Canllawiau

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth: sut i gadw eich taliad budd-dal

Diweddarwyd 17 Rhagfyr 2020

1. Sut mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gweithio?

Os oes gennych salwch, cyflwr iechyd neu anabledd, mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn cynnig i chi:

  • cymorth ariannol os ydych yn methu gweithio
  • cymorth personol i’ch helpu i symud i mewn i waith pan fyddwch yn gallu

Gallwch wneud cais am ESA os ydych yn:

  • gweithio
  • hunangyflogedig
  • di-waith

Os ydych yn cael ESA efallai y bydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio. Mae hyn er mwyn gweld i ba raddau mae eich salwch, cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio.

Os yw’r Asesiad Gallu i Weithio yn canfod eich bod yn gallu gweithio, ni fyddwch yn cael ESA wedyn. Efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fudd-dal arall.

Os yw’r Asesiad Gallu i Weithio yn canfod nad ydych yn gallu gweithio, byddwch yn parhau i gael eich talu ESA. Byddwch hefyd yn cael eich gosod mewn un o 2 grŵp.

Grŵp gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith

Os cewch eich rhoi yn y grŵp gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, efallai y bydd gofyn i chi gael cyfweliadau rheolaidd gyda anogwr gwaith y Ganolfan Byd Gwaith neu ymgynghorydd Rhaglen Waith.

Os ydych yn y grŵp hwn mae’n golygu nad ydych yn gallu gweithio ar hyn o bryd, ond gallwch wneud rhai pethau i baratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Rhaid i chi wneud yr holl bethau y gofynnir i chi eu gwneud gan eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd. Os nad ydych yn gwneud y pethau hyn, heb reswm da, bydd eich taliadau yn cael ei lleihau am gyfnod o amser. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Grŵp cymorth

Os ydych yn cael eich rhoi yn y grŵp cymorth, ni fydd gofyn i chi fynychu cyfarfodydd, ond gallwch ddewis gwneud hynny os ydych yn dymuno. Rydych chi fel arfer yn y grŵp hwn os yw eich salwch, cyflwr iechyd neu anabledd yn cyfyngu’n ddifrifol ar beth allwch ei wneud.

Ni allwch gael eich sancsiynu os ydych yn y grŵp cymorth.

2. Sut wyf yn cadw fy nhaliad budd-dal llawn os caf fy ngosod yn y grŵp gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith?

Os cewch eich rhoi yn y grŵp gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith mae hyn yn golygu eich bod yn gallu gwneud pethau penodol i baratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Gelwir y rhain yn weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith.

Gall gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith gynnwys:

  • mynychu cyfarfodydd gyda’ch anogwr gwaith neu ymgynghorydd
  • cymryd camau i baratoi ar gyfer dychwelyd i’r gwaith pan fyddwch yn gallu

Bydd eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd yn eich helpu i gynllunio sut a phryd i wneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, tra’n cymryd i ystyriaeth eich salwch, anabledd neu gyflwr iechyd.

Os nad ydych yn gwneud y pethau hyn, heb reswm da, bydd eich taliad yn cael ei leihau am gyfnod o amser. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith neu ymgynghorydd

Mae’n bwysig bod eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd yn dod i wybod am eich amgylchiadau a’r cymorth sydd ei angen arnoch. Dylech ddweud wrthynt am unrhyw beth sy’n effeithio ar:

  • eich paratoi ar gyfer gwaith
  • eich gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith
  • eich gallu i gymryd rhan mewn cyfarfodydd

Gall hyn gynnwys:

  • mwy am eich salwch, cyflwr iechyd neu anabledd
  • os ydych yn byw gyda phroblemau dibyniaeth neu alcohol
  • os ydych yn ofalwr
  • os ydych yn ddigartref
  • os oes gennych broblemau trafnidiaeth
  • os ydych angen help gyda darllen, ysgrifennu neu siarad

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth.

Dywedwch wrth eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd am eich amgylchiadau, hyd yn oed os nad ydych yn sicr bod angen iddynt wybod.

Cadw gofnod o beth rydych yn ei wneud i baratoi at waith

Efallai bydd eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd yn gofyn am weld beth rydych wedi’i wneud.

Mae’n syniad da i:

  • cadw nodyn o bopeth a wnewch i baratoi ar gyfer gwaith, gan gynnwys yr amser a’r dyddiad a pha mor hir wnaethoch dreulio yn gwneud pob peth
  • gwneud nodyn o’ch cyfarfodydd yn y Ganolfan Byd Gwaith ac unrhyw hyfforddiant sydd gennych
  • cadw’r holl lythyrau a negeseuon e-bost gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu eich darparwr Rhaglen Waith

3. Beth os na allaf ddod i’r cyfarfod neu wneud gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith?

Efallai y bydd yna adegau pan nad ydych yn gallu gwneud y pethau rydych chi wedi cael cais i wneud. Er engraifft:

  • os oes gennych apwyntiad ysbyty ar yr un pryd ar cyfarfod gyda’ch anogwr gwaith
  • os ydych yn sâl yn annisgwyl ac yn methu gwneud gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith ar eich cynllun y gofynnwyd i chi ei wneud

Os bydd hyn yn digwydd, ffoniwch neu e-bostiwch eich anogwr gwaith neu ymgynghorydd ar unwaith i ddweud wrthynt y rheswm pam na allwch gymryd rhan mewn cyfarfod neu wneud y gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith y gofynnwyd i chi ei wneud..

Os penderfynir bod gennych reswm da, ni fydd eich taliadau’n newid. Os penderfynir nad oedd gennych reswm da, byddwch yn cael sancsiwn a bydd eich taliadau yn cael eu lleihau.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith neu ymgynghorydd Rhaglen Waith ar unwaith os nad ydych yn gallu gwneud rhywbeth y gofynnir i chi ei wneud.

4. Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael sancsiwn?

Os ydych yn cael sancsiwn:

  • bydd eich taliad yn cael ei leihau
  • byddwch yn derbyn llythyr yn dweud wrthych o faint mae eich taliad yn cael ei leihau

Gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith neu ymgynghorydd i ddweud wrthych beth mae hyn yn ei olygu i chi.

Am faint o amser fydd fy sancsiwn yn parhau?

Mae’r amser mae eich sancsiwn yn parhau yn dod mewn 2 ran, un penagored ac un penodol.

Bydd y cyfnod penagored yn parhau hyd nes y byddwch yn:

  • cymryd rhan yn y cyfarfod y gofynnwyd i chi ei fynychu gyda’ch anogwr gwaith neu ymgynghorydd
  • cwbwlhau y gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith y gofynnwyd i chi ei wneud
  • dod i gytundeb gyda’ch anogwr gwaith neu ymgynghorydd am y cyfarfod neu weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Yna bydd cyfnod penodol o amser yn dilyn yn ddibynnol ar eich sefyllfa:

Eich Sefyllfa Amser ychwanegol a ychwanegir at eich sancsiwn ar ôl y cyfnod penagored
Eich sancsiwn cyntaf 1 wythnos
Rydych wedi cael sancsiwn arall yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 2 wythnos
Rydych wedi cael 2 neu fwy o sancsiynau yn y flwyddyn ddiwethaf 4 wythnos

Siaradwch â’ch anogwr gwaith neu ymgynghorydd os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth sydd wedi ei ddweud wrthych, neu os ydych angen unrhyw gymorth neu gefnogaeth ychwanegol.

5. Help os yw eich taliad yn cael ei ostwng

Efallai y gallwch gael taliad caledi os na allwch dalu am:

  • rhent
  • gwres
  • bwyd
  • anghenion sylfaenol eraill i chi, eich partner neu eich plentyn

Mae taliad caledi yn swm llai o fudd-dal.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â Adran Gwaith a Phensiynau yn:

Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn Testun: 0800 169 0314
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am i 5pm
Cael gwybod am gostau galwadau

I gael cyngor am ddim ar reoli arian, ewch i y Gwasanaeth Cynghori Arian.

Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth Cyngor

Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Gostyngiad Treth Cyngor, yna cadwch mewn cysylltiad â’ch cyngor lleol. Dywedwch wrthynt am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau, gan gynnwys os byddwch yn cael sancsiwn. Byddant yn dweud wrthych os bydd angen i chi wneud unrhyw beth arall.

6. Beth allaf ei wneud os rwy’n meddwl bod y penderfyniad i leihau fy nhaliad yn anghywir?

Gallwch ofyn pam

Gallwch chi, neu rywyn sydd gyda’r awdurdod i weithredu ar eich rhan gysylltu â DWP i ofyn i’r penderfyniad gael ei egluro’n ysgrifenedig. Mae’r rhif ffôn a’r cyfeiriad ar eich llythyr penderfyniad. Rhaid i chi wneud hyn o fewn mis i’r dyddiad ar y llythyr sancsiwn.

Gallwch ofyn am i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto

Dylech chi, neu rywyn sydd gyda’r awdurdod i weithredu ar eich rhan, ddweud wrth DWP os:

  • rydych yn meddwl bod rhywbeth wedi cael ei esgeuluso
  • mae gennych ragor o wybodaeth sy’n effeithio ar y penderfyniad

Mae’r rhif ffôn ar cyfeiriad ar eich llythyr penderfyniad. Rhaid i chi wneud hyn o fewn mis i’r dyddiad ar y llythyr sancsiwn.

Pan fydd y wybodaeth hon wedi cael ei ystyried, byddwch yn cael llythyr i ddweud wrthych yr hyn sydd wedi’i benderfynu a pham. Gelwir hyn yn hysbysiad ailystyried orfodol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Os ydych yn cytuno â chanlyniad y ailystyriaeth gorfodol nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth.

Os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad ailystyried orfodol, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant. Mae’n rhaid i chi aros am yr hysbysiad ailystyried orfodol cyn i chi ddechrau apêl.