Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 52: hawddfreintiau a hawliwyd trwy bresgripsiwn

Diweddarwyd 11 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Sut mae caffael hawddfreintiau trwy bresgripsiwn

Presgripsiwn yw caffael hawl trwy hir ddefnydd neu fwynhau; mae’r gyfraith yn tybio y rhoddwyd yr hawl yn gyfreithlon. Mae 3 dull o gaffael hawddfraint trwy bresgripsiwn:

  • trwy gyfraith gwlad
  • trwy grant cyfoes coll
  • o dan Ddeddf 1832

Pa ddull bynnag y dibynnir arno, rhaid i’r defnydd fod am o leiaf 20 mlynedd ac mae’r pwyntiau canlynol yn berthnasol.

1.1 Defnydd fel hawl

Rhaid i’r defnydd fod heb rym, heb gyfrwystra, a heb ganiatâd (nec vi, nec clam, nec precario). Ni all defnydd fod yn ddefnydd fel hawl tra bo’r tir buddiol a’r tir sy’n dwyn y baich yn yr un meddiant.

1.2 Defnydd gan neu ar ran perchennog rhydd-ddaliol yn erbyn perchennog rhydd-ddaliol arall

Ceir 2 fater yma.

Yn gyntaf, gall defnydd tenant sefydlu hawddfraint ond mae’n atafaelu i’r ystad rydd-ddaliol. Mae hyn yn golygu na all tenant gaffael hawddfraint dros dir arall a berchnogir gan ei landlord, gan na all landlord gael hawliau yn ei erbyn ei hun, ac mae hyn yn gymwys p’un ai oes gan y tir arall hwnnw denant ai peidio. Mae hefyd yn golygu na fydd unrhyw hawddfraint sy’n codi yn dod i ben gyda’r brydles.

Yn ail, lle y mae tenant yn meddiannu’r tir sy’n dwyn y baich, mae p’un ai y mae hawddfraint ragnodol yn codi yn dibynnu ar a gytunodd perchennog rhydd-ddaliol y tir sy’n dwyn y baich â’r defnydd. Eglurir y sefyllfa yn Williams v Sandy Lane (Chester) Ref [2006] EWCA Civ 1738; gweler yn arbennig para.24. Yn fyr, mae hyn yn golygu:

  • os dechreuodd y denantiaeth cyn y cyfnod defnyddio, caiff y cais ei ddileu oni bai y bu gan y rhydd-ddeiliad wybodaeth wirioneddol neu briodoledig am y defnydd ac y gallai fod wedi cymryd camau i atal y defnydd yn ystod y denantiaeth
  • os dechreuodd y denantiaeth ar ôl y cyfnod defnyddio, caiff y cais ei ddileu oni bai (i) y bu gan y rhydd-ddeiliad wybodaeth wirioneddol neu briodoledig am y defnydd cyn iddo gael ei roi neu (ii) y bu gan y rhydd-ddeiliad wybodaeth wirioneddol neu briodoledig am y defnydd dim ond ar ôl iddo gael ei roi ond y gallai fod wedi cymryd camau i atal y defnydd

1.3 Rhaid i’r defnydd fod yn ddi-dor

Nid oes angen i’r defnydd fod yn gyson ond bydd cyfnodau hir, diesboniad o ddiffyg defnydd yn atal hawddfraint rhag codi. Lle bo’r cais yn cael ei wneud o dan Ddeddf 1832, nid yw toriad yn cael ei drin fel toriad yn y defnydd nes bydd wedi ei oddef am flwyddyn.

1.4 Rhaid i’r hawl sy’n cael ei hawlio fod yn un y gellid bod wedi ei rhoi’n gyfreithlon

Ystyriwyd y pwynt hwn yn Nhŷ’r Arglwyddi’n ddiweddar yn achos Bakewell Management Ltd yn erbyn Brandwood ([2004] UKHL 14).

Os na ellid bod wedi rhoi’r hawl yn gyfreithlon trwy weithred, fel hawl i lygru afon yn groes i waharddiad statudol, nid oes modd ei chaffael trwy bresgripsiwn.

