Siart sefydliadol
Diweddarwyd 23 Medi 2024
Ysgrifenyddion Parhaol
Syr Jim Harra KCB – Prif Weithredwr, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Swyddog Cyfrifyddu
Angela MacDonald – Dirprwy Brif Weithredwr, Ail Ysgrifennydd Parhaol
Y Pwyllgor Gweithredol
Pwyllgor Gweithredol CThEF yw prif fforwm gweithredol yr adran. Mae’n goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd holl waith CThEF, ac yn gyfrifol am osod a chyflwyno strategaeth. Darllenwch ragor am y Pwyllgor Gweithredol.
Myrtle Lloyd – Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau i Gwsmeriaid (Hyrwyddwr Llesiant)
Penny Ciniewicz – Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydymffurfiad Cwsmeriaid (Hyrwyddwr Hil)
Jonathan Athow – Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid (Hyrwyddwr Symudedd Cymdeithasol)
Justin Holliday – Prif Swyddog Cyllid, Comisiynydd Sicrwydd Treth (Hyrwyddwr Crefydd neu Gred)
Daljit Rehal – grŵp Prif Swyddog Digidol a Gwybodaeth (CDIO) (Hyrwyddwr Hygyrchedd)
Alan Evans – Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol a Phrif Swyddog Pobl (dros dro) (Hyrwyddwr LHDTRh+)
Carol Bristow – Cyfarwyddwr Cyffredinol Ffiniau a Masnachu
Suzanne Newton – Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer grŵp Cyflawni Newid (Hyrwyddwr Gofalwyr)
Andrew Pemberton – Cyfarwyddwr Gohebiaeth ac Arweiniad (Hyrwyddwr Cynaliadwyedd)
Jonathan Russell – Prif Weithredwr, Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Lucy Pink – Cyfarwyddwr, Strategaethau CThEF
Aelodau Anweithredol CThEF
Mae ein Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cynnig safbwynt allanol i’r sefydliad ac yn defnyddio’u sgiliau a’u profiadau i gynghori’r adran.
Aelodau Anweithredol y Bwrdd
Bonesig Jayne-Anne Gadhia (Arweinydd Anweithredol)
Michael Hearty (aelod anweithredol o’r Bwrdd gyda chyfrifoldeb dros yr Undeb)
Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Myrtle Lloyd
Yn helpu cwsmeriaid i dalu’r swm cywir o dreth, i gael y budd-daliadau cywir, ac yn helpu’r rhai sydd mewn dyled i dalu’r hyn sydd arnynt.
Cyfarwyddwyr y Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Gweithrediadau Treth Busnes a Thollau
Cyfarwyddwr: Steve Long
Yn rheoli ystod amrywiol o waith gweithredol, gan gynnwys gwaith TAW, trethi stamp, elusennau, cynilion a buddsoddiadau, Treth Gorfforaeth, Tollau a Masnachu Rhyngwladol ac Ecseis.
Gweithrediadau Treth Bersonol
Cyfarwyddwr: Richard West
Yn helpu cwsmeriaid, asiantau a chyflogwyr gyda’u cwestiynau ynghylch Yswiriant Gwladol, Talu Wrth Ennill (TWE) a Hunanasesiad, ac yn rhoi help ychwanegol i’r cwsmeriaid sydd ei angen.
Rheolaeth Dyledion
Cyfarwyddwr: Sue Young
Yn gyfrifol am gasglu taliadau dyledion, yn rhoi cyfrif am dollau treth a rhwymedigaethau eraill, ac yn sicrhau bod datganiadau a thaliadau hwyr yn dod i law.
Gweithrediadau Budd-daliadau a Chredydau
Cyfarwyddwr: James Mitton
Yn gyfrifol am ddarparu gofal plant sy’n rhydd o dreth a Budd-dal Plant, ac yn cyd-weithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch rheoli’r trosglwyddiad o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol.
Rhagoriaeth Weithredol
Cyfarwyddwr: Richard Hawthorn
Yn gyfrifol am brosesau gweithredol a data ar gyfer mathau wahanol o dreth, yn sicrhau effeithiolrwydd ac yn datrys problemau sy’n ymwneud â phrosesu. Perchnogion Gwasanaeth Busnesau ar gyfer prif wasanaethau CThEF o ran gohebu â chwsmeriaid.
