Canllawiau

Penderfyniad ar grant ar gyfer taliadau diolch i gartrefi sy'n noddwyr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin (2023-24) Rhif 50/DLUHC17ER231033-54 (Cymru)

Cyhoeddwyd 31 Hydref 2023

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (“yr Ysgrifennydd Gwladol”) wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan adran 50 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, yn gwneud y penderfyniad canlynol: 

Enwi 

1. Gellir enwi’r penderfyniad hwn yn grant diolch i noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin Rhif 50/DLUHC17ER231033-54.

Diben y grant 

2. Prif ddiben y grant ar gyfer taliadau diolch i noddwyr o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin yw helpu awdurdodau lleol i wneud taliadau diolch misol yn uniongyrchol i gartrefi sy’n noddi o dan y cynllun am 2 flynedd, neu am hyd at 3 blynedd lle y bo’n berthnasol ar gyfer plant a phobl ifanc dan oed nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad nac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad yn y DU.

3. Mae cartrefi sy’n noddwyr yn gymwys i gael £350 y mis (am 12 mis cyntaf gwestai) a £500 y mis (ar ôl 12 mis o arhosiad gwestai yn y DU a hyd at 24 mis).

4. Mae’r taliadau hyn yn ddewisol i’r cartref sy’n noddi. Mae noddwyr plant ifanc dan oed ar eu pen eu hunain yn gymwys i gael taliadau diolch tra bydd y plentyn yn aros gyda nhw am hyd at 3 blynedd. Mae lefel y taliad diolch i noddwyr plant ifanc dan oed ym mlwyddyn 3 yn cael ei hadolygu o hyd.

5. Bydd y taliad diolch uwch (£500 y mis, ar ôl 12 mis a hyd at 24 mis) yn daladwy yn dechrau o gylch talu Chw 1 2023/24.

Penderfyniad 

6. Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd yn penderfynu pa awdurdodau y telir grant iddynt a swm y grant sydd i’w dalu fel y nodir yn Atodiad A i’r penderfyniad hwn.  

7. Telir y grant mewn ôl-daliadau yn seiliedig ar nifer y taliadau dilys a wneir gan awdurdod lleol i noddwyr cymwys sydd wedi bodloni’r gofynion cymeradwyo fel rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin. Gwneir taliadau bob chwarter am 2 flynedd, neu am hyd at 3 blynedd lle y bo’n berthnasol ar gyfer plant a phobl ifanc dan oed nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad nac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad yn y DU.

Amodau’r grant

 8.  Yn unol ag adran 50 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu y telir y grant yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol yn Atodiad B.  

Cydsyniad Trysorlys EF 

9. Cyn gwneud y penderfyniad hwn mewn perthynas ag awdurdodau lleol, cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol gydsyniad Trysorlys EF.   

Llofnodwyd drwy awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol. 

Emma Payne

Cyfarwyddwr Rhaglen Cartrefi i Wcráin

Atodiad A: Dyraniadau grant  

Atodir dyraniadau grant fel dogfen ar wahân.

Atodiad B: Amodau’r grant  

Yn unol ag adran 50 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu y telir y grant yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 

1. Dim ond yn unol â’r amgylchiadau a nodir yng nghanllawiau Cartrefi i Wcráin i gynghorau y gwneir taliadau i noddwyr ac ni ddylid eu rhyddhau nes y bydd:  

a. Ar gyfer noddwyr gwesteion sy’n cyrraedd ar gynllun Cartrefi i Wcráin: 

  • ymweliad ag eiddo’r cartref sy’n noddi, gan yr awdurdod lleol, wedi’i gwblhau;
  • yr awdurdod lleol wedi cadarnhau bod y llety yn addas, bod y gwestai yn iach ac nad oes unrhyw bryderon difrifol o ran diogelu na llesiant.

b. Ar gyfer noddwyr plant a phobl ifanc dan oed sy’n cyrraedd ar gynllun Cartrefi i Wcráin nad ydynt yn teithio gyda’u rhiant na’u gwarcheidwad ac yn ymuno â’u rhiant na’u gwarcheidwad:

  • yr holl wiriadau diogelwch ac archwiliadau o’r llety wedi’u cwblhau gan gynnwys yr asesiad o addasrwydd noddwr a arweinir gan yr awdurdod lleol a nes y bydd yr awdurdod lleol wedi cadarnhau bod y trefniant yn addas yn seiliedig ar y ffactorau a nodir yn y canllawiau
  • yr awdurdod lleol wedi cwblhau’r ymweliad ar ôl cyrraedd cyntaf, yn unol â’r gofynion a nodir yn y cynllun a’r canllawiau ar faethu preifat, gan gadarnhau addasrwydd y trefniadau byw a nodi unrhyw anghenion llesiant uniongyrchol.

2. Rhaid i awdurdod sy’n derbyn sicrhau bod taliadau diolch i gartrefi sy’n noddi cymwys sy’n gofyn amdanynt yn cael eu gwneud cyn gynted ag y bo’n ymarferol. 

3. Os bydd swm y grant a delir i awdurdod yn unol ag Atodiad A yn fwy na’r pwysau gwirioneddol sydd ar yr awdurdod (yn seiliedig ar nifer y taliadau dilys i gartrefi sy’n noddi cymwys yn eu hardal), ad-delir y gwahaniaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol. At hynny, os rhoddir gwybod i’r Adran Ffyniant Bro, Cymunedau a Thai fod awdurdod wedi torri amodau’r grant uchod, mae’n cadw’r hawl i adennill arian.

Atodiad C: Cartrefi i Wcráin: canllawiau i gynghorau 

Cartrefi i Wcráin: canllawiau i gynghorau

Cartrefi i Wcráin: canllawiau i gynghorau (plant a phobl ifanc dan oed sy’n gwneud cais heb rieni na gwarcheidwaid cyfreithlon)