Canllawiau

Adrodd am dreisio neu ymosodiad rhywiol

Diweddarwyd 16 Awst 2023

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Os ydych wedi dioddef trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall y broses o adrodd am drosedd i’r heddlu. Eich penderfyniad chi bob amser yw adrodd i’r heddlu.

Mae’n bwysig cofio nad eich bai chi oedd yr hyn a ddigwyddodd i chi.

Gallwch gael mynediad i eirfa i gael rhagor o wybodaeth am y termau a ddefnyddir yn y canllaw hwn.

Fel dioddefwr trosedd, mae Cod y Dioddefwyr yn nodi’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan sefydliadau yn y system cyfiawnder troseddol.

Cefnogaeth i benderfynu ynghylch adrodd i’r heddlu

Os nad ydych yn siŵr a ddylid rhoi gwybod i’r heddlu am y drosedd, gallwch ofyn am gefnogaeth annibynnol, am ddim, a chyfrinachol i ddysgu am eich dewisiadau. Gallwch gael eich cefnogi gan Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA) ar unrhyw adeg. Gall ISVA gynnig cymorth i chi tra byddwch yn penderfynu a ddylid rhoi gwybod am y drosedd ai peidio. Mae rhagor o wybodaeth am y mathau o sefydliadau a all eich helpu yn ein canllaw ‘Cymorth yn dilyn treisio neu ymosodiad rhywiol’.

Os ydych chi’n dal i benderfynu os ydych chi eisiau rhoi gwybod am drosedd, argymhellir eich bod yn cadw’r dillad roeddech chi’n eu gwisgo ar adeg y drosedd ac, os yn bosib:

  • Peidiwch â golchi’r dillad
  • Cadwch nhw mewn cynhwysydd ar wahân, nid plastig os yw’r eitemau’n wlyb
  • Cadwch y cynhwysydd mewn lle oer a thywyll.

Gall hyn helpu ymchwiliad os byddwch yn penderfynu adrodd am y drosedd yn y dyfodol.

Gallwch chi dal roi gwybod am drosedd hyd yn oed os nad oes gennych chi’r dillad roeddech chi’n eu gwisgo ar y pryd. Mae’n bwysig cofio y gallwch adrodd am drosedd ar unrhyw adeg waeth pryd y digwyddodd.

Gallwch hefyd ymweld â Chanolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) os nad ydych yn teimlo’n barod i roi gwybod am drosedd. Gall rhai SARCau gymryd a chadw tystiolaeth fforensig am hyd at sawl blwyddyn. Gallwch ddarganfod mwy yn ein canllawiau ‘Ymchwilio i dreisio neu ymosodiad rhywiol’ ac yn ein canllaw ‘cymorth yn dilyn treisio ac ymosodiad rhywiol’.

Sut i adrodd am dreisio neu ymosodiad rhywiol

Mae gwahanol ffyrdd y gallwch chi adrodd i’r heddlu. Does dim ots pryd ddigwyddodd y drosedd. Gallwch adrodd:

Dros y ffôn

  • Mewn argyfwng dylech gysylltu â’r heddlu ar 999 a gofyn am gymorth.
  • Os ydych mewn perygl ac yn methu siarad ar y ffôn, ffoniwch 999 ac yna pwyswch 55 ar gais.
  • Os oes gennych nam ar eich clyw neu nam ar y lleferydd, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu’rap neu wefan BSL 999.
  • Os nad yw’n argyfwng, gallwch ffonio 101 a gofyn am eich gorsaf heddlu leol.

Ymweld â gorsaf heddlu leol

Gallwch ddod o hyd i’ch gorsaf heddlu agosaf ar wefan eich llu heddlu lleol.

Pan fyddwch yn mynd i orsaf yr heddlu bydd swyddog sydd wedi cael hyfforddiant penodol yn gwrando ar eich cwyn gychwynnol. Os nad oes swyddog cymwys ar gael pan fyddwch yn cyrraedd gall yr heddlu gymryd eich manylion a gofyn i chi aros tan y gall swyddog priodol helpu.

Cysylltu â’ch llu heddlu lleol ar-lein

Gallwch gyflwyno adroddiad ar-lein.

Os ydych chi am roi gwybod am y drosedd ond nad ydych am i’r heddlu wybod pwy ydych chi, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i crimestoppers-uk.org.

Adrodd gan drydydd partïon

Os nad ydych chi eisiau cysylltu â’r heddlu eich hun, gall rhywun arall wneud ar eich rhan - neu rywun fyddai’n cael ei ddisgrifio’n ffurfiol fel ‘trydydd parti’. Mae hyn yn cynnwys;

  • Meddyg teulu
  • Ymarferydd iechyd arall
  • Ffrind, aelod o’r teulu neu
  • sefydliad cefnogi

Gall y bobl hyn i gyd wneud adroddiad i’r heddlu ar eich rhan.

Does dim rhaid i drydydd parti ddatgelu pwy ydych chi. Gallant adrodd cymaint neu gyn lleied o fanylion ag y dymunwch. Gall hyn dal fod yn ddefnyddiol i’r heddlu nawr neu yn y dyfodol.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am drosedd

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am drosedd am y tro cyntaf, efallai y gofynnir i chi am fanylion fel:

  • P’un a oes unrhyw risgiau i’ch diogelwch parhaus
  • Beth ddigwyddodd i chi
  • Unrhyw anafiadau sydd gennych, ac a oes angen cymorth meddygol arnoch
  • Os ydych chi’n adnabod yr unigolyn/unigolion sy’n gyfrifol neu os gallwch chi eu disgrifio
  • Pryd a ble digwyddodd y drosedd
  • A oes unrhyw dystion

Mae’r cwestiynau hyn yn helpu’r heddlu i ddechrau ymchwiliad ac i ddeall os ydych mewn perygl o niwed pellach.

Gellir defnyddio nodiadau o’r adroddiadau cychwynnol hyn gan yr heddlu os yw’r achos yn mynd i’r llys. Os gwneir eich adroddiad cychwynnol dros y ffôn gellir defnyddio trawsgrifiad.

Pan fyddwch yn adrodd trosedd i’r heddlu byddwch yn cael rhif cyfeirnod trosedd. Wrth gysylltu â’r heddlu am eich achos ar ôl yr adroddiad cychwynnol, dywedwch wrthynt y rhif hwn gan ei fod yn helpu i nodi eich achos o fewn system yr heddlu.

Yr hyn sydd gennych hawl i’w gael wrth adrodd am drosedd

O dan God y Dioddefwyr, wrth adrodd am drosedd, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • I ddefnyddio cyfieithydd ar y pryd os ydych yn cael trafferth deall neu siarad Saesneg.
  • Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, mae gennych hawl i ddefnyddio cyfieithydd iaith arwyddion.
  • Dylai’r heddlu gofnodi’r drosedd heb oedi diangen. Mae gennych hawl i gael cadarnhad ysgrifenedig o’r adroddiad mewn iaith a defnyddio geiriau rydych yn eu deall. Bydd y cadarnhad hwn yn cynnwys;
    • manylion sylfaenol am y drosedd
    • eich rhif cyfeirnod trosedd
    • manylion cyswllt yr heddwas sy’n delio â’ch achos.

Os yw’r heddlu’n credu y bydd darparu cadarnhad ysgrifenedig yn cynyddu’r risg o niwed i chi, byddant yn darparu’r wybodaeth hon ar ffurf arall.

Bydd yr heddlu hefyd yn egluro i chi lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau. Gall yr heddlu helpu i’ch rhoi mewn cysylltiad ag Ymgynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA) am gymorth.

Gallwch ofyn am wybodaeth fel hyn os nad ydych yn ei derbyn. Ar ôl rhoi gwybod am y drosedd, bydd yr heddlu yn siarad â chi am y camau nesaf ar gyfer ymchwilio i’ch cwyn. Mae mwy o wybodaeth am y ffordd y mae’r heddlu’n ymchwilio i achos yn ein canllaw ‘ymchwilio i dreisio neu ymosodiad rhywiol’. Mae canllawiau pellach ar y system cyfiawnder troseddol i’w gweld yma.

Os ydych chi eisiau adrodd am dreisio neu ymosodiad rhywiol a ddigwyddodd dramor

Gallwch barhau i chwilio am gymorth o fewn y DU, waeth ble digwyddodd y drosedd(au).

Os ydych mewn gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd, gallwch wneud adroddiad drwy ffonio 112 ar gyfer gwasanaethau brys lleol.

Ble bynnag ydych chi yn y byd, cysylltwch â +44 (0)20 7008 5000 ar gyfer eich Llysgenhadaeth Brydeinig agosaf, Uwch Gomisiwn neu Gonswl, neu’r Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn Llundain.

Bydd Swyddogion Conswl yr FCDO yn rhoi cymorth ar unwaith i chi ar y ffôn 24/7. Byddant yn ceisio darparu cymorth wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl lle mae lleoliad ac amser yn caniatáu hynny. Gallant hefyd ddweud wrthych am yr heddlu lleol a gweithdrefnau cyfreithiol

Os ydych chi eisiau cysylltu â’r heddlu, efallai y gall swyddogion conswl fynd i orsaf yr heddlu gyda chi, lle mae lleoliad ac amser yn caniatáu hynny.

Yn y rhan fwyaf o wledydd, rhaid i chi roi gwybod am y drosedd cyn dychwelyd i’r DU os ydych am iddo gael ei ymchwilio yn lleol.

Mewn nifer fach iawn o wledydd, gallai bod yn ddioddefwr trais neu ymosodiad rhywiol fod yn anniogel neu gael ei ystyried yn anghyfreithlon. Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn, cysylltwch â’r FCDO am gyngor.

Mae mwy o wybodaeth ar gael am dreisio ac ymosodiad rhywiol tramor.

Mae gwybodaeth benodol i’r wlad i ddioddefwyr trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol hefyd ar gael

Mae tudalennau cyngor ar deithio yn cynnwys gwybodaeth ddiweddaraf, sy’n benodol i’r wlad am y sefyllfa diogelwch a diogelwch lleol a dylid eu darllen cyn teithio dramor.