Gwasanaeth Strategaeth a Newid ar gyfer Cwsmeriaid
Cyfarwyddwyr: Richard Forster a Mike Beddington
Yn sbarduno gwelliannau ar draws gwasanaethau cwsmeriaid ac yn helpu’r adrannau gweithredol. Mae hyn, yn ei dro, yn galluogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaeth gwell mewn ffordd fwy effeithlon. Yn chwarae rhan hollbwysig o ran darparu blaenoriaethau CThEF.
Cynllunio a Pherfformiad Cyllid
Cyfarwyddwr: Bal Moore
Yn datblygu rhagolygon sy’n dangos llwythi gwaith a’r galw, ac yn rhannu data ac adborth a ddaw o gwsmeriaid. Yn helpu o ran y gwaith datblygu, yn monitro perfformiad a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac yn rhoi rheolaeth gyllid gadarn i’r Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid.
Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Penny Ciniewicz
Yn sicrhau bod y treth gywir yn cael ei thalu, ac yn cymryd camau pan ni fydd hyn yn digwydd.
Cyfarwyddwyr y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid
Gweithrediadau Cydymffurfio
Cyfarwyddwr: Janet Alexander
Yn arbenigwr o ran proffesiynoldeb a phrofiad cwsmeriaid, ac yn datblygu’r hyn y gall y gwasanaeth sifil ei wneud o ran cydymffurfiad, a hynny ar gyfer y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid. Yn chwarae rhan allweddol o ran cynllunio gweithredol a rheoli perfformiad.
Cyflawni Strategaeth Cydymffurfio
Cyfarwyddwr: Chris Southworth
Yn diffinio strategaeth cydymffurfio ar draws CThEF, yn cefnogi penderfyniadau (ar sail tystiolaeth) sy’n ymwneud â gweithgarwch cydymffurfio, ac yn datblygu mesurau er mwyn mynd i’r afael â risgiau a’r bwlch treth ar draws polisïau, ac yn rhoi’r newidiadau hyn ar waith.
Gwrth-Arbed
Cyfarwyddwr: Jonathan Smith
Yn gyfrifol am ymyriadau cydymffurfio i gynlluniau arbed treth sydd wedi’u marchnata ar gyfer y farchnad dorfol, ac yn mynd i’r afael â’r rheiny sy’n hyrwyddo ac yn galluogi arbed o’r fath. Yn datblygu polisïau er mwyn atal cynlluniau arbed treth rhag cael eu hyrwyddo.
Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll
Cyfarwyddwr: Richard Las
Yn gyfrifol am ymchwiliadau sifil ac ymchwiliadau troseddol CThEF i dwyll difrifol, yn defnyddio ystod lawn o bwerau (gan gynnwys cyfrifoldebau goruchwyliwr o dan Reoliadau Gwyngalchu Arian) er mwyn diogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y DU.
Cydymffurfiad Unigolion a Busnesau Bach
Cyfarwyddwr: Marc Gill
Yn rheoli risgiau cydymffurfio ar draws y prif drethi a thollau, yn mynd i’r afael â’r economi gudd, yn hwyluso masnach ryngwladol ac yn gorfodi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Busnesau Mawr
Cyfarwyddwr: Nicole Newbury
Yn gweithredu rhwydwaith o Reolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid sy’n canolbwyntio ar reoli risgiau cydymffurfio ar draws busnesau mwyaf y DU, o ran maint a chymhlethdod.
Gwasanaethau Risg a Chudd-wybodaeth
Cyfarwyddwr: Andy Leggett
Yn chwarae rôl craidd o ran gweithgarwch gorfodi a chydymffurfio, a hynny drwy alluogi CThEF i ddeall, i asesu ac i reoli risgiau ar draws y system dreth drwy gasglu gwybodaeth a dadansoddi data.
Trawsnewid
Cyfarwyddwr: Ann Conway-Hughes
Yn sbarduno newidiadau (sy’n ymwneud â budd-daliadau) i weithgarwch cydymffurfio ar draws y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid, ac yn hwyluso’r drefn o ran gwneud gwaith cydymffurfio a chyflenwi newid o raglenni ehangach CThEF, gan sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu rhannu a’u rhoi ar waith.