Mae adran 193(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn ei gwneud yn drosedd i yrru cerbyd dros gomin. Mae adran 34 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988 yn ei gwneud yn drosedd i yrru cerbyd modur dros dir nad yw’n ffordd, sy’n gilffordd gyfyngedig, neu dros dir y mae llwybr cyhoeddus neu Iwybr ceffylau yn rhedeg drosto. Fodd bynnag, ni chyflawnir y ddau drosedd ond wrth yrru dros y tir ‘heb awdurdod cyfreithlon’. Gan y gellid bod wedi rhoddi’n gyfreithlon yr hawl i yrru dros y tir dan sylw, mae modd ei chaffael trwy bresgripsiwn.

1.5 Tir rheilffordd a chamlas

Ers derbyn Deddf Comisiwn Cludiant Prydeinig 1949, ni fu modd caffael hawl tramwy trwy bresgripsiwn dros dir ym meddiant y comisiwn ac yn ffurfio mynediad neu fynedfa i, ymysg pethau eraill, unrhyw orsaf, depo, doc neu harbwr yn perthyn i’r comisiwn (adran 57 o Ddeddf Comisiwn Cludiant Prydeinig 1949). Erbyn hyn rhaid cymryd bod y cyfeiriadau at y comisiwn yn cynnwys awdurdodau rheilffyrdd olynol a’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.

2. Gweithredu’r hawddfreintiau pan nad oes cofnodion yn y gofrestr

Nid oes unrhyw ofyniad i wneud cofnodion yn y gofrestr o ran hawddfreintiau trwy bresgripsiwn.

Mae mantais holl fuddion sy’n bodoli er lles ystad yn breinio yn y perchennog cofrestredig ar gofrestriad cyntaf (adrannau 11(3), 12(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac yna bydd yn mynd ymlaen ar drosglwyddo’r ystad gofrestredig.

Buddion cyfreithiol fydd hawddfreintiau sy’n codi trwy bresgripsiwn cyfraith gwlad neu athrawiaeth grant cyfoes coll. Mae prynwr tir digofrestredig sy’n dwyn baich yn rhwym dan fuddion cyfreithiol. Yn dilyn cofrestriad cyntaf y tir sy’n dwyn y baich, buddion gor-redol yw’r rhan fwyaf o hawddfreintiau cyfreithiol (adran 29 ac Atodlen 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac felly’n gallu cyfrwymo perchnogion cofrestredig olynol y tir sy’n dwyn y baich.

Mae modd i hawddfraint golli ei grym ar warediad cofrestredig os nad oedd y trosglwyddai yn ymwybodol ohoni mewn gwirionedd, nad oedd yn amlwg ar archwiliad rhesymol ofalus o’r tir, ac na chafodd ei harfer o fewn blwyddyn i’r trosglwyddiad. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i hawddfreintiau oedd yn fuddion gor-redol o ran ystad gofrestredig ar ddyfodiad Deddf Cofrestru Tir 2002 i rym ar 13 Hydref 2003.

Ni fydd y rhan fwyaf o hawddfreintiau trwy bresgripsiwn yng nghategori hawddfreintiau sy’n colli eu grym gan y byddant yn cael eu defnyddio’n rheolaidd. Fodd bynnag, ni ddylid anwybyddu posibilrwydd colli hawddfraint fel hyn. Bydd cofnodi rhybudd o hawddfraint yng nghofrestr y teitl sy’n dwyn y baich yn sicrhau nad yw’n colli ei grym ar warediad pellach y tir sy’n dwyn y baich.

3. Y cofnodion y mae modd eu gwneud yn y gofrestr o ran yr hawddfreintiau

Yn fras, mae’r cofnodion a wnawn yn y gofrestr yn dibynnu ar y canlynol:

  • a yw’r tir buddiol a’r tir sy’n dwyn baich wedi eu cofrestru neu ai dim ond un ohonynt sydd wedi ei gofrestru
  • lle bo’r tir sy’n dwyn y baich yn ddigofrestredig, a gyflwynwyd tystiolaeth foddhaol o deitl

3.1 Mae budd yr hawliwr yn y tir buddiol a’r ystad rydd-ddaliol yn y tir sy’n dwyn y baich yn gofrestredig: cofrestru’r budd a nodi’r baich

Gall perchennog cofrestredig wneud cais i gael ei gofrestru’n berchennog hawddfraint gyfreithiol yn berthynol i’r ystad gofrestredig; mewn geiriau eraill, gall wneud cais i gofrestru budd yr hawddfraint. Os yw’r cais mewn trefn, ac os o’r dystiolaeth rydym wedi ei gweld, ein bod yn credu ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod hawl gan yr hawliwr i gael ei gofrestru felly, byddwn yn anfon rhybudd o’r cais at berchennog cofrestredig y tir sy’n dwyn y baich ac at bobl eraill, megis arwystleion cofrestredig, sydd, yn ôl y gofrestr, â budd yn y tir.

