Cyfarwyddyd ymarfer 28, atodiad 1: estyn prydlesi: rhestr wirio ar gyfer cyflwyno cais i gofrestru ildiadau ac ail-roi ystad brydlesol
Diweddarwyd 9 Rhagfyr 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Trosolwg
Mae’r atodiad hwn yn disgrifio’r ystyriaethau y dylid eu gwneud wrth wneud cais i gofrestru ildiadau ac ail-roi ystad brydlesol. Mae’n cynnwys ildiadau (trwy weithredu’r gyfraith) ac ail-roi sy’n codi:
-
pan roddir prydles newydd i’r un tenant, i ddod i rym ar unwaith
-
pan roddir prydles newydd i denant presennol sy’n arfer ei hawliau o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993
-
pan fydd gweithred amrywio yn newid hyd prydles gofrestredig trwy gynyddu’r cyfnod neu’n ychwanegu tir newydd i’r graddau a brydlesir gan brydles gofrestredig
Mae’r adrannau a ganlyn yn cynnwys arweiniad ar lenwi ffurflen gais AP1, y cymalau penodedig mewn prydles cymalau penodedig a rhestrau gwirio ar gyfer y tri math o geisiadau ildio ac ail-roi a ddisgrifir uchod i’ch cynorthwyo wrth baratoi’r ceisiadau hyn ac osgoi ymholiadau. Maent yn cymryd bod teitl y landlord yn gofrestredig a bod y brydles sy’n cael ei hildio wedi ei chofrestru gyda’i rhif teitl ei hunan. Os nad yw teitl y landlord yn gofrestredig, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf. Os nad yw’r brydles sy’n cael ei hildio wedi ei chofrestru gyda’i rhif teitl ei hunan ond yn cael ei nodi (neu’n cynnwys hawddfreintiau a nodwyd) ar deitl y landlord, gweler adran 2.4 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi (neu, ar gyfer rhybudd unochrog, cyflwynwch ffurflen UN2 i dynnu ymaith neu ffurflen UN4 i ddileu).
Gellir dod o hyd i arweiniad cyffredinol yn y canlynol hefyd:
1.1 Ffurflen gais AP1
Mae arweiniad cyffredinol ar gael yn Arweiniad: llenwi ffurflen AP1 ond mae arweiniad penodol ar gyfer ceisiadau ildio ac ail-roi i’w gael isod. Fel rheol, bydd ymholiad yn cael ei godi pan fydd y wybodaeth ofynnol ar goll.
1.1.1 Panel 2: rhif(au) teitl
Rhaid i hyn gynnwys y rhifau teitl yng nghymalau penodedig LR2.1 a LR2.2 yn y brydles, rhif teitl y brydles a ildiwyd a phan wneir y brydles newydd o dan ddarpariaethau Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, unrhyw deitlau prydlesol rhyngol.
1.1.2 Panel 4: cais, blaenoriaeth a ffïoedd
Rhaid i hwn restru’r holl geisiadau a wneir gennych (er enghraifft, ildio prydles, prydles newydd). O dan y golofn gwerth bydd angen ichi nodi’r premiwm (os o gwbl) ac yna’r ffïoedd sy’n daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.
1.1.3 Panel 9: cyfeiriad ar gyfer gohebu
Rhaid i hyn gynnwys cyfeiriad ar gyfer gohebu’r tenant.
1.1.4 Panel 10: arwystlon newydd
Rhaid llenwi hwn gyda chyfeiriad ar gyfer gohebu unrhyw roddwr benthyg ffurf arwystl anghymeradwy.
1.1.5 Panel 13: tystiolaeth hunaniaeth
1.1.5.1 Panel 13(1)
Nodwch enwau llawn y sawl y mae angen cadarnhad hunaniaeth ar eu cyfer yn y golofn gyntaf. Nodwch bob parti mewn blwch ar wahân (er enghraifft landlord, tenant, rhoddwr benthyg).
