Canllawiau ar gyfer cyrff sector cyhoeddus ar gymhwyso Erthygl 36(4) o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus ar eu rhwymedigaeth i ymgynghori â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch unrhyw gynigion ar gyfer mesurau deddfwriaethol neu statudol a ddatblygir ganddynt sy’n cynnwys prosesu data personol.
Dogfennau
Manylion
Mae Erthygl 36(4) o’r GDPR yn nodi “Rhaid i Wledydd yr Undeb ymgynghori â’r awdurdod goruchwylio wrth baratoi cynnig ar gyfer mesur deddfwriaethol sydd i’w fabwysiadu gan senedd genedlaethol, neu wrth baratoi mesur rheoleiddio ar sail mesur deddfwriaethol o’r fath, sy’n ymwneud â phrosesu”.
Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol rhwymol ar bob sefydliad perthnasol yn y sector cyhoeddus, a byddai methu ag ymgynghori’n ddigonol â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch cynigion o’r fath yn torri amodau’r GDPR. Bydd y rhwymedigaeth hon yn parhau i fod yn gymwys drwy ddeddfwriaeth ddomestig berthnasol ar ôl i’r DU ymadael â’r UE.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi proses y dylai pob corff cyhoeddus perthnasol ei dilyn i ymgynghori â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas â’r gofyniad hwn. Mae’r broses ymgynghori yn gyson ag egwyddorion ymgynghori sefydledig Swyddfa’r Cabinet.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 26 Chwefror 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Tachwedd 2023 + show all updates
-
Updated page ownership from the Department for Digital, Culture, Media and Sport to the Department for Science, Innovation and Technology.
-
Added translation