Cyflenwyr meddalwedd pridiannau tir lleol
Diweddarwyd 19 Rhagfyr 2024
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r cyflenwyr meddalwedd canlynol yn cefnogi awdurdodau lleol gyda’r gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol.
Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn argymell nac yn cymeradwyo unrhyw un cynnyrch neu wasanaeth dros un arall ac ni fydd yn gyfrifol am unrhyw golled, difrod, cost neu draul mewn cysylltiad â defnyddio’r feddalwedd hon.
Cysylltwch â’r cyflenwr meddalwedd ar gyfer y canlynol:
- sicrhau bod y cynnyrch meddalwedd yn cwrdd â’ch anghenion penodol
- darparu cefnogaeth
- gofyn am ragor o wybodaeth am y meddalwedd
1. Cyflenwyr meddalwedd sydd wedi eu contractio i weithio gyda Chofrestrfa Tir EF
Mae’r cyflenwyr meddalwedd hyn wedi eu contractio i weithio gyda Chofrestrfa Tir EF. Maent yn cefnogi awdurdodau lleol yn ystod gweithgarwch mudo pridiannau tir lleol ac mewn gwasanaeth byw.
Gall DEF Software, Idox Group (ar gyfer y system Total Land Charges (TLC)) a NEC Software Solutions ddarparu’r canlynol i awdurdod lleol:
- detholiadau data o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol
- mewnforio data yn ôl i systemau meddalwedd pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol i gefnogi gweithgarwch mudo
- integreiddio rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) o’u system feddalwedd pridiannau tir lleol, gan eu galluogi i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol
Gall Arcus Global ddarparu’r canlynol i awdurdod lleol:
- detholiadau data o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol
- integreiddio API o’u system feddalwedd pridiannau tir lleol, gan eu galluogi i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol
Mae Arcus Global yn gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF i gyflenwi’r canlynol:
- mewnforio data yn ôl i systemau meddalwedd pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol i gefnogi gweithgarwch mudo
2. Cyflenwyr meddalwedd sy’n gweithio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol
Mae’r cyflenwyr meddalwedd hyn yn gweithio’n uniongyrchol gydag awdurdodau lleol i gefnogi gweithgarwch mudo pridiannau tir lleol ac mewn gwasanaeth byw. Nid oes gan Gofrestrfa Tir EF gontract gyda’r cyflenwyr hyn ond mae’n cydweithio â nhw a’r awdurdod lleol i ddarparu’r gwasanaethau gofynnol.
- Agile Applications
- Civica
- Ocella Software Systems
- StatMap
Gall Agile Applications ddarparu’r canlynol i awdurdod lleol:
- detholiadau data o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol
Mae Agile Applications yn gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF i gyflenwi’r canlynol:
- mewnforio data yn ôl i systemau meddalwedd pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol i gefnogi gweithgarwch mudo
- integreiddio API o’u system feddalwedd pridiannau tir lleol, gan eu galluogi i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol
Gall Civica ddarparu’r canlynol i awdurdod lleol:
- detholiadau data o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol
Gall Ocella Software Systems ddarparu’r canlynol i awdurdod lleol:
- detholiadau data o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol
- mewnforio data yn ôl i systemau meddalwedd pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol i gefnogi gweithgarwch mudo
Mae Ocella Software Systems yn gweithio gyda Chofrestrfa Tir EF i gyflenwi’r canlynol:
- integreiddio API o’u system feddalwedd pridiannau tir lleol, gan eu galluogi i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol
Gall StatMap ddarparu’r canlynol i awdurdod lleol:
- detholiadau data o’u systemau meddalwedd pridiannau tir lleol
- mewnforio data yn ôl i systemau meddalwedd pridiannau tir lleol yr awdurdod lleol i gefnogi gweithgarwch mudo
- integreiddio API o’u system feddalwedd pridiannau tir lleol, gan eu galluogi i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol
3. Datrysiadau meddalwedd sydd ag o leiaf un awdurdod lleol wedi ei integreiddio i API Cofrestrfa Tir EF mewn gwasanaeth byw
Mae gan y datrysiadau meddalwedd pridiannau tir lleol hyn o leiaf un awdurdod lleol yn defnyddio API integreiddio mewn gwasanaeth byw. Mae hyn yn galluogi awdurdod lleol i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau tir lleol.
- DEF Mastergov o DEF Software
- Idox TLC o Idox Software
- NEC M3/Assure o NEC Software Solutions UK
- Statmap Earthlight o StatMap
- Arcus Land Charges o Arcus Global
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i Gofrestrfa Tir EF a’r awdurdod lleol fod wedi cwblhau’r mudo i symud eu cofrestr pridiannau tir lleol i wasanaeth byw. Ar y pwynt hwnnw, mae integreiddio API y cyflenwr yn mynd yn fyw.
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio Rhyngwyneb Defnyddiwr (GUI) Cofrestrfa Tir EF fel dewis arall i’r API neu ar y cyd â’r API hefyd. Rhaglen GOV.UK ar y we yw GUI ac mae’n galluogi awdurdodau lleol i ychwanegu, amrywio a dileu pridiannau ar-lein.
4. Cefnogaeth i awdurdodau lleol
Darllenwch local land charges migration am wybodaeth am sut gall awdurdodau lleol symud eu gwasanaeth pridiannau tir lleol i gofrestr ddigidol Cofrestrfa Tir EF.
5. Cysylltu
Anfonwch ebost at dîm y rhaglen: [email protected]