Ar yr amod nad ydym yn derbyn gwrthwynebiad i’r rhybudd neu rybuddion, gwnawn gofnod yng nghofrestr eiddo’r tir buddiol i’r perwyl bod gan y tir hwn fudd yr hawddfraint. Os mai dim ond rhan o’r tir yn y teitl yw’r tir buddiol, bydd y cofnod yn nodi rhan y teitl cofrestredig sydd â budd yr hawddfraint. Mae cofnod o’r fath yn gwarantu bodolaeth yr hawl at ddiben darpariaethau indemniad Deddf Cofrestru Tir 2002.

Ar yr un pryd, gwnawn gofnod yn y gofrestr arwystlon ar gyfer y tir sy’n dwyn y baich. Os mai dim ond rhan o’r tir yn y teitl yw’r tir sy’n dwyn y baich, bydd y cofnod yn nodi rhan y teitl cofrestredig sy’n ddarostyngedig i’r hawddfraint.

Efallai nad yr un geiriad fydd i’r cofnod â’r hawl sy’n cael ei hawlio gan y ceisydd yn ei gais. Mae hyn oherwydd bod natur yr hawl trwy bresgripsiwn yn cael ei phennu gan y defnydd y cododd ohono.

Bydd y cofnod yn y gofrestr eiddo ar gyfer y tir buddiol a’r rhybudd yn y gofrestr arwystlon ar gyfer y tir sy’n dwyn y baich yn datgan i’r hawl gael ei chaffael trwy ddefnydd hir a bydd yn cyfeirio at y datganiad(-au) o wirionedd neu ddatganiad(-au) statudol a gyflwynwyd i gefnogi’r cais, a fydd yn agored i’w harchwilio.

Gallai cofnodion nodweddiadol ar gyfer y budd a’r baich fod yn debyg i hyn:

(Budd)

“Mae gan y tir [a arlliwir yn binc ar y cynllun teitl] fudd hawl tramwy gyda neu heb gerbydau dros yr heol yn y cefn sy’n arwain at Smith Street. Mae’n bosibl y bydd cwmpas yr hawl hon, a gafwyd trwy bresgripsiwn, wedi ei gyfyngu gan natur y defnydd y cododd ohono.

Nodyn 1: Cyflwynwyd datganiad o wirionedd dyddiedig 2 Ionawr 2014 a wnaed gan Maria Garcia i gefnogi’r hawliad i fudd yr hawl.

Nodyn 2: Copi o’r datganiad o wirionedd yn y ffeil.”

(Baich)

“Mae’r tir [a arlliwir yn las ar y cynllun teitl] yn ddarostyngedig i hawl tramwy gyda neu heb gerbydau o blaid 33 Smith Street. Mae’n bosibl y bydd cwmpas yr hawl hon, a gafwyd trwy bresgripsiwn, wedi ei gyfyngu gan natur y defnydd y cododd ohono.

NODYN: Copi o’r datganiad o wirionedd a wnaed ar 2 Ionawr 2014 gan Maria Garcia wedi ei ffeilio o dan CS259591”.

Bydd yr hawliadau a wnaed i gefnogi’r cais yn amlwg o’r datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd cefnogol.

(Gallai hawliwr y mae ei fudd yn y tir buddiol yn gofrestredig wneud cais hefyd i nodi’r baich, ac nid i gofrestru’r budd. Ni fyddai’n rhaid diddwytho’r teitl i’r tir buddiol).

