Ffioedd y llys sifil (EX50)
Diweddarwyd 12 Tachwedd 2024
Trosolwg
Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys detholiad o ffioedd y llys sifil. Gweler yma y rhestr lawn o’r ffioedd a godir yn y llys sifil a’r llys teulu (EX50A).
Mae’r rhestrau llawn o holl ffioedd y llysoedd ar gael mewn Offerynnau Statudol (OS) a elwir yn orchmynion ffioedd a gellir eu gweld ar-lein yn www.legislation.gov.uk
Mae’r ffioedd llys ar y dudalen hon yn berthnasol i’r Uchel Lys, y Llys Sirol a’r Llys Teulu, a’r un fath ymhob un, oni nodir fel arall. Bydd eich llys lleol yn gallu eich helpu i ganfod unrhyw ffi nad yw wedi’i chynnwys yn yr arweiniad hwn.
Darllenwch fwy am sut i dalu ffi y llys sifil neu’r llys teulu, cael help i dalu ffioedd neu gael ad-daliad.
Cychwyn hawliadau
Hawliadau am arian (gorchymyn ffioedd sifil 1.1 i 1.2)
I gychwyn hawliad am arian, mae’r ffioedd yn seiliedig ar y swm a hawlir, gan gynnwys llog.
Gwerth eich hawliad | Ffi |
---|---|
Hyd at £300 | £35 |
Mwy na £300 ond dim mwy na £500 | £50 |
Mwy na £500 ond dim mwy na £1,000 | £70 |
Mwy na £1,000 ond dim mwy na £1,500 | £80 |
Mwy na £1,500 ond dim mwy na £3,000 | £115 |
Mwy na £3,000 ond dim mwy na £5,000 | £205 |
Mwy na £5,000 ond dim mwy na £10,000 | £455 |
Mwy na £10,000 ond dim mwy na £200,000 | 5% o werth yr hawliad |
Mwy na £200,000 | £10,000 |
Y swm uchaf ar gyfer Trosglwyddo Data Diogel (SDT) neu Hawlio Arian Ar-lein (MCOL) yw £99,999.99
Mae Trosglwyddo Data Diogel yn system ddiogel sy’n galluogi cwsmeriaid sy’n cychwyn hawliadau swmp i lwytho a throsglwyddo ffeiliau data yn uniongyrchol o’u systemau i systemau Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.
Hawliadau anariannol
Cychwyn hawliad am feddiant (gorchymyn ffioedd 1.4) | Ffi |
---|---|
Hawliadau meddiant yr Uchel Lys | £528 |
Hawliadau meddiant y Llys Sirol | £391 |
Gallwch gychwyn hawliad am rywbeth heblaw arian neu eiddo (gorchymyn ffioedd 1.5) - er enghraifft, gwaharddebau sifil, gwaharddebau nwy neu waharddebau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r ffioedd yn seiliedig ar ble rydych chi’n cychwyn eich hawliad.
Cychwyn hawliad am rywbeth heblaw arian neu eiddo (gorchymyn ffioedd 1.5) | Ffi |
---|---|
Yr Uchel Lys (gan gynnwys hawliadau meddiant) | £626 |
Llys Sirol | £365 |
Os byddwch yn ffeilio cais am hawliad anariannol (ac eithrio hawliad am feddiannu tir neu adennill nwyddau) a hawliad am iawndal, rhaid talu’r ddwy ffi llys.
Er enghraifft: Ffi’r llys sirol neu ffi’r Uchel Lys (ffi 1.5) ynghyd â ffi hawlio am arian berthnasol (ffi cychwyn hawliad y llys 1.1).
Bydd y ffioedd gwrandawiadau a nodir yn Ffioedd cyffredinol ar gyfer achosion sifil yn berthnasol i rai hawliadau anariannol. Holwch y llys i ganfod a fydd hyn yn berthnasol yn eich achos chi.
Ffioedd eraill sy’n gysylltiedig â chychwyn hawliad
Cychwyn achos | Ffi |
---|---|
Yn erbyn parti neu bartïon nas enwyd yn yr achos (gorchymyn ffioedd 1.6) | £65 |
Caniatâd i gychwyn achos (gorchymyn ffioedd 1.8a) | £65 |
Nid yw’r ffioedd a nodir yn yr adran hon yn berthnasol i geisiadau i gychwyn achos o dan y Ddeddf Cwmnïau nac achosion ansolfedd. Yn hytrach, gweler achosion o dan y Deddfau Cwmnïau ac achosion ansolfedd.
