Canllawiau

Ein harfer ar lofnodion electronig a oedd yn gyfredol rhwng 7 Medi 2020 ac 14 Chwefror 2021

Diweddarwyd 27 Awst 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

13 Llofnodion electronig

13.1 Cefndir

Yn Law Com Rhif 386, y cyfeiriwyd ato yn yr adran flaenorol (gweler Llofnodion Mercury), daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad bod modd defnyddio llofnod electronig yn y gyfraith i gyflawni dogfen, gan gynnwys gweithred. Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad hefyd y gellid tystio llofnod electronig yn yr un modd yn y bôn â llofnod inc gwlyb, heblaw y byddai’r tyst yn gweld y llofnodwr yn ychwanegu ei lofnod at ddogfen ar sgrin.

Ar yr un pryd, roedd Comisiwn y Gyfraith yn cydnabod pe bai cofrestrfa gyhoeddus yn derbyn llofnodion inc gwlyb yn unig, ni fyddai’r partïon yn gallu cyflawni dogfennau yn electronig, waeth beth oedd y sefyllfa gyfreithiol. Nid oedd yn anghytuno â safbwynt Cofrestrfa Tir EF yn ei ymateb i bapur ymgynghori cynharach Comisiwn y Gyfraith fod “angen i awdurdod cofrestru gael rheolaeth dros y dull cyflawni a ddefnyddir ar gyfer dogfennau y mae’n rhaid eu cofrestru, yn enwedig lle cynigir gwarant teitl”.