Marchnadoedd eithriedig ar gyfer gwartheg: safleoedd cymeradwy
Manylion safleoedd sydd wedi eu cymeradwyo i weithredu fel marchnadoedd eithriedig ar gyfer gwartheg yng Nghymru a Lloegr.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Mae marchnadoedd eithriedig yn ei gwneud yn bosibl i anifeiliaid o fuchesi a brofir bob blwyddyn nad ydynt wedi cael eu profi cyn eu symud pan ddylent fod wedi cael eu profi, gael eu gwerthu.
Rhaid symud gwartheg ymlaen o farchnadoedd eithriedig i un o’r canlynol:
- i gael eu lladd
- y safle gwreiddiol
- uned besgi TB gymeradwy
- uned besgi TB eithriedig
Dim ond symudiad eithriedig yn ôl i’r safle y gwnaethant symud ohono y dylid ei ganiatáu i wartheg sydd wedi symud i farchnadoedd nad ydynt wedi’i heithrio heb fodloni’r gofynion o ran cynnal profion cyn symud.
Dylai ceidwaid gwartheg gysylltu â’r farchnad cyn cyflwyno anifeiliaid er mwyn sicrhau bod y farchnad yn gweithredu ar y diwrnod penodedig.
Mae’r ddogfen ond yn rhestru rhai o’r safleoedd cymeradwy. Am ragor o fanylion am farchnadoedd eithriedig, cysylltwch â Gwasanaethau Maes yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn eich ardal leol.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Mehefin 2019 + show all updates
-
Welsh translation available
-
AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).
-
First published.