Gwrth-hawliadau a hawliadau ychwanegol
Hawliadau am arian – mae ffi’r llys sy’n daladwy (fel y dangosir yn Cychwyn hawliadau) wedi’i selio ar werth y gwrth-hawliad neu’r hawliadau ychwanegol.
Os oes arnoch angen diwygio eich hawliad bydd rhaid i chi wneud cais. Ar gyfer ffioedd ceisiadau cyffredinol, gweler Ceisiadau cyffredinol (gorchymyn ffioedd 2.4 i 2.8)). Bydd y ffi yn dibynnu ar p’un a yw’r hawliad wedi’i gyflwyno ar y parti arall (mae’r hawliad ‘ar rybudd’). Os byddwch yn diwygio’r swm a hawlir, bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth am ffi’r llys sy’n daladwy fel y nodir yn Cychwyn hawliadau.
Hawliadau anariannol - mae ffi’r llys yn seiliedig ar ble y cafodd yr hawliad gwreiddiol ei wneud, naill ai yn yr Uchel Lys neu’r Llys Sirol. Mae’r ffioedd wedi’u nodi uchod.
Achosion costau
Ar gyfer ffioedd llys sy’n gysylltiedig â mater costau yn unig neu achos asesu costau, ewch i Ffioedd eraill y llys sifil.
Ffioedd cyffredinol ar gyfer achosion sifil
Mae’r ffioedd ar gyfer cychwyn hawliad yn daladwy gan yr hawlydd. Mae’r ffioedd gwrandawiadau isod yn daladwy gan yr hawlydd, oni bai bod yr achos yn parhau ar y gwrth-hawliad yn unig, ac os felly mae ffioedd y gwrandawiad yn daladwy gan y diffynnydd.
Ffioedd gwrandawiadau (gorchymyn ffioedd 2.1)
Math a gwerth yr hawliad | Ffi |
---|---|
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau hyd at £300 | £27 |
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau rhwng £300.01 a £500 | £59 |
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau rhwng £500.01 a £1,000 | £85 |
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau rhwng £1,000.01 a £1,500 | £123 |
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau rhwng £1,500.01 a £3,000 | £181 |
Y trac hawliadau bychan ar gyfer hawliadau sy’n fwy na £3,000 | £346 |
Hawliadau trac cyflym | £545 |
Hawliadau trac canolog neu amldra | £1,175 |
Am ragor o wybodaeth gweler:
Mae’n rhaid i chi dalu ffi’r gwrandawiad i’r llys neu ffeilio cais am Help i Dalu Ffioedd erbyn y dyddiad a nodir yn y gorchymyn.
Bydd methu â thalu’r ffi neu wneud cais priodol am Help i Dalu Ffioedd yn golygu y bydd yr hawliad neu’r gwrth-hawliad yn cael ei ddileu ar unwaith heb orchymyn arall a bydd y gwrandawiad yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr.
Os yw eich hawliad wedi cael ei ddileu, ni fydd yn bodoli mwyach. Gallwch, os ydych yn dymuno, ffeilio cais i adfer yr hawliad. Fodd bynnag, bydd rhaid talu ffi am y cais ei hun ac os bydd y llys yn cymeradwyo’r cais i adfer y cais, bydd y caniatâd hwnnw yn amodol ar dalu’r ffi gwrandawiad briodol neu wneud cais llwyddiannus am help i dalu ffioedd.
Bydd y gwrandawiad yn cael ei ddad-restru, ac mae ffi’r gwrth-hawliad ond yn daladwy gan y diffynnydd (os yw’r gwrth-hawliad yn sefyll ar ei ben ei hun).
Ni ellir ad-dalu ffi’r gwrandawiad. Os bydd y partïon yn setlo cyn amser talu’r ffi, ni fydd rhaid talu ffi’r gwrandawiad.
Ceisiadau cyffredinol (gorchymyn ffioedd 2.4 i 2.8)
Mae ‘ar rybudd’ neu ‘gyda rhybudd’ yn golygu bod y parti arall wedi’i hysbysu am y cais, waeth os oes gwrandawiad neu beidio.
Mae ‘heb rybudd’ yn golygu nad yw’r parti arall wedi’i hysbysu am y cais, waeth os oes gwrandawiad neu beidio.
