Ffeilio eich ffurflen flynyddol (AR01c)
Defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau. Cynhwyswch y tudalennau parhad dewisol os oes eu hangen.
Dogfennau
Manylion
Ffurflen flynyddol (AR01c)
Gallwch ffeilio’r ffurflen hon os ydych wedi dewis i ddatgan bod cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghymru yn hytrach na Lloegr a Chymru.
Mae’r ffurflen bapur i gwmnïau cyfyngedig yn y DU y mae angen iddynt ffeilio ffurflen ddyddiedig ar neu ar ôl 1 Hydref 2011. Codir £40 i ffeilio ffurflen bapur.
I fanteisio ar ffi gostyngol o £13, gwiriadau sy’n rhan o’r broses a data wedi’u llenwi ymlaen llaw, ffeiliwch eich ffurflen ar-lein.
Defnyddiwch y ffurflen i roi ciplun o wybodaeth eich cwmni ar ddyddiad y ffurflen hon a ffeiliwch hi cyn pen 28 diwrnod o’r terfyn amser ar gyfer ffeilio.
Peidiwch â defnyddio’r ffurflen bapur:
- os ydych wedi ymuno â chynllun PROOF (PROtected Online Filing) - ffeiliwch eich ffurflen ar lein.
Tudalennau parhad
Mae’r tudalennau parhad yn ddewisol. Defnyddiwch hwy os oes angen i chi roi mwy o fanylion.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Awst 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Tachwedd 2015 + show all updates
-
Version 5.0 uploaded
-
New version uploaded
-
Online option added
-
First published.