Rhowch groes yn yr ail golofn yn erbyn enw unrhyw un o’r unigolion hyn yr ydych yn eu cynrychioli. Yn y drydedd golofn, nodwch naill ai fanylion y trawsgludwr(wyr), gan gynnwys eu cyfeirnod, sy’n gweithredu ar ran unrhyw un o’r unigolion eraill neu os oes rhai heb eu cynrychioli, noder ‘dim’. Lle bo atwrnai’n gweithredu, er mwyn eglurder, rhaid rhestru’r atwrnai a’r rhoddwr mewn blychau ar wahân (gweler enghraifft 2 yn adran 13.6 o gyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.
1.1.5.2 Panel 13(2)
Bydd angen ichi gwblhau’r panel hwn os ysgrifennwyd ‘dim’ i gadarnhau nad yw person yn cael ei gynrychioli, oni bai bod un o’r eithriadau a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwr yn gymwys, ac os felly dylech gyfeirio at yr eithriad a darparu’r dystiolaeth berthnasol. Er enghraifft, os yw eithriad C (nad yw’n ymarferol darparu tystiolaeth hunaniaeth) yn berthnasol, dylech gyfeirio ato a darparu’r llythyr eglurhaol angenrheidiol.
Lle nad yw eithriad yn berthnasol, yna ar gyfer pob person heb ei gynrychioli, rhaid ichi naill ai:
-
gadarnhau eich bod yn fodlon y cymerwyd camau digonol i wirio pwy ydynt, neu
-
amgáu tystiolaeth o’u hunaniaeth ar ffurflen ID1 neu ffurflen ID2 (gweler adran 8 o gyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth: trawsgludwr ar gyfer hyn)
1.2 Y brydles cymalau penodedig
Ceir arweiniad cyffredinol yng nghyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig ond rhoddir arweiniad penodol ar geisiadau ildio ac ail-roi isod. Fel rheol, bydd ymholiad yn cael ei godi pan fydd y wybodaeth ofynnol ar goll.
1.2.1 LR1: dyddiad y brydles
Rhaid i’r cymal hwn gynnwys dyddiad y brydles.
1.2.2 LR2.1: rhif(au) teitl y landlord
Rhaid i’r cymal hwn gynnwys rhif(au) teitl eiddo’r landlord y rhoddir y brydles ohono.
1.2.3 LR2.2: rhifau teitl eraill
Cwblhewch gymal LR2.2 gydag unrhyw rifau teitl (ac eithrio teitl(au) y landlord a roddir eisoes yn LR2.1) yr ydych yn gwneud cais i gofnodi materion y cyfeirir atynt yng nghymalau LR9, LR10, LR11 a LR13 yn eu herbyn.
Nid yw’r teitl prydlesol sy’n bodoli yn ofynnol yng nghymal LR2.2.
1.2.4 LR3: partïon i’r brydles hon
Rhaid i’r cymal hwn gynnwys enwau llawn a chyfeiriadau’r landlord a’r tenant. Os yw unrhyw un o’r partïon yn gwmni neu’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dyfynnwch y rhif cofrestru a/neu’r diriogaeth gorffori yn unol â’r cyfarwyddyd yn y testun.
Pan fo angen, rhaid i’ch cais gynnwys tystiolaeth o ddisgyniad teitl i’r landlord.
1.2.5 LR4: eiddo
Rhaid i’r cymal gynnwys disgrifiad llawn o’r eiddo a brydlesir neu gyfeiriad at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n disgrifio’r tir a brydlesir. Pan fo’r brydles yn rhan o deitl cofrestredig y landlord yn unig, rhaid nodi’r eiddo a brydlesir trwy gyfeirio at gynllun, fel y cyfarwyddir yn y testun. Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y manylion a roddir yn y cymal hwn a’r rhai y cyfeirir atynt mewn man arall yn y brydles, byddwn yn cwblhau cofrestru’r brydles ar sail y wybodaeth a ddarperir yng nghymal LR4 yn unig.
1.2.6 LR5.1: datganiadau a ragnodir o dan reolau 179 (gwarediadau o blaid elusen), 180 (gwarediadau gan elusen) neu 196 (prydlesi o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993) o Reolau Cofrestru Tir 2003
Pan fydd y brydles o blaid neu gan elusen rhaid cynnwys y datganiad(au) perthnasol a ddisgrifir yn adran 5.5.1 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.
Yn ogystal, pan wneir y brydles o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, rhaid iddi gynnwys y datganiad a ddisgrifir yn adran 5.3.3 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad neu gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n ei gynnwys.