Cydymffurfiad Unigolion Cyfoethog a Busnesau o Faint Canolig
Cyfarwyddwr: Philippa Madelin
Yn canolbwyntio ar unigolion cyfoethog, busnesau o faint canolig, cyrff cyhoeddus, ymddiriedolaethau ac elusennau. Mae hefyd yn delio â risgiau o ran statws cyflogaeth a chyfryngwyr, Treth Etifeddiant, a chymhellion a rhyddhadau amrywiol.
Cyllid a Chynllunio
Cyfarwyddwr: Francesca Roberts
Yn arbenigwr o ran gwneud gwaith cynllunio ar gyfer y busnes, rheoli risg, sicrwydd, gwaith ‘parhad busnes’ a diogelwch ar gyfer y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid, ac yn cefnogi rheolaeth ariannol a rheolaeth perfformiad drwy ddarparu data a gwasanaethau cyfrifyddu.
Grŵp Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Jonathan Athow
Yn datblygu ac yn cyflawni diwygiadau i bolisïau system dreth y DU er mwyn cefnogi blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar waith dadansoddi, adborth o safon uchel gan gwsmeriaid, a thrwy gyd-weithio’n agos gyda Thrysorlys EF.
Cyfarwyddwyr Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid
Strategaethau CThEF
Cyfarwyddwr: Lucy Pink
Yn arwain ar y penderfyniadau ynghylch cyfeiriad strategol CThEF, ac yn sicrhau bod ein nod o fod yn adran dreth a thollau sy’n fodern, ac y mae pobl yn ymddiried ynddi, yn cyd-fynd â’r cyfeiriad hwn.
Dadansoddi Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth
Cyfarwyddwyr: Jane Whittaker a Adrian Richards
Yn darparu dadansoddiadau, ymchwil ac ystadegau er mwyn arwain ar waith polisïau a phenderfyniadau ynghylch gwaith gweinyddol, rhagolygon cyllidol ac adroddiadau CThEF, a dadansoddiadau draws-lywodraethol.
Saernïaeth Fusnes
Cyfarwyddwr: Emma Court
Yn gyfrifol am wella’r ffordd y mae uchelgais y busnes yn cael ei roi ar waith, a hynny drwy wneud gwaith strategol.
Deall Cwsmeriaid a Chynllunio ar eu cyfer
Cyfarwyddwr: Claire Walsh
Yn cynrychioli profiad a llais y cwsmer, ac yn sicrhau safon ragorol ar draws CThEF, yn ogystal â chynllunio gwasanaethau symlach ac yn rheoli cynllun llywodraethu yr adran.
Cyfryngwyr
Cyfarwyddwr: Rob Jones
Yn gweithredu fel catalydd i sbarduno CThEF i newid ei ddull o weithredu er mwyn cyfryngu’r system dreth, codi safonau a gwella cydymffurfiad, effeithlonrwydd, a phrofiad y cwsmeriaid.
Pontio Polisi Strategol a Chyflawniad
Cyfarwyddwr: Rosalind Kay
Yn gweithio ar draws CThEF, gydag adrannau eraill o’r Llywodraeth yn ogystal â’r gweinyddiaethau datganoledig, er mwyn datblygu polisïau mewn ffordd strategol ac i gydlynu’r polisïau hyn. Yn goruchwylio digwyddiadau cyllidol, yn cyflwyno’r newidiadau i bolisïau ac yn sbarduno i’w gwella.
Gweinyddu Trethi
Cyfarwyddwr: Paul Riley
Yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw fframwaith deddfwriaethol a pholisïau at ddiben gweinyddu trethi mewn ffordd effeithlon, ac yn darparu arweiniad a chyngor technegol er mwyn cynnal y fframwaith hwn.
Materion Busnes, Asedion a Rhyngwladol
Cyfarwyddwr: Jon Sherman
Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a thechnoleg sy’n ymwneud â busnesau sy’n cael eu trethi’n uniongyrchol, asedion (Treth Enillion Cyfalaf, Treth Etifeddiant a threthi stamp) ac ymddiriedolaethau, yn cyflawni gwaith o ran treth rhyngwladol ac yn cyflawni hymrwymiadau o ran tryloywder.
