Ynghylch gwiriadau cydymffurfio: CC/FS1a
Diweddarwyd 13 Ebrill 2023
Rydym wedi gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon gan ein bod wedi dechrau gwiriad cydymffurfio. Cadwch hi’n ddiogel oherwydd efallai y bydd yn rhaid i chi gyfeirio ati yn ystod y gwiriad. Mae gwiriad cydymffurfio yn ein galluogi i wirio’ch sefyllfa o ran treth er mwyn sicrhau eich bod yn:
- talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
- cael y lwfansau a’r rhyddhadau treth cywir
Rydym yn cynnal rhai mathau o wiriadau dros y ffôn. Os ydych am i ni ysgrifennu atoch yn lle hynny, gallwch ofyn i ni wneud hyn os byddwn yn eich ffonio. Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni er mwyn helpu gyda’r gwiriad.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ’HMRC compliance checks factsheets’ (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ‘Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch’.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Yn ystod y gwiriad cydymffurfio
Pan fyddwn yn dechrau’r gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ei angen arnom.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am y canlynol:
- i chi anfon atom unrhyw wybodaeth neu ddogfennau sydd eu hangen arnom — os oes angen amser ychwanegol arnoch neu os cewch unrhyw anawsterau wrth anfon y rhain, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu ceisio rhoi help llaw i chi
- i chi gael cyfarfod gyda ni i drafod eich materion treth a’ch cofnodion. Os gwnawn hynny, byddwn yn egluro pam — gallwch ddewis a ydych am gael y cyfarfod hwn ai peidio
- i gael ymweld â’ch safle busnes ac archwilio’r safle, eich asedion a’ch cofnodion — os bydd angen i ni ymweld â’ch busnes, byddwn yn ceisio cytuno ar ddyddiad ac amser cyfleus ar gyfer ein hymweliad
Os na allwn gytuno â chi ar hyn, efallai y bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol i gael yr hyn sydd ei angen arnom. Ni allwch ddewis anwybyddu hysbysiad gwybodaeth neu hysbysiad o archwiliad os rhoddwn un i chi. Fodd bynnag, mae rhai camau diogelu ar eich cyfer pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol.
I gael rhagor o wybodaeth am ein pwerau cyfreithiol ac am gamau diogelu, ewch i daflenni gwybodaeth:
Byddwn ond yn gofyn am gael ymweld â’ch cartref os ydych yn rhedeg eich busnes oddi yno. Os bydd angen rhywbeth arall arnom yn nes ymlaen yn ystod y gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Gallwch siarad â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad os:
- nad ydych yn siŵr pam yr ydym yn gofyn am rywbeth
- nad ydych yn gallu gwneud yr hyn a ofynnwn
- ydych yn meddwl bod rhywbeth yr ydym wedi gofyn amdano yn afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad
- oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ar unrhyw adeg o’r gwiriad
Parhewch i anfon Ffurflenni Treth neu wneud taliadau yn ystod y gwiriad cydymffurfio hwn os ydynt yn ddyledus.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y broses gwiriad cydymffurfio, ewch i ‘Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth’
Defnyddio deunydd cod agored yn ystod gwiriad cydymffurfio
Gallwn arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd, sydd ar gael i bawb, yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hyn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd ar waith.
Os oes angen rhagor o amser arnoch
Rhowch wybod i ni os ydym wedi gofyn i chi wneud rhywbeth a bod angen rhagor o amser arnoch. Efallai y byddwn yn cytuno i ganiatáu amser ychwanegol os oes rheswm da, er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.
Y manteision o’n helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio
Os byddwch yn ein helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio, gallwn:
- ei gwblhau’n gyflym a lleihau unrhyw anghyfleustra i chi
- gostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le
Os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le, byddwn yn gweithio gyda chi i’w unioni ac yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi dalu:
- treth ychwanegol a llog am dalu’n hwyr
- cosbau
Os ydym yn ystyried codi cosb arnoch, byddwn yn ystyried faint o gymorth rydych wedi’i roi i ni yn ystod y gwiriad. ‘Ansawdd y datgeliad’ yw’r enw a roddir ar y cymorth hwn, neu ‘dweud, helpu a rhoi’.