1.2.7 LR6: cyfnod prydlesu’r eiddo
Rhaid i’r cymal hwn gynnwys cyfnod y brydles neu’r cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n cynnwys manylion y cyfnod. Nodwch y cyfnod yn llawn yma os yw’n bosibl.
1.2.8 LR7: premiwm
Rhaid i’r cymal hwn gynnwys y premiwm a dalwyd. Rhaid i brydlesi a roddir o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 gynnwys premiwm bob tro.
1.2.9 LR8: gwaharddiadau neu gyfyngiadau ar waredu’r brydles hon
Dylai’r cymal hwn gynnwys un o’r ddau opsiwn.
Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, neu yn ei gwblhau yn anghywir, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud.
1.2.10 LR10: cyfamodau cyfyngu a roddir yn y brydles hon gan y landlord mewn perthynas â thir heblaw’r eiddo
Dylai’r cymal hwn gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n cynnwys manylion unrhyw gyfamodau cyfyngu yn y brydles sy’n rhwymo tir sy’n eiddo i’r landlord, ac eithrio’r budd rifersiwn yn yr eiddo a ddisgrifir yng nghymal LR4.
Sicrhewch fod y brydles newydd yn cynnwys diffiniad o’r brydles sy’n bodoli os caiff cyfamodau cyfyngu eu mewngludo ohoni.
Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, neu yn ei gwblhau yn anghywir, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud.
Sylwer: ni ddylech gyfeirio yng nghymal LR10 at y canlynol:
- cyfamodau personol
- cyfamodau cyfyngu yr ymrwymodd y tenant iddynt
- cyfamodau cyfyngu yr ymrwymodd y landlord iddynt i’r graddau eu bod yn ymwneud â’r budd rifersiwn yn yr eiddo a ddisgrifir yng nghymal LR4 yn unig
1.2.11 LR11: hawddfreintiau
Dylech gwblhau’r cymalau hyn trwy gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles newydd a/neu sy’n bodoli (fel sy’n gymwys) sy’n cynnwys yr hawddfreintiau. Os nad ydych yn eu cwblhau, neu yn eu cwblhau’n anghywir, ni fydd unrhyw hawddfreintiau yn y brydles yn cael eu cwblhau trwy gofrestriad.
Sicrhewch fod y brydles newydd yn cynnwys diffiniad o’r brydles bresennol os caiff hawddfreintiau eu mewngludo ohoni.
Gweler adran 5.11 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.
1.2.12 LR12: rhent-dâl ystad yn faich ar yr eiddo
Dylech gwblhau’r cymal hwn trwy gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles pan fydd yn cynnwys rhent-dâl ystad. Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, neu yn ei gwblhau’n anghywir, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud.
Gweler adran 5.12 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.
1.2.13 LR13: cais am ffurf safonol o gyfyngiad
Gellir defnyddio’r cymal hwn i wneud cais am ffurf safonol o gyfyngiad yn unig. Mae’r ffurfiau safonol o gyfyngiad wedi eu pennu yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003. Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud oni bai eich bod yn gwneud cais penodol gan ddefnyddio ffurflen RX1.
Gweler adran 5.13 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.
1.2.14 LR14: datganiad ymddiried lle ceir mwy nag un person yn cynnwys y tenant
Rhaid cwblhau’r cymal hwn gyda’r datganiad ymddiried priodol os mai mwy nag un person neu gorff yw’r tenant a enwir yng nghymal LR3.
Os na chaiff cymal LR14 na ffurflen JO eu llenwi a’u cyflwyno gyda’r cais, byddwn yn cofnodi cyfyngiad ffurf A yn ddiofyn pan mai mwy nag un person neu gorff yw’r tenant.
Os mai mwy nag un person neu gorff yw’r tenant ond bydd yn dal yr eiddo a brydlesir ar ymddiried, ni ddylech gynnwys datganiad ymddiried yng nghymal LR14 ond yn lle hynny, rhaid ichi wneud cais am gyfyngiad ffurf A gan ddefnyddio cymal LR13 neu ffurflen RX1.
Gweler adran 5.14 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig a chyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat.
1.3 Gwneud cais i gofrestru prydles newydd a roddir i’r un tenant
Mae angen y ddogfennaeth ganlynol i gofrestru prydles newydd a roddir i’r un tenant.