Treth Anuniongyrchol
Cyfarwyddwr: Rachel Nixon
Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a thechnoleg sy’n ymwneud â TAW, Treth Premiwm Yswiriant, trethi trafnidiaeth ac amgylcheddol, tollau ecséis a hapchwarae.
Polisi Unigolion
Cyfarwyddwr: Cerys McDonald
Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a thechnoleg sy’n ymwneud â threthi a budd-daliadau sy’n cael effaith ar gwsmeriaid unigol.
Perchnogaeth y Gwasanaeth
Cyfarwyddwr: Hitesh Patel
Yn arbenigwr o ran rhoi ffyrdd newydd o reoli gwasanaethau CThEF ar waith ar gyfer ei gwsmeriaid, a hynny drwy wneud un perchennog yn gyfrifol am sbarduno gwelliannau a pherfformiad, a’i fod yn cadw llygaid ar bob ran o’r broses o gyflawni gwasanaeth.
Cynllunio, Pherfformiad a Risgiau Cyllid
Cyfarwyddwr: Theresa Knowles
Yn darparu goruchwyliaeth ar weithrediadau corfforaethol, gan gynnwys gwneud gwaith cynllunio ar gyfer y busnes, dyraniad adnoddau, rheolaeth ariannol, monitro perfformiad, rheoli risg a gwirio bod mesurau sicrwydd a’r rheolaeth briodol ar waith.
Adnoddau Dynol
Cyfarwyddwr: Dan Coughlin
Yn rhoi cyngor ynghylch Adnoddau Dynol i’r grŵp busnes.
Newid yn sgil Polisïau
Cyfarwyddwr: Sara Hale
Portffolio treigl sy’n cyflwyno newidiadau i bolisi a gyhoeddwyd gan weinidogion Trysorlys EF fel rhan o’r broses ‘digwyddiadau cyllidol’, neu sy’n deillio o adrannau eraill o’r Llywodraeth neu o’r gweinyddiaethau datganoledig.
Grŵp y Brif Swyddog Pobl
Prif Swyddog Pobl (dros dro): Alan Evans
Yn datblygu ac yn darparu goruchwyliaeth wrth i bolisïau AD CThEF (i wneud CThEF yn lle wych i weithio) gael eu rhoi ar waith, gyda chyfrifoldeb cyffredinol am gynllunio’r gweithlu, recriwtio, rheoli talent a gweithgareddau dysgu.
Cyfarwyddwyr y Brif Swyddog Pobl
Caffael Talent a Dysgu dros dro
Cyfarwyddwr: Nicky Pattimore
Yn gyfrifol am strategaeth a thrawsnewid CThEF o ran dysgu, ac yn arwain ar gaffael talent gan gynnwys recriwtio gweithredol a llafur wrth gefn.
Trawsnewid y Gweithle a Phartneriaethau
Cyfarwyddwr: Kate Tilley
Dirprwy Brif Swyddog Pobl a Phennaeth y Proffesiwn AD Yn gyfrifol am alluogi CThEF i drawsnewid y sefydliad a’r gweithlu ar gyfer y dyfodol, a hynny drwy broses o ddylunio sefydliadol, effeithiolrwydd sefydliadol, datblygu a gweithredu strategaeth pobl CThEF, a chynllunio’r gweithlu mewn ffordd strategol.
Partneriaethau Busnes
Cyfarwyddwr: Simon Fryer
Yn arwain Cyfarwyddwyr AD a thimau Partner Busnes AD wrth iddynt gefnogi Grwpiau Busnes a’r Gwasanaeth Cynghori Arbenigol, ein swyddogaeth sy’n cefnogi’r gwaith achos AD.
Gwasanaethau Cynllunio ar gyfer Cwsmeriaid
Cyfarwyddwr: Bobby Chatterjee
Mae’r Gwasanaethau Cynllunio ar gyfer Cwsmeriaid yn arwain ar ddarparu ystod ehangach o wasanaethau arbenigol sy’n creu fframwaith effeithlon a chynhwysol o gyflogai ar gyfer CThEF. Mae ein portffolio yn cwmpasu Polisi Cyflogai, Cysylltiadau â Chyflogai a Gwobrwyo, yn ogystal ag Amrywiaeth a Chynhwysiant Cydraddoldeb gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, Llesiant, a Diogelwch Corfforaethol.