3.2 Dim ond budd yr hawliwr yn y tir buddiol sy’n gofrestredig: cofrestru’r budd

Fel yr eglurwyd yn adran 3.1, gall perchennog cofrestredig wneud cais i gael ei gofrestru’n berchennog hawddfraint gyfreithiol yn berthynol i’w ystad gofrestredig. Yn ychwanegol at y dystiolaeth o ddefnydd parhaus fel hawl, gan neu ar ran ac yn erbyn y perchnogion rhydd-ddaliol, am gyfnod o leiaf 20 mlynedd, bydd yn rhaid i’r hawliwr ddiddwytho’r teitl i’r tir sy’n dwyn y baich a chyflwyno cyfeiriad y perchennog rhydd-ddaliol i ni. Gall yr hawliwr ddiddwytho’r teitl trwy’r talfyriad neu grynodeb archwiliedig neu ardystiedig a fyddai’n cael eu cyflwyno ar werthiant yr ystad rydd-ddaliol yn y tir caeth. Os yw’r cais mewn trefn, ac os o’r dystiolaeth rydym wedi ei gweld, ein bod yn credu ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod hawl gan yr hawliwr i gael ei gofrestru felly, byddwn yn anfon rhybudd o’r cais at berchennog rhydd-ddaliol y tir sy’n dwyn y baich yn ogystal ag unrhyw un arall a all fod â budd yn y tir.

Os na dderbyniwn wrthwynebiad i’r rhybuddion a gyflwynwyd ac nad oes rheswm dros gredu bod unrhyw rybudd heb ei dderbyn, gallwn gofrestru budd yr hawddfraint yn yr un modd â phe bai’r tir sy’n dwyn y baich wedi ei gofrestru.

Yn gyffredinol, lle nad yw’r hawliwr yn diddwytho teitl i’r tir sy’n dwyn y baich a darparu cyfeiriad y perchennog rhydd-ddaliol, nid ydym yn cyflwyno unrhyw rybuddion. Byddwn yn gwneud cofnod fel a ganlyn yng nghofrestr eiddo’r tir buddiol:

“[Dyddiad] Mae’r perchennog cofrestredig yn hawlio bod gan y tir fudd hawl [telerau’r hawl fel yr hawliwyd gan yr hawliwr]. Nid yw’r hawl sy’n cael ei hawlio wedi ei chynnwys yn y cofrestriad hwn. Mae’r hawliad yn cael ei chefnogi gan [dyddiadau a manylion y datganiad(-au) o wirionedd neu ddatganiad(-au) statudol a phwy sydd wedi’u gwneud].

NODYN: Copi/copïau yn y ffeil.”

Byddwn yn gwneud cofnod tebyg mewn achosion lle bo gennym sail i gredu ei bod yn bosibl na dderbyniwyd rhybuddion a gyflwynwyd gennym.

Fel y mae ffurf y cofnod yn mynegi, byddwn yn ffeilio copïau o’r datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol a gyflwynwyd i gefnogi’r cais ac mae modd eu harchwilio a chael copïau swyddogol yn yr un modd â mwyafrif categorïau eraill y dogfennau y cyfeirir atynt yn y gofrestr. Lle nodwyd hawl i hawddfraint gennym yng nghofrestr eiddo’r tir buddiol cyn 25 Mawrth 2002 (o dan reol 254 o Reolau Cofrestru Tir 1925), nid yw’r cofnod yn cyfeirio at y datganiadau statudol a gyflwynwyd i gefnogi’r cais. Fodd bynnag, gall y perchennog cofrestredig wneud cais ysgrifenedig i addasu’r cofnod fel ag i gyfeirio at y datganiadau statudol perthnasol (nid oedd datganiadau o wirionedd yn cael eu defnyddio ar y pryd).

3.3 Dim ond yr ystad rydd-ddaliol yn y tir sy’n dwyn y baich sy’n gofrestredig: nodi’r baich

Os yw’r hawliwr yn hawlio ei fod wedi caffael hawddfraint dros dir cofrestredig, gallwn gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o ran yr hawddfraint a gaiff ei hawlio yng nghofrestr arwystlon y tir sy’n dwyn y baich.

Os yw’r hawliwr yn gwneud cais am rybudd a gytunwyd heb i berchennog cofrestredig y tir caeth roi ei gydsyniad i’r cofnod, dylai ddarparu dalfyriad neu grynodeb archwiliedig neu ardystiedig diweddar o’i deitl i’r tir buddiol, yn ogystal â’r datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol angenrheidiol. Rhaid i’r cofrestrydd fod yn fodlon o ran dilysrwydd hawl y ceisydd i gofnodi rhybudd unochrog heb ganiatâd y perchennog cofrestredig.