-
Copi ardystiedig o’r brydles newydd, y mae’n rhaid iddo:
-
gael ei weithredu gan y landlord
-
gynnwys cymalau penodedig, oni bai ei fod yn dod o fewn yr eithriadau i ddiffiniad ‘prydles cymalau penodedig’ yn rheol 58A(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gweler adran 2.2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig, a
-
chynnwys manylion y brydles sy’n cael ei hildio os caiff y brydles newydd ei llunio trwy gyfeirio at ei thelerau
-
-
Y dystysgrif Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir briodol.
-
Copi ardystiedig o’r brydles sy’n cael ei hildio, os caiff y brydles newydd ei llunio trwy gyfeirio at ei thelerau neu lle nad yw’r brydles honno wedi ei chofrestru na’i nodi. Gall y copi ardystiedig o’r brydles fod yn gopi naill ai o’r brydles wreiddiol neu o’r brydles wrthran. Os na allwch ddarparu copi o’r brydles yn y naill ffurf na’r llall, rhowch gyfrif am ei absenoldeb. Fel rheol, mae angen inni ystyried cynnwys y brydles sy’n cael ei hildio.
-
Cydsyniad morgeisai’r landlord, os oes ei angen (gweler adran 2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi).
-
Cydsyniad unrhyw uwch-landlord, os yw’r uwch brydles yn gofyn am gydsyniad o’r fath (gweler adran 2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi).
-
Unrhyw gydsyniad neu dystiolaeth arall sy’n ofynnol gan gyfyngiad sy’n effeithio ar deitl y landlord.
-
Unrhyw arwystlon neu weithredoedd arwystl amnewidiol. Rhaid i gymerwr benthyg gyflawni gweithred arwystl amnewidiol a, phan fydd yn cynnwys rhyddhau, rhaid i’r rhoddwr benthyg wneud hyn. Oni bai mai ffurf arwystl gymeradwy sy’n cynnwys cais am ffurf safonol o gyfyngiad a/neu rwymedigaeth benthyciadau pellach yw’r weithred arwystl amnewidiol, dylid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen RX1 a/neu ffurflen CH2 os oes cyfyngiad yn y gofrestr berthnasol i’r arwystl gwreiddiol neu gofnod yn ymwneud â rhwymedigaeth i roi benthyciadau pellach.
-
Copi ardystiedig o unrhyw atwrneiaeth sy’n ofynnol.
-
Unrhyw ffurflen RX1 sy’n ofynnol (ar gyfer cyfyngiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yng nghymal LR13 – gweler LR13: cais am ffurf safonol o gyfyngiad).
Rhaid ichi ddelio gydag unrhyw lyffetheiriau ar y teitl prydlesol sy’n bodoli hefyd a, lle bo’n briodol, rhaid cyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu rhyddhau, eu tynnu’n ôl neu eu dileu er mwyn galluogi i’r teitl gael ei gau.
-
Arwystl cofrestredig – rhaid cyflwyno naill ai rhyddhad neu weithred arwystl amnewidiol, sy’n cynnwys geiriau clir o ryddhau’r arwystl.
-
Cyfyngiad – rhaid cyflwyno ffurflen RX3 i’w ddileu neu ffurflen RX4 i’w dynnu’n ôl.
-
Rhybudd unochrog – rhaid cyflwyno ffurflen UN2 i’w dynnu ymaith neu ffurflen UN4 i’w ddileu.
-
Rhybudd hawliau cartref – rhaid cyflwyno ffurflen HR4 ynghyd â’r dystiolaeth briodol. Disgrifir y dystiolaeth briodol yn adran 8 o gyfarwyddyd ymarfer 20: hawliau cartref a cheisiadau o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.
-
Rhybuddion eraill, gan gynnwys arwystlon ecwitïol ac arwystlon a nodwyd – rhaid cyflwyno ffurflen CN1.
1.4 Gwneud cais i gofrestru prydles newydd a wnaed o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993
Sylwer os rhoddir y brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 bod y ddeddfwriaeth yn darparu y bydd unrhyw arwystlon ar y brydles a ildiwyd yn trosglwyddo’n awtomatig felly nid oes angen i Gofrestrfa Tir EF gyflwyno gweithred warant amnewidiol.