Grŵp y Prif Swyddog Cyllid
Yn cynnwys ein swyddogaethau masnachol a chyllid, yn ogystal â gwasanaethau ystadau a bancio
a ddarperir i CThEF ac adrannau eraill o’r Llywodraeth.
Prif Swyddog Cyllid Justin Holliday
Cyfarwyddwyr y Prif Swyddog Cyllid
Newid, Sicrwydd a Buddsoddiad
Cyfarwyddwr: Mike Shipp
Yn gyfrifol am roi sicrwydd annibynnol o’r ffordd y mae CThEF yn cyflawni newid a gwneud penderfyniadau buddsoddi, gan gynnwys rhaglenni Trawsnewid a Ffiniau a Masnach.
Masnachol
Cyfarwyddwyr: John Hayes, Dale Kidson, Andrew Wilson
Yn gyfrifol am yr holl drefniadau masnachol, gan weithio mewn partneriaeth â pherchnogion contractau ledled CThEF i sicrhau gwell canlyniadau drwy ein cyflenwyr, sicrhau gwerth am arian, galluogi arloesedd a chreu cyfleoedd ar gyfer Gwerth Cymdeithasol.
Strategaeth a Pherfformiad Ariannol
Cyfarwyddwr: Ian Clarke
Yn gyfrifol am gynllunio ariannol a chynllunio perfformiad, monitro ac yn rhan ganolog o’r ffordd y mae CThEF yn cyflawni.
Rhaglen Unedig
Cyfarwyddwr: Cath Rollo
Yn gyfrifol am y Rhaglen Unedig a fydd yn cyflawni Gwasanaethau AD a Chyllid Gwasanaethau a Rennir gan ddefnyddio technoleg a phrosesau newydd i gefnogi CThEF, yr Adran Drafnidiaeth a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau o fis Mehefin 2024 ymlaen.
Archwilio Mewnol
Cyfarwyddwr: Tim Addison
Yn darparu sicrwydd annibynnol i’r Brif Weithredwr drwy nodi bod y prosesau rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol yn gweithredu mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, a hynny er mwyn helpu i ddiogelu enw da CThEF.
Gwasanaethau Busnes Unedig
Cyfarwyddwr: Toni Court
Yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth AD o safon uchel, cyllid a chaffael o ansawdd uchel i holl gyflogeion CThEF ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).
Cyfrifyddu Ariannol, Risg a Rheoli
Cyfarwyddwr: Alison Bexfield
Yn gyfrifol am roi cyfrif am holl weithgarwch CThEF tra’n gwneud yn siŵr bod risgiau adrannol yn cael eu rheoli, bod rheolaethau effeithiol ar waith, a bod ein systemau ariannol wedi’u hachredu.
Rhaglen Leoliadau ac Ystadau
Cyfarwyddwr: Colin Cassé
Yn gyfrifol am ddarparu gweithleoedd arbenigol, sy’n modern, o safon uchel, diogel a chynhwysol i gyflogai yn CThEF ac adrannau eraill o’r Llywodraeth.
Grŵp Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol (CDIO)
Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol: Daljit Rehal
Yn cynllunio, datblygu, ac yn rhedeg gwasanaethau digidol a gwasanaethau gwybodaeth ar gyfer ein pobl a’n cwsmeriaid, tra’n sicrhau ein bod yn cadw data mewn ffordd sy’n ddiogel ac yn bodloni gofynion cyfreithiol.
Cyfarwyddwyr y Brif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol
Prif Swyddog Gweithredu
Prif Swyddog Gweithredu: Dale Kidson
Yn gyfrifol am wella Model gweithredu CDIO yn barhaus, a sicrhau bod perthynas strategol (cwsmer a chyflenwr) a gweithgareddau rheoli portffolio yn darparu’r gwerth mwyaf posibl i CThEF.
Cyfarwyddwr Cyllid
Cyfarwyddwr Cyllid: David Swainston
Yn gyfrifol am gymryd cyfrifoldeb am Fframwaith Llywodraethu CDIO, a’i datblygu, gan sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail y ddata sydd ar gael; datblygu ac olrhain achosion busnes cadarn, ac optimeiddio rheolaeth ariannol CDIO.
Pennaeth Gwasanaethau Platfform Mentrau a Newid
Pennaeth Gwasanaethau Platfform Mentrau a Newid: Saghir Akbar
Yn atebol am strategaeth weithredol ar gyfer y gwasanaethau byw i gyd, perfformiad a chynllunio, a sicrhau bod y strategaeth hon yn cyd-fynd â strategaeth fusnes CThEF, gofynion grwpiau cwsmeriaid CDIO a gofynion rhaglenni mawr.
Cyfarwyddwr y Brif Swyddfa Technoleg a Chynllunio
Cyfarwyddwr y Brif Swyddfa Technoleg a Chynllunio: Tom Skalycz
Yn gyfrifol am y diffiniad o strategaeth TG, llunio cynlluniau a modelau a fydd yn galluogi llwyfannau a chynhyrchion i esblygu drwy TG. Yn sbarduno arloesedd ar draws adrannau technoleg CThEF.
Prif Swyddog Diogelwch
Prif Swyddog Diogelwch: Kelly Paterson
Yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth ddiogelwch CThEF a rhoi gweithdrefnau a rheolaethau diogelwch ar waith sy’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol, yn ogystal â dangos arfer da.
Prif Swyddog Gwybodaeth ar gyfer Ffiniau a Masnach
Prif Swyddog Gwybodaeth ar gyfer Ffiniau a Masnach: Nicolas Bourven
Yn gyfrifol am ddarparu’r technoleg ar gyfer gwaith Ffiniau a Masnach, ar draws y Llywodraeth, a fydd yn datblygu strategaeth 2025 i gefnogi agenda uchelgeisiol y Llywodraeth o ran sefydlu ymgyrch Ffiniau a Masnach yn y DU o’r radd flaenaf.
Cyfarwyddwr AD, CDIO
Cyfarwyddwr AD, CDIO: Breda O’Connor
Yn gyfrifol am, ac yn datblygu, Cynllun Gweithlu Strategol y CDIO, gan weithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Gweithredu i sicrhau bod yr ymyriadau cywir ar waith er mwyn cynyddu gallu pawb yn barhaus.
Pennaeth ‘Unedig’, Cyfarwyddwr Technoleg
Pennaeth ‘Unedig’, Cyfarwyddwr Technoleg: Simon Smith
Yn gyfrifol am ddarparu cydrannau technegol y Saernïaeth Targed Unedig ac yn cefnogi’r gwasanaeth ehangach. Yn berchen ac yn rheoli’r dechnoleg, yn gwneud gwaith adeiladu a gweithredu cysylltiedig, yn cyd-weithio â swyddogaethau CDIO eraill.
Prif Berchennog Cynnyrch
Prif Berchennog Cynnyrch: Sarah McMann
Yn atebol am ddatblygu a darparu gwasanaethau a chynhyrchion gan ddefnyddio cyfluniad o alluoedd presennol, strategaeth API a thrwy integreiddio gallu’r platfform. Yn datblygu cynhyrchion yn unol â’r cyfarwyddiadau a strategaeth y cytunwyd arnynt.
Prif Swyddog Data
Prif Swyddog Data: Aydin Sheibani
Yn atebol am y gwaith strategaeth ddata, llywodraethu, rheoli a chyflawni gwaith datrysiadau data, a hynny ar draws yr holl fenter. Yn datblygu gallu CThEF o ran gwyddor data, gan sicrhau ei fod wedi’i ymgorffori yn ein cylch bywyd datblygu.
Swyddfa’r Cyfreithiwr a Gwasanaethau Cyfreithiol
Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cyffredinol: Alan Evans
Yn darparu gwasanaethau cyfreithiol i CThEF.
Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cyfreithiol
Ymgyfreitha
Cyfarwyddwr: Samantha Pullin
Yn gyfrifol am dreth ac ymgyfreitha gysylltiedig arall sy’n ymwneud â CThEF ac yn cael eu cynnal gan gyfreithwyr.
Gweithrediadau Cyfreithiol a Thrawsnewid Busnesau
Cyfarwyddwr: Mark Wilson
Yn cynnal ymgyfreitha ar ran CThEF (treth, budd-daliadau/credydau, yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gorfodi/ansolfedd); yn ymgymryd ag Adolygiadau Statudol (penderfyniadau o ran codi cosb/cydymffurfio); ac yn rheoli gohebiaeth weinidogol, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth/ ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth, cwestiynau seneddol a gwaith trawsnewid o fewn Swyddfa’r Cyfreithiwr a’r Gwasanaethau Cyfreithiol.
Treth Busnes a Chyfraith Ryngwladol
Cyfarwyddwr: John Evans
Yn darparu cyngor cyfreithiol i CThEF, a hynny’n cynnwys yr holl drethi busnes, trethi amgylcheddol, ardrethi busnes, seiber-wybodaeth, tollau ac ecséis, masnach Ewropeaidd a masnach ryngwladol.
Cynghori ynghylch Gwasanaethau Corfforaethol a Threthi Personol
Cyfarwyddwr: Jo Greenidge
Yn darparu amrywiaeth o gyngor cyfreithiol (treth bersonol, budd-daliadau a chredydau, gwrth-arbed, masnachol, troseddol), gwasanaethau cyfrifyddu a gwasanaeth ansolfedd i CThEF.
Grŵp Ffiniau a Masnachu
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Carol Bristow
Yn cefnogi masnach ryngwladol y DU a’r casgliad o drethi a thollau ar fewnforion, yn gweithio’n agos gyda Llu’r Ffiniau ar ran y Swyddfa Gartref.
Cyfarwyddwyr Ffiniau a Masnachu
Polisi a Strategaeth Tollau
Cyfarwyddwr: Alex Pienaar
Yn gyfrifol am ddatblygu polisïau, rhoi’r datblygiadau hyn ar waith, cynnal a chadw a gwella Cyfundrefn Dollau’r DU, a hynny’n unol â blaenoriaethau’r Llywodraeth ac amcanion gweinidogol.
Newid yn sgil y Ffiniau
Cyfarwyddwr: Sarah Hartley
Yn cefnogi uchelgais y Llywodraeth o ran sefydlu ymgyrch Ffiniau a Masnach yn y DU o’r radd flaenaf, a hynny drwy ddarparu un llwyfan tollau yn y DU, gwneud gwelliannau i reolaethau tollau, a sicrhau bod yr ymrwymiadau o ran cludo yn cael eu bodloni.
Gwasanaethau Wrth y Ffin, Data a Dylunio
Cyfarwyddwr: Gill Evans
Yn canolbwyntio ar wella’r gwasanaethau wrth y ffin (o’r dechrau i’r diwedd) drwy fynegi gwybodaeth oddi wrth CThEF mewn ffordd glir, a datblygu dewisiadau dylunio (sy’n seiliedig ar dystiolaeth) i wella perfformiad a chydymffurfiaeth cwsmeriaid.
Cynllunio Strategol, Cwsmeriaid a Seilwaith
Cyfarwyddwr: Claire Dartington
Yn gyfrifol am friffio gweinidogol a seneddol ynghylch materion CThEF sy’n ymwneud â’r ffiniau, rheoli cwsmeriaid y gadwyn gyflenwi mewn ffordd strategol, darparu’r gallu i ailasesu cyfleusterau mewndirol wrth y ffin presennol y DU a datblygu rhai newydd.
Rhaglen Ffiniau a Masnachu a Chyflawni Gweithredol
Cyfarwyddwr: Julie Etheridge
Yn darparu’r gallu i fusnesau Gogledd Iwerddon gael mynediad at farchnad agored y DU. Yn gyfrifol am gyfleusterau mewndirol wrth y ffin, porthladdoedd rhydd, cydlynu Nawdd Cymdeithasol a’r Fframwaith Windsor.
Grŵp Cyflawni Newid
Cyfarwyddwr Cyffredinol: Suzanne Newton
Yn rheoli portffolio newid CThEF ac yn arwain ar rai o’r rhaglenni newid mwyaf, o ran maint a chymhlethdod.
