Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6 Y Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau
Cyhoeddwyd 24 Rhagfyr 2019
1. Blaen ddatganiad y Prif Weithredwr
Mae diogelu’r amgylchedd rhag effeithiau gweithgaredd mwyngloddio’r gorffennol yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Fel sefydliad rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhan rydyn ni’n ei chwarae nid yn unig yn diogelu’r cyhoedd, ond hefyd yn gwella’r amgylchedd ac yn ysgogi bioamrywiaeth.
Mae ein cynllun cynaliadwyedd corfforaethol yn datgan sut byddwn yn cyflawni hyn a hefyd yn egluro sut rydyn ni’n helpu i gyflawni cynlluniau allweddol y llywodraeth ar draws Prydain Fawr, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i fynd i’r afael â phroblemau cynaliadwyedd byd-eang. Rydyn ni’n cyfrannu at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn addasu i’r newid yn yr hinsawdd, yn lleihau gwastraff ac yn gwella bioamrywiaeth. Mewn ardaloedd mwyngloddio rydyn ni hefyd eisiau gweithio â busnesau a chymunedau lleol, a chyfrannu at wella ansawdd bywyd cenedlaethau’r dyfodol. Gobeithio cewch chi flas ar ddarllen y diweddariad hwn ar ein gwaith ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. Hoffem wybod hefyd beth yw eich barn am ein dyheadau, ein gwaith a’n ffocws. Gallwch gysylltu â ni drwy’r e-bost, ar unrhyw un o sianeli’r cyfryngau cymdeithasol neu drwy ysgrifennu atom.
Lisa Pinney MBE
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau
Adroddiad 2019 Awdurdod Glo Cyflwyniad a Chyd-destun Mae’r Awdurdod Glo yn gwneud dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol ar draws Cymru. Rydym:
Yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl
Darparwn wasanaeth digwyddiadau 24/7/365 ar gyfer peryglon pyllau glo megis cwympiadau tir a nwyon o fwyngloddiau. Rydyn ni’n helpu rhai y mae’r hen byllau glo yn effeithio arnynt ac yn trwsio cartrefi sy’n dioddef o ymsuddiant. Rydyn ni’n monitro ac yn cynnal hen domennydd glo sydd dan berchnogaeth newydd i atal llithriadau ac effaith ar gymunedau a gallwn rannu cyngor ac arbenigedd ag awdurdodau lleol a thirfeddianwyr eraill yng Nghymru ar reoli tomennydd.
Yn diogelu ac yn gwella’r amgylchedd
Rydyn ni’n trin dŵr o byllau glo i ddiogelu cyflenwadau dŵr yfed holl bwysig a lleihau llygredd mewn nentydd ac afonydd. Defnyddiwn ein sgiliau i weithio â phartneriaid fel Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llygredd o weithfeydd metel hefyd.
Rydyn ni’n defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus
Darparwn wybodaeth ac adroddiadau chwilio ar gyfer mwyngloddio glo fel rhan o’r broses drawsgludo er mwyn helpu i gynnal hyder yn y farchnad dai ac rydyn ni’n gweithio â’n partneriaid a busnesau i’w helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â buddsoddi ac i gadw ffyrdd, rheilffyrdd a seilwaith hanfodol eraill mewn cyflwr da.
Rydyn ni’n creu gwerth ac yn cadw costau’n isel i’r trethdalwr
Rydyn ni’n gweithio i gael gwres carbon isel, cost isel o ynni dŵr o fwyngloddiau i wresogi cartrefi, busnesau, garddwriaeth a dyframaeth yng Nghymru ac i gael budd o gynhyrchion y cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau yr arferid eu trin fel gwastraff. Mae hyn yn arbed arian i’r trethdalwr ac yn ein helpu i fod yn fwy cynaliadwy ond gall hefyd gyfrannu at gynlluniau polisi carbon isel ehangach ledled Cymru, yr Alban a Lloegr.
