Gwneud cais am ad-daliad partner o ddidyniadau is-gontractiwr
Os ydych yn rhan o bartneriaeth, defnyddiwch ffurflen CIS41 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i wneud cais am ad-daliad o ddidyniadau is-gontractiwr yn ystod y flwyddyn dreth bresennol.
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn is-gontractiwr sy’n gweithio fel rhan o bartneriaeth, defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wneud cais am ad-daliad o ddidyniadau is-gontractiwr yn ystod y flwyddyn dreth bresennol. Defnyddiwch eich Ffurflen Dreth yn lle’r ffurflen hon os ydych yn gwneud eich cais ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Gallwch naill ai:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, neu
- llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEM
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i gael gweld sut mae eich ffurflen yn symud ymlaen.
Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch
Bydd angen y manylion canlynol wrth law i’ch helpu i lenwi’r ffurflen ar-lein:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- cyfeirnod treth eich partneriaeth
- cyfeirnod treth pob partner
- manylion banc i anfon unrhyw ad-daliadau iddo
Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen bost
Os ydych yn defnyddio’r ffurflen bost ac mae’ch porwr yn hen, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Ffurflenni cysylltiedig ag arweiniad
Defnyddiwch ffurflen CIS40 i wneud cais am ad-daliad o ddidyniadau is-gontractiwr.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2023 + show all updates
-
CIS41 (English and Welsh) has been updated to reflect new tax year changes.
-
CIS41 (English and Welsh) has been updated to reflect new tax year changes.
-
An online forms service is now available.
-
CIS41 (English and Welsh) has been updated to reflect new tax year changes.
-
Welsh translation added.
-
First published.