Cyfarwyddwyr y Grŵp Cyflawni Newid
Y Rhaglen Cyfrif Unigol i Gwsmeriaid
Cyfarwyddwr: Dan Woodrow
Yn gyfrifol am ddarparu un profiad digidol i gwsmeriaid ar draws y we, a sianelu symudol, drwy integreiddio a gwella’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn Cyfrifon Treth Personol a Chyfrifon Treth Busnes, a hynny er mwyn cynyddu nifer y cwsmeriaid a gwmpesir.
Ffenestr Masnach Sengl
Cyfarwyddwr: Max Hacon
Yn cyd-weithio gydag arbenigwyr o fasnach a diwydiant i ddylunio porth digidol rhwng busnesau a systemau Ffiniau’r DU a fydd yn galluogi defnyddwyr i fodloni eu hymrwymiadau o ran mewnforio, allforio a chludo.
Y Cynllun Troi Treth yn Ddigidol
Cyfarwyddwr: Craig Ogilvie
Yn ceisio lleihau’r bwlch treth drwy ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid gadw cofnodion digidol, defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol, a chyflwyno diweddariadau bob chwarter, yn y gobaith y bydd hyn yn dod â’r system dreth yn agosach at amser real.
Rheoli Portffolios
Cyfarwyddwr: Oliver Fisher
Yn gyfrifol am optimeiddio’r broses o ddyrannu cyllid i newid mentrau, gan sicrhau bod CThEF yn cyflawni ei strategaeth ac yn cyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth, gan sylweddoli’r buddion ar gyfer ein pobl, ein gwaith a’n cwsmeriaid.
Trawsnewid y Gwasanaeth Treth Incwm
Cyfarwyddwr: Claire McGuckin
Tîm aml-swyddogaethol penodedig sy’n dod â chydweithwyr ar draws CThEF at ei gilydd er mwyn datblygu gwasanaethau digidol sy’n symlach ac yn haws i’w defnyddio ar gyfer cwsmeriaid a chydweithwyr.
Grŵp Cyllid a Busnes
Cyfarwyddwr: Catherine Blair
Yn darparu gwaith strategaeth, cynllunio a pherfformiad sy’n uno arbenigedd o ran cyllid, risg a sicrwydd, rheolaeth buddiannau, newid busnes, polisïau a strategaeth er mwyn helpu CThEF i gyflawni ei amcanion strategol.
Gohebiaeth ac Arweiniad CThEF
Cyfarwyddwr: Andrew Pemberton
Yn rhoi cyngor o ran gohebiaeth, ac yn darparu canllawiau CThEF ar gyfer cyd-weithwyr a chwsmeriaid yn ogystal â gwella’r canllawiau hyn. Yn ymgorffori Tîm Cynaladwyedd CThEF.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Prif Weithredwr: Jonathan Russell
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asiantaeth weithredol sy’n cael ei noddi gan Gyllid a Thollau EF.
Cyfarwyddwyr Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Prif Brisiwr
Prif Brisiwr: Alan Colston
Yn darparu cyngor technegol a chyngor o ran prisio, yn hyrwyddo a sicrhau safonau proffesiynol, cysondeb, gwrthrychedd a thryloywder i gyflawni prisiadau dibynadwy o eiddo fel rhan o’i swydd fel Pennaeth y Proffesiwn Syrfeio gyda’r VOA . Mae hefyd yn Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Systemau Busnesau.
Grŵp Gwasanaethau Gorfforaeth
Grŵp Gwasanaethau Gorfforaeth: Toby Nerval
Yn gyfrifol am Gyllid, Perfformiad, Llywodraethu, Adnoddau Dynol ac Ystâd Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Prif Swyddog Gweithredu:
Prif Swyddog Gweithredu: Derek Thomas
Yn gyfrifol am gyflawni gweithredol ledled y VOA o fewn 4 Uned Brisio Ranbarthol, 3 Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid, Tîm Treth Gyngor Genedlaethol, y Gyfarwyddiaeth Rhagoriaeth Weithredol a’r Cyfarwyddiaeth Darparu Gwasanaethau.
Strategaeth a Thrawsnewid
Prif Swyddog Strategaeth a Thrawsnewid: Carolyn Bartlett
Yn gyfrifol am strategaeth, polisi, trawsnewid, gwybodaeth, data a dadansoddi. Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer diwygiadau i’r rhaglen Ardrethu Annomestig (Ardrethi Busnes).