Rydym yn mesur ansawdd y datgeliad drwy ystyried:
- faint yr ydych yn ei ddweud wrthym am yr hyn sydd o’i le
- faint yr ydych yn ein helpu i fynd at wraidd yr hyn sydd o’i le
- faint o fynediad rydych yn ei roi i ni at yr wybodaeth neu’r dogfennau sydd eu hangen arnom i gwblhau’r gwiriad
Os oes ffyrdd y gallwch ein helpu gyda’r gwiriad, ond eich bod yn penderfynu peidio â gwneud hynny, bydd hyn yn effeithio ar ein barn am ansawdd y datgeliad. Er enghraifft, os byddwn yn gofyn:
- am gael ymweld â’ch safle busnes i archwilio’ch cofnodion a’ch asedion busnes, neu i wneud prisiad, ond nad ydych yn caniatáu i ni wneud hynny
- am wybodaeth neu ddogfennau, ond nad ydych yn rhoi i ni bopeth yr ydym wedi gofyn amdano
Sut i gael y gostyngiad mwyaf posibl ar gyfer y gosb os oes rhywbeth o’i le
Os oes rhywbeth o’i le a’ch bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i’n cynorthwyo, byddwn yn gostwng y gosb gan y swm mwyaf posibl.
Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywbeth o’i le, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf posibl:
- rhoi cymaint o fanylion i ni ag y gallwch amdano ar unwaith
- gweithio gyda ni i gyfrifo’r swm cywir o dreth
Os gwelwn rywbeth o’i le nad oeddech yn gwybod amdano, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf posibl:
- rhoi cymaint o gymorth ag yr oedd ei angen arnom, hyd at y pwynt gwnaethom ganfod bod rhywbeth o’i le
- dweud wrth y swyddog sy’n delio â’r gwiriad bopeth amdano ar unwaith, gan adael iddo weld unrhyw gofnodion y mae’n gofyn amdanynt a’i helpu i gyfrifo’r swm cywir o dreth
I gyfrifo ansawdd y datgeliad, rydym hefyd yn ystyried faint o amser yr ydych wedi’i gymryd i roi gwybod i ni am unrhyw beth sydd o’i le. Os ydych wedi cymryd cryn amser i ymateb (er enghraifft, 3 blynedd neu fwy), byddwn fel arfer yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf a rown am ansawdd y datgeliad. Rydym yn cyfyngu hyn i 10 pwynt canrannol uwchben isafswm ystod y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael budd o’r ganran gosb isaf sydd fel arfer ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch cosbau, gweler yr adran ‘Penalties’ o ‘HMRC compliance checks factsheets’ (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych o’r farn y dylem atal y gwiriad cydymffurfio
Os ydych o’r farn y dylem atal y gwiriad, yn gyntaf mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pam. Os nad ydym yn cytuno, efallai y gallwch ofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n ymdrin â materion treth benderfynu a ddylem ei atal.
Os oes rhywbeth o’i le
Os byddwn yn canfod rhywbeth o’i le, byddwn yn:
- esbonio pam y mae o’i le ac yn gweithio gyda chi i unioni pethau
- dweud wrthych sut i’w atal rhag digwydd eto, lle y bo modd
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi lofnodi tystysgrif i gadarnhau eich bod wedi rhoi gwybod i ni am yr holl ffeithiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gwiriad.
Os oes arnoch arian i ni, byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i dalu. Efallai y bydd hyn hefyd yn cynnwys llog ac unrhyw gosbau rydym wedi’u codi arnoch. Os oes arnom arian i chi, fel arfer byddwn yn eich ad-dalu neu’n credydu’ch cyfrif. Mewn rhai achosion, byddwn yn talu llog i chi hefyd.
Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol
Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol. Er enghraifft:
- os ydych wedi rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
- os ydych wedi cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt
Rheoli diffygdalwyr difrifol
Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’.
Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol
Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’.
Beth sy’n digwydd ar ddiwedd y gwiriad cydymffurfio
Pan fyddwn wedi cwblhau’r gwiriad, byddwn naill ai’n anfon un neu fwy o ‘hysbysiadau o benderfyniad’ atoch neu’n cytuno ar setliad contract gyda chi.