- ddelio â digwyddiadau diogelwch y cyhoedd oherwydd hen weithgareddau mwyngloddio gan gynnwys cwympiadau tir, nwyon o fwyngloddiau ac allyriadau dŵr
- delio â llygredd dŵr a achosir gan fwyngloddio
- rhoi gwybodaeth am fwyngloddio i’r cyhoedd
- trwyddedu gweithrediadau mwyngloddio
Yng Nghymru rydym yn cyflawni ein holl gyfrifoldebau o safbwynt mwyngloddio. Rydyn ni hefyd yn gweithio (drwy nawdd) â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill i gyfrannu at amcanion gweithredol a pholisïau ehangach sydd wedi’u datganoli. Mae hyn yn cynnwys defnyddio ein sgiliau a’n harbenigedd i leihau a lliniaru effeithiau llygredd o fwyngloddiau metel.
Rydyn ni’n gyfrifol am 600 hectar o dir sy’n eiddo inni yng Nghymru, gan gynnwys 26 o domennydd glo a 15 o gynlluniau trin dŵr o fwyngloddiau. Rydyn ni’n cefnogi’r system gynllunio yng Nghymru ac yn 2018/19 ymgynghorwyd â ni gyda 1075 o geisiadau cynllunio, rhoesom sylwadau ar 111 o ymgynghoriadau cyn ymgeisio ar gyfer datblygiadau blaenllaw ac ymatebasom i 37 o ddogfennau polisi.
Uchafbwyntiau, Canlyniadau Allweddol a Phroblemau
Rydyn ni’n ceisio ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau yn ein holl waith ac rydyn ni’n cynllunio’n unol â hynny. Yn ein Cynllun Cynaliadwyedd ceir amcan penodol i ‘leihau’r difrod ecolegol a gwella bioamrywiaeth’ a chaiff y cynllun ei lywio gan Nodau Cynaliadwyedd Strategol y DU a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae ein Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd a’n Bwrdd yn monitro’r cynnydd a wneir yn erbyn y cynllun.
Mae dau faes lle gallwn gael yr effaith uniongyrchol fwyaf ar reoli ecosystemau a bioamrywiaeth, sef drwy’r dulliau a ddefnyddiwn i reoli ein tir ein hunain a drwy ein cynlluniau i drin dŵr o fwyngloddiau; mae’r cynlluniau hyn yn darparu cynefinoedd cyfoethog ac yn cynnal bioamrywiaeth yn lleol ac yn genedlaethol. Isod fe welwch astudiaeth achos fer ar gyfer y ddau faes;
2. Ystyried bioamrywiaeth wrth reoli ein tir
Ymysg y gwaith adfer a wnaeth yr Awdurdod Glo yng nghymunedau cymoedd de Cymru y mae plannu coed a chreu cynefinoedd ar nifer o hen domennydd glo gan gynnwys: Aberfan, Afan, Castell, Caerau, Cwmtyleri, Marine, Ogwr, De Griffin a Thymawr.
Mae’r Awdurdod wedi plannu oddeutu 400,000 o goed ar hen domennydd, ac mae cyfran fawr o’r rhain wedi’u plannu yn ne Cymru. Cynlluniau plannu coetiroedd ydy’r rhan fwyaf o’r rhain ond mae tua 5000 o goed hefyd wedi’u plannu mewn gwrychoedd a hefyd dros 40,000 o lwyni, 20 hectar o rostir ac oddeutu 500 metr sgwâr o ardaloedd blodau gwyllt.
Fel rhan o’n cynlluniau adfer, lle bo’n bosibl, mae llwybrau hen gylfatiau dŵr wyneb wedi cael eu hail-agor i wella edrychiad y safleoedd ac annog bioamrywiaeth, gan greu hefyd gynefinoedd tir gwlyb.
Ar ôl cwblhau’r gwaith tirlunio a’r gwelliannau amgylcheddol, rydyn ni’n gofalu am bob safle am 5 mlynedd i sicrhau bod y planhigion a’r cynefinoedd yn ffynnu.
Caiff llawer o’r safleoedd hyn yn awr eu defnyddio fel mannau amwynder agored, anffurfiol i’r cyhoedd; maent yn boblogaidd iawn â pherchnogion cŵn, seiclwyr a phobl sydd eisiau cadw’n heini. Rydyn ni wedi arolygu nifer o safleoedd fel rhan o Gynllun Bioamrywiaeth Rwbel Glofeydd De Cymru, gan ddangos pwysigrwydd safleoedd sydd wedi’u hadfer a safleoedd sydd wedi’u gadael i fioamrywiaeth.
3. Datblygu cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau fel bod cynefinoedd a bioamrywiaeth yn ffynnu
Mae ein cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau yn darparu cynefinoedd cyfoethog a drwy greu’r rhain rydym yn cefnogi cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth lleol a chenedlaethol; mae gwaith ymchwil a’n profiad ni ein hunain yn cadarnhau hyn. Yn ogystal â’r amgylchedd dŵr agored, rydyn ni wedi creu 35 hectar o gynefinoedd tir gwlyb corslwyni, gyda 8 hectar o’r rhain yng Nghymru.
Gwnaed asesiadau bioamrywiaeth ar rai o’n cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau, ac o’r rhain rydym wedi datblygu astudiaethau achos i ddangos yr effaith y mae eu hadeiladu wedi’i chael drwyddi draw. Mae’r canlyniadau’n galonogol a dangosant effaith bositif.
Yn 2018, cawsom ganlyniadau terfynol prosiect PhD a wnaed gan un o fyfyrwyr ôl-radd Prifysgol Nottingham i edrych ar fioamrywiaeth mewn tiroedd gwlyb naturiol a thiroedd gwlyb wedi’u creu. Fel rhan o’r ymchwil hwn, gwnaed asesiadau bioamrywiaeth o’n safleoedd trin dŵr mwyngloddiau yn Hockery Brook a Thaf Merthyr, gan edrych yn benodol ar famaliaid, creaduriaid di-asgwrn-cefn sy’n byw ar goesau planhigion a gwyfynod er mwyn cyfrif y niferoedd unigol neu’r rhywogaethau sy’n bresennol.
Cafwyd canlyniadau positif o’r ddau safle, yn enwedig yr amrywiaeth gwyfynod, sy’n arwydd da o gyflwr ecosystemau. Yn gyffredinol, daeth yr ymchwil i’r casgliad bod bioamrywiaeth yn debyg ar diroedd gwlyb naturiol a thiroedd gwlyb wedi’u creu ac mae hynny’n dangos gwerth ein tiroedd gwlyb.
4. Cynllun Gweithredu Adfer Natur
4.1 NRAP Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth fwrw gwreiddiau yn y broses benderfynu ar bob lefel.
Beth a wnaethom:
- mae ein hymrwymiad i fioamrywiaeth yn glir yn ein Cynllun Cynaliadwyedd Corfforaethol
- rydym wedi cyhoeddi ‘Creu dyfodol gwell o’n gorffennol glofaol yng Nghymru’ sy’n cynnwys ffocws ar gynefinoedd tir gwlyb, bioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol
- mae’r broses o ddadansoddi’r gost a’r budd sy’n pennu pa gynlluniau trin dŵr mwyngloddiau a gaiff eu hadeiladu yn ystyried cyfleoedd a buddion amgylcheddol (gan gynnwys bioamrywiaeth) a chymdeithasol ochr yn ochr â’r elfen weithredol a’r gost
- cynyddu ymwybyddiaeth o ecoleg a bioamrywiaeth ar draws ein sefydliadau drwy hyfforddiant, blogiau ac erthyglau sy’n annog ein cydweithwyr i rannu eu syniadau â ni
Beth a wnawn:
- adrodd yn erbyn ein Cynllun Cynaliadwyedd Corfforaethol yn ein Cyfrifon a’n Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2019/20
- gweithio’n agos â’n cadwyn gyflenwi a datgan ein gofynion drwy ddogfennau tendro, ac adolygu ein cyflenwyr yn rheolaidd er mwyn eu hannog i rannu’r arferion gorau ym maes bioamrywiaeth a bod yn arloesol gyda’r gwaith a gyflawnant inni
- parhau i gynyddu ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant ar ecoleg a bioamrywiaeth
- ymgorffori syniadau am ein cyfalaf naturiol ym mhrosesau gwneud penderfyniadau ein busnes fel bod gweithredu ar fioamrywiaeth ac agweddau amgylcheddol eraill yn dod yn rhan arferol o’r busnes
4.2 NRAP Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o’r pwys mwyaf, a’u rheoli’n well
Beth a wnaethom:
- Fel rhan o’n trefn rheoli amgylcheddol, gwnawn asesiadau pen desg o’r amgylchedd hanesyddol a naturiol, gan gynnwys dynodiadau tir penodol, a lle bo’n briodol fe wnawn arolygon ecolegol i sicrhau ein bod yn ymwybodol o’n heffaith ar blanhigion ac anifeiliaid
- Rydyn ni’n canolbwyntio’n benodol ar rywogaethau gwarchodedig a chynefinoedd pwysig, er mwyn rhoi ar waith gynlluniau rheoli i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol, megis gweithio’r tu allan i dymor nythu adar neu godi ffensys madfallod dŵr.
- Rydyn ni’n ystyried mesurau y gallwn eu gweithredu i wella cynefinoedd megis gosod blychau adar ac ystlumod a chreu deyerydd i foch daear
- Mae gennym gynlluniau ar waith i frwydro yn erbyn rhywogaethau goresgynnol os ydynt i’w cael ar ein safleoedd
- Rydyn ni’n trin dros 100 biliwn litr o ddŵr bob blwyddyn, gan ei ddychwelyd yn lân i’r amgylchedd a chael effaith bositif ar fioamrywiaeth yn is i lawr yr afon ac yn y cyrsiau dŵr derbyn
- Rydyn ni’n rheoli oddeutu 35 hectar o gynefinoedd tir gwlyb yr ydym yn berchen arnynt ac mae’r rhain wedi gwneud cyfraniad pwysig i gynlluniau gweithredu bioamrywiaeth
Beth a wnawn:
- Wrth ddatblygu ein strategaeth enillion net bioamrywiaeth, byddwn yn ystyried ac yn cynnwys camau i gefnogi cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth lleol a chenedlaethol
- Byddwn yn parhau i adolygu ein cynlluniau gweithredol o leiaf bob blwyddyn i sicrhau bod effeithiau ein gwaith ar fioamrywiaeth naill ai’n bositif neu’n cael eu lliniaru
- Ar brosiectau gweithredol penodol, byddwn yn gweithio â’n partneriaid a’n contractwyr i ddiogelu a rheoli cynefinoedd ecolegol pwysig megis glaswelltir metelaidd
4.3 NRAP Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi’u diraddio a chreu cynefinoedd
Beth a wnaethom:
- Rydyn ni wedi creu cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau, gan gynnwys creu ardaloedd coetir a thiroedd gwlyb sy’n gyfoeth o fiota
- Rydyn ni wedi ail-blannu hen domennydd pyllau glo ac wedi gwella’r cynefin naturiol yn ne Cymru
Beth a wnawn:
- Byddwn yn parhau i greu cynefinoedd drwy ein cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau a’n rhaglenni rheoli tir a thomennydd
Mae gwybodaeth bellach am ein rhaglen trin dŵr mwyngloddiau i’w gweld ar ein gwefan
4.4 NRAP Amcan 4: Mynd i’r afael â’r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd
Beth a wnaethom:
- Mae ein gwaith i helpu i gyflawni amcanion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, yn cyfrannu’n uniongyrchol at helpu i adfer ansawdd ecolegol da mewn dyfroedd mewndirol; mae hyn yn helpu i leihau’r pwysau ar rywogaethau a chynefinoedd yn uniongyrchol
Beth a wnawn:
- Byddwn yn parhau â’n gwaith ar gyflawni amcanion y Gyfarwyddiaeth Fframwaith Dŵr gan weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill y llywodraeth i sicrhau’r canlyniadau gorau mewn dalgylchoedd
- Byddwn yn gweithio â rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol i ganfod cyfleoedd drwy gyfrwng gwaith ein portffolio tir i wella cynefinoedd ar ein heiddo a lleihau’r pwysau sydd ar rywogaethau a chynefinoedd
4.5 NRAP Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro
Beth a wnaethom:
- Rydyn ni wedi ariannu ymchwil i effeithiau cynlluniau trin dŵr mwyngloddiau ar fioamrywiaeth
