Ffïoedd Dirprwy: dilead neu esemptiad
Gwneud cais i gael gostyngiad (dilead neu esemptiad) ar ffioedd dirprwy.
Documents
Details
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn ddirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod ac y mae arnoch angen help gyda chost y canlynol:
- ffi asesu dirprwy, sef £100
- ffi goruchwyliaeth gyffredinol, sef £320
- ffi goruchwyliaeth leiaf, sef £35
Os yw’r unigolyn y penodwyd y dirprwy i’w helpu (y ‘cleient’) yn derbyn budd-daliadau penodol sy’n ddibynnol ar brawf modd, ni fydd rhaid ichi dalu dim (gelwir hyn yn ‘esemptiad’). Mae rhestr o’r budd-daliadau i’w cael ar y ffurflen.
Os yw incwm y cleient cyn treth yn llai na £12,000 y flwyddyn, dim ond hanner fydd rhaid ichi dalu (gelwir hyn yn ‘ddilead 50 y cant’). Ni allwch gael y math hwn o ostyngiad ar gyfer ffi goruchwyliaeth leiaf.
Mae’r ffurflen hefyd yn esbonio sut a pha bryd i dalu’r ffioedd.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
I wneud cais am unrhyw ddogfen mewn fformat arall, megis Braille, recordiad sain neu brint bras, anfonwch e-bost i [email protected]. Dylech gynnwys eich cyfeiriad, rhif ffôn, a theitl y ddogfen y mae arnoch ei hangen.
Updates to this page
Published 14 January 2015Last updated 7 September 2015 + show all updates
-
An updated deputy fees form (OPG120) has been added to this page to reflect changes to the Office of the Public Guardian's deputy supervision levels.
-
Re-formatted bullet points and changed 'This page is available in English' to English wording.
-
First published.