I weld y gwahaniaeth rhwng rhybudd a gytunwyd a rhybudd unochrog, ynghyd ag enghreifftiau o gofnodion, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Os yw’r cais am rybudd unochrog neu rybudd a gytunwyd, byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i berchennog cofrestredig y tir sy’n dwyn y baich. Gallwn hefyd gyflwyno rhybudd i bobl eraill sy’n ymddangos fod ganddynt fudd yn y tir.

Os cofnodir rhybudd unochrog neu rybudd a gytunwyd yng nghofrestr y tir sy’n dwyn y baich, bydd unrhyw warediad dilynol o’r tir sy’n dwyn y baich yn dod i rym yn ddarostyngedig i’r hawddfraint, ond dim ond os yw’r budd yn ddilys (adran 32(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

3.4 Mae’r tir sy’n dwyn y baich yn ddigofrestredig

Gellir gwneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf os yw’r tir sy’n dwyn y baich yn ddigofrestredig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf am wybodaeth am sut i gyflwyno rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf.

4. Gwneud cais i gael cofnodion yn y gofrestr

Fel rheol, dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf mae angen dogfennau gwreiddiol. I gael gwybodaeth am hyn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

4.1 Ffurflenni penodedig

Rhaid gwneud cais i gofrestru budd hawddfraint trwy bresgripsiwn naill ai ar ffurflen FR1 (ar adeg cofrestru’r tir buddiol am y tro cyntaf) neu ffurflen AP1 (ar unrhyw adeg ar ôl hynny).

Pan fo’r cais yn cael ei wneud ar ffurflen FR1 dylid gosod y cais yn gryno ym mhanel 5, er enghraifft:

Cofrestru budd hawddfraint, sef hawl tramwy gyda neu heb gerbydau er budd tir y ceisydd, dros y dramwyfa wedi ei lliwio’n frown ar y cynllun atodol.

Os yw’r tir sy’n dwyn y baich yn gofrestredig, rhaid rhoi rhif teitl y tir sy’n dwyn y baich ym mhanel 2. Efallai y bydd angen ymestyn dyfnder y panel mewn ffurflen a gynhyrchwyd trwy ddull electronig neu ddefnyddio dalen barhau ffurflen CS.

Wrth wneud y cais ar ffurflen AP1, dylid ei osod ym mhanel 4, er enghraifft:

Cofrestru budd a nodi baich hawddfraint, sef hawl tramwy ar ddeudroed yn unig er lles teitl cofrestredig y ceisydd rhif AB123456 dros y dramwyfa yn rhedeg o’r cefn dros deitl cofrestredig rhif AB654321 hyd Rodfa Acasia.

Os yw’r tir sy’n dwyn y baich wedi ei gofrestru rhaid rhoi rhif teitl y tir sy’n dwyn y baich (fel yn yr enghraifft hon). Os oes angen, naill ai dylid ymestyn y panel ar fersiwn electronig o’r ffurflen neu dylid defnyddio dalen barhau ffurflen CS.

Lle bo’r cais i nodi baich hawddfraint yn unig, dylid gosod natur yr hawl sy’n cael ei hawlio ar ffurflen AN1 (panel 8) neu ffurflen UN1 (panel 11 neu 12) fel y bo’n briodol.

Lle bo disgrifiad geiriol yn gadael unrhyw amheuaeth o ran lleoliad neu faint yr hawddfraint, rhaid darparu cynllun ar sail map yr Arolwg Ordnans ar y raddfa fwyaf ar gyfer y cylch dan sylw. Dylai disgrifiad yr hawl sy’n cael ei hawlio gyfeirio at gynllun, wedi nodi’n eglur ac yn ofalus.

Fel yr eglurwyd, efallai y byddwn yn gorfod newid rhywfaint ar y geiriad a ddefnyddiwyd yn y ffurflen gais wrth wneud y cofnodion yn y gofrestr.