- Rydyn ni wedi creu astudiaethau achos fel tystiolaeth o’r arfer da o’n gwaith ymchwil, fel yr un ar gyfer Cynllun trin dŵr mwynglawdd Taf Merthyr
- Rydyn ni’n dysgu drwy ein gwaith gan sicrhau bod ein holl ddatblygiadau sydd angen ceisiadau cynllunio ar eu cyfer a’r holl waith trin dŵr mwyngloddiau yn cael eu hasesu am enillion net bioamrywiaeth, a chaiff camau i wella cynefinoedd eu cynnwys os caiff hynny fudd datblygu cynaliadwy net
Beth a wnawn:
- Byddwn yn adolygu’r gweithrediadau a’r syniadau arloesol ac yn cyhoeddi strategaeth enillion net bioamrywiaeth erbyn 2023 gan gynnwys nodi lle gallwn wella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n gwaith monitro
- Byddwn yn rhannu ein gwaith a’n strategaeth enillion net bioamrywiaeth drwy ymgysylltu â’n rhanddeiliaid gan gynnwys drwy gyfrwng gwybodaeth a gyhoeddir ar Gov.uk
- Bydd ein data ar gael i eraill ei ddefnyddio i wella eu gwybodaeth hwythau ac i greu cyfleoedd ychwanegol i wella bioamrywiaeth a chynaliadwyedd
4.6 NRAP Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion
Beth a wnaethom:
- Rydyn ni wedi sefydlu trefniadau llywodraethu a systemau i osod amcanion, gan weithredu, monitro ac adolygu cynnydd ar gyfer datblygu cynaliadwy gan gynnwys bioamrywiaeth
- Rydyn ni’n adolygu ein cynaliadwyedd a’n cynllun cynaliadwyedd yn barhaus, gan gynnwys perfformiad bioamrywiaeth a chyflwynwn adroddiadau misol drwy gyfrwng ein Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd i’n bwrdd
Beth a wnawn:
- Byddwn yn datblygu ein strategaeth enillion net bioamrywiaeth a drwy ein system lywodraethu byddwn yn sicrhau y ceir adnoddau digonol i gyflawni’r holl amcanion
- Byddwn yn diffinio rolau, cyfrifoldebau ac amserlenni ar gyfer gweithgareddau er mwyn cyflawni ein hamcanion
- Byddwn yn pennu camau penodol i’n helpu i gyrraedd ein targedau
- Byddwn yn gwella ein dulliau adrodd fel bod amcanion ein strategaeth enillion net bioamrywiaeth yn cael lle amlycach yn ein hadroddiadau ar gynaliadwyedd
5. Adolygu dyletswydd a6
Fel rhan o’r ‘cylch cynllunio, gwneud, archwilio, gweithredu’, mae ein Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd yn gwneud adolygiad blynyddol o berfformiad ein system ‘rheoli Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd’, sy’n cynnwys cynaliadwyedd.
Byddwn yn cynnal adolygiad cynhwysol, gan roi ystyriaeth i’r cynnydd yn erbyn yr amcanion, allbynnau’r gwaith monitro ac archwilio, newidiadau mewn deddfwriaeth neu ym mholisi’r llywodraeth. Bydd yr adolygiad hefyd yn darparu casgliadau ac argymhellion i’n helpu i wella’n barhaus. Mae’r adolygiad hwn yn cynnwys ein cynllun cynaliadwyedd.
Mae ein Pwyllgor Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd yn sicrhau bod yr adolygiad yn ddigon llym ac yn herio’n ddigonol fel ei fod yn adlewyrchu’n briodol statws y system rheoli diogelwch, iechyd a’r amgylchedd a bod yr argymhellion yn briodol.