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais ar rybudd, lle nad oes unrhyw ffi arall wedi’i phennu – gan gynnwys ceisiadau credydwyr yn y llys sirol sy’n ymwneud â rheoliadau’r Cynllun Seibiant Dyled (Lle i anadlu) | £303 |
Cais i roi dyfarniad llys sirol o’r naill du | £303 |
Cais drwy gydsyniad neu heb rybudd pan nad oes ffi arall wedi’i phennu | £119 |
Ceisiadau i amrywio (diwygio neu newid) neu ymestyn gwaharddeb i ddiogelu rhag aflonyddwch neu drais | £59 |
Ceisiadau i wneud taliad o gronfeydd sydd wedi eu talu yn y llys | £59 |
Os yw cais drwy gydsyniad neu heb rybudd yn cael ei wrthod ac yn cael ei roi ar rybudd, dylid talu gweddill y ffi i’r llys i brosesu’r cais ar rybudd.
Nid oes ffi i’w thalu ar gyfer gwneud cais drwy gydsyniad i ohirio gwrandawiad os yw’n cyrraedd y llys o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad.
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais i amrywio (diwygio neu newid) dyfarniad (neu orchymyn), gohirio camau gorfodi neu ohirio gwarant i feddiannu neu atal gwrit yr Uchel Lys | £15 |
Cais am wŷs neu orchymyn i dyst fynychu’r llys | £21 |
Cais am dystysgrif diwallu neu ganslo dyled y dyfarniad | £15 |
Nid oes ffi am gais i atal croesholi dan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021.
Ceisiadau swmp – codir ffi am gais heb rybudd ar gyfer pob achos i amnewid neu newid enw parti.
Yr unig eithriad yw achosion canolfan fusnes y llys sirol (CCBC), lle mae nifer o geisiadau swmp wedi’u hawtomeiddio, ac felly dim ond un ffi sy’n daladwy fesul cais gydag achosion lluosog.
Nid yw’r ceisiadau hyn yn daladwy mewn perthynas â cheisiadau cyffredinol i’r llys o dan y Ddeddf Cwmnïau ac achosion ansolfedd.
Apeliadau (gorchymyn ffioedd 2.2 i 2.3)
Cyfeiriwch at Apelio yn erbyn penderfyniad y llys: apeliadau sifil a theulu (EX340).
Ffeilio rhybudd apelydd neu rybudd atebydd | Ffi |
---|---|
Yr Uchel Lys | £285 |
Y Llys Sirol, trac hawliadau bychain | £142 |
Y Llys Sirol, pob hawliad arall | £166 |
Mae ffioedd eraill yn daladwy mewn achosion apêl lle gwneir ceisiadau. Nid yw’r ffioedd hyn yn berthnasol i apeliadau yn erbyn penderfyniad a wneir mewn achos asesu costau’n fanwl (gweler Ffioedd eraill y llys sifil).
Deddfau Cwmnïau ac achosion ansolfedd
Deddf Cwmnïau 1985, Deddf Cwmnïau 2006 a Deddf Ansolfedd 1986, Yr Uchel Lys a’r Llys Sirol (gorchymyn ffioedd 3.1 i 3.12).
Deisebau methdaliad a dirwyn cwmni i ben
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cofnodi deiseb i wneud rhywun y mae arno arian i chi yn fethdalwr (deiseb credydwr) | £332 |
Cofnodi deiseb dirwyn i ben (cwmnïau’n unig) | £332 |
Cofnodi deiseb am orchymyn gweinyddu | £332 |
Unrhyw fath arall o ddeiseb | £332 |
Dim ond y ffioedd llys yw’r rhain. Mae swm ychwanegol, sef blaendal y derbynnydd swyddogol, yn daladwy yr un pryd â ffi’r llys. Bydd y llys sy’n prosesu’ch cais yn dweud wrthych chi faint fydd y blaendal.
Mae rhai achosion ansolfedd yn cael eu dyrannu i’r amldrac a bydd rhaid talu’r ffioedd gwrandawiad amldrac. Holwch y llys i weld a fydd hyn yn berthnasol yn eich achos.
