Dod o hyd i asiant a reoleiddir yn y DU i wirio gwybodaeth ar gyfer endid tramor
Rhestr o asiantau a reoleiddir yn y DU sydd â chod sicrwydd asiant ac sy'n gallu cwblhau gwiriadau gwirio ar berchnogion llesiannol o endid tramor.
Dogfennau
Manylion
Daeth y Gofrestr Endidau Tramor i rym yn y DU ar 1 Awst 2022. Rhaid i endidau tramor sydd am brynu, gwerthu neu drosglwyddo eiddo neu dir yn y DU, gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau a dweud wrthym pwy yw eu perchnogion llesiannol cofrestradwy neu eu swyddogion reoli.
Rhaid i asiant a reoleiddir yn y DU gwblhau gwiriadau gwirio ar bob perchennog llesiannol a swyddogion rheoli endid tramor cyn y gellir ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Rhaid iddynt fod wedi’u lleoli yn y DU a’u goruchwylio o dan y Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Cyllid Terfysgwr a Throsglwyddo Cronfeydd 2017. Gallant fod yn unigolyn neu’n endid corfforaethol, megis sefydliad ariannol neu weithiwr proffesiynol cyfreithiol.
Am ganllawiau, gweler Cofrestrwch endid tramor a’i berchnogion llesiannol a Chodau sicrwydd asiant ar gyfer cofrestru endid tramor.
Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn cymeradwyo nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd i’r asiantau hyn, nac am unrhyw wasanaethau y maent yn eu darparu. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr - mae asiantau eraill ar gael.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 9 Tachwedd 2022Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Medi 2024 + show all updates
-
Agents added and removed to list.
-
Updated contact details for some agents and added more agents to the list.
-
List of agents updated.
-
Updated list of agents.
-
List of agents updated.
-
Additional agents added.
-
Additional agents added.
-
Additional UK-regulated agents have been added.
-
Added a line to explain that this is not an exhaustive list of UK-regulated agents.
-
New agents have been added.
-
First published.