Pan fo eisiau cofnodion o ran hawddfreintiau trwy bresgripsiwn ar gofrestriad cyntaf neu gofrestru gwarediad, ond nad yw’n amlwg o’r ffurflen FR1, ffurflen AP1 neu ffurflen AN1 neu fel arall bod cofnodion o’r fath yn cael eu ceisio, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud. Ni fydd cynnwys datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol yn y dogfennau cysylltiedig â’r cais, heb esboniad yn y ffurflen gais neu mewn llythyr eglurhaol pam y cafodd ei gynnwys, yn cael ei gymryd fel cais i wneud cofnodion yn y gofrestr. Bydd ceisiadau o’r fath yn aml yn mynd ag amser ac yn gofyn cyflwyno rhybuddion i berchnogion tir eraill mewn llawer achos. Bydd hyn yn cael ei wneud yn unig lle bo’r ceisydd wedi gwneud yn glir ei fod yn ceisio cofrestru budd hawl trwy bresgripsiwn.

Os yw’r tir buddiol yn cael ei berchnogi y cyd, rhaid i unrhyw gais gael ei wneud gan neu ar ran yr holl berchnogion.

4.2 Datganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol

Cyn i ni gofrestru’r hawddfraint, neu gofnodi rhybudd a gytunwyd pan nad y perchennog cofrestredig yw’r hawliwr ac nad yw wedi cydsynio i’r cofnod, rhaid inni fod yn fodlon bod yr hawddfraint wedi ei chaffael.

I’r diben hwn, rhaid i’r hawliwr gyflwyno tystiolaeth, mewn datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol, o ddefnydd di-dor fel hawl, gan neu ar ran ac yn erbyn y perchnogion rhydd-ddaliol, am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf. Rhaid i’r datganiad o wirionedd neu’r datganiad statudol osod yn fanwl y defnydd a’r mwynhad y dibynnir arno i gadarnhau’r hawl. Rhaid i’r hawl sy’n cael ei hawlio fod yn un y gellid bod wedi ei rhoi’n gyfreithlon. Ni fydd y cais yn mynd ymhellach a bydd yn cael ei ddileu os nad yw’r dystiolaeth yn ateb y gofynion hyn.

(Wrth gwrs, hyd yn oed os yw’r hawliwr yn cyflwyno’r dystiolaeth hon, nid yw’n golygu bod hawddfraint wedi ei chaffael o angenrheidrwydd. Lle seiliwyd y cais ar bresgripsiwn cyfraith gwlad, efallai y gall perchennog y tir sy’n dwyn y baich brofi na allai’r hawl fod wedi cael ei harfer o 1189 ymlaen. Lle seiliwyd y cais ar grant cyfoes coll, efallai y gall y perchennog brofi na allai neb fod wedi rhoi’r hawddfraint yn gyfreithlon. Yn yr achosion hyn, nid oes unrhyw hawddfraint).

Mewn rhai achosion gall fod angen 2 neu fwy o ddatganiadau o wirionedd neu ddatganiadau statudol (er enghraifft gan berchnogion ystad olynol lle bo angen tystiolaeth o ddefnydd yn ystod eu cyfnodau perchnogaeth priodol i ffurfio’r cyfnod o 20 mlynedd neu fwy sydd ei angen).

Dylai pob datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol a luniwyd at ddibenion cais am hawddfraint trwy bresgripsiwn naill ai:

  • gynnwys datganiad, hyd eithaf gwybodaeth a chred y datganwr neu’r sawl sy’n gwneud y datganiad, yr arferwyd yr hawl erioed heb rym, cyfrwystra na chaniatâd
  • roi manylion o’r ffeithiau sy’n atal yr hawliwr rhag gallu gwneud y datganiad hwn

Datganiad o wirionedd yw ffurflen ST4, wedi’i dylunio i ddarparu fframwaith ar gyfer y wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys mewn cais sy’n ymwneud â hawddfraint trwy bresgripsiwn. Nid yw’n orfodol ei defnyddio, ac ni fydd yn gwarantu llwyddiant y cais cysylltiedig, ond bydd yn gymorth i sicrhau nad ydych wedi anghofio unrhyw beth.

Fodd bynnag, bydd unrhyw ddatganiad o wirionedd sy’n bodloni gofynion rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003 (gweler Datganiad o wirionedd) yn dderbyniol, yr un fath â datganiad statudol.

Dylid sylweddoli nad oes modd caffael hawl tramwy trwy bresgripsiwn ond i’r un graddau â’r defnydd y mae’n dibynnu arno. Felly, os yw’r datganiad statudol yn dangos y cyfyngwyd y defnydd i fod ar ddeudroed yn unig, neu at ryw ddiben arbennig (er enghraifft i gyrraedd a gadael modurdy ar y tir buddiol), bydd y cofnodion yn y gofrestr yn adlewyrchu’r cyfyngiad hwnnw.

Os yw’r datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol yn cael ei wneud gan un o’r cydberchnogion, dylid ei wneud yn glir ei fod yn cael ei wneud ar ran yr holl berchnogion, os yw hynny’n wir.

4.3 Ffïoedd

Er mwyn gweld pa ffïoedd sy’n daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Gall fod tâl archwilio yn daladwy yn ogystal â’r taliad am wneud cais os penderfynwn fod angen archwiliad. Os felly, byddwn yn gofyn amdano unwaith y gwnaed y penderfyniad hwnnw ac ni fydd y cais yn gallu mynd rhagddo nes y caiff y tâl archwilio ei dderbyn.

5. Effaith gwrthwynebiad i gais

Os derbyniwn wrthwynebiad oddi wrth unrhyw un y cyflwynwyd rhybudd o gais iddo i gofrestru budd hawddfraint, ac nid yw’r gwrthwynebiad yn ddi-sail, ni allwn fwrw ymlaen gyda’r cais nes bydd y gwrthwynebiad yn cael ei benderfynu o blaid yr hawliwr. Caiff yr hawliwr hysbysiad o’r gwrthwynebiad a’r sail iddo. Yna gall yr hawliwr ddewis un o’r 3 dewis a restrir isod.

Yn yr un modd, os cofnodir rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, a bod unrhyw un y cyflwynwyd rhybudd am y cofnod (neu unrhyw berson arall) yn gwneud cais i ddileu’r rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, a bod yr hawliwr yn gwrthwynebu’r dileu, ni allwn barhau â chais i ddileu ac mae gan y ceisydd yr un 3 dewis.

5.1 Tynnu’r cais yn ôl yn gyfan gwbl

Yn yr achos hwn, byddwn yn dileu’r cais, yn dychwelyd copïau a sganiwyd o’r papurau a gyflwynwyd ac yn hysbysu’r gwrthwynebydd o’r dilead.

5.2 Ceisio cyd-drafod datrys yr anghydfod yn uniongyrchol gyda’r gwrthwynebydd

Caiff pawb eu hannog i ddatrys anghydfodau heb yr angen am drefnau ffurfiol ble bynnag y bo modd. Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn darparu unrhyw gyfryngu ffurfiol ond bydd ymdrechion i nodi pynciau llosg unrhyw anghydfod a gweld a oes unrhyw dir cyffredin rhwng y ddwy ochr ac a oes modd cael cytundeb. Fodd bynnag, ni ellir caniatáu i anghydfodau barhau’n ddiderfyn ac, oni bai fod symud tuag at ddatrysiad, bydd yr anghydfod yn cael ei gyfeirio at y tribiwnlys.

5.3 Cyfeirio’r anghydfod at y tribiwnlys

O dan adran 73(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rhaid cyfeirio unrhyw anghydfod nad oes modd ei ddatrys trwy gytundeb at y tribiwnlys. Oni bai fod pawb yn dod i gytundeb ymlaen llaw, bydd y tribiwnlys naill ai:

6. Hawliau tramwy a gaffaelwyd o dan Reoliadau Mynedfa i Gerbydau dros Dir Comin a Thir Arall (Lloegr) 2002 a Rheoliadau Mynedfa i Gerbydau dros Dir Comin a Thir Arall (Cymru) 2004

Roedd y rheoliadau hyn, a wnaed o dan adran 68 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn darparu ar gyfer creu hawddfraint gyfreithiol, yn rhoi hawl tramwy i gerbydau mewn achosion lle byddai eu defnyddio wedi arwain at hawddfraint trwy bresgripsiwn pe na bai wedi bod yn drosedd.

