Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yr Asiantaeth Bwyd 2020
Mae adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn seiliedig ar giplun o holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2020, ac mae'n adrodd ar yr hyn rydym ni’n ei wneud i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Northern Ireland
Dogfennau
Manylion
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol o’r llywodraeth a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999. Mae’n gweithredu ers mis Ebrill 2000. Mae rôl yr ASB wedi’i diffinio mewn cyfraith. Mae’r Ddeddf Safonau Bwyd yn datgan: “Prif amcan yr Asiantaeth wrth arfer ei swyddogaethau yw diogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau a allai godi mewn perthynas â bwyta bwyd (gan gynnwys risgiau a berir gan y ffordd y caiff y bwyd hwnnw ei gynhyrchu neu ei gyflenwi) ac fel arall i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.”
Mae ein pencadlys yn Llundain, ond mae gan yr ASB swyddfeydd yng Nghaerdydd, yn Belfast, yn Birmingham ac yng Nghaerefrog. Mae gennym ni hefyd nifer sylweddol o weithwyr ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mewn lladd-dai neu fel staff maes a staff sy’n gweithio gartref.
Mae’r ASB yn gefnogol dros drin a gwobrwyo pob aelod o staff yn deg waeth beth fo’u rhyw, ac mae wedi ymrwymo i greu diwylliant sy’n dryloyw, yn amrywiol ac yn gynhwysol trwy gyflawni’r amcanion a nodir yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a gyhoeddwyd yn 2018: denu a chadw gweithlu amrywiol; hyrwyddo cynhwysiant ar draws ein cymuned arwain a rheoli; datblygu a chefnogi rhwydweithiau staff i gryfhau ein diwylliant amrywiol a chynhwysol.
Dyma bedwerydd adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yr ASB. Mae’n seiliedig ar gipolwg o holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2020 ac mae’n cyflawni ein gofynion adrodd, yn dadansoddi’r ffigurau’n fwy manwl ac yn nodi’r hyn yr ydym ni’n ei wneud i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad.