Form

Gwneud atwrneiaeth arhosol

Ffurflenni a chanllawiau papur ar gyfer creu a chofrestru atwrneiaeth arhosol.

Applies to England and Wales

Documents

Dalenni parhad (LPC)

Ffurflen hysbysu pobl (LP3)

Details

Ffurflenni papur ac arweiniad i wneud:

  • atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer penderfyniadau ariannol
  • atwrneiaeth arhosol ar gyfer penderfyniadau iechyd a gofal

Gallwch lwytho i lawr becyn cyflawn o ddogfennau ar gyfer pob math o atwrneiaeth arhosol neu ffurflenni a chanllawiau unigol. Rydych chi’n defnyddio’r un ffurflen i wneud ac i gofrestru eich atwrneiaeth arhosol.

Os ydych chi’n llwytho i lawr y pecyn cyflawn o ddogfennau, chwiliwch ar fwrdd gwaith neu yn ffolder dogfennau a lwythwyd i lawr eich cyfrifiadur am ffeil ag ‘LPA’ yn y teitl gyda ‘.zip’ ar ei ddiwedd. Drwy glicio ddwywaith ar y ffeil hon bydd eich cyfrifiadur yn dadbacio ffolder sy’n cynnwys yr holl ddogfennau rydych chi eu hangen. Gallwch lenwi’r ffurflenni hyn ar eich cyfrifiadur ac yna eu hargraffu a’u hanfon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Fel arall, gallwch wneud atwrneiaeth arhosol ar-lein - mae’n haws.

Gallwch hefyd ofyn am becyn gwneud cais am LPA drwy’r post.

Os gwnaed eich atwrneiaeth arhosol ar ffurflenni LPA114, LPA117, LPA PW neu LPA PA, ac y llofnodwyd ac y dyddiwyd y ffurflenni’n gywir hyd at 1 Ionawr 2016, mae angen i chi lwytho i lawr lwytho ffurflen gofrestru ar wahân.

I ofyn am unrhyw ddogfen mewn fformat amgen, fel Braille, sain neu brint bras, e-bostiwch [email protected]. Cofiwch gynnwys eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn a theitl y ddogfen sydd ei hangen arnoch chi.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Updates to this page

Published 13 January 2015
Last updated 17 December 2015 + show all updates
  1. Added instructions for opening zip files

  2. New LPA forms were introduced on 1 July 2015.

  3. First published.

Sign up for emails or print this page