Gall hysbysiad o benderfyniad fod yn:
- asesiad, neu’n ddiwygiad i asesiad
- hysbysiad o gosb, os oes cosb yn ddyledus
- llythyr sy’n esbonio’r sefyllfa derfynol
Mae setliad contract yn gytundeb sy’n eich rhwymo’n gyfreithiol, lle’r ydych yn cynnig talu popeth sydd arnoch o ganlyniad i’r gwiriad, a’n bod yn cytuno i beidio â defnyddio ein pwerau ffurfiol i adennill y swm hwnnw. Gallwch ond talu drwy setliad contract os ydych chi, yn ogystal â ni, yn cytuno ar hyn ac ar delerau’r contract.
Ni allwch ddefnyddio setliadau contract ar gyfer unrhyw TAW neu gosbau TAW.
Os na allwch dalu’r hyn sydd arnoch
Os credwch y gallech gael trafferth talu, rhowch wybod i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad ar unwaith.
Os ydych yn anghytuno
Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
- cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
- trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater
Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar ein llythyr.
Pa un bynnag opsiwn a ddewiswch, mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEF weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a rown ar hyn.
Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, gweler y taflenni gwybodaeth canlynol:
Eich prif hawliau ac ymrwymiadau
Mae gennych:
- yr hawl i gael eich cynrychioli — gallwch benodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan
- dyletswydd i gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn − os oes gennych ymgynghorydd, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gymryd gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill a anfonir atom ar eich rhan yn gywir
Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi.
Eich hawliau os byddwn yn ystyried cosbau
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes rhywbeth o’i le a’n bod yn ystyried cosbau. I weld pa hawliau sydd gennych pan fyddwn yn ystyried cosbau, gweler y daflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
Awdurdodi cynrychiolydd
Os oes gennych gynrychiolydd, gallwch ofyn i ni ddelio’n uniongyrchol ag ef yn ystod y gwiriad. Ni fyddwn yn rhoi manylion y gwiriad i’ch cynrychiolydd oni bai eich bod wedi ein hawdurdodi i gysylltu ag ef ynglŷn â’r trethi dan sylw.
Os ydych am awdurdodi:
- ymgynghorydd treth proffesiynol, gofynnwch iddo roi ffurflen awdurdodi i chi ei llenwi a’i hanfon atom
- ffrind neu berthynas, ysgrifennwch atom gan roi gwybod pwy yr hoffech ei awdurdodi a beth yr hoffech iddo ddelio ag ef ar eich rhan
Gwiriadau cydymffurfio y mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â nhw
Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio ynghylch y canlynol:
- Ardoll Agregau
- Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu
- Ardoll Brentisiaethau (yn ymwneud â Ffurflenni Treth ar gyfer blynyddoedd treth yn dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017)
- Treth Cyflogres Banc
- Treth Enillion Cyfalaf
- Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
- Cynllun y Diwydiant Adeiladu
- Taliadau cymorth coronafeirws
- Treth Gorfforaeth
- Treth Gwasanaethau Digidol (DST) (ar gyfer Ffurflenni Treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020)
- Treth Incwm
- Treth Etifeddiant
- Treth Premiwm Yswiriant
- Treth Dirlenwi
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarthiadau 1, 1A a 4 (ar gyfer dosbarth 1A, mae’n ymwneud â ffurflenni P11D(b) ar gyfer blynyddoedd treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010)
- Talu Wrth Ennill (TWE)
- Treth Refeniw Petroliwm
- Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (o 6 Ebrill 2018 ymlaen)
- Treth Dir y Tollau Stamp (yn ymwneud â Ffurflenni Treth ar gyfer
blynyddoedd treth yn dechrau o fis Ebrill 2018) - Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
- TAW
Rhagor o wybodaeth
Budd-daliadau, ffioedd, grantiau a chredydau treth
Mae’n bosibl y byddwch yn cael budd-daliadau, ffioedd neu grantiau yn seiliedig ar eich incwm. Os bydd eich incwm yn newid o ganlyniad i’r gwiriad hwn, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i’r sefydliad sy’n eich talu. Os ydych yn cael credydau treth, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credydau Treth am newidiadau mewn incwm. Gallwch ffonio’r swyddfa ar 0300 200 1900 neu ysgrifennu at y tîm yn:
Swyddfa Credydau Treth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd na rhif Blwch Swyddfa’r Post.
Ysgrifennwch ‘Newid mewn amgylchiadau’ ar frig eich llythyr.
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol