Bwletin y Cyflogwr: Hydref 2024
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Hydref o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
-
cyflwyno lwfans statudol newydd o fis Ebrill 2025 ymlaen — Tâl ac Absenoldeb Gofal Newydd-enedigol Statudol
-
arweiniad i gyflogwyr ar rwymedigaethau adrodd RTI ar gyfer taliadau a wneir yn gynnar adeg y Nadolig
-
ymholiadau ynghylch taliadau TWE
-
hysbysiad o newid i ddyddiad dod i rym gofynion data newydd ar oriau cyflogeion
-
Adroddiad Dweud wrth ABAB 2024 — y Bwrdd Cynghori Beichiau Gweinyddol
-
helpu’ch cyflogeion i baratoi ar gyfer ymddeoliad
Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 16 Hydref 2024Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Hydref 2024 + show all updates
-
Minor amendments made to improving data capture of business tax identifiers on the RTI Full Payment Submissions and PAYE charge queries articles to recommendations rather than requirements.
-
The article on 'Introduction of a new statutory allowance from April 2025 — Statutory Neonatal Care Pay and Leave' has been removed.
-
Added translation