Ffurflen

Ffurflen COP14: Hysbysiad o achos (Llys Gwarchod)

Diweddarwyd 19 Mai 2022

Rhaid i’r unigolyn y mae’r cais/apêl yn ymwneud ag ef/â hi gael ei hysbysu’n bersonol am faterion penodol.

Rhaid i chi hefyd ddarparu hysbysiad COP14 i’r unigolyn y mae’r cais/apêl yn ymwneud ag ef/â hi sy’n esbonio’r mater y darperir hysbysiad ar ei gyfer.

Dylid defnyddio iaith syml a chlir i lenwi’r blwch sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’, fel a ganlyn:

Penderfyniad y Llys ar sut i gymryd rhan

Mae’r llys wedi gwneud penderfyniad ynghylch sut y bydd yr unigolyn sy’n cael ei hysbysu yn cymryd rhan yn yr achos (gan gynnwys penodi cyfaill cyfreitha neu gynrychiolydd i weithredu ar ei ran).

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda’r geiriau canlynol – Mae’r llys wedi gwneud penderfyniad ynghylch sut y dylech gymryd rhan yn yr achos. Ychwanegwch yr wybodaeth ganlynol:

  • a yw’r llys wedi cyfarwyddo y dylai’r unigolyn sy’n cael ei hysbysu fod yn barti i’r achos
  • a yw’r llys wedi penodi cyfaill cyfreitha neu gynrychiolydd i weithredu ar ei ran mewn perthynas â’r achos, a manylion pwy yw’r unigolyn hwnnw
  • os yw’r llys wedi cyfarwyddo y dylai’r unigolyn sy’n cael ei hysbysu fod yn barti i’r achos, ond na phenodwyd unrhyw gyfaill cyfreitha neu gynrychiolydd cyfreithiol achrededig, y rhesymau pam na wnaed hynny
  • a yw’r unigolyn sy’n cael ei hysbysu wedi cael cyfle i annerch y barnwr yn uniongyrchol, neu’n anuniongyrchol

Mae’r llys wedi cyflwyno’r cais

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda’r geiriau canlynol – bydd cais amdanoch yn cael ei ystyried gan y Llys Gwarchod. Ychwanegwch yr wybodaeth ganlynol:

  • mae’r cais yn codi’r cwestiwn a oes gan yr unigolyn sy’n cael ei hysbysu ddiffyg galluedd mewn perthynas â mater neu faterion a beth mae hynny’n ei olygu
  • beth fydd yn digwydd os bydd y llys yn gwneud y gorchymyn neu’r cyfarwyddyd y gwnaed cais amdano; a
  • pan fo’r cais yn cynnwys cynnig i benodi unigolyn i wneud penderfyniadau ar ran yr unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef/â hi, manylion yr unigolyn hwnnw

Rhaid i chi hefyd ddarparu cydnabyddiad hysbysu COP5 i’r unigolyn sy’n cael ei hysbysu.

Dyddiad pan gynhelir gwrandawiad mewn perthynas â’r cais

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda’r geiriau canlynol – cynhelir gwrandawiad ar gyfer cais amdanoch yn y Llys Gwarchod ar [insert the date and time] yn [insert address].

Mae’r cais wedi’i dynnu’n ôl

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda’r geiriau canlynol – mae cais amdanoch wedi’i dynnu’n ôl o’r Llys Gwarchod. Ychwanegwch wybodaeth am ganlyniadau tynnu’r cais yn ôl.

Mae hysbysiad yr apelydd wedi’i gyhoeddi gan y llys

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda’r geiriau canlynol – bydd yr apêl ynghylch penderfyniad y llys amdanoch yn cael ei hystyried gan y Llys Gwarchod. Ychwanegwch yr wybodaeth ganlynol:

  • y materion a godwyd gan yr apêl
  • beth fydd yn digwydd os bydd y llys yn gwneud y gorchymyn neu’r cyfarwyddyd y gwnaed cais amdano.

Rhaid i chi hefyd ddarparu cydnabyddiad hysbysu COP5 i’r unigolyn sy’n cael ei hysbysu.

Dyddiad pan gynhelir gwrandawiad mewn perthynas â’r apêl

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda’r geiriau canlynol – cynhelir gwrandawiad o’r apêl ynghylch penderfyniad y llys amdanoch yn y Llys Gwarchod ar [insert the date and time] yn [insert address].

Mae hysbysiad yr apelydd wedi’i dynnu’n ôl

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda’r geiriau canlynol – mae apêl ynghylch penderfyniad y llys amdanoch wedi’i thynnu’n ôl o’r Llys Gwarchod.

Ychwanegwch wybodaeth am ganlyniadau tynnu’r apêl yn ôl.

Mae’r llys wedi gwneud penderfyniad

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda’r geiriau canlynol – mae penderfyniad amdanoch wedi’i wneud gan y Llys Gwarchod. Ychwanegwch wybodaeth am effaith y gorchymyn neu’r penderfyniad. Rhaid i chi hefyd ddarparu copi o’r gorchymyn i P.

Unrhyw fater arall yn unol â chyfarwyddyd y llys

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr hysbysiad

Cwblhewch y frawddeg sy’n dechrau ‘Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi gwybod i chi…’ gyda gwybodaeth i grynhoi’r mater yn fyr.

Ychwanegwch wybodaeth am y mater yn unol â chyfarwyddyd y llys.

Ffurflen COP5 a thystysgrif COP20A

Pan hysbysir yr unigolyn bod ffurflen gais neu hysbysiad yr apelydd wedi’i chyflwyno, yna mae’n rhaid i chi roi ffurflen cydnabyddiad hysbysu COP5 iddynt.

Rhaid i chi lenwi tystysgrif hysbysu/peidio â hysbysu COP20A a’i dychwelyd i’r llys o fewn 7 diwrnod i’r hysbysiad gael ei ddarparu, oni bai bod gorchymyn llys yn cyfarwyddo fel arall.