Canllawiau

LP10 Dechrau arni fel atwrnai: Iechyd a lles (fersiwn y we)

Diweddarwyd 6 Awst 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Sut i fod yn atwrnai

Rydych wedi’ch penodi yn atwrnai o dan atwrneiaeth arhosol (LPA).

Mae’r sawl a wnaeth yr atwrneiaeth arhosol (y ‘rhoddwr’) yn ymddiried ynoch chi i wneud penderfyniadau ar ei ran os bydd yn colli ei alluedd meddyliol.

‘Galluedd meddyliol’ yw’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud.

Mae’r atwrneiaeth arhosol yn delio â phenderfyniadau iechyd a lles megis:

  • ble mae’r rhoddwr yn byw

  • ei drefn feunyddiol

  • gofal personol

  • triniaethau meddygol.

Dywed y gyfraith fod yn rhaid ichi weithredu’n ddidwyll ar bob achlysur ac er budd pennaf y rhoddwr.

2. Beth i’w wneud nawr

Siaradwch â’r rhoddwr am ei hoff bethau a’i gas bethau, er enghraifft:

  • unrhyw ddeiet arbennig (llysieuol er enghraifft)

  • ble mae eisiau byw

  • beth fydd yn digwydd os na all ofalu am ei anifeiliaid anwes

  • sut mae’n hoffi gwisgo a gwneud ei wallt

  • diddordebau a pha gerddoriaeth, rhaglenni radio a theledu neu lyfrau mae’n eu mwynhau

  • a ydy’n well ganddo fod allan yn yr awyr agored neu y tu mewn

  • pethau bach sy’n codi calon, fel hoff ffilm, croesair, gwydraid o win neu fynd am dro.

Po fwyaf y byddwch yn ei wybod, hawsaf fydd hi i benderfynu ar ei ran, os daw amser pan na fydd y rhoddwr yn gallu gwneud.

Gofynnwch i’r rhoddwr a yw wedi gwneud cynlluniau gofal:

  • penderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaethau penodol (a elwir weithiau’n ‘ewyllys fyw’) y gall staff iechyd a lles cymdeithasol ei ddilyn

  • datganiadau o ddymuniadau a dewisiadau y mae’n eu ffafrio am ei ofal a’i driniaeth (gall y rhain fod yn ysgrifenedig neu wedi’u dweud wrth bobl).

Holwch i weld a yw’r rhoddwr wedi’ch dewis chi yn yr atwrneiaeth arhosol i wrthod triniaeth i’w gadw’n fyw neu i gytuno i roi’r fath driniaeth. Os chi sydd wedi’i nodi, a’r rhoddwr yn colli ei alluedd meddyliol:

  • gallwch siarad â meddygon fel petai chi yw’r rhoddwr

  • gall yr atwrneiaeth arhosol ddisodli unrhyw benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth cynnal bywyd.

Holwch y rhoddwr am ei farn am achub bywyd a gofal cymdeithasol ac iechyd arall, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau neu arweiniad yn ei atwrneiaeth arhosol.

Gofynnwch i’r rhoddwr am:

  • fanylion cysylltu (er enghraifft ei feddyg teulu, deintydd, optegydd)

  • ble mae’n cadw’r ddogfen atwrneiaeth arhosol.

Mynnwch gopïau ardystiedig o’r ddogfen atwrneiaeth arhosol

3. Helpu’r rhoddwr

Fel atwrnai, rhaid ichi helpu’r rhoddwr i wneud ei benderfyniadau ei hun, os yw’n gallu.

Allwch chi ddim penderfynu dros y rhoddwr dim ond os ydych yn meddwl bod ei benderfyniadau yn rhai rhyfedd neu’n annoeth.

Dywed y gyfraith fod yn rhaid ichi dybio bod rhywun yn gallu gwneud penderfyniadau, oni ddangosir na all eu gwneud.

Helpwch y rhoddwr i wneud penderfyniadau

  • Gwiriwch: a all wneud rhai penderfyniadau?

  • Esboniwch mewn ffyrdd gwahanol. A fyddai defnyddio lluniau, iaith arwyddion neu ei iaith gyntaf yn helpu?

  • Os oes cyfnodau pan all y rhoddwr wneud penderfyniad a’r penderfyniad hwnnw heb fod yn un brys, arhoswch.

Diffyg galluedd meddyliol yw pan fydd problem â’r meddwl neu’r ymennydd yn atal unigolyn rhag gwneud penderfyniad penodol ar adeg y mae angen ei wneud.

Os nad oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol:

  • dilynwch unrhyw gyfyngiadau neu amodau yn yr atwrneiaeth arhosol

  • ceisiwch ddilyn yr arweiniad yn yr atwrneiaeth arhosol

  • gofynnwch i eraill beth fyddai’r rhoddwr yn ei wneud

  • peidiwch â gwneud rhagdybiaethau ar sail oed, ymddygiad, cyflwr neu ymddangosiad y rhoddwr - ystyriwch beth fyddai’r rhoddwr fel unigolyn ei eisiau.

Dylech osgoi penderfyniadau sy’n cyfyngu ar ryddid y rhoddwr

Ystyriwch opsiwn sy’n cael llai o effaith.

Gwnewch benderfyniadau er budd pennaf y rhoddwr

Rhaid i bob penderfyniad gael ei wneud ar sail beth sydd orau i’r rhoddwr, nid dim ond un sy’n gyfleus i bobl eraill.

4. Cadwch gofnodion

Os byddwch yn gwneud penderfyniad pwysig ar ran y rhoddwr, gwnewch nodyn ohono a pham yr oedd er budd pennaf y rhoddwr. Cofnodwch ar bapur benderfyniadau fel symud y rhoddwr i gartref newydd, dewis gwasanaethau gofal neu wrthod triniaeth feddygol.

5. Rhoi gwybod i eraill

Rhowch wybod i bobl y bydd yn rhaid iddynt gysylltu â chi os na fydd y rhoddwr yn gallu gwneud penderfyniadau. Dywedwch wrth y canlynol:

  • gofalwyr, ffrindiau a’r teulu

  • meddyg teulu’r rhoddwr a staff gofal iechyd arall

  • gweithwyr gofal, gweithiwr cymdeithasol y rhoddwr a staff gofal cymdeithasol arall

  • staff y cartref gofal, wardeniaid tai gwarchod neu weithwyr tai eraill.

Efallai y bydd aelodau staff am weld prawf o bwy ydych chi a’r atwrneiaeth arhosol wreiddiol neu gopi ardystiedig - nid llungopi.

Disgrifiwch ddewisiadau’r rhoddwr

  • Dywedwch wrth y staff iechyd a lles cymdeithasol beth yw barn y rhoddwr am ofal a thriniaeth feddygol.

  • Rhowch gopïau o unrhyw benderfyniad ymlaen llaw neu ddatganiad ysgrifenedig o ddymuniadau’r rhoddwr i’r meddyg teulu a’r staff iechyd a lles cymdeithasol.

  • Rhowch wybod i staff ysbyty, gweithwyr cartref gofal a gweithwyr cymorth yn y cartref beth yw hoff a chas bethau’r rhoddwr.

6. Atwrneiod eraill

Os oes atwrneiod eraill, bydd yr atwrneiaeth arhosol yn nodi sut y byddwch yn gweithredu gyda’ch gilydd:

  • ar y cyd ac yn unigol – gallwch benderfynu gydag atwrneiod eraill neu ar eich pen eich hun

  • ar y cyd – rhaid i bob atwrnai gytuno ar bob penderfyniad

  • ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer eraill – rhaid ichi gytuno ar benderfyniadau sydd wedi’u nodi yn yr atwrneiaeth arhosol gyda’r holl atwrneiod. Gallwch chi wneud penderfyniadau eraill ar eich pen eich hun.

Os oes raid ichi wneud penderfyniad ar y cyd a rhai yn anghytuno, ni ellir gwneud y penderfyniad hwnnw.

Ddim yn gallu cytuno?

Os nad ydych chi a’r atwrneiod eraill yn gallu cytuno, gofynnwch i’r teulu a ffrindiau beth fyddai’r rhoddwr ei eisiau a beth sydd o fudd pennaf iddo.

Defnyddiwch eiriolaeth neu gyfryngu. Edrychwch ar-lein neu ofyn mewn llyfrgell. Os yw’r rhoddwr mewn cartref neu’n cael gofal cymdeithasol, gofynnwch i’r staff am gymorth.

Gallwch gysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac efallai y gallwn ni roi cyngor, neu efallai y bydd angen ichi wneud cais i’r Llys Gwarchod. Gallai hyn gostio £385 neu fwy.

6.1 Cyn ichi weithredu

MEDDYLIWCH – ai hyn fyddai’r rhoddwr ei eisiau?

GWIRIWCH – a oes modd helpu’r rhoddwr i wneud y penderfyniad i gyd neu ran ohono?

COFIWCH – rhaid gwneud pob penderfyniad er budd pennaf y rhoddwr.

7. Cyngor

Age UK

Cymdeithas Alzheimer

Cyngor ar Bopeth

Cyngor Cyfryngu Teuluol

Iechyd yng Nghymru (GIG Cymru)

Mind

NHS Choices

NHS England

Scope

8. Rhagor o wybodaeth

Cod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Mae’r cod ymarferol yn esbonio dyletswyddau atwrneiod.

GOV.UK

Y Llys Gwarchod
yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol
Adran Iechyd
www.gov.uk

9. Sut mae cysylltu â ni

I gael cyngor, lleisio pryderon neu ddweud wrthym os yw amgylchiadau’r rhoddwr neu eich amgylchiadau chi yn newid (er enghraifft: os ydych chi’n symud tŷ).

FFÔN

0300 456 0300

O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm Dydd Mercher 10am to 5pm

FFÔN TESTUN

0115 934 2778

EBOST

[email protected]

GWEFAN

www.gov.uk/opg