Canllawiau

Rhifyn mis Awst 2024 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 14 Awst 2024

Rhagarweiniad

Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:

TWE

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Dangosydd rhwymedigaethau a thaliadau i gyflogwyr — mae ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach’ yn troi’n ‘addasiad diwedd blwyddyn dreth’

Daeth adborth i law bod y dangosydd rhwymedigaethau a thaliadau i gyflogwyr yn dal i ddefnyddio’r label ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach’ (EYU) ar gyfer addasiadau i flynyddoedd treth blaenorol pan beidiodd hyn â bod yn fath o gyflwyniad dilys ar gyfer blynyddoedd treth o 2020 i 2021. Felly:

  • blwyddyn a ddaeth i ben 5 Ebrill 2019 — EYU neu Gyflwyniad Taliad Llawn (FPS) yn cael eu derbyn

  • blwyddyn a ddaeth i ben 5 Ebrill 2020 — EYU neu FPS yn cael eu derbyn

  • blwyddyn a ddaeth i ben 5 Ebrill 2021 a’r blynyddoedd diweddarach — addasiad i’w wneud drwy gyflwyno FPS yn unig

Wrth fwrw golwg dros y cyfrif ar-lein, byddwch nawr yn gweld terminoleg newydd lle gwnaed addasiadau diwedd blwyddyn dreth ar gyfer 2020 i 2021 neu flynyddoedd diweddarach. Os ydych yn adolygu 2019 i 2020 neu flynyddoedd cynharach, byddwch yn parhau i weld ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach’.

Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos

Ym mis Medi 2024, mae’r dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar ddydd Sul, 22 Medi 2024. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Medi 2024, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os yw’ch taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.

Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Talu TWE y cyflogwr.

Benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau ôl-raddedig

Os cewch hysbysiad dechrau benthyciad myfyriwr neu hysbysiad dechrau benthyciad ôl-raddedig (SL1/PGL1) neu’r ddau oddi wrth CThEF neu’ch cyflogai, mae’n bwysig eich bod yn gwirio ac yn defnyddio’r fersiwn gywir o’r canlynol:

  • y math o fenthyciad neu gynllun ar yr hysbysiad dechrau

  • y dyddiad dechrau a ddangosir ar yr hysbysiad

Mae hyn yn sicrhau nad yw’r cyflogai yn talu mwy na llai na’r hyn a ddylai.

Os yw enillion y cyflogai’n:

  • yn is na’r trothwyon benthyciad myfyrwyr a benthyciad ôl-raddedig priodol, dylech ddiweddaru cofnod cyflogres y cyflogai i ddangos bod ganddo fenthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig a chyflwyno’r hysbysiad dechrau — nid oes angen i chi ddychwelyd hyn i CThEF

  • yn uwch na’r trothwyon benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig priodol, ac nad yw didyniadau wedi’u cymryd, bydd CThEF yn anfon proc gwasanaeth hysbysu generig fel nodyn atgoffa — os nad yw didyniadau wedi dechrau o hyd, gallwn gysylltu â chi’n uniongyrchol

Dylai didyniadau barhau hyd nes y bydd CThEF yn dweud wrthych am roi’r gorau i’w didynnu.

Os nad ydych wedi cael hysbysiad  dechrau gan CThEF, ond bod eich cyflogai yn rhoi gwybod i chi fod ganddo fenthyciad myfyriwr, gofynnwch iddo pa gynllun neu fath o fenthyciad sydd ganddo.  Os yw’ch cyflogai’n ansicr ynghylch y cynllun cywir neu’r math o fenthyciad y dylai fod yn ei ad-dalu, gall wirio trwy fewngofnodi i’w cyfrif benthyciad myfyriwr ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)

Dylech ddiweddaru’ch meddalwedd gyflogres i ddechrau didynnu a gwirio’r holl hysbysiadau dechrau a gewch gan CThEF yn y dyfodol i sicrhau bod eich cyflogai yn talu’r swm cywir.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ddechrau didyniadau benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig — gwirio’r arweiniad ynghylch y math o gynllun a’r math o fenthyciad (yn agor tudalen Saesneg).

P11D a P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth 2023 i 2024

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu

Roedd y dyddiad cau i chi roi gwybod i ni ar-lein am unrhyw Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1A sy’n ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2024 ar 6 Gorffennaf 2024. Os nad ydych wedi gwneud hyn o hyd, mae angen i chi gyflwyno heb oedi er mwyn osgoi unrhyw gosbau pellach y gellir eu rhoi.

Mae’n rhaid bod unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch wedi’i dalu erbyn 22 Gorffennaf 2024.

Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b)

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein. Gallwch ddefnyddio’r dulliau ar-lein cyflym a hawdd canlynol:

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch holl ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd, mewn un cyflwyniad ar-lein.

Yr hyn i’w gyflwyno 

Os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau a/neu dreuliau nad ydynt wedi’u heithrio, neu os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau drwy’r gyflogres, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b). Cofiwch gynnwys cyfanswm y buddiannau sy’n agored i CYG Dosbarth 1A, hyd yn oed os ydych wedi trethu rhai ohonynt — neu bob un — drwy gyflogau’ch cyflogeion.

Defnyddir y P11D(b) i roi gwybod am rwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A unrhyw gyflogwr.  

Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau a threuliau nad ydynt wedi’u heithrio, oni bai eich bod wedi cofrestru gyda ni ar-lein cyn 6 Ebrill 2023. Os na wnaethoch gofrestru ar-lein ond yna aethoch ymlaen i drethu rhai buddiannau — neu bob un — drwy’ch cyflogres, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D ar-lein ar gyfer yr holl fuddiannau na chawsant eu talu drwy’r gyflogres.

Mae’n bwysig eich bod yn llenwi’ch P11Ds yn gywir y tro cyntaf. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen ddiwygio P11D ar-lein i newid y cyflwyniadau anghywir. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn dreuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Mae yna nifer o weminarau byw ar gael sy’n cwmpasu cyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D (b) (yn agor tudalen Saesneg). Mae arweiniad pellach ar sut i lenwi Ffurflen P11D a P11D ar gael.  

Talu drwy’r gyflogres

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar-lein i dalu’ch buddiannau cwmni drwy’r gyflogres, efallai yr hoffech wneud hynny nawr, cyn blwyddyn dreth 2025 i 2026. Os ydych yn gallu talu’ch holl fuddiannau drwy’r gyflogres, ni fydd angen i chi anfon unrhyw P11Ds mwyach. Nid yw CThEF yn derbyn trefniadau talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol.

Dim byd i’w ddatgan

Does dim angen i chi roi gwybod i ni nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), oni bai ein bod wedi anfon hysbysiad i gyflwyno ffurflen P11D(b) atoch yn electronig neu lythyr yn eich atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b). Gallwch ddatgan nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.

Camgymeriadau cyffredin wrth gwblhau ffurflen P11D neu P11D (b)

Dyma gamgymeriadau cyffredin i fod yn wyliadwrus ohonynt:  

  • peidiwch â rhoi ‘6 Ebrill 2023’ fel y dyddiad dechrau na ‘5 Ebrill 2024’ fel y dyddiad dod i ben ar gyfer eich ceir cwmni, oni bai mai dyna’n union beth oedd y dyddiadau pan wnaeth eich cyflogai gael neu ddychwelyd car cwmni

  • mae’n rhaid cyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd — ni allwch gyflwyno ar draws sawl diwrnod — dylech gwblhau pob ffurflen P11D a’ch P11D(b) cyn eu cyflwyno

  • wrth roi gwybod am gar sy’n gwbl drydanol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy wrth roi gwybod am gar hybrid gyda ffigur allyriadau CO2 cymeradwy rhwng 1 a 50 g / km, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y milltiroedd allyriadau sero cymeradwy

  • anfonwch un ffurflen P11D(b) yn unig fesul cynllun, a dangoswch y cyfanswm sy’n ddyledus. Peidiwch ag anfon ffurflenni ar wahân ar gyfer cyflogeion a chyfarwyddwyr, gan ein bod yn trin pob ffurflen P11D(b) wahanol fel diwygiad i unrhyw ffurflen sydd eisoes wedi ein cyrraedd

  • gwiriwch y ffurflen P11D(b) i weld a oes angen i chi ddefnyddio’r adran ‘addasiadau’

Cyfrifiannell Treth Car Cwmni

Mae fersiwn newydd o’r Cyfrifiannell Treth Car Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) ar gael. Ar gyfer unrhyw newidiadau car sydd gan gyflogai o fewn y flwyddyn dreth, mae’n rhaid cyflwyno ffurflen Car P46.

Ad-daliadau cyfrifiad treth ar gyfer cwsmeriaid TWE

Mae CThEF yn newid y ffordd y mae’n ad-dalu’r rhan fwyaf o’i gwsmeriaid Talu Wrth Ennill (TWE) sy’n gymwys i gael ad-daliadau BACS ac sy’n gallu hawlio eu had-daliad ar-lein.

Yn flaenorol, byddai unrhyw gyflogeion a gafodd lythyr cyfrifiad treth ac nad oedd yn hawlio’r ad-daliad ar-lein yn cael siec yn awtomatig ar ôl 21 diwrnod. O 31 Mai 2024 ymlaen, ni fydd sieciau’n cael eu hanfon yn awtomatig mwyach. Bydd angen i gwsmeriaid gymryd camau i gael eu had-daliad.

Gall cwsmeriaid hawlio eu had-daliadau yn gordaliadau a thandaliadau treth. Byddant yn gallu gofyn am siec drwy’r broses hon os yw’n well ganddynt. Bydd cyfarwyddiadau ar sut i hawlio ar gael yn eu llythyr cyfrifiad treth. Mae hyn yn cynnwys llwybrau amgen i gwsmeriaid na allant hawlio eu had-daliad ar-lein.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Rhoi cymorth i gyflogeion gyda newidiadau i’r Tâl Budd-dal Plant Incwm Uchel

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, cynyddodd y trothwy ar gyfer y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel i £60,000, gyda meinhau hyd at £80,000.

Os oes gan eich cyflogeion, neu eu partneriaid, incwm rhwng £60,000 ac £80,000, mae’n bosibl y bydd o fudd ariannol iddynt hawlio Budd-dal Plant. Y tâl treth yw 1% o’r dyfarniad Budd-dal Plant am bob £200 o incwm rhwng £60,000 ac £80,000. Os yw incwm cyflogai dros £80,000 mae’r tâl yr un fath â’r Budd-dal Plant y maent wedi’i gael.

Mae’n bosibl y bydd gan eich cyflogeion ddiddordeb nawr mewn hawlio Budd-dal Plant neu ailddechrau eu taliadau os ydynt wedi optio allan yn y gorffennol. Y ffordd hawsaf i’ch cyflogeion gael Budd-dal Plant yw trwy ap CThEF neu ar-lein. Mae hawliadau newydd yn cael eu hôl-ddyddio’n awtomatig am 3 mis, neu i ddyddiad geni’r plentyn os yw’n hwyrach.

Talu’r tâl am flynyddoedd treth blaenorol

Atgoffwch eich cyflogeion, os oedden nhw neu eu partner yn hawlio Budd-dal Plant ac roedd gan yr enillydd uwch incwm unigol o dros £50,000, mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt dalu’r tâl treth ar gyfer 2023 i 2024. Gallant wirio’r cyfrifiannell ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth. Os oes angen iddynt dalu’r tâl, mae’n rhaid iddynt gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Mae arweiniad ar y Tâl Treth Budd-dal Plant ar Incwm Uchel ar gael.

Ehangu’r sail arian parod

O flwyddyn dreth 2024 i 2025, y sail arian parod fydd y ffordd ddiofyn o gyfrifo incwm a threuliau i bobl a phartneriaethau hunangyflogedig sy’n cwblhau ac yn cyflwyno eu Ffurflen Treth Hunanasesiad.

Os ydych am ddefnyddio cyfrifyddu croniadau traddodiadol, neu os ydych wedi’ch eithrio rhag defnyddio’r sail arian parod, o 2024 i 2025 bydd angen i chi optio allan o hyn wrth gyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad trwy dicio’r blwch perthnasol ar y Ffurflen Dreth i gadarnhau eich bod wedi defnyddio cyfrifyddu croniadau traddodiadol. Y Ffurflen Dreth cyntaf y bydd angen hyn ar ei gyfer yw’r Ffurflen Dreth 2024 i 2025, a ddisgwylir erbyn 31 Ionawr 2026.

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i’r sail arian parod yn unig ar gyfer incwm masnachu anghorfforedig. Nid oes unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r sail arian parod ar gyfer busnesau eiddo, nac i sut mae cwmnïau cyfyngedig yn cyfrifo eu helw. 

Diffiniad sail arian parod

Mae’r sail arian parod yn ddull o gyfrifo y gall pobl hunangyflogedig a phartneriaethau ei ddefnyddio i gyfrifo elw masnachu at ddibenion treth incwm, fel dewis arall yn lle cyfrifyddu croniadau traddodiadol. 

Mae’r sail arian parod yn caniatáu i fusnesau cymwys roi cyfrif am incwm a threuliau busnes pan fydd arian yn dod i law neu’n cael ei dalu. Mae cyfrifyddu croniadau traddodiadol yn caniatáu i fusnes cymwys roi cyfrif am incwm a threuliau busnes ar y dyddiad y caiff nwyddau neu wasanaethau eu hanfonebu.

Mae’r dull hwn yn lleihau cymhlethdod cadw cofnodion, cyfrifo elw, a rhoi gwybod am incwm i CThEF tra’n parhau i ddarparu mesur priodol o elw i lawer o fusnesau.

Yn ogystal â bod y dull diofyn o gyfrifo elw, bydd newidiadau eraill yn cael eu gwneud i’r sail arian parod ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 ymlaen:

  • mae’r sail arian parod wedi’i gosod fel y ffordd ddiofyn o gyfrifo elw trethadwy, gydag optio allan ar gael i ddefnyddio cyfrifyddu croniadau traddodiadol

  • mae’r terfynau trosiant o £150,000 a £300,000 wedi’u tynnu, gan ganiatáu i bobl hunangyflogedig cymwys a phartneriaethau o unrhyw faint ddefnyddio’r sail arian parod

  • mae cyfyngiadau colli wedi cael eu tynnu fel y bydd defnyddwyr sail arian parod yn gallu gwrthbwyso eu colledion yn erbyn incwm arall

  • mae cyfyngiadau llog wedi’u tynnu, gan ganiatáu i fusnesau ar sail arian parod ddidynnu eu holl fuddiant busnes

  • gall pobl sydd â mwy nag un busnes ddewis a ydynt yn defnyddio’r sail arian parod neu’r croniadau traddodiadol sy’n cyfrif am bob busnes sydd ganddynt, yn hytrach na gorfod dewis un dull ar gyfer eu holl fusnesau

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar newidiadau ariannol o flwyddyn dreth 2024 i 2025 (yn agor tudalen Saesneg).

Diwygio’r cyfnod sail — adrodd ar sail blwyddyn dreth

O fis Ebrill 2024 ymlaen, os ydych yn hunangyflogedig neu mewn partneriaeth masnachu, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am eich elw ar sail blwyddyn dreth.

Os nad ydych eisoes yn gwneud hynny, bydd angen i chi ddatgan eich elw o ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu blaenorol yn 2022 i 2023 hyd at 5 Ebrill 2024. Bydd unrhyw elw ychwanegol, ar ôl rhyddhad gorgyffwrdd yn elw trosiannol. Yn ddiofyn, mae’r elw trosiannol hwn yn cael ei ledaenu’n gyfartal dros y 5 mlynedd nesaf gan gynnwys 2023 i 2024.

 Bydd cyfnodau cyfrifyddu sy’n dod i ben ar 31 Mawrth bellach yn cael eu trin fel rhai sy’n cyfateb i’r rhai sy’n dod i ben ar 5 Ebrill.

Er mwyn eich helpu i gyfrifo’ch rhyddhad gorgyffwrdd a’ch elw trosiannol, yn ddiweddar cyhoeddodd CThEF fideo YouTube ar ddiwygio’r cyfnod sail.

Yn ddiweddar, rydym wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau i ddarparu ffigurau rhyddhad gorgyffwrdd ac, ar hyn o bryd, nid yw amseroedd ymateb mor gyflym ag yr hoffem, ond rydym bellach yn clirio’r llwyth gwaith sydd wedi cronni. Os ydych wedi gwneud cais ac nad ydych wedi clywed, peidiwch â chysylltu â ni, gan ein bod yn disgwyl bod wedi clirio’r llwyth gwaith sydd wedi cronni presennol yn ystod yr wythnosau nesaf. Helpwch ni trwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein yn unig i gael eich ffigwr rhyddhad gorgyffwrdd os oes angen, gan na fwriedir iddo gael ei ddefnyddio i wirio ffigur sydd gennych eisoes.

Rydym hefyd wedi cael rhai ymholiadau ynghylch sut mae’r Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn adlewyrchu newidiadau cyfnod sylfaenol partneriaethau. Pan wneir Ffurflenni Treth o’r fath ar gyfer partneriaeth, nid oes unrhyw newidiadau i’r Ffurflen Dreth Partneriaeth (yr SA800). Mae hyn oherwydd bod yr holl addasiadau ar gyfer elw trosiannol a rhyddhad gorgyffwrdd yn cael eu gwneud ar Ffurflenni Treth unigol y partneriaid.

Rydym hefyd wedi lansio pecyn llawn o arweiniad rhyngweithiol ar-lein sy’n dangos sut i gyfrifo’ch elw trosiannol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer yr achosion hyn. Nid yw unrhyw ffigurau a gofnodir yn yr arweiniad rhyngweithiol yn rhan o’r ffurflen ei hun, mae yno i arwain cwblhau’r blychau ar y Ffurflen Dreth.

Gellir lleihau’r elw a dynnir yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024 gan unrhyw ryddhad gorgyffwrdd sy’n cael ei roi ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2023 i 2024.

Mae arweiniad a chymorth pellach ar ddiwygio’r cyfnod sail (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Pensiynau ar gyfer staff tymhorol dros dro

Os ydych yn gyflogwr sy’n cyflogi staff ychwanegol dros yr haf, mae’n rhaid i chi wirio a yw’r gweithwyr hyn yn gymwys i gofrestru awtomatig i bensiwn gweithle. 

Mae’n rhaid i gyflogwyr asesu unrhyw staff tymhorol neu dros dro yn unigol bob tro y byddant yn eu talu. Mae hyn yn cynnwys staff ag oriau amrywiol a chyflogau, p’un a ydynt yn cael eu cyflogi am ychydig ddyddiau neu fwy.

Gall cyflogwyr sy’n methu â chydymffurfio â’u dyletswyddau pensiwn gweithle gael rhybudd gyda dyddiad cau i gydymffurfio. Mae’r rhai sy’n parhau i fethu â chydymffurfio mewn peryg o gael dirwy.

Os oes gennych staff y gwyddoch y byddant yn gweithio i chi am lai na thri mis, gallwch ddefnyddio gohiriad i ohirio asesu’r cyflogeion hynny. Mae hyn yn oedi’r ddyletswydd i asesu’r staff hynny tan ddiwedd y cyfnod gohirio o dri mis.

Dysgwch ragor am gofrestru a gohirio’n awtomatig (yn agor tudalen Saesneg) a chyflogi staff tymhorol neu dros dro (yn agor tudalen Saesneg) ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Cofrestriadau cyflogwyr — gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF

Ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr gyda CThEF, gall gymryd hyd at 30 diwrnod gwaith i gael eich cyfeirnod TWE y cyflogwr. Mewn llawer o achosion, bydd yn gyflymach. Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ymateb gan CThEF am amcangyfrif bras.

Ni fyddwn yn gallu ymateb i unrhyw ymholiadau ffôn oni bai bod mwy na 30 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i’r cais gael ei wneud.

Cael eich cyflogeion newydd ar y cyflog cywir

Rydym yn gwybod pa mor llafurus y gall fod wrth gyflogi cyflogeion newydd a chasglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau eu bod yn cael eu talu’n gywir. Er mwyn gwneud hyn mor gyflym a hawdd â phosibl, mae yna ychydig o awgrymiadau syml y gallwch eu dilyn er mwyn osgoi gwneud camgymeriadau yn ystod y broses gynefino.

  1. Casglu’r wybodaeth bersonol gywir gan eich cyflogai newydd. Mae’n bwysig eich bod yn cael yr enw cywir, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol gan eich cyflogeion newydd a nodwch hyn yn y fformat cywir. Mae gwirio’r rhain yn erbyn dogfennau swyddogol, fel eu pasbort, yn helpu i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir.

  2. Dod o hyd i’r cod ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn cywir a’r cod treth. Os nad oes gan eich cyflogai newydd P45, defnyddiwch y rhestr wirio cychwynnol ar-lein i ddod o hyd i’r codau priodol.

  3. Defnyddio’r cod treth cywir gyda chod datganiad ‘C’ ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn. Pan fydd y rhestr wirio cychwynnol yn penderfynu y dylai’ch cyflogai fod ar god datganiad ‘C’ ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn, defnyddiwch god treth BR. Os na allwch gwblhau’r rhestr wirio ac nad oes gan eich cyflogai P45, defnyddiwch god treth 0T gyda chod datganiad ‘C’ ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn.

Mae rhagor o wybodaeth am gyflogi cyflogeion newydd ar gael yn Cardiau Cymorth i Gyflogwyr CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Gofynnwch i’ch cyflogeion lawrlwytho ap CThEF am gymorth gyda’u treth a’u cyflog.

Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg

  • anawsterau echddygol

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
  • i gadw’r ddogfen fel PDF:
    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy anfon e-bost at [email protected].