Morgais digidol: cymeradwyo (e-ACD)
Ffurflen gais e-ACD: Cymeradwyaeth Cofrestrfa Tir EF am forgais digidol a neilltuo cyfeirnod swyddogol e-MD.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn sefydliad rhoi benthyg neu’n gweithredu ar ran rhoddwr benthyg ac mae angen gwneud cais am gymeradwyaeth gweithred morgais ddigidol. Mae hyn yn cynnwys neilltuo cyfeirnod swyddogol e-MD Cofrestrfa Tir EF.
Rhaid ichi sicrhau hefyd fod fersiwn papur o’r un weithred wedi ei gymeradwyo trwy ddefnyddio Ffurf safonol arwystl: cymeradwyo (ACD).
Gallwch anfon y ffurflen ACD ar ei phen ei hun, yr e-ACD ar ei ben ei hun os cafodd y weithred morgais bapur ei chymeradwyo beth amser yn ôl, neu anfon y ddau gyda’i gilydd.
Os nad ydych yn anfon y ffurflen ACD, ni fydd yn eich atal rhag defnyddio’r gwasanaeth digidol, ond byddai’n achosi problem os na all cymerwr benthyg ddefnyddio’r gwasanaeth digidol am ryw reswm ac mae angen ei chwblhau ar bapur.
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon ymateb atoch trwy ebost.
Ffïoedd a chyfeiriad
Ni chodir unrhyw ffioedd ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Anfonwch y ffurflen hon trwy ebost i [email protected].
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 28 Ionawr 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Mawrth 2019 + show all updates
-
Form amended to replace 'mortgage' with 'charge' under 'Effective date and time' in panel 7.
-
Added translation