Diddymodd adran 51 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 adran 68 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, gyda’r effaith yr aeth y rheoliadau’n ddi-rym pan ddaeth adran 51 i rym ar 1 Hydref 2006.

7. Datganiad o wirionedd

Dull o ddarparu tystiolaeth i gefnogi cais yw datganiad o wirionedd. O ganlyniad i newidiadau a wnaed gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2008, gellir ei dderbyn at ddibenion cofrestru tir yn lle datganiad statudol.

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ei fabwysiadu yn dilyn y cynsail a osodwyd gan y llysoedd sifil trwy dderbyn datganiad o wirionedd fel tystiolaeth yn lle affidafid neu ddatganiad statudol.

Gweler Gwneud cais i gael cofnodion yn y gofrestr o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

7.1 Gofynion

At ddibenion cofrestru tir, diffinnir datganiad o wirionedd fel a ganlyn (gweler rheol 215A o Reolau Cofrestru Tir 2003):

  • mae’n cael ei wneud yn ysgrifenedig gan unigolyn
  • rhaid iddo gael ei lofnodi gan y sawl sy’n ei wneud (oni bai nad ydynt yn gallu ei lofnodi – gweler Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi)
  • nid oes rhaid iddo gael ei dyngu neu ei dystio
  • rhaid iddo gynnwys datganiad o wirionedd ar y ffurf ganlynol: ‘credaf fod y ffeithiau a materion a gynhwysir yn y datganiad hwn yn wir’
  • os yw trawsgludwr yn gwneud y datganiad neu yn ei lofnodi ar ran rhywun, rhaid i’r trawsgludwr ei lofnodi yn ei enw ei hun a datgan ym mha rinwedd mae’n llofnodi – gweler Llofnod gan drawsgludwr

7.2 Datganiad o wirionedd a lofnodir gan unigolyn nad yw’n gallu darllen

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei lofnodi gan unigolyn nad yw’n gallu darllen, rhaid i’r datganiad:

  • gael ei lofnodi ym mhresenoldeb trawsgludwr
  • chynnwys tystysgrif wedi’i llunio a’i llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:

“‘Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir i’r sawl sy’n gwneud y datganiad hwn sydd wedi ei lofnodi neu wedi gwneud [ei farc][ei marc] yn fy mhresenoldeb ar ôl iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.”

7.3 Datganiad o wirionedd a wneir gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan unigolyn nad yw’n gallu ei lofnodi, rhaid i’r datganiad:

  • nodi enw llawn yr unigolyn hwnnw
  • gael ei lofnodi gan drawsgludwr yn ôl cyfarwyddyd ac ar ran yr unigolyn hwnnw
  • chynnwys tystysgrif wedi’i llunio a’i llofnodi gan y trawsgludwr hwnnw ar y ffurf ganlynol:

“Yr wyf fi [enw a chyfeiriad y trawsgludwr] yn ardystio bod [y sawl sy’n gwneud y datganiad o wirionedd hwn wedi ei ddarllen yn fy mhresenoldeb, wedi cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac wedi fy nghyfarwyddo i’w lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] neu [fy mod wedi darllen cynnwys y datganiad o wirionedd hwn ac esbonio natur ac effaith unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo a chanlyniadau gwneud datganiad anwir i’r sawl sy’n gwneud y datganiad hwn sydd wedi fy nghyfarwyddo i’w lofnodi ar [ei ran][ei rhan]] ar ôl iddo yn gyntaf (a) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad (b) cymeradwyo ei gynnwys fel cywir ac (c) ymddangos i mi ei fod yn deall y datganiad o wirionedd a chanlyniadau gwneud datganiad anwir.”

7.4 Llofnod gan drawsgludwr

Os yw datganiad o wirionedd yn cael ei wneud gan drawsgludwr, neu os yw trawsgludwr yn gwneud a llofnodi tystysgrif ar ran rhywun sydd wedi gwneud datganiad ond nad yw’n gallu ei ddarllen neu ei lofnodi:

  • rhaid i’r trawsgludwr lofnodi yn ei enw ei hun ac nid yn enw ei gwmni neu ei gyflogwr
  • rhaid i’r trawsgludwr ddatgan ym mha rinwedd mae’n llofnodi a, lle bo’n briodol, enw ei gwmni neu ei gyflogwr

8. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.