Mae angen y ddogfennaeth ganlynol ar gyfer cofrestru’r brydles newydd pan fydd tenant presennol yn arfer ei hawl o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 i gaffael prydles newydd.
-
Ffurflen gais AP1. Rhaid i banel 2 gynnwys y rhifau teitl yng nghymalau penodedig LR2.1 a LR2.2 yn y brydles, rhif teitl y brydles sy’n cael ei hildio ac unrhyw deitlau prydlesol rhyngol.
-
Copi ardystiedig o’r brydles newydd, y mae’n rhaid iddo:
-
gael ei weithredu gan y landlord
-
gynnwys cymalau penodedig, oni bai ei fod yn dod o fewn yr eithriadau i ddiffiniad ‘prydles cymalau penodedig’ yn rheol 58A(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gweler adran 2.2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig
-
gynnwys yng nghymal penodedig LR5 y datganiad priodol a ddisgrifir yn adran 5.3.3 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad, a ragnodir gan reol 196(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 neu cyfeiriwch at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n ei gynnwys
-
fod am gyfnod sy’n dod i ben 90 mlynedd ar ôl i’r brydles sy’n cael ei hildio fod wedi dod i ben fel arall ac am rent hedyn pupur, a
-
chynnwys manylion y brydles sy’n cael ei hildio os yw’r brydles newydd yn cael ei llunio trwy gyfeirio at ei thelerau (ond sylwch fod yn rhaid i’r brydles newydd gael ei llunio’n benodol fel prydles ac ni all fod yn weithred amrywio’r brydles bresennol)
-
-
Pan nad yw’r ceisydd wedi bod yn denant am y ddwy flynedd flaenorol, bydd tystiolaeth o denant cymwys yn cyflwyno rhybudd o’i hawliad i brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ynghyd ag aseinio budd y rhybudd yn ofynnol.
-
Manylion unrhyw brydlesi rhyngol rhwng teitl y landlord a’r brydles newydd. Gweler adran 5.3.4 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad. Rhaid cynnwys rhif(au) teitl y brydles(i) rhyngol hynny ym mhanel 2 ffurflen AP1.
-
Y dystysgrif Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir briodol.
-
Copi ardystiedig o’r brydles sy’n cael ei hildio, os caiff y brydles newydd ei llunio trwy gyfeirio at ei thelerau neu lle nad yw’r brydles honno wedi ei chofrestru na’i nodi.
-
Cydsyniad morgeisai’r landlord, os oes ei angen (heb hyn, er bod cofrestru yn bosibl o hyd, ar adegau, bydd angen inni gynnwys cofnod gwarchodol sy’n nodi na fydd y brydles efallai yn rhwymo morgeisai’r landlord os yw’n arfer ei bwerau – gweler adran 9.3 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad.
-
Unrhyw gydsyniad neu dystiolaeth arall sy’n ofynnol gan gyfyngiad sy’n effeithio ar deitl y landlord (ac eithrio cyfyngiad o blaid morgeisai’r landlord).
-
Copi ardystiedig o unrhyw atwrneiaeth sy’n ofynnol.
-
Unrhyw ffurflen RX1 sy’n ofynnol (ar gyfer cyfyngiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yng nghymal LR13 – gweler LR13: cais am ffurf safonol o gyfyngiad).
Rhaid ichi ddelio gydag unrhyw lyffetheiriau ar y teitl prydlesol sy’n bodoli hefyd a, lle bo’n briodol, rhaid cyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu rhyddhau, eu tynnu’n ôl neu eu dileu er mwyn galluogi i’r teitl gael ei gau (gweler adran 9.8 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad).
-
Cyfyngiad – rhaid cyflwyno ffurflen RX3 i’w ddileu neu ffurflen RX4 i’w dynnu’n ôl oni bai y gwneir cais am gyfyngiad cyfatebol yn erbyn y brydles newydd.
-
Rhybudd unochrog – rhaid cyflwyno ffurflen UN2 i’w dynnu ymaith neu ffurflen UN4 i’w ddileu oni bai bod y rhybudd yn ymwneud â hawl y tenant i brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 a bod y brydles newydd yn cydymffurfio â hi. Os felly, mae’n bosibl y byddwn yn dileu’r rhybudd yn awtomatig.
