Rhoi sylw i wrthdaro buddiannau: rhestr gyfeirio

C1. Os yw ymddiriedolwr wedi adnabod gwrthdaro buddiannau, ydy’r corff ymddiriedolwyr wedi ystyried a yw’r gwrthdaro yn ddifrifol ac felly dylid ei ddileu neu a ddylent geisio awdurdod ar ei gyfer (gweler rhan 4 y canllaw hwn). Os yw’r ymddiriedolwyr wedi penderfynu yn erbyn symud y gwrthdaro buddiannau neu geisio awdurdod ar ei gyfer, ewch i Gwestiwn 2.

C2. Ydy’r gwrthdaro buddiannau wedi codi oherwydd y bydd yr ymddiriedolwr dan sylw yn cael budd o ganlyniad i’r penderfyniad? (Mae manylion am fudd i ymddiriedolwr, a pha fuddion y mae angen eu hawdurdodi, i’w gweld yn rhan 3 ac Atodiad A y canllaw hwn). Os ydy, ewch i Gwestiwn 3. Os nac ydy, ewch i Gwestiwn 4.

C3. Ydy’r budd wedi’i awdurdodi:

  • gan ddogfen lywodraethol yr elusen?
  • gan ddarpariaeth statudol megis adran 185 o’r Ddeddf Elusennau?
  • yn benodol, gan y Comisiwn Elusennau? (gweler Atodiad A y canllaw hwn)

Os nac ydy, mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr wneud cais i’r Comisiwn am awdurdod ar gyfer y budd (gweler rhan 3 ac Atodiad A y canllaw hwn). Ewch i Gwestiwn 5. Os ydy, ydy’r ymddiriedolwyr elusen wedi cydymffurfio â thelerau’r awdurdod? Ewch i Gwestiwn 5.

C4. Er nad oes unrhyw fudd i ymddiriedolwr, oes gweithdrefnau yn eu lle i sicrhau bod modd gwneud y penderfyniad er lles gorau’r elusen yn unig? (gweler rhan 4 y canllaw hwn).

Os nac ydy, dylai’r ymddiriedolwyr elusen geisio cyngor ar eu penderfyniad, ac yn y dyfodol, sicrhau bod gweithdrefnau gwrthdaro buddiannau addas yn eu lle ac yn cael eu dilyn. Os ydy, ewch i Gwestiwn 6.

C5. Ydy’r ymddiriedolwyr elusen wedi gwirio a oes angen iddynt ddatgelu’r budd i ymddiriedolwr yn yr adroddiad blynyddol a chyfrifon (gweler rhan 4 o’r canllaw). Ewch i Gwestiwn 6.

C6. Ydy’r ymddiriedolwyr elusen wedi gwneud cofnod o’r gwrthdaro, eu hymagwedd at ddelio â’r gwrthdaro, a’u penderfyniad? (gweler rhan 4 y canllaw)