Ceisiadau eraill
Math o gais | Ffi |
---|---|
Cais o dan y Deddfau Cwmnïau neu Ddeddf Ansolfedd 1986 ac eithrio un a ddygir drwy ddeiseb a lle na bennir ffi arall (nid yw’n daladwy pan gaiff ei wneud mewn achos sy’n mynd rhagddo) gorchymyn ffioedd 3.5 | £308 |
Cais i newid trefniant gwirfoddol yn drefniant methdalu neu ddirwyn i ben (gorchymyn ffioedd 3.6) | £160 |
Cais ar rybudd mewn achos ansolfedd neu achos Deddf Cwmnïau sy’n mynd rhagddo lle nad oes ffi arall wedi’i phennu (gorchymyn ffioedd 3.12) | £109 |
Cais drwy gydsyniad neu heb rybudd mewn achos ansolfedd neu achos Deddf Cwmnïau sy’n mynd rhagddo lle nad oes ffi arall wedi’i phennu (gorchymyn ffioedd 3.11) | £29 |
Cais am dystysgrif rhyddhau o fethdaliad (gorchymyn ffioedd 3.4a) | £75 |
Cais am gopi o dystysgrif rhyddhau o fethdaliad (gorchymyn ffioedd 3.4b) | £11 |
Cais i herio penderfyniad cynghorydd dyled (peidio â datgelu cyfeiriad preswyl) o dan reoliad 38(9) Rheoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu) Cymru a Lloegr 2020 (gorchymyn ffioedd 1.10) | £5 |
Chwiliadau methdaliadau
Math o chwiliad | Ffi |
---|---|
Chwiliad cyffredinol yng nghofnodion yr Uchel Lys am bob 15 munud neu ran o 15 munud (gorchymyn ffioedd 10.3) | £12 |
Chwiliad personol, gan gynnwys lle bydd un o swyddogion y llys yn chwilio cofnodion cwmnïau a methdaliadau yn y Llys Sirol (gorchymyn ffioedd 3.13) | £45 |
Ffioedd eraill y llysoedd sifil
Copi o ddogfennau (gorchymyn ffioedd 4.1 i 4.2)
Os byddwch yn gofyn i’r llys wneud copïau o ddogfennau, derbyn neu anfon ffacs ar eich rhan, neu ddarparu copi o ddogfen sydd eisoes wedi’i darparu.
Rhif neu fformat | Ffi |
---|---|
Hyd at 10 tudalen o unrhyw ddogfen | £11 |
Am bob tudalen ychwanegol ar ôl y 10 cyntaf | 50c |
Dogfennau ar ddisg cyfrifiadur neu fformat electronig arall | £11 |
Achosion costau yn unig (gorchymyn costau 1.8b)
Os yw’r partïon wedi cytuno ynghylch anghydfod heb gychwyn hawliad neu ddeiseb, ond bod y mater costau heb ei ddatrys, caiff unrhyw barti gychwyn hawliad am achos costau yn unig.
Math o hawliad | Ffi |
---|---|
Hawliad am gychwyn achos costau yn unig | £65 |
Achosion asesu costau (gorchymyn ffioedd 1.8b)
Pan fo gan gleient gynrychiolydd cyfreithiol a bod anghydfod ynghylch swm y costau sy’n daladwy i’r cyfreithiwr, gall y cleient wneud cais bod y costau’n cael eu hasesu gan y llys (dan rhan 3 Deddf Cyfreithwyr 1974 ar gyfer asesu costau).
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais am achos asesu costau | £65 |
Penderfynu ar gostau (gorchymyn ffioedd 5.1)
Math o gais neu apêl | Ffi |
---|---|
Ffeilio cais am asesiad manwl pan fo’r parti sy’n ffeilio’r cais yn cael cymorth cyfreithiol neu’n cael ei noddi gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol (LAA) | £237 |
Apêl yn erbyn penderfyniad a wnaed mewn achos asesu manwl (gorchymyn ffioedd 5.4) | £274 |
Cais i gyflwyno tystysgrif costau diffygdalu (gorchymyn ffioedd 5.3) | £78 |
Cais i roi tystysgrif costau diffygdalu o’r naill du (gorchymyn ffioedd 5.5) | £143 |
Cais i gymeradwyo tystysgrif costau sy’n daladwy o’r Gronfa Cymorth Cyfreithiol Sifil (os cafodd y cais gwreiddiol am asesiad manwl ei ffeilio cyn 1 Gorffennaf 2013) (gorchymyn ffioedd 2.5b) | £59 |
Pan wneir y ceisiadau canlynol, mae’r ffi sy’n daladwy yn dibynnu ar y costau sy’n cael eu hawlio:
- Cais am asesiad manwl pan nad yw’r parti sy’n ffeilio’r cais yn cael cymorth cyfreithiol nac yn cael ei noddi gan yr Asiantaeth Cyngor Cyfreithiol
- Cais am ddyddiad gwrandawiad ar gyfer asesu costau yn dilyn gorchymyn dan Ran 3 Deddf Cyfreithwyr 1974
Cost a hawliwyd (gorchymyn ffioedd 5.2) | Ffi |
---|---|
Hyd at £15,000 | £398 |
£15,000.01 i £50,000 | £801 |
£50,000.01 i £100,000 | £1,192 |
£100,000.01 i £150,000 | £1,595 |
£150,000.01 i £200,000 | £1,992 |
£200,000.01 i £300,000 | £2,988 |
£300,000.01 i £500,000 | £4,980 |
Mwy na £500,000 | £6,640 |
Achosion gorfodi sifil
Os yw’r llys wedi gorchymyn i rywun dalu swm o arian i chi neu i ddychwelyd eich nwyddau, eiddo neu dir, a hwythau heb wneud hynny, cewch gychwyn achos gorfodi.