-
Rhybuddion eraill, gan gynnwys arwystlon ecwitïol a rhai a nodwyd – rhaid cyflwyno ffurflen CN1 oni bai bod y rhybudd yn ymwneud â hawl y tenant i brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 a bod y brydles newydd yn cydymffurfio â hi. Os felly, mae’n bosibl y byddwn yn dileu’r rhybudd yn awtomatig.
1.5 Gwneud cais i gofrestru gweithred amrywio
Mae angen y ddogfennaeth ganlynol i gofrestru gweithred amrywio sy’n amrywio hyd prydles gofrestredig trwy gynyddu’r cyfnod neu ychwanegu tir newydd i’r graddau a brydlesir gan brydles gofrestredig (ac felly yn y naill achos neu’r llall yn effeithio ar ildiadau ac ail-roi trwy weithredu’r gyfraith).
-
Copi ardystiedig o’r weithred amrywio, y mae’n rhaid i’r landlord a’r tenant ei chyflawni.
-
Y dystysgrif Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir briodol.
-
Copi ardystiedig o’r brydles.
-
Pan fydd yr ystad brydlesol newydd yn cael ei dal gan fwy nag un person neu gorff bydd angen darparu datganiad ymddiried. Gellir darparu hyn trwy lenwi ffurflen JO. Os mai un person neu gorff yw’r tenant ond bydd yn dal yr eiddo a brydlesir ar ymddiried, rhaid ichi wneud cais am gyfyngiad Ffurf A gan ddefnyddio ffurflen RX1.
-
Cydsyniad morgeisai’r landlord, os oes angen (gweler adran 2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi).
-
Cydsyniad unrhyw uwch-landlord, os yw’r uwch brydles yn gofyn am gydsyniad o’r fath (gweler adran 2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi).
-
Unrhyw gydsyniad neu dystiolaeth arall sy’n ofynnol gan gyfyngiad sy’n effeithio ar deitl y landlord.
-
Unrhyw arwystlon neu weithredoedd arwystl amnewidiol. Rhaid i gymerwr benthyg gyflawni gweithred arwystl amnewidiol a, phan fydd yn cynnwys rhyddhau, rhaid i’r rhoddwr benthyg wneud hyn. Oni bai mai ffurf arwystl gymeradwy sy’n cynnwys cais am ffurf safonol o gyfyngiad a/neu rwymedigaeth benthyciadau pellach yw’r weithred arwystl amnewidiol, dylid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen RX1 a/neu ffurflen CH2 os oes cyfyngiad yn y gofrestr berthnasol i’r arwystl gwreiddiol neu gofnod yn ymwneud â rhwymedigaeth i roi benthyciadau pellach.
-
Copi ardystiedig o unrhyw atwrneiaeth sy’n ofynnol.
-
Unrhyw ffurflen RX1 sy’n ofynnol.
Rhaid ichi ddelio gydag unrhyw lyffetheiriau ar y teitl prydlesol sy’n bodoli hefyd a, lle bo’n briodol, cyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu rhyddhau, eu tynnu’n ôl neu eu dileu er mwyn galluogi’r teitl i gael ei gau.
-
Arwystl cofrestredig – rhaid cyflwyno naill ai rhyddhad neu weithred arwystl amnewidiol, sy’n cynnwys geiriau clir o ryddhau’r arwystl.
-
Cyfyngiad – rhaid cyflwyno ffurflen RX3 i’w ddileu neu ffurflen RX4 i’w dynnu’n ôl.
-
Rhybudd unochrog – rhaid cyflwyno ffurflen UN2 i’w dynnu ymaith neu ffurflen UN4 i’w ddileu.
-
Rhybudd hawliau cartref – rhaid cyflwyno ffurflen HR4 ynghyd â’r dystiolaeth briodol. Disgrifir y dystiolaeth briodol yn adran 8 o gyfarwyddyd ymarfer 20: hawliau cartref a cheisiadau o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.
-
Rhybuddion eraill, gan gynnwys arwystlon ecwitïol ac arwystlon a nodwyd – rhaid cyflwyno ffurflen CN1.
2. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.