Talu ffi y llys sifil neu’r llys teulu, cael help i dalu ffioedd neu gael ad-daliad
Diweddarwyd 12 Tachwedd 2024
1. Trosolwg
Efallai y bydd angen ichi dalu ffi os byddwch yn defnyddio gwasanaeth yn y llys sifil neu’r llys teulu, megis gwneud neu ymateb i gais. Mae’r ffi y bydd rhaid i chi dalu yn dibynnu ar y math o wasanaeth a maes y gyfraith y mae’ch gwasanaeth yn gysylltiedig ag ef.
Mae’r llysoedd sifil a theulu yn darparu nifer o wasanaethau a ffioedd. I weld y prif ffioedd, ewch i:
I weld y rhestr lawn, ewch i Ffioedd yn y llysoedd sifil a theulu - rhestr lawn.
2. Talu ffi’r llys
Gan amlaf bydd angen ichi dalu eich ffi llys ar ddechrau’r broses - hynny yw, pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Efallai y bydd cyfarwyddyd y gwasanaeth neu’r ffurflen yn dweud wrthych bod angen ichi dalu’r ffi ar ryw adeg arall.
Dulliau talu
Yn dibynnu ar y gwasanaeth, gallwch dalu ffi’r llys:
- ar-lein
- dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd
- yn bersonol gyda siec, arian parod, cerdyn debyd neu gredyd - efallai y bydd angen i chi wneud apwyntiad
- drwy’r post gyda siec
- gyda’ch Rhif Trosglwyddiad Cyfrif (PBA) GLlTEF, os ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith
Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth ar-lein yna bydd rhaid i chi dalu’r ffioedd ar-lein, er enghraifft i wneud hawliad am arian.
Os ydych yn talu yn bersonol gyda siec neu’n anfon siec drwy’r post, gwnewch y siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’. Os na fydd y siec yn clirio, yna bydd y llys yn cymryd camau i adennill yr arian ac efallai y bydd eich cais yn cael ei ohirio tra gwneir hyn neu’n cael ei wrthod.
Dylai dulliau talu’r gwasanaeth fod wedi’u nodi’n glir yn y cyfarwyddyd neu yn y ffurflen. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i’r llys sut y gallwch dalu, ble i anfon taliad drwy’r post neu’r rhif ffôn ar gyfer talu dros y ffôn. Gwybodaeth am gost galwadau.
Gwasanaethau ar-lein
- Gallwch ddefnyddio Hawlio Arian Ar-lein (MCOL) ar gyfer rhai hawliadau am arian sydd werth hyd at £99,999.99
- Gallwch ddefnyddio Hawliad Meddiannu Ar-lein (PCOL) ar gyfer meddiannu’n ymwneud ag ôl-ddyledion morgais neu rent.
Gallwch ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r prosesau syml, hwylus a diogel hyn i dalu ffi ar-lein gyda cherdyn debyd neu gredyd.
Help i dalu
Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi, neu efallai y cewch ostyngiad:
- os nad oes gennych fawr ddim cynilion a buddsoddiadau, neu ddim o gwbl
- rydych yn cael budd-daliadau penodol
- mae eich incwm yn isel
Darganfyddwch os ydych yn gymwys a sut i wneud cais am help i dalu ffioedd
3. Ad-daliadau
Efallai y byddwch yn gymwys i gael ad-daliad ar ffi’r llys os ydych angen canslo’r cais, hawliad neu weithred arall ac nid yw’r llys wedi’i phrosesu eto.
Er enghraifft, os ydych wedi gwneud hawliad am arian ac mae’r diffynnydd nawr wedi setlo’r achos, gallwch ofyn am ad-daliad o’r ffi os nad yw’r llys wedi cychwyn yr hawliad eto.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael ad-daliad:
- os yw’r llys wedi prosesu’r hawliad neu’r cais mewn camgymeriad ar ôl ichi wneud cais i’w ganslo
- os ydych wedi talu am wasanaeth ar-lein ac mae’r taliad wedi’i gymryd mwy nag unwaith oherwydd gwall ar y system
Cysylltwch â’r llys ar unwaith os ydych eisiau canslo gwasanaeth llys.
I wneud cais am ad-daliad, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch i’r ganolfan busnes neu wasanaeth berthnasol. Mae’n rhaid ichi egluro pam yr ydych chi’n credu y dylech gael ad-daliad. Mae’n rhaid ichi hefyd wneud y cais am ad-daliad mor fuan â phosibl ar ôl ichi dalu’r ffi.
Os ydych wedi talu gyda siec neu gerdyn credyd, peidiwch â chanslo’r taliad oherwydd gallai hyn olygu y gallai’r llys hawlio’r ffi oddi wrthych chi fel dyled sifil.
4. Canolfannau busnes a gwasanaeth
Achosion sifil
Y Ganolfan Fusnes Genedlaethol Sifil
St Katharine’s House
21 to 27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH
E-bost: [email protected]
Achosion teulu
Mabwysiadu neu drefniadau plant
Cysylltwch â’ch canolfan teulu leol neu ranbarthol – chwilio yn ôl cod post.
Ysgariad neu bartneriaeth sifil
Gwasanaeth Ysgariadau a Diddymiadau GLlTEF
Blwch Post
Harlow
CM20 9UG
E-bost: [email protected]
Rhwymedi ariannol
Cysylltwch â’ch canolfan rhwymedi ariannol ranbarthol.
Profiant
Profiant GLlTEF
Blwch Post 12625
Harlow
CM20 9QF
E-bost: [email protected]