Ffioedd y llys teulu (EX50)
Diweddarwyd 12 Tachwedd 2024
Trosolwg
Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys detholiad o ffioedd y llys teulu. Gweler yma y rhestr lawn o’r ffioedd a godir yn y llys sifil a’r llys teulu (EX50A).
Mae’r rhestrau llawn o holl ffioedd y llysoedd ar gael mewn Offerynnau Statudol (OS) a elwir yn orchmynion ffioedd a gellir eu gweld ar-lein yn www.legislation.gov.uk
Mae’r ffioedd llys ar y dudalen hon yn berthnasol i’r Uchel Lys, y llys sirol a’r llys teulu, a’r un fath ymhob un, oni nodir fel arall. Bydd eich llys lleol yn gallu eich helpu i ganfod unrhyw ffi nad yw wedi’i chynnwys yn yr arweiniad hwn.
Darllenwch fwy am sut i dalu ffi y llys sifil neu’r llys teulu, cael help i dalu ffioedd neu gael ad-daliad.
Achosion priodas a phartneriaeth sifil
Math o gais | Ffi |
---|---|
Ffeilio cais am ysgariad, dirymiad neu ddiddymu partneriaeth sifil (gorchymyn ffioedd 1.2) | £593 |
Ffeilio cais am ymwahaniad cyfreithiol (gorchymyn ffioedd 1.3) | £402 |
Ffeilio cais am ail orchymyn, gorchymyn priodasol dilynol neu orchymyn partneriaeth sifil gyda chaniatâd (gorchymyn ffioedd 1.5) | £95 |
Ffeilio ymateb i gais am orchymyn priodasol neu orchymyn partneriaeth sifil (gorchymyn ffioedd 1.6) | £245 |
Ffeilio cais diwygiedig am orchymyn priodasol neu orchymyn partneriaeth sifil (gorchymyn ffioedd 1.5) | £95 |
Ffeilio cais i gychwyn achos pan nad oes unrhyw ffi arall wedi’i nodi (gorchymyn ffioedd 1.1) | £270 |
Ffeilio datganiad ynghylch statws priodasol, pwy yw’r rhieni, cyfreithlondeb neu fabwysiadau a ddigwyddodd dramor (gorchymyn ffioedd 1.3) | £402 |
Gorchmynion ariannol
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais am orchymyn ariannol, ac eithrio drwy gydsyniad (gorchymyn ffioedd 5.4) | £303 |
Cais am orchymyn ariannol drwy gydsyniad (gorchymyn ffioedd 5.1) | £58 |
Ceisiadau am waharddebau – cartrefi teuluol a thrais domestig
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais am orchymyn rhag molestu | Dim ffi |
Cais am orchymyn anheddu | Dim ffi |
Ceisiadau am orchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais i gychwyn achos am orchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod | Dim ffi |
Gwneud cais i ddiwygio, amrywio neu ymestyn gorchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod | Dim ffi |
Plant
Mae’r arweiniad ar geisiadau yn y llys teulu sy’n ymwneud â phlant (CB1) yn cynnwys mwy o wybodaeth am y math o geisiadau y gellir eu gwneud dan y Ddeddf Plant a phwy sy’n gallu eu gwneud. Mae detholiad o’r ceisiadau mwyaf cyffredin i’w gweld yn yr adran hon:
Ceisiadau dan Ddeddf Plant 1989 (gorchymyn ffioedd 2.1)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Unrhyw geisiadau newydd o dan Ddeddf Plant 1989 i ofyn am ganiatâd i gychwyn achos neu i orchymyn neu gyfarwyddiadau gael eu gwneud ynghylch y plentyn neu’r plant, er enghraifft gorchymyn trefniadau plant, gorchymyn camau gwaharddedig, gorchymyn mater penodol neu orchymyn gwarcheidiaeth arbennig (ac eithrio ceisiadau am orchmynion gofal a goruchwylio a gyhoeddir gan awdurdodau lleol) | £255 |
Cais am orchymyn gorfodi o dan Ddeddf Plant 1989 neu orchymyn am iawndal am golled ariannol, oherwydd methiant gorchymyn trefniadau plant | £255 |
Cais i ddirymu, diwygio, ymestyn neu gymryd camau gweithredu yn dilyn torri amodau gorchymyn gorfodi Deddf Plant 1989 cyfredol | £112 |
Dim ond 2 enghraifft sydd yn y gorchymyn ffioedd teulu lle bo £245 yn daladwy (nid yw achosion o dan Ddeddf Plant 1989 yn un ohonynt):
Math o gais | Ffi |
---|---|
Ffeilio cais i gychwyn achos pan nad oes unrhyw ffi arall wedi’i nodi (ffi 1.1 gorchymyn ffioedd teulu) | £270 |
Ffeilio ymateb i gais am orchymyn priodasol neu orchymyn partneriaeth sifil (ffi 1.6 gorchymyn ffioedd teulu) | £245 |
Mae ceisiadau i gychwyn achos newydd o dan Ddeddf Plant 1989 yn cael eu diffinio fel unrhyw gais am orchymyn lle nad oes achos yng nghyswllt y plentyn neu’r plant yn cael ei ystyried ar y pryd gan y llys.
Os oes achos dan Ddeddf Plant 1989 eisoes yn cael ei ystyried yng nghyswllt y plentyn neu’r plant, codir y ffi gwneud cais am geisiadau o fewn achos.
Dylid gwneud cais am orfodaeth yn gyntaf gyda ffi o £255 a dim ond wedi hynny y gellir gwneud cais am dorri amodau gyda ffi o £102.
Am ragor o wybodaeth gweler Ceisiadau o fewn achosion.
Gorchmynion cynhaliaeth
Gweler yr adran Achosion gorfodi teulu ) i gael manylion am y ffioedd sy’n berthnasol wrth wneud cais am orchymyn i orfodi gorchymyn talu arian.
Os ydych yn dymuno amrywio gorchymyn cynhaliaeth cyfredol, gweler Ceisiadau o fewn achosion.
Mabwysiadu
(Gorchymyn ffioedd 3.1 i 3.3)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais am ganiatâd, neu orchymyn | £201 |
Bydd un ffi o £201 yn daladwy am un plentyn neu sawl brawd/chwaer wedi’u ffeilio gyda’i gilydd. Os byddant yn cael eu ffeilio ar wahân, ac ar wahanol adegau, yna mae ffi o £201 yn daladwy bob tro.
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais am orchymyn lleoli (adran 22) | £539 |
Bydd un ffi o £490 yn daladwy am un plentyn neu sawl brawd/chwaer wedi’u ffeilio gyda’i gilydd. Os byddant yn cael eu ffeilio ar wahân, ac ar wahanol adegau, yna mae ffi o £490 yn daladwy bob tro.
Math o gais | Ffi |
---|---|
Dirymu lleoli | £201 |
Os byddwch yn cychwyn ceisiadau ar gyfer brodyr a chwiorydd ar yr un pryd, dim ond un ffi sy’n daladwy.
Ceisiadau o dan y Ddeddf Plant a mabwysiadu
Dim ond un ffi sy’n daladwy pan wneir cais neu phan geisir caniatâd dan 2 ddarpariaeth neu fwy o:
- Ddeddf Plant 1989
- Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
- Deddf Plant a Mabwysiadu 2006
Os yw’r ffioedd yn wahanol, yna dylid talu’r ffi uchaf.
Ceisiadau mewn achosion
Mae ‘ar rybudd’ neu ‘gyda rhybudd’ yn golygu bod y parti arall wedi’i hysbysu am y cais, waeth os oes gwrandawiad neu beidio.
Mae ‘heb rybudd’ yn golygu nad yw’r parti arall wedi’i hysbysu am y cais, waeth os oes gwrandawiad neu beidio.