Gorchymyn i gael gwybodaeth gan ddyledwr
Math o orchymyn | Ffi |
---|---|
Cyflwyno cais am orchymyn i ddyledwr neu unigolyn arall fynychu’r llys i ddarparu gwybodaeth (gorchymyn ffioedd 8.3) | £65 |
Gwneud cais i feili gyflwyno gorchymyn i ddyledwr fynychu’r llys i ateb cwestiynau (gorchymyn ffioedd 8A.1) | £131 |
Gwarantau (gorchymyn ffioedd 8.1 i 8.2 ac 8.6)
Math o warant | Ffi |
---|---|
Codi gwarant rheolaeth (adfer swm o arian) | £91 |
Codi gwarant i drosglwyddo (ar gyfer nwyddau) | £143 |
Codi gwarant i feddiannu (adfer eiddo neu dir) | £143 |
Cais am ymgais pellach i weithredu gwarant mewn cyfeiriad newydd, ac eithrio lle mae’r warant wedi’i hatal | £36 |
Gwritiau (Yr Uchel Lys yn unig) (gorchymyn ffioedd 7.1)
Math o writ | Ffi |
---|---|
Selio gwrit rheolaeth (adfer swm o arian) | £78 |
Selio gwrit trosglwyddo (ar gyfer nwyddau) | £78 |
Selio gwrit meddiannu (adfer eiddo neu dir) | £78 |
Pan fydd gwarant neu writ i drosglwyddo neu feddiannu hefyd yn cynnwys hawliad am arian, nid oes ffi ychwanegol yn daladwy.
Atafaelu enillion (gorchymyn ffioedd 8.7)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais am orchymyn atafaelu enillion | £131 |
(Mae ffi i’w thalu am bob diffynnydd y gofynnir i’r gorchymyn gael ei wneud yn ei erbyn).
Yn achos gorchymyn atafaelu enillion cyfun, tynnir ffi o 10c am bob £1, neu ran o £1, o’r arian sy’n cael ei dalu i’r llys cyn ei dalu i’r credydwyr.
Am ragor o wybodaeth gweler Atafaelu enillion.
Gorfodi dyfarniad yn y llys sirol (gorchymyn ffioedd 8.9)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais i orfodi dyfarniad yn y llys sirol | £52 |
Gallwch wneud cais i orfodi dyfarniad am:
- swm o arian neu unrhyw benderfyniad arall a wnaed gan unrhyw lys, tribiwnlys, corff neu unigolyn heblaw’r Uchel Lys neu’r llys sirol
- swm o arian a wnaed gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, yr Uwch Dribiwnlys, y Tribiwnlys Cyflogaeth neu’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth.
Gorfodi dyfarniad yn yr Uchel Lys (gorchymyn ffioedd 7.5)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais i orfodi dyfarniad yn yr Uchel Lys | £78 |
Gallwch wneud cais:
- i gofrestru dyfarniad neu orchymyn
- am ganiatâd i orfodi dyfarniad cyflafareddu
- am dystysgrif neu gopi ardystiedig o ddyfarniad neu orchymyn i’w ddefnyddio dramor
Gorchymyn arwystlo (gorchymyn ffioedd 8.4(b))
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais am orchymyn arwystlo | £131 |
Mae’r ffi yn daladwy am bob gorchymyn arwystlo y gwneir cais amdano.
Am ragor o wybodaeth, gweler Gorchmynion dyled trydydd parti a gorchmynion arwystlo (EX325).
Gorchymyn dyled trydydd parti – gorchymyn ffioedd 8.4(a)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais am orchymyn dyled trydydd parti | £131 |
Mae’r ffi yn daladwy am bob parti y gofynnir i’r gorchymyn gael ei wneud yn ei erbyn.
Am ragor o wybodaeth, gweler Gorchmynion dyled trydydd parti a gorchmynion arwystlo (EX325).
Gwŷs dyfarniad (gorchymyn ffioedd 8.5)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Gwneud cais am wŷs dyfarniad | £131 |
Cais asiant gorfodi ardystiedig (gorchymyn ffioedd 1.5)
Math o gais | Ffi |
---|---|
Ffioedd anariannol eraill yn y llys sirol | £365 |
I gael gwybodaeth am ffioedd sifil y llys ynadon, gweler gorchymyn ffioedd y llys ynadon yn www.legislation.gov.uk.