Adneuo gweithredoedd eiddo
Cynorthwywch i gadw rhan bwysig o’n treftadaeth archifol trwy roi neu roi ar fenthyg eich gweithredoedd teitl i'w hadneuo gyda'ch archifdy lleol
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Trwy roi neu roi ar fenthyg y gweithredoedd cyn-gofrestru i’ch archifdy lleol, byddwch yn helpu i gadw rhan bwysig o’n treftadaeth archifol. Byddwch hefyd yn sicrhau os bydd ymholiad yn codi ynglŷn â theitl cofrestredig eich eiddo, sy’n annhebygol o ddigwydd, bod y dogfennau sydd wedi eu hadneuo ar gael i’w harchwilio.
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen a’i hanfon i’ch archifdy lleol gyda’r gweithredoedd.