Ildio eich hawliau fel ysgutor neu weinyddwr profiant: Ffurflen PA15
Gall ysgutorion a gweinyddwyr ddefnyddio’r ffurflen hon i ildio’u cyfrifoldeb cyfreithiol a’u rôl yn barhaol (a elwir hefyd yn ‘ymwrthod’) i wneud cais am brofiant.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon os ydych yn bwriadu penodi atwrnai.
Os ydych yn ysgutor neu’n weinyddwr
Gallwch ildio’ch cyfrifoldeb i reoli’r ystad fel y gall unigolyn arall wneud cais am brofiant yn lle.
- Lawrlwytho ffurflen PA15.
- Llenwch yr holl adrannau.
- Dweud wrth GLlTEF os mai chi yw’r unig ysgutor neu’n un ohonynt
- Llofnodi a dyddio’r cais.
- Gofynnwch i’ch tyst lofnodi a dyddio’r cais.
- Rhowch y ffurflen wedi’i llenwi i’r ysgutor sy’n gwneud cais am brofiant.
Cysylltu â ni
Os oes angen help arnoch wrth lenwi’r ffurflen hon, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth.
Llinell gymorth profiant
Ffôn: 0300 303 0648
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 1pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc
Agor dogfen
Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.
Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.
Dilynwch y camau hyn:
- Lawrlwythwch Adobe Reader am ddim.
- Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch ‘Save link as’ neu ‘Download linked file’.
- Cadw’r ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft).
- Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi’i chadw.
Os nad yw’r ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch â [email protected].
Dewch o hyd i ragor o ffurflenni llys a thribiwnlys fesul categori.
Dewch o hyd i sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
Updated the Welsh form.
-
Updated the form and landing page to reflect that this can also be used by administrators. Added a Welsh version of the landing page.
-
Updated probate helpline opening times.
-
Updated phone line opening times
-
Updated phone line opening times.
-
Updated April's bank holiday week opening times
-
Updated opening times for the probate helpline
-
Edited the contact us section - The Probate helpline is closed on Saturdays.
-
Replaced form and added Welsh version of form.
-
Updating helpline opening hours.
-
First published.