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais ar rybudd pan nad oes ffi arall wedi’i phennu (gorchymyn ffioedd 5.3) | £184 |
Cais drwy gydsyniad neu heb rybudd pan na bennir ffi arall, er enghraifft cais i ddad-restru neu ohirio gwrandawiad (gorchymyn ffioedd 5.1) | £58 |
Nid oes rhaid ichi dalu ffi os ydych yn gwneud cais i atal y person:
- rydych wedi’i gyhuddo o’ch cam-drin rhag gofyn cwestiynau i chi mewn gwrandawiad (EX740)
- sydd wedi’ch cyhuddo chi o gam-drin rhag gofyn cwestiynau i chi mewn gwrandawiad (EX741)
Apeliadau
Math o apêl | Ffi |
---|---|
Wrth ffeilio hysbysiad o apêl gan farnwr rhanbarth, un neu fwy o ynadon lleyg (ynadon), clerc ynadon neu gynorthwyydd i glerc ynadon, ac eithrio apêl yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan Ddeddf Plant 1989 (gorchymyn ffioedd 6.1) | £138 |
Ynghylch unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Plant 1989, ac eithrio yng nghyswllt apeliadau am dorri neu ddiddymu gorchymyn gorfodi (gorchymyn ffioedd 2.3 i 2.4) | £237 |
Os byddwch yn ffeilio hysbysiad o apêl ar gyfer brodyr a chwiorydd ar yr un pryd, dim ond un ffi sy’n daladwy.
Cais teulu am wasanaeth (gorchymyn ffioedd 15.1)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais i unrhyw ddogfen gael ei chyflwyno gan feili | £45 |
Cais i feili gyflwyno, ar ran y ceisydd neu geisydd trydydd parti, ceisiadau am orchymyn rhag molestu, gorchymyn anheddu, gorchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod neu orchymyn amddiffyn rhag anffurfio organau cenhedlu benywod | Dim ffi |
Ffioedd teulu eraill, gan gynnwys copïau o ddogfennau a chostau
Copi o ddogfennau (gorchymyn ffioedd 8.1 i 8.2)
Os byddwch yn gofyn i’r llys wneud copïau o ddogfennau neu ddarparu copi o ddogfen sydd eisoes wedi’i darparu:
Rhif neu fformat | Ffi |
---|---|
Hyd at 10 tudalen o unrhyw ddogfen | £11 |
Am bob tudalen ychwanegol ar ôl y 10 cyntaf | 50c |
Dogfennau ar ddisg cyfrifiadur neu fformat electronig arall | £11 |
Penderfynu ar gostau teulu (gorchymyn ffioedd 9.1 i 9.5)
Math o gais neu apêl | Ffi |
---|---|
Cais am asesiad manwl pan fo’r parti sy’n ffeilio’r cais yn cael cymorth cyfreithiol neu’n cael ei noddi gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol (LAA) | £94 |
Apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed mewn achos asesu manwl | £231 |
Cais i gyflwyno tystysgrif costau diffygdalu | £65 |
Cais i roi tystysgrif costau diffygdalu o’r naill du | £121 |
Pan wneir y ceisiadau canlynol, mae’r ffi sy’n daladwy yn dibynnu ar y costau sy’n cael eu hawlio:
- Cais am asesiad manwl pan nad yw’r parti sy’n ffeilio’r cais yn cael cymorth cyfreithiol neu’n cael ei noddi gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol (LAA)
- Cais am ddyddiad gwrandawiad ar gyfer asesu costau yn dilyn gorchymyn dan Ran 3 Deddf Cyfreithwyr 1974
Gwerth y costau a hawliwyd | Ffi |
---|---|
Hyd at £15,000 | £335 |
£15,000.01 i £50,000 | £675 |
£50,000.01 i £100,000 | £1,005 |
£100,000.01 i £150,000 | £1,345 |
£150,000.01 i £200,000 | £1,680 |
£200,000.01 i £300,000 | £2,520 |
£300,000.01 i £500,000 | £4,200 |
Mwy na £500,000 | £5,600 |
Achosion gorfodi teulu
Gallwch gychwyn achos gorfodi os yw’r llys wedi gorchymyn i rywun dalu swm o arian i chi neu i ddychwelyd eich nwyddau, eiddo neu dir, a hwythau heb wneud hynny.
Math o orfodaeth y gall y llys ystyried yn briodol (gorchymyn ffioedd 5.1)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais yn y llys teulu ar gyfer gorchymyn am y math o orfodaeth gall y llys ei ystyried yn briodol | £58 |
Gorchymyn i gael gwybodaeth gan ddyledwr (gorchymyn ffioedd 12.1)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais am orchymyn i ddyledwr neu unigolyn arall fynychu llys i ddarparu gwybodaeth | £59 |
Gwneud cais i feili gyflwyno gorchymyn i ddyledwr fynychu’r llys i ateb cwestiynau | £100 |
Atafaelu enillion (gorchymyn ffioedd 12.5)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais am orchymyn atafaelu enillion | £37 |
(Mae ffi i’w thalu am bob diffynnydd y gofynnir i’r gorchymyn gael ei wneud yn ei erbyn).
Gorchymyn arwystlo (gorchymyn ffioedd 12.3)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais am orchymyn arwystlo | £42 |
Mae’r ffi yn daladwy am bob gorchymyn arwystlo y gwneir cais amdano.
Gwŷs dyfarniad (gorchymyn ffioedd 12.4)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais am wŷs dyfarniad | £80 |
Gorchymyn dyled trydydd parti
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais am orchymyn dyled trydydd parti neu orchymyn garnisio/penodi derbynnydd (gorchymyn ffioedd 12.2) | £85 |
Gwneud cais i orfodi dyfarniad neu orchymyn (gorchymyn ffioedd 13.1) | £110 |
O safbwynt gorchymyn dyled trydydd parti neu orchymyn garnisio/penodi derbynnydd mae ffi yn daladwy ar gyfer pob parti y gofynnir am y gorchymyn yn ei erbyn.
Ffioedd gwarantau rheolaeth
Math o warant | Ffi |
---|---|
Gwneud cais i orfodi gwarant mewn cyfeiriad newydd (gorchymyn ffioedd 13.2) | £30 |
Codi gwarant i feddiannu neu gwarant i drosglwyddo (gorchymyn ffioedd 13.3) | £131 |
Codi gwarant rheolaeth i adfer swm o arian (gorchymyn ffioedd 13.1) | £110 |
Gorfodi yn yr Uchel Lys (gorchymyn ffioedd 14.1 i 14.2)
Math o orfodi | Ffi |
---|---|
Selio gwrit rheolaeth, meddiannu neu trosglwyddo | £66 |
Cais i gofrestru dyfarniad neu orchymyn | £66 |
Chwiliadau
(Gorchymyn ffioedd 7.1 i 7.3)
Mynegai dyfarniadau absoliwt neu orchmynion terfynol
Chwilio’r mynegai ar gyfer unrhyw gyfnod penodol o 10 mlynedd calendr neu’r 10 mlynedd mwyaf diweddar.
Math o chwiliad | Ffi |
---|---|
Chwilio’r mynegai canolog cenedlaethol o ddyfarniadau absoliwt a gorchmynion terfynol | £65 |
Chwilio’r mynegai canolog cenedlaethol o gytundebau cyfrifoldeb rhiant | £45 |
Chwilio mynegai dyfarniadau absoliwt a gorchmynion terfynol unrhyw lys teulu penodol neu gofrestrfa ddosbarth | £45 |
Mae’r ffi yn cynnwys copi o’r cytundeb, os yw’n briodol.